Neidio i'r prif gynnwy

Data ar breswylwyr yn ysbytai ac unedau'r GIG ar gyfer pobl â salwch meddwl neu anabledd dysgu ar 31 Mawrth 2019.

Ysbytai ac unedau i bobl â salwch meddwl

Roedd 1,291 o gleifion preswyl ar 31 Mawrth 2019, 2% yn llai na’r flwyddyn flaenorol. Mae’r nifer o gleifion preswyl ar ddiwrnod y cyfrifiad wedi gostwng yn sylweddol dros y tymor hir, gan ostwng 72% ers 1979.

Cafodd 616 (48%) o gleifion eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaeth arall, cynnydd o 27 (5%) o 2018 a 123 (25%) o 2009.

Ysbytai ac unedau i bobl ag anabledd dysgu

Roedd 87 o gleifion preswyl, gostyngiad o 30 (26%) o 2018. Ers 1979 mae’r nifer preswyl ar ddiwrnod y cyfrifiad wedi gostwng 96%.

Adroddiadau

Cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl, ar 31 Mawrth 2019 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 706 KB

PDF
Saesneg yn unig
706 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.