Neidio i'r prif gynnwy

Mae clefyd affricanaidd y ceffylau yn glefyd angeuol. Mae’n cael effaith ar geffylau, mulod, asynod a sebras. Mae’n glefyd hysbysadwy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw erioed wedi codi yn y DU, ond mae i’w gael yn Ne Affrica. 

Amheuaeth a chadarnhad

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith ar 0300 303 8268 os ydych yn amau salwch affricanaidd y ceffylau.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn archwilio achosion posibl.

Arwyddion clinigol

Gallai’r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:

  • tymheredd uchel
  • trafferth mawr i anadlu
  • pesychu a hylif o’r trwyn
  • chwyddo dros y pen a’r llygaid, y gwefusau, y bochau ac o dan y gên 
  • tymheredd uchel, ond yn is yn y bore, gan godi yn y prynhawn

Troglwyddo ac atal

Caiff y clefyd ei ledaenu gan: 

  • wybed, sy’n hoffi tywydd cynnes, gwlyb a llawer o law
  • lledaenu gan wynt

Nid oes brechlyn ar gyfer clefyd affricanaidd y ceffylau wedi’i drwyddedu yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar hyn y bryd.