9.1 Wrth drefnu i deithio o fewn y DU neu’r tu allan iddi, dylai Gweinidogion a gweision sifil gadw mewn cof egwyddorion cynaliadwyedd a'r nod o leihau ôl troed carbon lle bynnag y bo modd, yn enwedig ar ôl i’r datganiad ar argyfwng hinsawdd gael ei wneud. Dylid ystyried y dull mwyaf priodol o deithio ar gyfer pob ymweliad, gydag ystyriaethau amgylcheddol bob amser yn flaenaf.
Ymweliadau dramor gan y Gweinidogion
9.2 Fel rheol, ni ddylid mynd ar ymweliadau dramor pan fo’r Senedd yn cyfarfod. Dylai’r Gweinidogion drefnu ymweliadau o’r fath yn ystod y Toriad neu, os yw hynny’n briodol, ar y diwrnodau hynny lle nad oes busnes wedi ei drefnu yn y Senedd, ac eithrio pan fo rhesymau anorfod sy’n gysylltiedig â busnes Llywodraeth Cymru. Yn benodol, dim ond yn ystod Toriad y Senedd y dylid mynd ar ymweliadau dramor sydd, yn bennaf, yn rhai ymchwiliol. At hynny, wrth gynllunio ymweliadau dramor, dylai’r Gweinidogion gofio bod cyfarfodydd y Cabinet yn cael blaenoriaeth dros unrhyw fusnes arall. Rhaid i ddigon o Weinidogion fod ar gael yn ystod y Toriadau i sicrhau bod busnes Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal yn effeithiol, ac o’r herwydd, mae’n bosibl y bydd angen cyfyngu ar y niferoedd sy’n absennol dramor neu ailfeddwl am ymweliadau dramor.
9.3 Dylai’r Gweinidogion hysbysu’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach cyn gynted ag y byddant yn ystyried mynd ar unrhyw ymweliad dramor (er enghraifft, pan ddaw gwahoddiad i law). Yr Adran fydd yn gyfrifol am ymgynghori â staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu lle bo hynny'n briodol, ac am hysbysu’r Gweinidog o dan sylw am ei safbwyntiau. Ar ôl hynny, dylid rhoi rhan lawn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach wrth wneud y trefniadau ar gyfer yr ymweliad.
9.4 Rhaid i unrhyw Weinidog sydd am fod yn absennol o’r DU am unrhyw reswm geisio cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog. Rhaid gwneud hynny cyn ymrwymo i unrhyw beth. Yn achos ymweliadau swyddogol, dylai’r achos busnes yn ceisio cymeradwyaeth ar eu cyfer gynnwys y rhesymau dros yr ymweliad a rhestr o’r gwledydd y bwriedir ymweld â hwy, y gost a rhestr o’r swyddogion a fydd yn mynd gyda’r Gweinidog. Dylai’r Gweinidogion nodi hefyd pa fudd fyddai i’r ymweliad. Dylid anfon copïau o’r achos busnes at y Gweinidog sy’n gyfrifol am Fusnes Llywodraeth Cymru ac at y Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach.
9.5 Dylai Gweinidogion sy’n bwriadu mynd ar ymweliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar fusnes fel Aelod o’r Senedd neu ar fusnes arall nad yw’n ymwneud â swydd Gweinidog, neu ar wyliau, ystyried hysbysu'r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach ymlaen llaw. Bydd hysbysu'r Adran yn ei galluogi i roi unrhyw wybodaeth neu gyngor (e.e. mewn perthynas â sensitifrwydd gwleidyddol neu o ran diogelwch) y mae'n teimlo a allai fod yn fuddiol i'r Gweinidog ac i hysbysu cynrychiolwyr y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu bod un o Weinidogion y Llywodraeth yn eu hardal hwy, er nad yw yno yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog.
9.6 Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Prif Weinidog ymlaen llaw cyn i gynghorydd arbennig fynd ar ymweliad dramor neu os yw Gweinidogion yn bwriadu mynd â’u priod neu eu partner neu swyddog nad yw’n cael tâl gyda hwy.
9.7 Ni ddylid gwneud unrhyw baratoadau, boed yn rhai dros dro ai peidio, ar gyfer ymweliadau dramor cyn ymgynghori â’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach. Wrth drefnu ymweliadau swyddogol gan y Gweinidogion, dylid, bob amser, ymgynghori’n agos â deiliad y swydd lysgenhadol berthnasol.
