Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd feirol hynod heintus sy'n effeithio ar adar yw clefyd Newcastle. Mae hyn yn cynnwys dofednod a rhywogaethau eraill o adar caeth a gwyllt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cadarnhawyd y clefyd ddiwethaf ym Mhrydain Fawr yn 2006. 

Nid yw'r clefyd fel arfer yn effeithio ar bobl. Fodd bynnag, gall pobl sy'n dod i gysylltiad uniongyrchol ag adar heintiedig ddatblygu haint llygaid sy'n para am gyfnod byr iawn. Mae hwn yn mynd heb driniaeth. 

Y sefyllfa ddiweddaraf 

Os ydych yn cadw dofednod neu adar, rhaid ichi fod ar eich gwyliadwriaeth am unrhyw arwyddion o glefyd Newcastle a rhoi gwybod amdanyn nhw.

Mae bellach risg ganolig y bydd y clefyd yn cyrraedd y DU. Yn ystod 2025 a 2026, adroddwyd am achosion yn Sbaen, Gwlad Pwyl ac yn fwyaf diweddar yn yr Almaen. Mae'r asesiad risg ddiweddaraf ar gyfer y clefyd ar gael ar Newcastle disease in Europe (ar gov.uk).

Amheuaeth a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon y gall clefyd Newcastle fod ar adar, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r anifeiliaid yr ydych yn amau bod y clefyd arnyn nhw.

Os cadarnheir y clefyd bydd yr achos yn cael ei reoli yn unol â'r cynllun wrth gefn ar gyfer clefydau hysbysadwy egsotig. Bydd y strategaeth reoli ar gyfer clefydau adar hysbysadwy (ar gov.uk) yn cael ei rhoi ar waith.

Arwyddion clinigol

Dyma'r arwyddion clinigol posibl:

  • arwyddion o drafferth anadlu fel pig agored, peswch, tisian, byrlymu a rhuglo
  • arwyddion nerfol a nodweddir gan grynu a pharlys, a throi'r gwddf 
  • tail anarferol o ddyfrllyd (dolur rhydd) sy'n lliw gwyrdd melynaidd   
  • iselder
  • colli awydd bwyta

Gall ieir yr effeithir arnyn nhw hefyd gynhyrchu llai o wyau yn sydyn. Gall wyau fod â chregyn meddal. 

Gall y clefyd arwain at arwyddion clinigol dwys, gyda dechrau sydyn sy'n debygol o arwain at farwolaeth. Neu gall gael effaith lai, lle mai problemau anadlu a chynhyrchu llai o wyau yw'r unig arwyddion amlwg. 

Trosglwyddo ac atal

Gall y clefyd gael ei ledaenu drwy gyswllt uniongyrchol â hylifau corfforol aderyn heintiedig, yn enwedig eu tail. 

Gall hefyd gael ei ledaenu'n anuniongyrchol drwy bobl a gwrthrychau sydd wedi bod mewn cysylltiad ag adar heintiedig, neu eu hysgarthiadau (megis tail). Mae'r gwrthrychau sy'n gallu cludo'r clefyd yn cynnwys: 

  • cerbydau
  • cyfarpar
  • dillad
  • dŵr a phorthiant

Gall y clefyd ledaenu o adar gwyllt i adar caeth Gall colomennod cludo paramyxofirws colomennod (ar gov.uk), a all achosi clefyd Newcastle mewn adar caeth. 

Gallwch helpu i atal y clefyd drwy:

  • frechu eich anifeiliaid rhag y clefyd – siaradwch â'ch milfeddyg am gyngor 
  • rhoi mesurau bioddiogelwch llym ar waith ar eich eiddo

Deddfwriaeth

Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin â chlefyd Newcastle yng Nghymru ar wefan legislation.gov.uk yn cynnwys: