Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Cafodd y cyfyngiadau ar deithio yn y wlad hon ac ar deithio rhyngwladol oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) effaith drom ar gludiant awyr yng Nghymru yn 2020. Bu gwaharddiad ar deithio nad oedd yn angenrheidiol mewn grym bron gydol 2020, gan arwain at leihad mawr yn nifer yr hediadau masnachol i deithwyr, yr hediadau cludo nwyddau a’r teithwyr domestig a rhyngwladol.
  • Gwelwyd gostyngiad o 87%[1] i 218,000 (Siart 1) yn nifer y teithwyr a ddefnyddiodd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn 2020 o’u cymharu â 2019. Mae’r ffigurau’n cynnwys y teithwyr oedd yn ymadael a’r rheini oedd yn cyrraedd.
  • Gwelwyd gostyngiad o 82% (317 o dunelli) yn 2020 o’u cymharu ag yn 2019 yn y symudiadau cludo nwyddau mewn awyrennau.
  • Gwelwyd rhyw 10,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr rhyngwladol Caerdydd yn 2020, gostyngiad o 68% ers 2019.
  • Yn 2020, gwelwyd awyrennau’n teithio i 51 o gyrchfannau rhyngwladol o faes awyr Rhyngwladol Caerdydd, 25 yn llai nag yn 2019.

[1] Nid yw’r ffigurau’n dod i 100% am eu bod wedi’u talgrynnu.

Image
Mae niferoedd y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi bod yn amrywio dros y tymor hir o 2.1 miliwn i 1 filiwn. Fodd bynnag, yn 2020, oherwydd pandemig y coronafeirws, gostyngodd nifer y teithwyr i 218 o filoedd.

Dyddiadau allweddol effeithiodd ar deithio yng Nghymru yn 2020

Mawrth 2020: Llywodraethau Cymru a’r DU yn cynghori yn erbyn teithio oni bai ei bod yn angenrheidiol.

Mehefin 2020: Daeth rheoliadau i rym yng Nghymru yn gorfodi trigolion ac ymwelwyr sy’n cyrraedd o wlad dramor i hunanynysu am 14 diwrnod.

Gorffennaf 2020: Dim angen aros yn lleol mwyach. Llywodraeth Cymru’n diwygio’r rheoliadau i eithrio’r rheini sy’n teithio o wledydd penodol rhag gorfod mynd i gwarantin.  O'r dyddiad hwnnw, caiff y rhestr eithrio ei hadolygu a chaiff gwledydd eu hychwanegu ati a’u tynnu oddi arni yn ôl y gofyn.

Medi 2020: Cyfnod clo lleol yng Nghymru, gan gyfyngu ar symudiadau i ac o fewn rhai awdurdodau lleol.

Hydref 2020: Cyfnod atal byr o bythefnos yng Nghymru, gydag apêl ar i bobl aros gartref.

Rhagfyr 2020: Diwygio’r rheoliadau teithio tramor, gan gwtogi’r cyfnod hunanynysu o 14 i 10 diwrnod. Cymru’n symud i lefel rhybudd 4, gyda gwaharddiad ar deithio (lleol a rhyngwladol) heb esgus resymol.

Cyflwyniad

Mae cludiant awyr yn sbardun pwysig ar gyfer datblygu’r economi. Mae’n cysylltu Cymru ag economi’r byd gan ysgogi mewnfuddsoddi a masnach.  Mae meysydd awyr yn borth i deithwyr busnes a hamdden, gan gynnal twristiaeth ac yn hwb i ddiwydiant.

Y data teithwyr a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw cyfanswm y teithiau teithwyr (hediadau allan ac yn ôl wedi’u cyfuno), nid nifer y teithwyr unigol. Y rheswm am hynny yw am ei bod yn amhosib gwahaniaethu rhwng teithwyr ymadael a theithwyr sy’n cyrraedd yn ôl ffynonellau’r data.  Yn yr adroddiad hwn, rydyn ni’n defnyddio’r term teithwyr y derfynell neu deithwyr, i olygu teithiau teithwyr.  Ar lawer o lwybrau, mae nifer y teithwyr unigol yn debygol o fod yn agos iawn at hanner cyfanswm y teithiau teithwyr, gan fod y rhan fwyaf yn deithiau dwyffordd. 

Yn 2020, cafwyd 74 miliwn o deithiau teithwyr trwy feysydd awyr y DU o’u cymharu â 297 miliwn yn 2019. Heathrow oedd brysuraf (22 miliwn), yna Gatwick (10 miliwn), Standsted (8 miliwn) a Manceinion (7 miliwn).  Maes Awyr Caerdydd oedd yr 22ain prysuraf yn y DU (allan o 51) gyda 219,000 o deithwyr, sef 0.3% o gyfanswm y DU.  

