Neidio i'r prif gynnwy

Data am fewnforion ac allforion i mewn ac allan o Gymru sy’n cael eu cario fesul ffyrdd gan ddefnyddio cerbydau nwyddau trwm sydd wedi'u cofrestru yn y DU yn ystod 2022.

Mae'r data'n cael eu darparu gan yr Adran Drafnidiaeth.

Newidiodd yr Adran Drafnidiaeth ei dull o gasglu data ar gyfer ystadegau ar gludo nwyddau ffyrdd gan gerbydau domestig yn unig o arolwg papur i arolwg ar-lein hanner ffordd drwy 2021. O ganlyniad, ni ddylid cymharu data cyn Gorffennaf 2021 â data ar-lein o fis Gorffennaf 2021 ymlaen. Er inni gyhoeddi data ar gyfer canol 2021 i ganol 2022 y llynedd er mwyn sicrhau 12 mis o ddata cyson, rydym bellach wedi mynd yn ôl i  gyhoeddi data yn ôl blwyddyn galendr. Nid yw cymariaethau blynyddol o ystadegau cludo nwyddau ar y ffyrdd gan gerbydau domestig wedi cael eu cynnwys gan nad oes modd cymharu data am gludo nwyddau ar y ffyrdd gan gerbydau domestig ar gyfer 2022 a 2021.  Nid effeithiwyd ar ddata am gludo nwyddau ar y ffyrdd yn rhyngwladol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nodyn methodoleg yr Adran Drafnidiaeth.

Prif bwyntiau

Yn 2022 cafodd cyfanswm o 107.7 miliwn tunnell (Mt) o nwyddau eu codi yng Nghymru gan gerbydau nwyddau trwm (HGVau) sydd wedi’u cofrestru yn y DU. O'r cyfanswm hwn:

  • Cafodd 54.2Mt o nwyddau eu cludo ar y ffordd yng Nghymru. Y categori mwyaf o nwyddau oedd 'mwyn metel a deunyddiau mwyngloddio a chwarela eraill' 29% o gyfanswm y nwyddau a gludwyd yng Nghymru.
  • Daeth 24.3Mt o nwyddau i Gymru o weddill y DU. Y categori mwyaf o'r rhain oedd 'nwyddau wedi'u grwpio' (cymysgedd o fathau o nwyddau sy'n cael eu cludo gyda'i gilydd)  a oedd yn cynnwys 23% o nwyddau a ddaeth i Gymru.
  • Cafodd 29.3Mt o nwyddau eu cludo o Gymru i weddill y DU. Y categori mwyaf o'r rhain oedd 'nwyddau wedi'u grwpio' a oedd yn cynnwys 23% o'r nwyddau a aeth o Gymru.
  • Cafodd 438,000 tunnell (0.44Mt) o nwyddau eu cludo ar y ffyrdd rhwng Cymru a'r UE yn 2022.

Ffigur 1: Nwyddau sy’n cael eu cludo ar y ffyrdd yng Nghymru, i Gymru ac o Gymru gan HGVau sydd wedi’u cofrestru yn y DU [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar yn dangos pwysau'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd yng Nghymru, i Gymru ac o Gymru gan HGVau wedi'u cofrestru yn y DU yn 2022.

[Nodyn 1] Diffiniad nwyddau a godir yw pwysau'r nwyddau a gludwyd, wedi'u mesur mewn tunellau. Dyma fesur o gyfanswm y nwyddau sy'n cael eu cludo yn y DU gan HGVau sydd wedi'u cofrestru yn y DU.

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am Gludo Nwyddau ar y Ffyrdd

Grwpiau nwyddau

Mae Ffigur 2 yn dangos y 5 grŵp mwyaf o nwyddau a gludwyd gan HGVau yng Nghymru yn 2022. Y grŵp o nwyddau â'r pwysau uchaf oedd mwyn metel ar 23.4Mt, ac wedyn nwyddau wedi'u grwpio (21.0Mt). Roedd cynhyrchion bwyd yn cyfrif am 12% o'r nwyddau a gludwyd gan HGVau yng Nghymru dros yr un cyfnod.

Mae rhagor o fanylion am grwpiau o nwyddau ar gael yng  nghyhoeddiad yr Adran Drafnidiaeth Road Freight Statistics Notes and Definition (tudalennau 17 i 18).

Ffigur 2: Grwpiau o nwyddau a gludwyd (yn ôl pwysau) yng Nghymru gan HGVau wedi'u cofrestru yn y DU yn 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart colofn yn dangos pwysau'r nwyddau a gludwyd gan HGVau ar gyfer y pum grŵp mwyaf o nwyddau yng Nghymru yn 2022.

