Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

  • Roedd nifer y teithwyr a oedd yn defnyddio Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd wedi gostwng yn sydyn ar ddechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn 2020 o ganlyniad i’r cyfyngiadau teithio a barhaodd tan 2021.
  • Yn 2022, roedd nifer y teithwyr yn parhau i fod yn is na’r lefelau cyn y pandemig, ond cynyddodd hyn i 857,397 , sef seithwaith yn fwy na’r 123,000 o deithwyr yn 2021 (Ffigur 1). Mae’r ffigurau’n cynnwys y teithwyr oedd yn ymadael a’r rheini oedd yn cyrraedd.
  • Cludwyd 96 o dunelli o nwyddau mewn awyrennau drwy faes awyr Caerdydd, a oedd yn ostyngiad o 74% o’i gymharu â 2021 ac yn ostyngiad o 95% o’i gymharu â 2019.
  • Gwelwyd rhyw 19,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr rhyngwladol Caerdydd yn 2022, cynnydd o 67% ers 2021, a gostyngiad o 41% ers 2019.
  • Yn 2022, gwelwyd awyrennau’n teithio i 68 o gyrchfannau rhyngwladol o faes awyr rhyngwladol Caerdydd, sy’n uwch nag yn ystod 2021 a 2020, ond yn is na’r blynyddoedd yn union cyn y pandemig.

Ffigur 1: Teithwyr i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd 2010 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy’n dangos y duedd o ran cyfansoddiad teithwyr awyr ym maes awyr Caerdydd. Mae teithwyr rhyngwladol yn dominyddu dros deithwyr domestig yn y maes awyr hwn.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Awdurdod Hedfan Sifil

Effaith COVID-19 ar gludiant awyr

Gallwch weld y dyddiadau allweddol a effeithiodd ar drafnidiaeth awyr yng Nghymru yn y flwyddyn 2020 yn natganiad 2020 am Gludiant awyr.

Yn 2021 gwnaeth y tarfu ar deithio barhau i effeithio ar Faes Awyr Caerdydd o ran nifer y teithwyr domestig a rhyngwladol, a hynny yn sgil cyfyngiadau teithio COVID-19 yn fwy na thebyg. Fodd bynnag, yn 2022, nid oedd cyfyngiadau ar deithio a arweiniodd at gynnydd mawr yn nifer y teithwyr a oedd yn defnyddio'r maes awyr er bod y niferoedd yn parhau’n is na'r lefelau cyn y pandemig.

Cyflwyniad

Mae cludiant awyr yn sbardun pwysig ar gyfer datblygu’r economi. Mae’n cysylltu Cymru ag economi’r byd gan ysgogi mewnfuddsoddi a masnach.  Mae meysydd awyr yn borth i deithwyr busnes a hamdden, gan gynnal twristiaeth ac yn hwb i ddiwydiant.

Y data teithwyr a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw cyfanswm y teithiau teithwyr (hediadau allan ac yn ôl wedi’u cyfuno), nid nifer y teithwyr unigol. Y rheswm am hynny yw am ei bod yn amhosib gwahaniaethu rhwng teithwyr ymadael a theithwyr sy’n cyrraedd yn ôl ffynonellau’r data.  Yn yr adroddiad hwn, rydyn ni’n defnyddio’r term teithwyr y derfynell neu deithwyr, i olygu teithiau teithwyr.  Ar lawer o lwybrau, mae nifer y teithwyr unigol yn debygol o fod yn agos iawn at hanner cyfanswm y teithiau teithwyr, gan fod y rhan fwyaf yn deithiau dwyffordd. 

Yn ystod 2022, cafwyd 222 miliwn o deithiau gan deithwyr drwy feysydd awyr y DU o'i gymharu â 64 miliwn yn 2021 a 297 miliwn yn 2019. Heathrow oedd y prysuraf (61.6 miliwn), ac yna Gatwick (32.8 miliwn) a Manceinion (23.3 miliwn). Caerdydd oedd y 19fed maes awyr prysuraf yn y DU (allan o 46) gyda 857,397 o deithwyr, sef 0.4% o gyfanswm y DU.

Maes awyr Caerdydd

Maes awyr Caerdydd yw’r unig faes awyr domestig a rhyngwladol o bwys yng Nghymru. 

Yn 2022, hedfanodd 96% [troednodyn 1] o deithwyr o faes awyr Caerdydd i gyrchfannau rhyngwladol tra bo 4% wedi teithio i gyrchfannau domestig. O’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, cynyddodd nifer y teithwyr ryngwladol seithwaith tra bo nifer y teithwyr domestig wedi mwy na dyblu.