Maes awyr Caerdydd

Maes awyr Caerdydd yw’r unig faes awyr domestig a rhyngwladol o bwys yng Nghymru. Yn 2020, gwelodd 87% o ostyngiad yn nifer ei deithwyr, o 1.6 miliwn yn 2019 i 218,000 (Siart 2). Pandemig COVID-19 oedd y rheswm am y gostyngiad hwn.

Hedfanodd 87%[2] o deithwyr Maes Awyr Caerdydd i wledydd eraill gydag 14% yn hedfan i gyrchfannau domestig. Cafwyd yr un faint o ostyngiad yn nifer y teithwyr rhyngwladol ac yn nifer y teithwyr domestig, sef 87% i’r ddau.

[2] Nid yw’r ffigurau’n dod i 100% am eu bod wedi’u talgrynnu.

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod teithwyr domestig wedi gostwng 87%, bod teithwyr rhyngwladol wedi gostwng 87% a bod cyfanswm teithwyr awyr Cymru wedi gostwng 87% yn 2020 o gymharu â 2019, oherwydd y coronafeirws.

Gwelwyd cwymp o 88% yn 2020 yn nifer y teithwyr domestig a ddefnyddiodd hediadau rheolaidd o’u cymharu â 2019 a chwymp o 33% dros yr un cyfnod yn nifer y rheini ar hediadau siartredig (yn seiliedig ar niferoedd wedi’u talgrynnu).

Gwnaeth deg prif gyrchfan maes awyr Caerdydd yn 2020 weld cwymp mawr yn nifer eu teithwyr.  Gwelwyd cwymp o 79% yn nifer y teithwyr rhwng Maes Awyr Caerdydd ac Amsterdam, Caeredin -85%, Belfast -90%, Paris -85% a Palma de Mallorca -99% o’u cymharu â 2019.  Amsterdam yw’r gyrchfan ryngwladol fwyaf poblogaidd o hyd a Chaeredin yw’r gyrchfan ddomestig fwyaf poblogaidd, er y gwelwyd llawer llai o deithwyr nag yn y flwyddyn cynt (Siart 3).

Image
Roedd pob cyrchfan wedi gweld gostyngiad yn nifer y teithwyr gyda Palman De Mallorca yn nodi'r gostyngiad uchaf a gofnodwyd o -99% o gymharu â 2019

Tueddiadau tymor hir

Gwelwyd cwymp o 50% yn nifer y teithwyr ym maes awyr Caerdydd rhwng 2007 a 2012, o 2.1 miliwn i 1.0 miliwn (Siart 1). Roedd hyn yn cyd-fynd â’r dirwasgiad byd-eang yn 2008, a arweiniodd at weld rhai cwmnïau’n cario llai o deithwyr ac eraill yn rhoi’r gorau iddi’n llwyr.  Gwelwyd cynnydd o 4% yn y teithwyr yn 2019 o’u cymharu â 2018. Cynnydd yn nifer y teithwyr rhyngwladol oedd yn gyfrifol am hynny.

Ar ôl y cwymp sylweddol wedi 2007, gwnaeth nifer y teithwyr domestig gynyddu rhwng 2014 a 2019. Ond bu gostyngiad o 87% yn 2020 o’i gymharu â 2019 yn y teithwyr domestig.

Cyrhaeddodd nifer y teithwyr rhyngwladol ei anterth o 1.65 miliwn yn 2007 gan gwympo i 0.8 miliwn yn 2012 cyn cynyddu’n raddol unwaith eto. Yn 2020, teithiodd 188,000 o deithwyr rhwng maes awyr Caerdydd a chyrchfannau tramor, gostyngiad o 83% o’i gymharu â 2019.  Sbaen yw’r gyrchfan fwyaf poblogaidd bob tro, gan gyfrif am 40% o’r holl deithwyr rhyngwladol yn 2020.

Fe welwch fanylion y teithwyr rhyngwladol ar StatsCymru.

Gwelodd y prif lwybrau rhyngwladol o faes awyr Caerdydd ostyngiad yn nifer y teithwyr yn 2020 o’u cymharu â 2019.  Mae Paris, Amsterdam a Dulyn yn ddinasoedd ‘hyb’ allweddol y mae teithwyr yn eu defnyddio i deithio ymlaen ohonynt i amrywiaeth o gyrchfannau eraill.