9.8 Dylai’r Gweinidogion ofalu mai hwy, yn bersonol, sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros gymeradwyo maint a chyfansoddiad unrhyw ddirprwyaeth y byddant yn gyfrifol amdano, gan wneud hynny cyn ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog. Bydd Is-adran y Cabinet yn cadw cofnod cynhwysfawr a chanolog o deithiau’r Gweinidogion dramor. Bydd rhestr yn cael ei chyhoeddi bob blwyddyn o bob un o'r teithiau dramor gan Weinidogion sy'n costio mwy na £500, ynghyd â chyfanswm cost holl ymweliadau'r Gweinidogion dramor. Dylai’r Gweinidogion fod yn esiampl i eraill o safbwynt maint grwpiau o ymwelwyr, drwy sicrhau bod eu grwpiau eu hunain cyn lleied â phosibl.
9.9 Ar ôl pob ymweliad swyddogol dramor, dylai'r Gweinidogion ystyried gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Senedd.
9.10 Os bydd Gweinidogion yn cwrdd â sefydliad neu unigolyn allanol ac yn canfod eu hunain yn trafod busnes swyddogol heb fod swyddog yn bresennol – er enghraifft mewn achlysur cymdeithasol neu ar wyliau – dylai unrhyw gynnwys o bwys gael ei drosglwyddo i’r adran cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad.
Cysylltiadau â llywodraethau eraill
9.11 Dylai’r Gweinidogion gofio ei bod yn bwysig anfon nodyn at y Prif Weinidog o brif bwyntiau unrhyw drafodaethau y byddant, o bosibl, yn eu cynnal gyda chynrychiolwyr gwledydd neu ranbarthau tramor neu’r Gymanwlad. Mae hyn yn gymwys yn achos trafodaethau anffurfiol yn ogystal â’r rheini sy’n gysylltiedig â busnes swyddogol. Dylid anfon copi o’r nodyn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, a bydd y staff yno yn sicrhau bod y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn cael ei briffio yn ôl y gofyn. Dylai’r Gweinidogion nodi bod hyn yr un mor gymwys os yw cysylltiadau o’r fath yn cael eu gwneud tra byddant ar eu gwyliau yn y wlad o dan sylw (ac os yw’r Gweinidogion yn bwriadu gwneud cysylltiadau o’r fath, rhaid iddynt geisio barn y Prif Weinidog cyn teithio).
Ymweliadau gan Weinidogion y Gymanwlad neu Weinidogion tramor
9.12 Dylai’r Gweinidogion ymgynghori â’r Prif Weinidog cyn gwahodd Gweinidogion llywodraethau cenedlaethol neu ranbarthol eraill i ymweld yn swyddogol â Chymru. Dylai’r swyddogion perthnasol hefyd hysbysu’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach am ymweliadau personol neu swyddogol y gwyddant amdanynt gan Weinidogion llywodraethau eraill neu gan unrhyw un arall o’r un statws. Mater i’r Prif Weinidog fydd penderfynu a ddylid ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn gwahodd Gweinidogion o wledydd tramor a gwledydd y Gymanwlad i Gymru.
Lletygarwch dramor
9.13 Pa un a ydynt yn gwneud hynny gartref neu dramor, ni ddylai’r Gweinidogion anghofio’r goblygiadau posibl i bolisi tramor a allai ddeillio o faterion beunyddiol megis cynnig lletygarwch i wleidyddion tramor sy’n ymweld â’r wlad hon, o dderbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau cymdeithasol tebyg, neu o roi cefnogaeth gyhoeddus i ddeisebau, llythyrau agored, etc. Mae’n bosibl y gallai sylwedyddion tramor ystyried bod arwyddocâd penodol i hynny, hyd yn oed os yw’r cysylltiad yn un anffurfiol. Os oes ganddynt unrhyw amheuon yn hyn o beth, dylai’r Gweinidogion ofyn i’r Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu cyn ymrwymo i unrhyw beth. Dylid hefyd ymgynghori â’r Swyddfa honno pryd bynnag y bo Gweinidog, yn rhinwedd ei swydd fel Gweinidog, yn bwriadu traddodi araith sy’n ymdrin â materion sy’n effeithio ar faterion tramor ac ar faterion y Gymanwlad.
9.14 Os bernir y bydd angen i Weinidog gynnig lletygarwch tra bydd dramor, dylid ceisio cyngor yr Adran Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, a bydd staff yr Is-adran honno yn ystyried a ddylid ymgynghori â’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu ai peidio ynghylch a fyddai hynny’n ddymunol ac ynghylch y math o adloniant i’w gynnig.