Ffigur 2: Nifer teithwyr awyr ym maes awyr Caerdydd yn 2021 a 2022 (‘000)

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos cyfansoddiad teithwyr awyr ym maes awyr Caerdydd yn ôl math o deithwyr yn 2022. Roedd 96% o deithwyr yn deithwyr rhyngwladol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Awdurdod Hedfan Sifil

Cynyddodd gyfanswm y teithwyr a ddefnyddiodd hediadau rheolaidd chwe gwaith yn 2022 o'i gymharu â 2021, tra bod y rhai ar hediadau siartredig wedi cynyddu mwy na Wythwaith dros yr un cyfnod.

Mae Ffigur 3 yn dangos y cyrchfannau mwyaf cyffredin o faes awyr Caerdydd yn 2022. Teithiodd y nifer mwyaf o deithwyr awyr i Alicante, a gwelwyd y cynnydd uchaf o ran canran yn nifer y teithwyr awyr i Ddulyn rhwng 2021 a 2022.

Ffigur 3: Y cyrchfannau mwyaf cyffredin o faes awyr Caerdydd yn 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart far yn dangos cyrchfannau cyffredin ym maes awyr Caerdydd yn 2022. Alicante oedd y brif gyrchfan ar gyfer teithwyr rhyngwladol gyda 108,000 o deithwyr.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Awdurdod Hedfan Sifil

Tueddiadau tymor hir

Gwelwyd cwymp o 50% yn nifer y teithwyr ym maes awyr Caerdydd rhwng 2007 a 2012, o 2.1 miliwn i 1.0 miliwn (Ffigur 1). Roedd hyn yn cyd-fynd â’r dirwasgiad byd-eang yn 2008, a arweiniodd at weld rhai cwmnïau’n cario llai o deithwyr ac eraill yn rhoi’r gorau iddi’n llwyr.

Ar ôl cwympo o’i uchafbwynt yn 2007, gwnaeth nifer y teithwyr gynyddu rhwng 2014 a 2019. Ond bu gostyngiad mawr o 87% yn 2020 o’i chymharu â’r flwyddyn cynt yn nifer y teithwyr, yn dilyn dechrau pandemig COVID-19.

Cyrhaeddodd nifer y teithwyr rhyngwladol ei anterth o 1.65 miliwn yn 2007 gan gwympo i 0.8 miliwn yn 2012 cyn cynyddu’n raddol unwaith eto tan 2019. Yn 2020, gwelwyd nifer y teithwyr rhyngwladol yn cwympo 83% i 188,000. Yn 2022 cynyddodd nifer y teithwyr rhyngwladol seithwaith o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ond roedd yn parhau i fod yn llai na’r lefelau cyn y pandemig (42% yn llai). Sbaen yw un o’r cyrchfannau mwyaf poblogaidd bob tro ac roedd yn cyfrif am 50% o'r holl deithwyr rhyngwladol yn 2022.

Fe welwch fanylion y teithwyr rhyngwladol ar StatsCymru.

Cynyddodd nifer y teithwyr i'r tri hyb yn 2022 o'i gymharu â 2021 ond roedd yn parhau i fod yn llai na'r niferoedd cyn y pandemig yn 2019. Mae Paris, Amsterdam a Dulyn yn ddinasoedd ‘hyb’ allweddol y mae teithwyr yn eu defnyddio i deithio ymlaen ohonynt i amrywiaeth o gyrchfannau eraill.

Yn 2022, cynyddodd nifer y teithwyr awyr drwy feysydd awyr Paris i 21,000 o 1,100 yn 2021 (70% yn is na’r lefelau cyn y pandemig), drwy Amsterdam i 63,000 yn 2022 (61% yn is na’r lefelau cyn y pandemig) a thrwy Ddulyn i 64,000 dros yr un cyfnod (37% yn is na’r lefelau cyn y parndemig).

Fe welwch ragor o fanylion am dueddiadau tymor hir llwybrau gwahanol yn y datganiad am Cludiant awyr: 2019.

Symudiadau awyrennau (hediadau)

Symudiad awyren yw awyren sy’n codi o faes awyr neu’n glanio mewn maes awyr.

  • Hediadau masnachol yw awyrennau sy’n cael eu defnyddio i gludo teithwyr neu nwyddau ar delerau masnachol, yn ogystal â lleoli hediadau a symudiadau lleol.
  • Mae hediadau anfasnachol yn cynnwys pob math arall o hediad, gan gynnwys rhai preifat a hediadau’r Aero Club (clybiau hedfan).

