Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

  1. Mae Cod Erlyn Llywodraeth Cymru (y “Cod”) yn rhoi arweiniad i erlynwyr ynglŷn â’r egwyddorion y dylid eu hystyried wrth wneud penderfyniadau sy’n ymwneud ag erlyniadau Llywodraeth Cymru.
  2. Mae penderfynu erlyn yn gam difrifol. Mae erlyniad teg ac effeithiol yn hanfodol er mwyn cynnal cyfraith a threfn. Mae gan bob erlyniad oblygiadau difrifol i bawb sy’n gysylltiedig ag ef, gan gynnwys tystion a diffynyddion. Bwriad y Cod hwn yw sicrhau bod penderfyniadau teg a chyson yn cael eu gwneud am erlyniadau. Cyhoeddir y Cod hwn gan y Cwnsler Cyffredinol.
  3. Mae’r Cwnsler Cyffredinol, yn rhinwedd adran 45 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (y “Ddeddf”) yn aelod o Lywodraeth Cymru. Mae adran 67 o’r Ddeddf yn galluogi’r Cwnsler Cyffredinol i gychwyn erlyniadau drwy ei hawl ei hun. Mewn rhai achosion bydd y pŵer i gychwyn erlyniad wedi ei gadw i Weinidogion Cymru. Yn yr achosion hynny, bydd erlyniadau’n cael eu cychwyn yn enw Gweinidogion Cymru. Mae cyfeiriad at “erlyniad Llywodraeth Cymru” yn y Cod hwn yn gyfeiriad at erlyniad yr ystyrir ei gychwyn neu sy’n cael ei gychwyn yn unol ag un o swyddogaethau’r Cwnsler Cyffredinol neu Weinidogion Cymru.
  4. Yn y Cod hwn, defnyddir y term “y sawl a ddrwgdybir” i ddisgrifio person neu gorff o bersonau corfforaethol neu anghorfforaethol nad yw eto’n destun achos troseddol ffurfiol; defnyddir y term “diffynnydd” i ddisgrifio person neu gorff o bersonau corfforaethol neu anghorfforaethol sy’n destun achos troseddol ffurfiol; a defnyddir y term “troseddwr” i ddisgrifio person neu gorff o bersonau corfforaethol neu anghorfforaethol sydd wedi cyfaddef ei fod yn euog wrth ymchwilydd neu erlynydd, neu sydd wedi cael ei ddyfarnu’n euog mewn llys barn.
  5. Mae cyfeiriad at “erlynydd” neu “erlynwyr” yn y Cod hwn yn gyfeiriad at gyfreithwyr sy’n darparu cyngor a chynrychiolaeth mewn cysylltiad ag erlyniadau Llywodraeth Cymru. Defnyddir y termau “ymchwilydd” neu “ymchwilwyr” i ddisgrifio swyddogion neu asiantau Llywodraeth Cymru sy’n ymchwilio i droseddau honedig fel rhan o’u dyletswyddau.
  6. Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn penderfynu cymryd erlyniad Llywodraeth Cymru drosodd, neu gall y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus gychwyn achos yn ymwneud â throseddau lle mae gan y Cwnsler Cyffredinol neu Weinidogion Cymru swyddogaethau erlyn hefyd. Yn yr achosion hyn bydd y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron yn gymwys.

Egwyddorion cyffredinol erlyniadau

  1. Rhaid i erlynwyr sicrhau bod pob achos yn cael ei ystyried ar sail ei ffeithiau ei hun, bod y gyfraith yn cael ei chymhwyso’n briodol ym mhob achos a bod pob tystiolaeth berthnasol yn cael ei rhoi gerbron y llys.
  2. Rhaid i erlynwyr beidio â chychwyn erlyniad a fyddai’n cael ei ystyried gan y llys fel un gorthrymol neu annheg sy’n camddefnyddio proses y llys, na pharhau ag erlyniad o’r fath.
  3. Wrth ystyried a ddylid cychwyn erlyniad, rhaid i erlynwyr fod yn deg, yn annibynnol ac yn wrthrychol. Rhaid i erlynwyr sicrhau nad ydynt yn gadael i unrhyw farn bersonol ynglŷn â nodweddion y sawl a ddrwgdybir, y dioddefwr neu unrhyw dyst ddylanwadu ar eu penderfyniadau. Wrth ystyried a ddylid cychwyn erlyniad, rhaid i erlynwyr sicrhau nad effeithir arnynt gan bwysau amhriodol neu ormodol o unrhyw ffynhonnell, boed o fewn Llywodraeth Cymru neu y tu allan iddi. Rhaid i erlynwyr gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol a pherthnasol ar gydraddoldeb.
  4. Rhaid i erlynwyr weithredu darpariaethau’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, yn unol â Deddf Hawliau Dynol 1998, ym mhob cam o achos. Rhaid i erlynwyr hefyd gydymffurfio â’r Rheolau Trefniadaeth Droseddol sydd mewn grym ar hyn o bryd a rhoi sylw dyledus i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth ynghylch ac mewn cysylltiad â rhoi effaith bellach yng Nghymru i’r hawliau a’r rhwymedigaethau a roddir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.).

