Neidio i'r prif gynnwy

Mae clwy'r traed a'r genau yn glefyd firaol hysbysadwy. Mae'n cael effaith ar wartheg, defaid, moch, geifr ac anifeiliaid eraill â charnau hollt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2007 y cafwyd yr achos diwethaf o glwy'r traed a'r genau ym Mhrydain.  Cafodd yr achosion yn y DU yn 2001 a 2007 effaith andwyol ar y diwydiant ffermio.

Amheuon a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon fod Clwy'r Traed a'r Genau ar eich anifeiliaid, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion leol ar 0300 303 8268  ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio achosion tybiedig.

Arwyddion clinigol

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:

  • gwres uchel:
  • pothelli ar y croen rhwng y goes a'r carn
  • pothelli o gwmpas y trwyn, tafod a gwefusau
  • cloffni
  • colli archwaeth

Trosglwyddo ac atal

Gall y clefyd gael ei ledaenu:

  • mewn cerbydau ac offer
  • trwy gysylltiad uniongyrchol ag anifail heintiedig
  • drwy fod mewn cyswllt â bwydydd wedi'u heintio.

Mae'n bosibl i'r firws gael ei gludo hefyd yn yr aer mewn amodau hinsawdd ffafriol.

Dylech ddilyn mesurau bioddiogelwch llym i atal achos o glwy'r traed a'r genau.