Gostyngodd nifer y symudiadau awyrennau yn fawr ar ddechrau pandemig Covid-19 yn 2020, cyn cynyddu yn 2021. Cafwyd 19,000 o symudiadau awyrennau ym maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn 2022, cynnydd o 67% o’i gymharu â 2021 (11,000) (Ffigur4) ond gostyngiad o 41% o gymharu â 2019 (-13,000).

Ffigur 4: Nifer y symudiadau awyrennau ym maes awyr Caerdydd o 2011 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell yn dangos y duedd mewn symudiad awyrennau ym maes awyr Caerdydd. Mae pob math o symudiadau awyrennau yn dangos cynnydd yn nifer y symudiadau yn 2022 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Awdurdod Hedfan Sifil

Cludo nwyddau

Mae swm y nwyddau sydd wedi bod yn cael ei gludo trwy faes awyr Caerdydd wastad wedi amrywio (Ffigur 5). Cyrhaeddodd y cludiant ei anterth yn 2004 gyda 2,600 o dunelli ond gwelwyd cwymp o 93% rhwng 2007 a 2009 o 2,400 i 178 o dunelli. Mae wedi para’n isel oddi ar hynny ac yn 2007, dim ond 4 tunnell o nwyddau gafodd fynd trwy’r maes awyr, y ffigur isaf erioed.

  • Yn 2018, cynyddodd lefelau nwyddau i 1,500 o dunelli, yn bennaf yn sgil cyflwyno teithiau i Qatar ym mis Mai 2018, sy’n cludo llawer o gargo yn ogystal â theithwyr.
  • Yn 2019, gwelwyd cynnydd o 24% i 1,800 o dunelli o’i chymharu â 2018 yn lefelau’r nwyddau trwy faes awyr Caerdydd.
  • Yn 2020, gwelwyd cwymp o 82% i 317 o dunelli o gargo o’i chymharu â 2019.
  • Yn 2021, gwelwyd cynnydd o 16% i 368 o dunelli o gargo o’i chymharu â 2020.
  •  Yn 2022, gwelwyd gostyngiad o 74% i 96 o dunelli o gargo o’i chymharu â 2021.

Mae’r gostyngiadau yn 2020 a 2021 yn fwy na thebyg oherwydd effaith cyfyngiadau COVID-19 oedd mewn grym yn ystod y cyfnodau hyn.  Gweler adran 2 am ragor o wybodaeth.

Y nwyddau sy’n cael eu cludo amlaf mewn awyrennau yw nwyddau uchel eu gwerth sy’n gorfod cael eu cludo ychydig ar y tro neu nwyddau darfodus fel bwyd a moddion, sydd ddim yn gallu para’n hir. Eitemau fel nwyddau electronig, telathrebu, cerbydau a rhannau cerbydau a chynnyrch biodechnegol ac iechyd.

Ffigur 5: Nwyddau ym maes awyr Caerdydd, 2010 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart colofn yn dangos faint o dunnell yn ôl blwyddyn oedd wedi mynd drwy faes awyr Caerdydd. Mae'r duedd yn gyfnewidiol ac yn 2022 gostyngodd 74% o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Awdurdod Hedfan Sifil

Nodiadau

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Mae’r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu cyfres sy’n dod â’r holl ddogfennau am Ystadegau Hedfan y DU ynghyd.

Mae Transport Scotland yn cynhyrchu compendiwm o’r enw 'Scottish Transport Statistics' sy’n cynnwys pennod am Gludiant Awyr.

Mae’r Adran dros Ddatblygu Rhanbarthol yng Ngogledd Iwerddon yn cynhyrchu cyhoeddiad o’r enw 'Northern Ireland Transport Statistics'.  Mae Pennod 7 yn cynnwys gwybodaeth am Gludiant Awyr.

Hefyd, mae’r SYG yn cyhoeddi nifer arbrofol hediadau dyddiol yn y DU (SYG) a chyfartaledd treigl saith niwrnod, gan gynnwys hediadau i, o ac o fewn y DU.

Ffynhonnell y data

Mae’r wybodaeth am gludiant awyr trwy faes awyr Caerdydd yn y bwletin hwn a thablau cysylltiedig StatsCymru yn atgynhyrchu’r ystadegau a gesglir gan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) ac yn cynnwys nodiadau’r CAA eu hunain am y ffigurau hynny.  Mae data'r CAA y tu allan i gwmpas yr Ystadegau Gwladol.