Galw’r Gweinidogion yn ôl o dramor
9.15 Os yw Gweinidogion dramor ar ôl cael caniatâd ac os cânt eu galw’n ôl am resymau sy’n gysylltiedig â Llywodraeth Cymru neu â’r Senedd ‒ gan gynnwys pleidleisio ‒ ceir talu am y daith ychwanegol yn ôl ac ymlaen ag arian cyhoeddus.
Ymweliadau gan y Gweinidogion yn y Deyrnas Unedig
9.16 Os yw’r Gweinidogion yn bwriadu mynd ar ymweliad swyddogol â Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ac os disgwylir iddynt fynd i ddigwyddiad cyhoeddus yn ystod yr ymweliad hwnnw, dylent hysbysu’r Prif Weinidog. Yn achos ymweliadau â Lloegr, dylid hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol; ac yn yr un modd, wrth ymweld â’r Alban, dylid hysbysu Prif Weinidog yr Alban, ac wrth ymweld â Gogledd Iwerddon, dylid hysbysu Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon. Dylai’r Gweinidogion hefyd hysbysu’r Arglwydd Ganghellor a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder am unrhyw ymweliadau y maent yn bwriadu mynd arnynt i Ynysoedd y Sianel neu i Ynys Manaw. Hefyd, os yw’r Gweinidogion am ymweld ag un o sefydliadau Llywodraeth y DU yng Nghymru neu yn unrhyw le arall nad yw’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru (e.e. barics uned o’r Lluoedd Arfog), dylent hysbysu’r adran sy’n ei noddi ymlaen llaw.
9.17 Wrth i Weinidogion baratoi i fynd ar ymweliad cyhoeddus yng Nghymru, mae’n arferiad iddynt hysbysu’r Aelodau etholaethol o’r Senedd a’r Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal. Dylent ofalu peidio ag anghofio gwneud hyn, er y dylent ddefnyddio eu crebwyll mewn perthynas â risgiau diogelwch posibl. Ni chaniateir i’r Gweinidogion wahodd Aelodau o’r Senedd neu Aelodau Seneddol i fynd gyda hwy i ddigwyddiadau a drefnwyd gan drydydd parti, ond os ydynt yn rhoi digon o rybudd i’r Aelodau perthnasol, byddant yn gallu sicrhau eu bod yn cael cyfle i ofyn i’r trefnwyr lleol roi gwahoddiadau iddynt i ddigwyddiadau swyddogol y maent am fynd iddynt. Dylid darparu gwybodaeth debyg pan fo’r Gweinidogion yn ymweld â rhannau eraill o’r DU, gan gynnwys Aelodau perthnasol Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon.
Treuliau teithio a chynhaliaeth
9.18 Wrth wneud eu trefniadau teithio a chynhaliaeth swyddogol, dylai’r Gweinidogion gadw at yr egwyddorion arweiniol isod:
- Priodoldeb: Ni ddylid defnyddio trafnidiaeth swyddogol, na hawlio treuliau, ar gyfer trefniadau teithio neu letygarwch sy’n gysylltiedig â busnes plaid, busnes preifat neu fusnes arall nad yw’n gysylltiedig â swydd Gweinidog, ac eithrio lle y gellir cyfiawnhau hynny am resymau sy’n ymwneud â diogelwch.
- Defnyddio adnoddau'n effeithlon: Mae’n rhaid cyfyngu ar rai gwasanaethau megis ceir swyddogol, a dylai’r Gweinidogion gofio bod angen eu defnyddio mewn ffordd effeithlon.
- Bod yn ymwybodol o gostau: Dylid ystyried faint fyddai trefniadau eraill yn eu costio cyn gwneud penderfyniadau a fyddai’n arwain at gostau sylweddol. Bydd hyn yn ystyriaeth benodol os yw teithiau awyr arbennig yn cael eu hystyried yn lle defnyddio gwasanaethau rheolaidd. Dylid cadw’r egwyddor hon mewn cof hefyd wrth ystyried trefniadau llety.
- Diogelwch: Dylai’r Gweinidogion gadw diogelwch mewn cof bob amser, yn enwedig wrth deithio mewn ceir.
- Bod yn atebol i'r cyhoedd: Mae’r Gweinidogion yn gyfrifol yn unigol am gyfiawnhau, gerbron y Senedd, yr hyn y maent yn ei wneud ac yn ei benderfynu. Byddant am eu bodloni eu hunain y byddai modd amddiffyn eu trefniadau yn gyhoeddus.