[Nodyn 1] Nwyddau wedi'u grwpio – cymysgedd o fathau o nwyddau sy'n cael eu cludo gyda'i gilydd

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am Gludo Nwyddau ar y Ffyrdd

Cyrchfannau yn y DU 2022

Mae'r adran hon yn edrych ar weithgarwch domestig cerbydau nwyddau trwm (HGVau) sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr yn ôl faint o nwyddau a gafodd eu codi a'u symud ar y ffyrdd o fewn y DU i Gymru ac o Gymru.

Yn 2022, dim ond yng Nghymru ei hun y teithiodd 50% o'r nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd.

  • O’r nwyddau a gludwyd (nwyddau a godwyd) o Gymru i rannau eraill o'r DU, aeth 28% i Orllewin Canolbarth Lloegr, 23% i Dde-orllewin Lloegr a 20% i Ogledd-orllewin Lloegr (Ffigur 3. Roedd y rhanbarthau hyn yn cyfrif am gyfanswm o 71% o nwyddau a gludwyd o Gymru i weddill y DU.
  • Roedd yr un tri rhanbarth yn cyfrif am 65% o'r nwyddau a gludwyd i Gymru o weddill y DU. Daeth 22% o Orllewin Canolbarth Lloegr, 20% o Ogledd-orllewin Lloegr a 23% o Dde-orllewin Lloegr.
  • Yn 2022, o'r 10.1 biliwn tunnell-gilomedr o nwyddau a gludwyd i Gymru ac o Gymru, aeth 52% o'r holl nwyddau a symudwyd o Gymru i wledydd a rhanbarthau eraill y DU a daeth 48% o'r nwyddau a symudwyd i Gymru.

Diffiniadau

Y diffyniad o nwyddau a symudwyd yw pwysau'r nwyddau a gludwyd wedi'i luosi â'r pellter y cludwyd y nwyddau, wedi'i fesur mewn cilometrau-tunnell. Mae hwn yn fesur o'r gweithgarwch cyffredinol yn y DU gan HGVau wedi'u cofrestru yn y DU, gan gyfrif am y pellter a deithiwyd gan bob cerbyd a phwysau ei lwyth.

Y diffiniad pwysau a godwyd yw pwysau'r nwyddau a gludwyd wedi'i fesur mewn tunellau. Dyma fesur o gyfanswm y nwyddau sy'n cael eu cludo yn y DU gan HGVau sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Nodiadau a diffiniadau ar gyfer cludo nwyddau ar y ffyrdd (Adran Drafnidiaeth).

Ffigur 3: Nwyddau a gludwyd (nwyddau a godwyd) gan HGVau rhwng rhanbarthau Cymru a'r DU yn 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart golofn yn dangos cyfeiriad cludo nwyddau ar y ffyrdd gan gerbydau domestig yn ôl rhanbarth y DU a Chymru yn 2022.

[Nodyn 1] Diffiniad nwyddau a godir yw pwysau'r nwyddau a gludwyd, wedi'u mesur mewn tunellau. Dyma fesur o gyfanswm y nwyddau sy'n cael eu cludo yn y DU gan HGVau sydd wedi'u cofrestru yn y DU.

[Nodyn 2] Nid yw data ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban wedi'u cynnwys oherwydd maint bach y samplau

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am Gludo Nwyddau ar y Ffyrdd

Cyrchfannau yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) 2022

Cafodd 438,000 tunnell (0.44Mt) o nwyddau eu cludo ar y ffyrdd rhwng Cymru a'r UE yn 2022 (Ffigwr 4).

Ar gyfer yr UE cyfan, cynyddodd cyfanswm y mewnforion a'r allforion nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd 36% yn 2022 o'i chymharu â 2021. Fodd bynnag, gostyngodd cyfanswm pwysau'r nwyddau a gludwyd gan HGVau rhwng Cymru a chyrchfannau'r UE rhwng 2019 a 2021 ac mae'n parhau i fod yn is na lefelau 2019. Mae'r ystadegau hyn yn cwmpasu cyfnod y mae'n debyg yr effeithiwyd arno gan y coronafeirws yn ogystal ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Ffigur 4: Y nwyddau a gludwyd ar y ffyrdd gan HGVau (yn ôl pwysau) rhwng Cymru a'r UE, 2000 i 2022

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell yn dangos y duedd mewn cludo nwyddau ar y ffyrdd (yn ôl pwysau) a gludwyd gan HGVau rhwng Cymru a'r UE rhwng 2000 a 2022.

Ffynhonnell: Data'r Adran Drafnidiaeth am Gludo Nwyddau ar y Ffyrdd

Cafodd 42% o'r tunelledd a gludwyd ar y ffyrdd o'r UE ac i'r UE ei lwytho/ddadlwytho yng Ngwlad Belg, Lwcsembwrg neu'r Almaen yn 2022. Cynyddodd cyfanswm cyfunol mewnforion ac allforion nwyddau a gludwyd ar y ffordd i'r gwledydd hyn ac o'r gwledydd hyn 12% yn 2022, fodd bynnag, mae'r lefelau presennol 27% yn is na lefelau 2019.

Cyswllt

James Khonje

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.