Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd rheolau newydd yn cynnwys rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru'n newid y Cod Trefniadaeth Ysgolion sy'n rhoi arweiniad wrth wneud penderfyniadau am ysgolion.

Lansiodd yr Ysgrifennydd Addysg ymgynghoriad ynghylch y newidiadau, sy'n cynnwys y canlynol:

  • Mae cynigwyr yn gorfod ystyried p'un ai i gau ysgol wledig drwy gyfeirio at restr 'ysgolion gwledig'.
  • Mae'n ofynnol i gynigion i gau ysgol wledig nodi rhesymau clir a phenodol dros gau'r ysgol a rhoi manylion y cynigion amgen a nodwyd ynghyd ag asesiad o'r rhain sy’n cynnwys manteision addysgol tebygol, effaith ar y gymuned a'r effaith debygol ar drefniadau teithio, ac yn egluro pam mai cau'r ysgol yw'r cam mwyaf priodol i'w gymryd.
  • Mae ffedereiddio i'w ystyried fel dewis amgen ym mhob achos.
  • Proses dau gam fydd y gwaith o ystyried cynigion amgen. Bydd y cynigydd yn gorfod ystyried cynigion amgen eraill sy'n dod i'r amlwg yn ystod y broses ymgynghori.
  • Mae unrhyw ymgynghoriadau ynghylch cau ysgol i gael eu cyhoeddi ar ddiwrnod ysgol ac mae'n rhaid tynnu sylw'r gymuned leol atynt.
  • Bydd y cod yn cael ei adolygu er mwyn adlewyrchu'n well y ffaith nad yw mynd i'r afael â lleoedd gwag o reidrwydd yn golygu cau ysgolion ac y dylid ystyried dewisiadau eraill ar wahân i gau. 

Mae Kirsty Williams hefyd wedi cyhoeddi y bydd diffiniad o ysgol wledig yn cael ei ddatblygu am y tro cyntaf erioed.  Bydd Llywodraeth Cymru'n llunio rhestr o ysgolion gwledig gydag ysgolion gwledig dynodedig.

 Dywedodd Kirsty Williams:

"Mae ysgolion gwledig yn wynebu problemau unigryw a dw i eisiau sicrhau bod y disgyblion sy'n eu mynychu yn cael yr un cyfleoedd â phlant mewn ardaloedd eraill.

"Mae'r cynigion hyn yn cryfhau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion er mwyn sicrhau bod cynghorau'n gwneud popeth yn eu gallu i gadw ysgol wledig ar agor cyn penderfynu ymgynghori ynghylch cynnig i gau'r ysgol.  

"Mae siarad gyda'r gymuned leol ac ymgysylltu gyda hi yn hanfodol. Os cynhelir proses ymgynghori i gau ysgol, mae'n rhaid ystyried pob dewis ac awgrym sy'n deillio o hynny cyn gwneud penderfyniad. Mae'n bosibl fod hynny'n cynnwys ffurfio ffederasiwn gydag ysgolion eraill neu gynyddu defnydd y gymuned o'r adeiladau er mwyn gwneud yr ysgol yn fwy hyfyw.

"Mae ysgolion gwledig yn rhan ganolog o fywyd y gymuned. Oherwydd hyn, dw i eisiau gwneud yn sicr bod yr ysgolion hyn yn cael gwrandawiad teg pan fo'u dyfodol yn cael ei ystyried. Bydd y cynlluniau hyn yn chwarae rhan allweddol yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i bob un o'n pobl ifanc.”

Y llynedd cyhoeddodd Kirsty Williams grant newydd werth £2.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer ysgolion bach ac ysgolion gwledig. Diben y grant yw helpu ysgolion i weithio gyda'i gilydd a bydd cynghorau yn cyflwyno'u cynlluniau i Lywodraeth Cymru cyn bo hir.