9.19 Wrth ddefnyddio ceir swyddogol ac wrth deithio ar y trên neu mewn awyrennau, rhaid i drefniadau teithio’r Gweinidogion fod yn effeithlon ac yn gosteffeithiol bob amser. Pan fo’r Gweinidogion yn teithio ar fusnes swyddogol, Is-adran y Cabinet, fel rheol, ddylai dalu eu treuliau teithio. Mewn achosion lle nad oes unrhyw dreuliau yn cael eu talu yn y modd hwn, bydd y Gweinidogion am sicrhau nad oes unrhyw rwymedigaeth amhriodol arnynt, nac ychwaith unrhyw ganfyddiad ohono.
Defnyddio ceir swyddogol
9.20 Bydd ceir swyddogol ar gael i’r Gweinidogion ac i’r Cwnsler Cyffredinol. Byddant ar gael hefyd i’r Ysgrifennydd Parhaol. Dylai’r Gweinidogion ddefnyddio car swyddogol at unrhyw ddiben (ac eithrio dibenion sy’n gysylltiedig â phlaid, busnes preifat neu fusnes nad yw’n gysylltiedig â swydd Gweinidog) a fydd yn arbed amser.
9.21 Caniateir i’r Gweinidogion ddefnyddio car swyddogol ar gyfer teithiau rhwng eu cartrefi a’r swyddfa yn ystod yr wythnos neu dros y penwythnos ar yr amod eu bod yn gweithio ar fusnes Llywodraeth Cymru ac yn cludo papurau sy’n gysylltiedig â gwaith Gweinidog yn ystod y daith. O ran teithiau hirach, bydd angen i Weinidogion fod yn ymwybodol o les gyrwyr a staff eraill sy'n teithio yn y car a chaniatáu iddynt gymryd gorffwys digonol a seibiannau bwyd.
9.22 Wrth deithio ar fusnes swyddogol, caniateir i Weinidog ddefnyddio car preifat yn lle car swyddogol a hawlio lwfans milltiroedd o dan yr un amgylchiadau ac ar yr un telerau â gweision sifil Llywodraeth Cymru.
9.23 Yn amodol ar y rheolau cyffredinol sydd i’w gweld yn y Cod hwn, caniateir i briod neu i bartner Gweinidog ddefnyddio’r car pan fônt yn mynd gyda’r Gweinidog i ddigwyddiadau swyddogol. Fel rheol, ni chaniateir i geir swyddogol gael eu defnyddio gan briod na phartner nac aelodau eraill o deulu’r Gweinidog mewn cysylltiad â digwyddiadau neu alwadau preifat neu wleidyddol.
9.24 Mae car a gyrrwr wedi eu neilltuo ar gyfer y Prif Weinidog. Bydd y ceir swyddogol sy'n weddill ar gael yn gyntaf i'r Gweinidogion eraill, yna'r Cwnsler Cyffredinol a'r Ysgrifennydd Parhaol.
Teithio ar drên
9.25 Caniateir i’r Gweinidogion deithio yn y dosbarth cyntaf.
Teithiau awyr
9.26 Caiff y Gweinidogion arfer eu disgresiwn a theithio mewn awyrennau sifil rheolaidd yn y wlad hon a thramor os ydynt o’r farn y byddai gwneud hynny’n arbed amser. Wrth archebu teithiau awyr o’r fath, dylent gadw’r gost, a diogelwch, mewn cof.
9.27 Dylai unrhyw deithiau awyr gan y Gweinidogion adlewyrchu cost allyriadau carbon, a hynny ar gyfradd briodol, gyda'r enillion yn cael eu cyfeirio at brosiectau datblygu rhyngwladol sy'n gyson ag amcanion y Gweinidogion ar gyfer datblygu cynaliadwy. Dylid nodi sut y bwriedir gwneud hyn yn yr achos busnes a gyflwynir i’r Prif Weinidog ar gyfer y siwrnai.
9.28 Caiff y Gweinidogion deithio yn y Dosbarth Busnes os yw ar gael ar yr awyren.
9.29 Dim ond at ddibenion swyddogol y dylid defnyddio buddiannau a geir drwy gynlluniau Hedfan yn Aml neu fuddiannau eraill a geir drwy deithiau y telir amdanynt ag arian cyhoeddus. Fel arall, dylid eu hildio, ac eithrio pan fônt yn de minimis (er enghraifft, cael mynd i lolfeydd ymadael arbennig neu fanteisio ar drefniadau archebu arbennig sy’n gysylltiedig â bod yn aelodau o glybiau ar gyfer y rheini sy’n hedfan yn rheolaidd). Er hynny, os nad yw’n ymarferol defnyddio’r buddiannau wrth deithio ar ran Llywodraeth Cymru, nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r Gweinidogion eu rhoi i elusen os caniateir hynny o dan delerau cynllun y cwmni awyrennau ac os dewisir yr elusen gan y cwmni awyrennau.