Y prawf erlyn

  1. Ni ddylid cychwyn erlyniad oni bai fod yr achos wedi pasio dau gam y Prawf Erlyn. Y ddau gam yw: (i) y cam tystiolaeth ddigonol, yn cael ei ddilyn gan (ii) y cam budd i’r cyhoedd.

Y cam tystiolaeth ddigonol

  1. Rhaid i’r erlynwyr fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i ddarparu siawns realistig o euogfarn, yn achos pob unigolyn a ddrwgdybir, a phob trosedd sy’n cael ei hystyried. Rhaid i’r erlynwyr ragweld dadleuon yr amddiffyniad a sut y gallent effeithio ar y siawns o euogfarn. Ni ddylai unrhyw achos nad yw’n pasio’r cam tystiolaeth ddigonol fynd yn ei flaen, ni waeth pa mor ddifrifol neu sensitif ydyw.
  2. Mae’r canfyddiad bod siawns realistig o euogfarn yn seiliedig ar asesiad gwrthrychol yr erlynydd o’r dystiolaeth, ar ôl ystyried unrhyw amddiffyniad a gyflwynwyd yn barod neu a allai gael ei gyflwyno gan y sawl a ddrwgdybir. Mae’n golygu y bydd rheithgor, neu fainc o ynadon, neu farnwr yn gwrando achos ar ei ben ei hun, â chyfarwyddyd priodol a chan weithredu yn unol â’r gyfraith, yn fwy tebygol na pheidio o ddyfarnu bod y diffynnydd yn euog o’r drosedd honedig.
  3. Wrth benderfynu a oes digon o dystiolaeth i erlyn, rhaid i erlynwyr ystyried y ffactorau a ganlyn:
    1. Pa mor dderbyniol fyddai’r dystiolaeth mewn llys. Rhaid i erlynwyr ystyried a yw’r holl dystiolaeth yn debygol o fod yn dderbyniol ai peidio. Os oes rhywfaint o dystiolaeth yn debygol o gael ei diystyru gan y llys, rhaid i erlynwyr ystyried a oes digon o dystiolaeth sy’n dderbyniol ar gyfer siawns realistig o euogfarn.
    2. A yw’r dystiolaeth yn ddibynadwy. Rhaid i erlynwyr ystyried a oes unrhyw reswm dros gwestiynu dibynadwyedd y dystiolaeth, gan gynnwys ei chywirdeb neu ei chyfanrwydd.
    3. A yw’r dystiolaeth yn gredadwy. Rhaid i erlynwyr ystyried a oes unrhyw reswm dros amau hygrededd y dystiolaeth.

