Neidio i'r prif gynnwy

Data am fewnforion ac allforion i mewn ac allan o Gymru sy’n cael eu cario fesul ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn ystod 2021.

Mae'r data'n cael eu darparu gan yr Adran Drafnidiaeth.

Mae'r wybodaeth ddomestig yn y cyhoeddiad hwn ar gyfer Gorffennaf 2021 i Mehefin 2022.

Ar gyfer ystadegau am gludo nwyddau ar y ffyrdd gan gerbydau domestig yn unig (Adran Drafnidiaeth), newidiodd yr Adran Drafnidiaeth o arolwg papur i arolwg ar-lein hanner ffordd drwy 2021. O ganlyniad ni ddylid cymharu data cyn Gorffennaf i Medi 2021 â data ar-lein O Orffennaf i Medi 2021 ymlaen. Nid effeithiwyd am gludo nwyddau ar y ffyrdd yn rhyngwladol.

Roedd y sector cludo nwyddau ar ffyrdd yn wynebu anwadalwch sylweddol dros y cyfnod hwn o ganlyniad i’r DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, pandemig y coronafeirws a heriau recriwtio a chadw gyrwyr HGV.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o fewn nodyn methodoleg yr Adran Drafnidiaeth (Saesneg yn unig).

Prif bwyntiau

Rhwng Gorffennaf 2021 a Mehefin 2022, cafodd cyfanswm o 116.1 miliwn tunnell o nwyddau eu codi yng Nghymru gan Gerbydau Nwyddau Trwm (HGVau) wedi'u cofrestru yn y DU. O'r cyfanswm hwn:

  • cludwyd 60.4 miliwn tunnell o nwyddau ar y ffyrdd o fewn Cymru. Y categori mwyaf oedd nwyddau 'mwyn metel a mwyngloddio a chwarela eraill' sef 31% o gyfanswm nwyddau o fewn Cymru gyfan nwyddau
  • daeth 28.8 miliwn tunnell o nwyddau i Gymru o weddill y DU. O'r rhain y categori mwyaf oedd 'nwyddau grŵp' [troednodyn 1], a oedd yn cyfrif am 21% o'r nwyddau a gludwyd i Gymru
  • cafodd 26.9 miliwn tunnell o nwyddau eu cludo o Gymru i weddill y DU. O'r rhain y categori mwyaf oedd 'nwyddau grŵp' a oedd yn cyfrif am 23% o'r nwyddau a gludwyd o Gymru

[1] Nwyddau a godwyd: pwysau'r nwyddau a gludwyd mewn tunelli.

Ffigur 1: Nwyddau a godwyd ar y ffyrdd o fewn Cymru, i Gymru ac o Gymru gan gerbydau nwyddau trwm wedi’u cofrestru yn y DU, Gorffennaf 2021 i Mehefin 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 1: Mae’r siart bar yn dangos bod tua 60Mt o nwyddau wedi cael eu cario ar y ffyrdd o fewn Cymru, 29Mt i Gymru o weddill y DU a thua 27Mt o Gymru i weddill y DU.

Ffynhonnell: Yr Adran Drafnidiaeth

[Nodyn 1] Nwyddau a godwyd: pwysau'r nwyddau a gludwyd mewn tunelli.

Grwpiau nwyddau

Ffigur 2: Y grwpiau nwyddau (cilogramau) a gludwyd gan HGVau yng Nghymru rhwng Gorffennaf 2021 a Mehefin 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigwr 2: Siart yn dangos y 5 grŵp nwyddau mwyaf a gludwyd gan HGVau o Gymru o fis Gorffennaf 2021 i fis Mehefin 2022. Mwyn metel oedd y grŵp mwyaf, sef 26.9 miliwn tunnell o nwyddau ac wedyn 'Nwyddau Grŵp (20.5 miliwn tunnell). Roedd cynhyrchion bwyd yn cyfrif am 13% o'r nwyddau a gludwyd gan HGVau yng Nghymru yn yr un cyfnod.

Ffynhonnell: Yr Adran Drafnidiaeth

[Nodyn 1] Grwpiau o nwyddau: Nwyddau wedi'u grwpio: cymysgedd o fathau o nwyddau sy'n cael eu cludo gyda'i gilydd ac felly ni ellir eu neilltuo i grwpiau 01 i 16.

Mae rhagor o fanylion ynghylch grwpiau nwyddau ar gael gan yr Adran Drafnidiaeth yn Nodiadau a Diffiniad Ystadegau Cludo Nwyddau Ffyrdd (tt. 17 i 18)

Cyrchfannau yn y DU, Gorffennaf 2021 i Mehefin 2022

Rhwng Gorffennaf 2021 a Mehefin 2022, roedd 52% o'r nwyddau ar y ffyrdd yng Nghymru wedi cael eu cludo yng Nghymru yn unig.

O'r nwyddau a gludwyd o Gymru i rannau eraill o'r DU, aeth 23% i Orllewin Canolbarth Lloegr, 27% i Dde-orllewin Lloegr ac 20% i Ogledd-orllewin Lloegr. Roedd y rhanbarthau hyn yn cyfrif am 69% o'r nwyddau a gludwyd o Gymru i weddill y DU.

Roedd yr un tri rhanbarth hyn yn cyfrif am 60% o'r nwyddau a gludwyd i Gymru o weddill y DU. Daeth 24% o Orllewin Canolbarth Lloegr, 17% o Ogledd-orllewin Lloegr a 20% o Dde-orllewin Lloegr.

Cyrchfannau yn yr Undeb Ewropeaidd, blwyddyn galendr 2021

Cafodd 321,000 tunnell o nwyddau eu symud ar y ffordd rhwng Cymru a'r UE yn 2021, Ffigwr 3.

Rhwng 2019 a 2020, gostyngodd cyfanswm yr allforion o'r UE i Gymru 3%, a gostyngodd mewnforion 29%. Disgynnodd y rhain ymhellach yn 2021, gydag allforion yr UE yn gostwng 39% a mewnforion 35%. Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â chyfnod lle roedd rhai cyfyngiadau coronafeirws yn parhau, yn ogystal â’r DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Ar gyfer yr UE yn ei gyfanrwydd, gostyngodd cyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd 38% yn 2021, o'i gymharu â 2020.

Image

Disgrifiad o Ffigwr 3: Mae'r siart yn dangos, ar gyfer yr UE yn ei gyfanrwydd, bod gostyngiadau yng nghyfanswm cyfunol o fewnforion ac allforion nwyddau a gariwyd ar y ffordd o'i gymharu â 2020.

Ffynhonnell: Yr Adran Drafnidiaeth

Cafodd 51% o'r tunelledd a gludwyd ar y ffyrdd o'r UE ac i'r UE ei lwytho/ddadlwytho yng Ngwlad Belg, Lwcsembwrg neu'r Almaen yn 2021. Bu cynnydd o 19% yng nghyfanswm cyfunol y mewnforion a'r allforion a gludwyd ar y ffyrdd i’r gwledydd hynny ac oddi yno yn 2021.

Cyswllt

Mel Brown

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.