Teithio mewn awyrennau sy’n cael eu siartro’n breifat
9.30 Mae’n bosibl yr awdurdodir teithiau mewn awyrennau sy’n cael eu siartro’n breifat os nad oes gwasanaeth rheolaidd ar gael, os oes yn rhaid hedfan ond bod gofynion busnes Llywodraeth Cymru, ystyriaethau diogelwch, neu frys yn golygu na ellir defnyddio gwasanaeth rheolaidd. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol lle y gellir dangos nad oes unrhyw ddewis arall y dylid cymeradwyo teithiau awyr o’r fath. Dylid ceisio’r gymeradwyaeth honno oddi wrth y Prif Weinidog.
Costau teithio gwŷr/gwragedd/partneriaid
9.31 Pan fydd priod neu bartner Gweinidogion yn mynd gyda hwy wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau swyddogol, caniateir defnyddio arian cyhoeddus i dalu eu treuliau weithiau, ar yr amod ei bod o fudd amlwg i'r cyhoedd i’r priod neu’r partner fynd gyda'r Gweinidog. Mae angen cael cymeradwyaeth y Prif Weinidog ymlaen llaw ym mhob achos.
Costau teithio Cynghorwyr Arbennig
9.32 Os oes angen, ac os yw hynny o fudd amlwg i’r cyhoedd, caniateir i Weinidogion fynd â Chynghorydd Arbennig ar ymweliad dramor ar draul y cyhoedd. Dylid ceisio cymeradwyaeth y Prif Weinidog cyn i Gynghorydd Arbennig fynd ar ymweliad dramor gydag un o’r Gweinidogion.
Lletygarwch, rhoddion, etc.
9.33 Mae rheolau manwl ynghylch derbyn rhoddion, gwasanaethau a lletygarwch i’w gweld ym mhennod 5. Yn gyffredinol, ni ddylai’r Gweinidogion gynnig rhoddion na chyfnewid rhoddion. Er bod y bennod honno’n datgan yn glir na ddylai’r Gweinidogion nac aelodau o’u teuluoedd dderbyn rhodd oddi wrth unrhyw un a allai eu rhoi o dan rwymedigaeth, neu roi’r argraff eu bod o dan rwymedigaeth, mae’n bosibl y byddai’n anodd iddynt wrthod rhodd oddi wrth lywodraeth (neu sefydliad) arall heb roi’r argraff eu bod yn anghwrtais. Ar y llaw arall, gall dderbyn rhodd neu wybod y caiff rhodd ei chynnig mewn rhai gwledydd ac o dan rai amgylchiadau olygu y gellid rhoi rhodd yn gyfnewid amdani. Wrth i’r Gweinidogion benderfynu a ddylent dderbyn rhoddion oddi wrth aelodau o lywodraethau (neu sefydliadau) eraill ai peidio, neu roi rhoddion iddynt, dylent, pryd bynnag y bo modd, ymgynghori â’r Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach os oes ganddynt unrhyw amheuon yn hynny o beth.
9.34 Gallai derbyn cynigion i deithio’n ddi-dâl gael ei gamddehongli. Er hynny, mae’n bosibl y byddai’n dderbyniol derbyn cynnig a roddir i Weinidog sydd ar fusnes swyddogol fynd gyda chynrychiolydd llywodraeth dramor y wlad y mae’n ymweld â hi, ar yr amod nad yw’n arwain at rwymedigaeth amhriodol, ac os yw’n fodd i arbed amser swyddogol neu’n gyfle i gynnal busnes swyddogol. Fel rheol, ni ddylid derbyn cynigon i deithio oddi wrth sefydliadau eraill, ac eithrio pan fônt yn rhan annatod o daith archwilio. O dan amgylchiadau eithriadol, caniateir i Weinidogion dderbyn cynnig o’r fath os yw’n fodd i arbed amser swyddogol ac os nad oes unrhyw berygl y bydd yn arwain at rwymedigaeth amhriodol. Mewn achosion o’r fath, os yw’r siwrnai yn un hir, dylid ad-dalu’r sefydliad o dan sylw ag arian cyhoeddus, gan roi swm sy’n cyfateb i docyn dosbarth busnes ar wasanaeth rheolaidd. Os oes gan Weinidog unrhyw amheuon yn hyn o beth, dylai ymgynghori â’r Prif Weinidog.