Diolch i dros £300,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru, mae clwb Chwaraeon a Chymunedol lleol Pont-hir wedi cael ei droi yn gyfleuster aml-ddefnydd bywiog sy'n cefnogi chwaraeon, addysg a bywyd cymunedol.
Mae Clwb Chwaraeon a Chymunedol Pont-hir yn sefydliad dielw yng nghanol y pentref yn Nhorfaen. Maen nhw wedi defnyddio'r cyllid i adeiladu clwb newydd sbon ac iddo ystafelloedd hyblyg at ddefnydd cymunedol, ac i drawsnewid yr adeilad gwreiddiol yn bedair ystafell newid fodern. Mae cyllid ychwanegol wedi helpu i dalu am arwyneb newydd ar y maes parcio, gan wneud y safle yn fwy hygyrch a chroesawgar i bawb.
Mae'r clwb wedi derbyn dros £309,000 drwy Raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Daeth cyllid ychwanegol trwy godi arian yn lleol a gan gyllidwyr eraill fel Bwrdd Criced Lloegr (Criced Cymru), Sefydliad Pêl-droed Cymru ac Ymddiriedolaeth Stadiwm y Mileniwm.
Mae'r clwb ar bwys Ysgol Gynradd Pont-hir, ac mae wedi bod yn rhan o fywyd y pentref ers cenedlaethau, gyda chriced yn cael ei chwarae yno ers 1881 a phêl-droed ers dros 50 mlynedd. Heddiw, mae'n gartref i dros 20 o dimau chwaraeon, gan gynnwys naw carfan pêl-droed merched, timau criced hŷn ac iau, timau cyn-filwyr a thîm boules. Mae'r cyfleusterau newydd wedi creu gofod diogel a chynhwysol i chwaraeon merched ffynnu yn yr ardal, gyda llawer o grwpiau ieuenctid yn rhan o Glwb Pêl-droed Ponthir a lefelau cynyddol o gyfranogiad yng Nghlwb Criced Ponthir.
Mae'r clwb hefyd yn ganolfan ar gyfer dysgu a chymdeithasu. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys dosbarthiadau ieithoedd modern, gweithdai coginio i blant, nosweithiau cwis, caffi a phantri cymunedol. Mae hefyd yn cynnal y Gymdeithas Athrawon a Rhieni a'r Cyngor Cymuned, ac mae'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd gan Heddlu Gwent, y GIG ac elusennau lleol ar gyfer digwyddiadau hyfforddi a chodi arian.
Dywedodd Cadeirydd y Clwb, Ollie Eastman:
"Mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi'n helpu i drawsnewid yr hyn rydyn ni'n gallu ei gynnig. Mae gennyn ni nawr leoedd sy'n gweithio i bawb, p'un ydych chi yma i gymryd rhan mewn chwaraeon a chadw'n gorfforol actif, dysgu iaith neu gael paned o de gyda chymdogion. Mae'n lle sydd wir wedi cael ei adeiladu gan y gymuned ar gyfer y gymuned."
Dywedodd gôl-geidwad un o’r timau pêl-droed merched, Nia Matthews, 16 oed:
"Fel rhywun sydd wedi bod yn rhan o gymuned Pont-hir gydol fy oes, mae wedi bod mor wych gweld y clwb yn ffynnu fel mae e nawr. Rydw i wedi bod yn chwarae pêl-droed i Bont-hir ers sawl blwyddyn ac mae gweld sut mae datblygiad y clwb wedi arwain at wella cymaint o bethau eraill o fewn y gymuned yn arbennig iawn. Mae'r clwb mor bwysig oherwydd mae'n cynnig cyfle i bobl o bob oed gadw’n actif, os ydyn nhw eisiau, neu jyst i gymysgu gyda phobl eraill yn ein cymuned, ac rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol wych."
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, â'r safle yn gynharach y mis hwn. Dywedodd:
"Mae Clwb Chwaraeon a Chymuned Pont-hir yn enghraifft wych o sut y gall pobl leol lunio lle sydd wir yn gweithio i bawb. Nid gwella adeiladau yn unig yw nod ein buddsoddiadau – ond hefyd atgyfnerthu cymunedau ledled Cymru. Mae angen lleoedd hygyrch ar garreg drws pobl, lle gallant gymryd rhan mewn gweithgareddau, cael eu cefnogi, a theimlo'n rhan o rywbeth. Rwy'n falch o gefnogi'r mentrau creadigol hyn ar lawr gwlad sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd."
Ers 2015, mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru wedi cefnogi bron i 500 o brosiectau ledled Cymru, gan helpu cymunedau i ryddhau potensial mannau lleol drwy fuddsoddiadau gwerth dros £70 miliwn.
