Neidio i'r prif gynnwy

Haint cronig yn y system gastroberfeddol yw clefyd Johne, sy'n effeithio ar ddefaid a gwartheg yn bennaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw'n glefyd hysbysadwy ym Mhrydain Fawr.

Amheuon a chadarnhad

Os ydych chi'n meddwl bod clefyd Johne ar anifail, cysylltwch â'ch milfeddyg preifat.

Arwyddion clinigol

Yn anaml y gwelir arwyddion y clefyd ar anifail sy'n llai na dwy neu dair oed. Cyn i anifail ddangos arwyddion y clefyd datblygedig, fel arfer bydd yna gyfnod pan fydd yn cynhyrchu llai o laeth ac yn llai ffrwythlon. Gall yr arwyddion hynny gynnwys:

  • dolur rhydd difrifol a dibaid
  • colli llawer o bwysau er bwyta'n dda
  • "bottle jaw" - chwydd o dan yr en

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Achosir y clefyd gan y Mycobacterium avium isrywogaeth paratuberculosis. Mae anifeiliaid heintiedig yn gollwng llawer o'r bacteria hyn yn eu tail. Gall un anifail beryglu'r holl anifeiliaid a lloi yn y fuches sy'n agored i ddal y clefyd. Mae'r bacteria hefyd yn y llaeth a'r llaeth tor.

Mae lloi hyd at rai misoedd oed yn sensitif iawn iddo. Gall lloi gael eu heintio yn y groth neu yn amlach trwy:

  • yfed llaeth tor wedi'i halogi
  • llyncu tail ar dethi brwnt/budr
  • bwyta bwyd anifeiliaid sydd wedi'i halogi
  • amgylchedd neu ddŵr wedi'i halogi

I helpu i rwystro'r clefyd rhag lledaenu, cadwch at fesurau bioddiogelwch da. Os ydy'ch buches yn cael ei heintio, dilynwch raglen o brofion ac o ddifa.