O’i chymharu â 2019, gwelwyd cwymp yn 2020 yn nifer y teithwyr trwy Amsterdam yn yr Iseldiroedd i 34,000 (-79%), trwy Ddulyn, Gweriniaeth Iwerddon i 17,000 (-83%) a thrwy faes awyr Paris Charles de Gaulle, Ffrainc i 10,000 (-86%).

Fe welwch ragor o fanylion am dueddiadau tymor hir llwybrau gwahanol yn y datganiad am Cludiant awyr: 2019.

Symudiadau awyrennau (hediadau)

Symudiad awyren yw awyren sy’n codi o faes awyr neu’n glanio mewn maes awyr.

Hediadau masnachol yw awyrennau sy’n cael eu defnyddio i gludo teithwyr neu nwyddau ar delerau masnachol, yn ogystal â lleoli hediadau a symudiadau lleol.

Mae hediadau anfasnachol yn cynnwys pob math arall o hediad, gan gynnwys rhai preifat a hediadau’r Aero Club (clybiau hedfan).

Yn 2020, dim ond 10,000 o symudiadau awyrennau a gafwyd ym maes awyr Caerdydd, gostyngiad o 68% o’u cymharu â 2019 (32,000) (Siart 4). Dyma’r gostyngiad mwyaf sydd wedi’i gofnodi erioed yn symudiadau awyrennau maes awyr Caerdydd.

Image
Mae Siart yn dangos llinell amser o awyrennau i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd ers 2010. Gwelwyd gostyngiad o 68% yn nifer yr awyrennau a gyrhaeddodd ac a adawodd Faes Awyr Caerdydd yn 2020 o gymharu â'r flwyddyn gynt.

Cludo nwyddau

Mae swm y nwyddau sydd wedi bod yn cael ei gludo trwy faes awyr Caerdydd wastad wedi amrywio (Siart 5). Cyrhaeddodd y cludiant ei anterth yn 2004 gyda 2,600 o dunelli ond gwelwyd cwymp o 93% rhwng 2007 a 2009 o 2,400 i 178 o dunelli. Mae wedi para’n isel oddi ar hynny ac yn 2007, dim ond 4 tunnell o nwyddau gafodd fynd trwy’r maes awyr, y ffigur isaf erioed.

Yn 2018, cynyddodd lefelau nwyddau i 1,500 o dunelli, yn bennaf yn sgil cyflwyno teithiau i Qatar ym mis Mai 2018, sy’n cludo llawer o gargo yn ogystal â theithwyr. Yn 2019, gwelwyd cynnydd o 24% i 1,800 o dunelli o’i chymharu â 2018 yn lefelau’r nwyddau trwy faes awyr Caerdydd. Yn 2021, gwelwyd cwymp o 82% i 317 o dunelli o gargo o’i chymharu â 2019.

Y nwyddau sy’n cael eu cludo amlaf mewn awyrennau yw nwyddau uchel eu gwerth sy’n gorfod cael eu cludo ychydig ar y tro neu nwyddau darfodus fel bwyd a moddion, sydd ddim yn gallu para’n hir. Eitemau fel nwyddau electronig, telathrebu, cerbydau a rhannau cerbydau a chynnyrch biodechnegol ac iechyd.

Image
Mae Siart yn dangos nifer y teithiau cludo nwyddau drwy Faes Awyr Caerdydd ers 1996. O gymharu â 2019, gwelwyd gostyngiad o 82% yng nghyfanswm y teithiau cludo nwyddau ym Maes Awyr Caerdydd.

Arolwg o deithwyr awyr

Gellir defnyddio arolwg y CAA o deithwyr ymadael i weld pa feysydd awyr sy’n cael eu defnyddio gan deithwyr sy’n teithio i ac o Gymru.  Mae’r arolwg yn casglu data o sampl o feysydd awyr yn y DU bob blwyddyn.  Cafodd yr arolwg diweddaraf sy’n ymdrin â’r holl brif feysydd awyr a ddefnyddir gan deithwyr i ac o Gymru ei gynnal yn 2019 a chewch weld y manylion yn ein datganiad ar dudalen 9.  Ni chafodd arolwg ei gynnal yn 2020.

Nodiadau

Cyd-destun

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu cyfres sy’n dod â’r holl ddogfennau am Ystadegau Hedfan y DU ynghyd.

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu compendiwm o’r enw 'Scottish Transport Statistics" sy’n cynnwys pennod am Gludiant Awyr.

Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon yn cynhyrchu cyhoeddiad o’r enw 'Northern Ireland Transport Statistics'. Mae Pennod 7 yn cynnwys gwybodaeth am Gludiant Awyr.

