Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cwmni technegol mawr, IQE, yn ehangu ei weithgareddau dylunio a gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yng Nghasnewydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi’i adeiladu’n wreiddiol ar gyfer LG Semiconductors, cafodd datblygiad y Celtic Lakes yn yr Imperial Park yng Nghasnewydd ei werthu gan Lywodraeth Cymru i Gynghorwyr y Fargen Ddinesig er mwyn gwneud gwaith adnewyddu arno sy’n werth £38 miliwn.  

Fel un o’r prif leolidau busnes yn ne-ddwyrain Cymru, mae’r ffowndri wafferi lled-ddargludo cyfansawdd yn rhan allweddol o strategaeth Llywodraeth Cymru i adeiladu clwstwr lled-ddargludo cyntaf y byd – gan ddod â swyddi uchel, buddsoddiad a sgiliau i Gymru.    

Meddai Ken Skates: 

“Mae’n galonogol iawn bod buddsoddiad cychwynnol Llywodraeth Cymru o £12 miliwn i ddatblygu y clwstwr yn ôl yn 2015 wedi bod yn gatalydd ar gyfer cyhoeddiad heddiw bod IQE yn bwriadu ehangu i gyfleusterau newydd y Fargen Ddinesig.  Nid yn unig ei fod yn newyddion cyffrous iawn i economi Cymru, gan sicrhau swyddi a buddsoddiad ychwanegol, ond mae’n cadarnhau ymhellach safle Cymru fel arweinydd y byd yn y dechnoleg ddiweddaraf hon.   

“Gyda clwstwr lled-ddargludo cyfansawdd cyntaf y byd wedi’i leoli yma yn ne-ddwyrain Cymru, rydym yn gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl wrth ddatblygu technoleg sydd nid yn unig yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau heddiw, ond bydd yn sbarduno arloesedd fydd yn llywio’r byd yr ydym yn byw  ynddo yfory.”   

Bydd y ffowndri yn cefnogi datblygiad y clwstwr diwydiannol o led-ddargludyddion cyfansawdd yn y rhanbarth, gyda’r posibilrwydd o:  

  • ddenu £375miliwn o fuddsoddiad o’r sector preifat,
  • creu hyd at 2,000 o swyddi â sgiliau,
  • defnyddio’r elw ar gynlluniau rhanbarthol eraill, a 
  • creu cannoedd o swyddi newydd yn y clwstwr cyflenwi ehangach 

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn fwy cymhleth na thechnoleg silicon ac yn defnyddio llai o bŵer, cyflymder a thymheredd uwch, ac yn rhoi a chanfod golau.   Mae’r nodweddion hyn yn denu marchnadoedd pwysig yn y sector modurol, iechyd a diogelwch, megis ar gyfer ffonau smart 5G, y Rhyngrwyd Pethau, tele-iechyd a cherbydau awtonomaidd.   

Meddai Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE plc: 

"Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn diffinio technolegau y 21ain ganrif, ac mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i fod yng nghanol y sector byd-eang, uwch-dechnolegol hwn. 

"Mae’r ganolfan arbennig hon ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn gweithredu fel elfen allweddol o’r clwstwr newydd hwn sydd eisoes yn cadarnhau enw da Cymru fel arweinydd technolegol.  

"Mae’r fenter hon yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio.  Mae llywodraethau Cymru a Phrydain, yn ogystal â’r deg cyngor sy’n rhan o Brifddinas-ranbarth Caerydd, wedi cydweithio’n agos gyda sefydliadau academaidd a diwydiant i greu seilwaith arloesol fydd yn cefnogi ac yn meithrin y rhanbarth fel ardal gwirioneddol fyd-eang yn y maes technolegau newydd.   

"Daw y ganolfan yn safle i nifer o weithgareddau sy’n gysylltiedig â lled-ddargludyddion cyfansawdd, gan gynnwys IQE, ble yr ydym yn disgwyl ehangu ein capasiti cynhyrchu yn fuan iawn i fodloni’r galw cynyddol am ein technoleg.”