Diffiniadau

Symudiadau cludiant awyr: Awyrennau sy’n cludo teithwyr neu gargo ar delerau masnachol sy’n glanio ac yn codi. Cynhwysir pob symudiad rheolaidd, boed lawn, gwag neu at ddiben lleoli, symudiadau Ffigurredig sy’n cludo teithwyr neu gargo a symudiadau tacsis awyr. At ddiben yr ystadegau hyn, bydd hediadau trwy is-Ffigurer yn cael eu hadnabod wrth rif yr hediad a chynhwysir hediad mewnol fel un symudiad cludiant awyr.

Gwasanaeth domestig

Hediad o fewn y Deyrnas Unedig, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.

Gwasanaeth rhyngwladol

Hediad rhwng y Deyrnas Unedig gan gynnwys Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel a lleoedd y tu hwnt i’w ffiniau.

Gwasanaeth ffigurredig

Pob symudiad cludiant awyr heblaw am wasanaethau rheolaidd.

Gwasanaeth rheolaidd

Y rheini sy’n cael eu cynnal yn ôl amserlen sydd wedi’i chyhoeddi gan gynnwys amserlenni ategol, gan gynnwys y rheini a ddefnyddir gan aelodau’r cyhoedd.

Teithwyr

Teithwyr refeniw a di-refeniw ar symudiadau cludiant awyr.

Teithwyr terfynell

Teithiwr sy’n ymuno neu’n ymadael â’r awyren yn y maes awyr riportio.  Mae teithiwr sy’n teithio rhwng dau faes awyr riportio yn cael ei gyfrif ddwywaith, unwaith ym mhob maes awyr.  Mae teithiwr sy’n newid o un awyren i un arall, gyda’r un rhif hediad, yn cael ei drin fel teithiwr terfynell.

Teithiwr transit

Teithiwr sy’n cyrraedd ac yn gadael maes awyr riportio ar yr un awyren.  Bydd pob teithiwr transit yn cael ei gyfrif unwaith yn unig.

Nwyddau

Pwysau’r eiddo sy’n cael ei gludo ar awyren gan gynnwys er enghraifft pwysau cerbydau, bagiau dros ben a bagiau diplomatig, ond heb gynnwys post a’r bagiau a ganiateir ar gyfer teithwyr a chriw.  Ni chynhwysir y nwyddau sydd mewn transit trwy faes awyr ar yr un awyren.

Arolwg y CAA o deithwyr ymadael: pynciau cwestiynau’r arolwg

Mae arolwg y CAA o deithwyr ymadael yn gofyn cwestiynau am y person, y maes awyr, y cwmni hedfan a’r daith. Cafodd yr arolwg diweddaraf sy’n cynnwys yr holl brif feysydd awyr a ddefnyddir gan deithwyr i ac o Gymru ei gynnal yn 2019 ac fe welwch y canlyniadau yn natganiad 2019 ar dudalen 9. Fe welwch ragor o fanylion yr adroddiad ar arolwg teithwyr 2019 ar wefan y CAA. Ni chafodd arolwg ei gynnal yn 2020, 2021 nac yn 2022.

Gwybodaeth o ansawdd

Perthnasedd

Defnyddir yr ystadegau o fewn Llywodraeth Cymru a’r tu allan iddi i fonitro tueddiadau cludiant awyr ac fel llinell sylfaen ar gyfer gwaith dadansoddi pellach.

Cywirdeb

Disgrifir hyn gan y CAA ar y ddolen o dan ‘ffynonellau’r data’ uchod.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r wybodaeth yn y bwletin hwn am gludiant awyr trwy Faes Awyr Caerdydd, yn seiliedig ar Ystadegau blynyddol diweddaraf y CAA am Feysydd Awyr y DU.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r bwletin hwn yn cael ei ddatgan ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar wefan Ystadegau ar gyfer Cymru, gyda’r ffigurau sylfaenol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Arferid cyhoeddi’r wybodaeth ym Mhennod 11 ‘Ystadegau Cludiant Cymru’ ac ar daenlenni Excel.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae a wnelo Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru, sef sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Fe welwch fanylion y dangosyddion ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Dyma ragor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gellir defnyddio’r ystadegau yn y datganiad hwn i ategu naratif y dangosyddion cenedlaethol a chaiff y byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio ar gyfer eu hasesiadau llesiant eu hunain a’u cynlluniau llesiant lleol.

Troednodiadau

[1] Mae’n bosibl na fydd y ffigyrau yn dod i 100% am eu bod wedi’u talgrynnu.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Khonje
E-bost: ystadegau.trafnidiaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 17/2023