Hefyd, mae’r ONS yn cyhoeddi nifer arbrofol hediadau dyddiol yn y DU a chyfartaledd treigl saith niwrnod, gan gynnwys hediadau i, o ac o fewn y DU.

Ffynhonnell y Data

Mae’r wybodaeth am gludiant awyr trwy faes awyr Caerdydd yn y bwletin hwn a thablau cysylltiedig StatsCymru yn atgynhyrchu’r ystadegau a gesglir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA). Diolchir iddo am ei waith. Mae data'r CAA y tu allan i gwmpas yr Ystadegau Gwladol.  Mae’r wybodaeth yn cynnwys nodiadau’r CCA ei hun am y ffigurau.

Diffiniadau

Symudiadau cludiant awyr: Awyrennau sy’n cludo teithwyr neu gargo ar delerau masnachol sy’n glanio ac yn codi. Cynhwysir pob symudiad rheolaidd, boed lawn, gwag neu at ddiben lleoli, symudiadau siartredig sy’n cludo teithwyr neu gargo a symudiadau tacsis awyr. At ddiben yr ystadegau hyn, bydd hediadau trwy is-siarter yn cael eu hadnabod wrth rif yr hediad a chynhwysir hediad mewnol fel un symudiad cludiant awyr.

Gwasanaeth domestig

Hediad o fewn y Deyrnas Unedig, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel. 

Gwasanaeth rhyngwladol

Hediad rhwng y Deyrnas Unedig gan gynnwys Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel a lleoedd y tu hwnt i’w ffiniau.

Gwasanaeth siartredig

Pob symudiad cludiant awyr heblaw am wasanaethau rheolaidd.

Gwasanaeth rheolaidd

Y rheini sy’n cael eu cynnal yn ôl amserlen sydd wedi’i chyhoeddi gan gynnwys amserlenni ategol, gan gynnwys y rheini a ddefnyddir gan aelodau’r cyhoedd.

Teithwy

Teithwyr refeniw a di-refeniw ar symudiadau cludiant awyr.

Teithwyr terfynell

Teithiwr sy’n ymuno neu’n ymadael â’r awyren yn y maes awyr riportio.  Mae teithiwr sy’n teithio rhwng dau faes awyr riportio yn cael ei gyfrif ddwywaith, unwaith ym mhob maes awyr.  Mae teithiwr sy’n newid o un awyren i un arall, gyda’r un rhif hediad, yn cael ei drin fel teithiwr terfynell.

Teithiwr transit

Teithiwr sy’n cyrraedd ac yn gadael maes awyr riportio ar yr un awyren.  Bydd pob teithiwr transit yn cael ei gyfrif unwaith yn unig.

Nwyddau

Pwysau’r eiddo sy’n cael ei gludo ar awyren gan gynnwys er enghraifft pwysau cerbydau, bagiau dros ben a bagiau diplomatig, ond heb gynnwys post a’r bagiau a ganiateir ar gyfer teithwyr a chriw. Ni chynhwysir y nwyddau sydd mewn transit trwy faes awyr ar yr un awyren.

Arolwg y Awdurdod Hedfan Sifil o deithwyr ymadael: pynciau cwestiynau’r arolwg

Mae arolwg y CAA o deithwyr ymadael yn gofyn cwestiynau am y person, y maes awyr, y cwmni hedfan a’r daith. 

Gwybodaeth o ansawdd

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro tueddiadau cludiant awyr ac fel llinell sylfaen ar gyfer gwaith dadansoddi pellach.

Cywirdeb

Disgrifir hyn gan y CAA ar y ddolen o dan ‘ffynonellau’r data’ uchod.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r wybodaeth yn y bwletin hwn am gludiant awyr trwy Faes Awyr Caerdydd, yn seiliedig ar Ystadegau blynyddol diweddaraf y CAA am Feysydd Awyr y DU.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r bwletin hwn yn cael ei ddatgan ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ar gyfer Cymru, gyda’r ffigurau sylfaenol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf wedi creu saith nod llesiant i Gymru, sef Cymru sy’n fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog ac iaith Gymraeg sy’n ffynnu.  O dan adran (10)(1) y Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (dangosyddion cenedlaethol) y mae’n rhaid eu defnyddio wrth fesur y gwaith a wneir at gyflawni’r nodau llesiant a (b) chyflwyno copi o’r dangosyddion gerbron y Senedd Cymru. Cyflwynwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Fe welwch fanylion y dangosyddion ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Dyma ragor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gellir defnyddio’r ystadegau yn y datganiad hwn i ategu naratif y dangosyddion cenedlaethol a chaiff y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio ar gyfer eu hasesiadau llesiant eu hunain a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Melanie Brown
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 21/2021