Y cam budd y cyhoedd

  1. Rhaid ystyried budd y cyhoedd ym mhob achos lle mae digon o dystiolaeth i ddarparu siawns realistig o euogfarn. Rhaid i erlynwyr bwyso a mesur y ffactorau o blaid ac yn erbyn erlyn yn ofalus ac yn deg.
  2. Cynhelir erlyniad fel arfer, oni bai fod yr erlynydd yn fodlon bod y ffactorau budd i’r cyhoedd sydd â thuedd yn erbyn erlyn yn bwysicach na’r rhai sydd â thuedd o blaid. Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd yr erlynydd yn fodlon y gellir sicrhau budd y cyhoedd yn briodol drwy gynnig cyfle i’r troseddwr dderbyn Rhybudd Syml yn hytrach na dwyn erlyniad.
  3. Wrth benderfynu ynglŷn â budd y cyhoedd, dylai erlynwyr ystyried y ffactorau a ganlyn:
    1. Difrifoldeb y drosedd. Po fwyaf difrifol yw’r drosedd po fwyaf tebygol yw hi bod angen erlyn.
    2. Amgylchiadau’r drosedd. I ba raddau roedd y drosedd wedi ei rhagfwriadu a/neu ei chynllunio. A yw’r sawl a ddrwgdybir wedi parhau i gyflawni’r drosedd er gwaethaf pob ymdrech i sicrhau cydymffurfiaeth, er enghraifft drwy ddulliau gorfodi eraill, gan gynnwys ymyriadau rheoleiddiol a chosbau sifil.
    3. Amgylchiadau’r sawl a ddrwgdybir. Mae hyn yn cynnwys a yw’n dioddef o unrhyw afiechyd meddyliol neu gorfforol arwyddocaol, neu a oedd yn dioddef ohono adeg y drosedd. Mewn rhai amgylchiadau gallai hyn olygu ei bod yn llai tebygol y bydd angen erlyn.
    4. A oes gan y sawl a ddrwgdybir unrhyw gollfarnau troseddol blaenorol.
    5. Oed y sawl a ddrwgdybir ar adeg y drosedd. Mae’r system cyfiawnder troseddol yn trin unigolyn dan 18 oed yn wahanol i oedolion. O ganlyniad, rhaid rhoi pwys sylweddol ar oed y sawl a ddrwgdybir os yw dan 18 oed. Mae budd pennaf a llesiant unigolion sydd dan 18 oed o’r pwys mwyaf. Rhaid i erlynwyr roi sylw i’r rhwymedigaethau sy’n codi dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 sy’n rhoi effaith bellach yng Nghymru i’r hawliau a’r rhwymedigaethau a roddir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
    6. Amgylchiadau’r dioddefwr (mewn achosion lle gellir dweud pwy yw’r dioddefwr). Po fwyaf agored i niwed yw’r dioddefwr, po fwyaf y tebygolrwydd y bydd angen erlyniad.
    7. Effaith y troseddu ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu ar yr amgylchedd, po fwyaf y tebygolrwydd y bydd angen erlyniad.
    8. Effaith y troseddu ar y gymuned. Po fwyaf yw effaith y troseddu ar y gymuned, po fwyaf y tebygolrwydd y bydd angen erlyniad.
    9. Dylai erlynwyr ystyried a oes elfen o berygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd.
    10. Dylai erlynwyr ystyried hefyd a yw erlyniad yn gymesur â’r canlyniad tebygol, ac wrth wneud hynny dylent ystyried faint fyddai’r gost i Lywodraeth Cymru a’r system cyfiawnder troseddol ehangach. Er hyn, ni ddylai erlynwyr benderfynu ynglŷn â budd y cyhoedd ar sail cost yn unig.
    11. Dylai erlynwyr ystyried a allai bwrw ymlaen ag erlyniad achosi niwed i ffynonellau gwybodaeth, cysylltiadau rhyngwladol neu ddiogelwch gwladol.
  4. Mae’r ffactorau a restrwyd uchod yn rhoi arweiniad i erlynwyr wrth benderfynu a yw cychwyn neu barhau ag erlyniad o fudd i’r cyhoedd. Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth, ac ni fydd yr holl ffactorau budd y cyhoedd yn berthnasol i bob achos. Bydd y pwysoliad i’w roi i bob ffactor budd y cyhoedd yn amrywio hefyd gan ddibynnu ar ffeithiau a rhagoriaethau pob achos.

Dewis troseddau

  1. Rhaid i erlynwyr ddewis troseddau sydd:
    1. yn adlewyrchu difrifoldeb a maint y troseddu
    2. yn rhoi pwerau addas i’r llys gael dedfrydu a gosod gorchmynion priodol ar ôl dyfarnu rhywun yn euog o drosedd, a
    3. yn sicrhau bod modd cyflwyno’r achos mewn ffordd glir a syml.
  2. Rhaid i erlynwyr beidio â bwrw ymlaen â mwy o droseddau nag sy’n angenrheidiol, a hynny’n unig er mwyn annog diffynnydd i bledio’n euog i ychydig ohonynt. Yn yr un modd, rhaid i erlynwyr beidio â bwrw ymlaen â throsedd fwy difrifol er mwyn annog diffynnydd i bledio’n euog i un lai difrifol.

