Neidio i'r prif gynnwy

Mae clefyd hydatid yn cael ei achosi gan y llyngyren Echinococcus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae angen dau anifail ar gylch bywyd y llyngyren. Anifail o deulu'r ci (fel ci neu gadno) yw'r brif organeb letyol. Ond gall bron unrhyw famal (gan gynnwys pobl ac anifeiliaid fferm) fod yn organeb letyol eilaidd.

Amheuon a chadarnhad

Holwch eich milfeddyg os ydych chi'n credu bod eich anifail wedi'i heintio â llyngyr Echinococcus.

Arwyddion clinigol

Efallai na theimlith prif organeb letyol y llyngyr fawr o effeithiau drwg.

Yn yr organeb eilaidd, bydd y llyngyr yn achosi cornwydydd ar organau gwahanol. Bydd yr arwyddion clinigol yn dibynnu ble yn y corff y mae'r cornwydydd hynny wedi ffurfio.

Bydd da byw heintiedig efallai:

  • yn tyfu'n arafach
  • yn cynhyrchu llai o laeth
  • yn cenhedlu'n llai aml

Gan fod y cornwydydd yn tyfu mor araf, efallai y caiff anifeiliaid heintiedig eu lladd cyn y daw'r effeithiau i'r amlwg.

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Gall y brif organeb letyol (ci) gael ei heintio trwy fwyta carcas dafad heintiedig.

Gall yr organeb letyol eilaidd gael ei heintio trwy:

  • drin ci heintiedig
  • dod i gysylltiad â baw ci heintiedig

I osgoi'r clefyd:

  • rhowch driniaeth lladd llyngyr i'ch ci
  • peidiwch â rhoi offal amrwd i'ch ci
  • peidiwch â gadael i'ch ci grwydro lle gallai gael gafael ar garcas dafad
  • golchwch eich dwylo bob tro ar ôl trafod ci
  • gofalwch eich bod yn cael gwared ar garcasau da byw cyn gynted â phosib ac yn y ffordd briodol

Cysylltwch â'ch milfeddyg am gyngor a moddion llyngyr addas i'ch ci.