Gwybodaeth ar gyfer Maes Awyr Cymru Caerdydd, gan gynnwys symudiadau awyrennau, teithwyr a nwyddau a thraffig teithwyr awyr rhyngwladol ar gyfer 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cludiant awyr
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn 2018, gwelwyd nifer y teithwyr sy'n defnyddio maes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn cynyddu 7.7% i 1.6 miliwn. Mae'r ffigurau'n cynnwys teithwyr sy'n cyrraedd ac yn gadael.
- Yn 2018, roedd awyrennau o faes awyr Caerdydd yn hedfan i 95 o gyrchfannau tramor, 11 yn fwy nag yn 2017.
- Amsterdam oedd y cyrchfan tramor mwyaf poblogaidd yn 2018 a Chaeredin y cyrchfan domestig mwyaf poblogaidd.
- Cafwyd tua 31,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn 2018, cynnydd o 7.4% o'u cymharu â 2017.
- Ar ôl cyfnod o gludo ychydig iawn o nwyddau, cafodd tua 1,500 o dunelli o nwyddau eu cario trwy faes awyr Caerdydd yn 2018, o'u cymharu â dim ond 4 o dunelli y flwyddyn cynt. Y rheswm am y cynnydd oedd yr hediadau newydd i Qatar ym mis Mai 2018 sy'n cludo llawer iawn o nwyddau yn ogystal â theithwyr.
Adroddiadau
Cludiant awyr, 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1014 KB
PDF
Saesneg yn unig
1014 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Gwefan StatsCymru
Gwefan Awdurdod Hedfan Sifil
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.