Rhybuddion syml

  1. Mae Rhybudd Syml yn fater difrifol. Mae’n gyfaddefiad gan y troseddwr ei fod wedi cyflawni trosedd. Gellir rhoi Rhybudd Syml i rywun yn hytrach na’i erlyn mewn llys, os yw hynny’n ymateb priodol i ddifrifoldeb a chanlyniadau’r troseddu. Rhaid i erlynwyr ddilyn unrhyw ganllawiau perthnasol pan ofynnir iddynt roi cyngor ynglŷn â Rhybudd Syml neu awdurdodi Rhybudd Syml (Mae canllawiau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar Rybuddion Syml ar GOV.UK). Rhaid i’r erlynwyr fod yn fodlon bod cyfaddefiad digon clir o euogrwydd i ddarparu siawns realistig o euogfarn, ac y byddai cam o’r fath yn briodol er budd y cyhoedd.

Lleoliad ar gyfer treial

  1. Rhaid i erlynwyr ystyried y canllawiau dyrannu ac unrhyw ganllawiau dedfrydu perthnasol a chyfredol wrth wneud argymhellion i’r llys ynadon ynglŷn â ble dylai’r diffynnydd gael ei roi ar brawf.
  2. Rhaid i erlynwyr gofio y dylai unigolion sydd dan 18 oed gael eu rhoi ar brawf yn y llys ieuenctid os oes modd. Dyma’r llys mwyaf addas ar gyfer eu hanghenion penodol. Dim ond yr achosion mwyaf difrifol, neu achosion lle dylai unigolyn dan 18 oed sefyll ei brawf ar y cyd ag oedolyn er mwyn sicrhau cyfiawnder, ddylai gael eu cynnal yn Llys y Goron.

Derbyn pleon euog

  1. Mae’n bosibl y bydd diffynyddion eisiau pledio’n euog i rai troseddau, ond nid y cyfan. Neu, mae’n bosibl y byddant eisiau pledio’n euog i drosedd wahanol, nad yw mor ddifrifol efallai, oherwydd eu bod yn cyfaddef rhan yn unig o’r drosedd.
  2. Rhaid i erlynwyr beidio â derbyn ple’r diffynnydd oni bai eu bod o’r farn y gall y llys roi dedfryd sy’n cyfateb i ddifrifoldeb y drosedd, yn enwedig os oes nodweddion sy’n gwneud y drosedd yn waeth. Ni ddylai erlynwyr byth dderbyn ple euog dim ond oherwydd bod hynny’n gyfleus.
  3. Wrth ystyried a yw’r pleon a gynigir yn dderbyniol, dylai erlynwyr sicrhau bod sylw’n cael ei roi i fuddiannau’r dioddefwr, neu fuddiannau teulu’r dioddefwr mewn achosion priodol, wrth benderfynu a fyddai derbyn y ple o fudd i’r cyhoedd. Er hyn, yr erlynydd fydd yn gyfrifol am y penderfyniad.
  4. Rhaid esbonio i’r llys ar ba sail y cyflwynir ac y derbynnir unrhyw ble. Mewn achosion lle bydd diffynnydd yn pledio’n euog i’r troseddau, ond ar sail ffeithiau sy’n wahanol i achos yr erlyniad, a lle gallai hyn gael effaith sylweddol ar y ddedfryd, dylid gwahodd y llys i wrando tystiolaeth er mwyn penderfynu beth ddigwyddodd, yna dedfrydu ar sail hynny.

Ailystyried penderfyniad i erlyn

  1. Mewn rhai achosion mae’n bosibl y bydd erlynydd yn credu bod angen gwrthdroi penderfyniad i beidio ag erlyn, ymdrin ag achos drwy Rybudd Syml, neu ailgychwyn erlyniad, yn enwedig os yw’r achos yn un difrifol.
  2. Gallai hyn ddigwydd pan fo adolygiad pellach o’r penderfyniad gwreiddiol yn dangos ei fod yn anghywir, ac er mwyn cadw hyder y cyhoedd yn y broses erlyn dylid cychwyn erlyniad er gwaetha’r penderfyniad cynharach.
  3. Mewn rhai achosion bydd rhagor o dystiolaeth wedi dod i’r amlwg ar ôl i achos gael ei atal, ac ar ôl adolygiad o’r dystiolaeth bydd erlynydd yn penderfynu bod y Prawf Erlyn wedi cael ei basio.