Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 4 Mawrth 2021.

Cyfnod ymgynghori:
8 Rhagfyr 2020 i 4 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn gofyn am eich barn ar ddrafft diwygiedig o god asesu effaith rheoleiddiol Gweinidogion Cymru ar gyfer is-ddeddfwriaeth.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r Cod yn nodi polisi Gweinidogion Cymru ar gyfer cyflawni Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth. Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn rhoi gwybodaeth i Weinidogion Cymru am y costau, y manteision a'r risgiau cymharol sy'n gysylltiedig ag ymyriadau polisi amgen. Mae'n eu galluogi i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ar y camau gweithredu mwyaf priodol o safbwynt gwerth am arian.

Bydd y cod ymarfer diwygiedig yn:

  • egluro geiriad y cod
  • adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol sydd wedi digwydd ers cyhoeddi'r Cod gwreiddiol yn diwygio'r rhestr o eithriadau (sy'n disgrifio sefyllfaoedd lle na fyddai angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol).

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 523 KB

PDF
523 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cod asesiad effaith rheoleiddiol drafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 400 KB

PDF
400 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.