Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 8 Hydref 2023.

Cyfnod ymgynghori:
30 Gorffennaf 2023 i 8 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r llywodraeth yn ceisio casglu tystiolaeth i lywio ein hadolygiad o daliadau parcio a ffioedd adennill dyledion yn y diwydiant parcio preifat.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r llywodraeth yn galw am dystiolaeth fel rhan o gynlluniau i reoleiddio'r sector parcio preifat yn well, gan gynnwys ystyried opsiynau ar gyfer taliadau parcio preifat (a godwyd wrth ganfod achosion o dorri rheolau maes parcio) a ffioedd adennill dyledion.

Mae'r mesurau a ystyrir yn rhan o waith datblygu cod ymarfer, fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Parcio (Cod Ymarfer) 2019, a fydd yn sicrhau mwy o reoleiddio o ran y diwydiant parcio preifat.

Mae'r alwad am dystiolaeth yn archwilio'r effeithiau y gellid eu disgwyl o'r cod ymarfer a 5 opsiwn yn ymwneud â thaliadau parcio a ffioedd adennill dyledion i helpu'r broses benderfynu.

Ymgynghoriad ar y cyd yw hwn, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK