Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2023

Camau i'w cymryd: Ymatebion erbyn 24 Ebrill 2023

 

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar y Cod Ymddygiad arfaethedig ar gyfer Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig (Cymru). Mae'r cod ymddygiad hwn yn gymwys i bawb sydd am gofrestru fel Arolygydd Adeiladu, boed yn gweithio yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus. 

Sut i ymateb

Gallwch anfon eich ymateb i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn drwy e-bost i: enquiries.brconstruction@llyw.cymru  

Os ydych yn ymateb yn ysgrifenedig, nodwch yn glir eich bod yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y canlynol: 

“Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig (Cymru)” 

Dylid anfon ymatebion ysgrifenedig i: 

Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig (Cymru)
Rheoliadau Adeiladu, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ

Wrth ymateb, byddai'n ddefnyddiol pe gallech gadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn neu'n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad a chynnwys y canlynol: 

  • eich enw,
  • eich swydd (os yw'n gymwys), 
  • enw'r sefydliad (os yw'n gymwys),
  • cyfeiriad (gan gynnwys cod post),
  • cyfeiriad e-bost, 
  • rhif ffôn cyswllt

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau am yr ymgynghoriad, cysylltwch â thîm Rheoliadau Adeiladu Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost i: enquiries.brconstruction@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth:

Rheoliadau Adeiladu
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays, 
Caerdydd, 
CF10 3NQ
Ffôn: 0300 062 8144

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth i chi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a'u cadw'n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Cyflwyniad

Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 

  1. Unwaith y bydd y darpariaethau perthnasol wedi cychwyn, bydd Deddf Adeiladu 1984 (“y Ddeddf”) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwella lefelau cymhwysedd ac atebolrwydd yn y sector rheoli adeiladu drwy greu strwythur proffesiynol a rheoleiddiol newydd ar gyfer y gyfundrefn rheoli adeiladu.
  2. Fel rhan o'r darpariaethau hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion Cymru greu a chynnal cofrestr o arolygwyr adeiladu.
  3. Mae'r Ddeddf yn galluogi Gweinidogion Cymru i ddarparu ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau o arolygwyr adeiladu (er enghraifft, yn ôl eu cymwysterau neu eu profiad). Bydd angen i'r unigolion hynny sydd am gofrestru fel arolygydd adeiladu fodloni'r meini prawf sy'n berthnasol i'r dosbarth y maent am gofrestru ar ei gyfer.
  4. O dan y Ddeddf, gall Gweinidogion Cymru ddirprwyo corff arall i ymgymryd â rhai o'u swyddogaethau. Mae systemau eraill ar gael iddynt hefyd sy'n galluogi corff i weithredu ar eu rhan. Yn y papur ymgynghori hwn, dylid darllen y term corff rheoleiddio fel petai'r swyddogaethau yn cael eu harfer gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
  5. Mae'r ymgynghoriad hwn yn rhan o gyfres o ymgyngoriadau ar safonau sy'n cael eu datblygu er mwyn rheoleiddio'r Proffesiwn Rheoli Adeiladu. Mae'r gyfres yn cynnwys y Rheolau Safonau Gweithredol[1] a'r Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Arolygwyr Adeiladu[2] y cynhaliwyd ymgyngoriadau yn eu cylch eisoes a'r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Awdurdodau Rheoli Adeiladu Cofrestredig a gaiff eu cyhoeddi ar yr un pryd â'r ddogfen hon.

Rheolau Safonau Gweithredol

Fframwaith Cymhwysedd ar gyfer Arolygwyr Adeiladu

Cynigion

  1.  Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnwys tair dogfen, sef:
  • y ddogfen ymgynghori hon, sy'n darparu cyflwyniad i bob dogfen; 
  • y Cod Ymddygiad drafft ar gyfer Arolygwyr Rheoli Adeiladu Cofrestredig (Cymru) (y Cod Ymddygiad) – sy'n nodi'r egwyddorion ymddygiad a'r safonau ymddygiad gorfodol sy'n gymwys i bob unigolyn sydd am gofrestru fel arolygydd adeiladu cofrestredig (RBI), boed yn gweithio yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus.  
  • y ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad, sy'n darparu cwestiynau'r ymgynghoriad. 
  1. Rydym yn ymwybodol bod rhai gweithwyr rheoli adeiladu proffesiynol yn gweithio yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Wrth i ni gyflwyno'r system gofrestru newydd, hoffem glywed am unrhyw broblemau a all godi o ganlyniad i'r gwahaniaethau yn y safonau rhwng gweinyddiaethau. 

Mae cwestiynau 1 a 2 yn ymdrin â hyn. 


Y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig (Cymru) 

  1. Bydd yn rhaid i weithwyr rheoli adeiladu proffesiynol gofrestru â'r awdurdod rheoleiddio er mwyn ymgymryd â gwaith rheoli adeiladu yng Nghymru. Mae'r Cod Ymddygiad yn nodi'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol y disgwylir i arolygwyr adeiladu cofrestredig eu cyrraedd. Maent yn rhan greiddiol o broffesiwn rheoli adeiladu sy'n destun rheoliadau newydd – lle mae'n ofynnol i bob gweithiwr proffesiynol gymryd cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol dros ei benderfyniadau, ei weithredoedd a'i ymddygiad. 
  2. Mae'r Cod Ymddygiad yn nodi egwyddorion ymddygiad a safonau ymddygiad gorfodol sy'n gymwys i bob unigolyn sydd am gofrestru fel arolygydd adeiladu cofrestredig, boed yn gweithio yn y sector preifat neu'r sector cyhoeddus. 
  3. Hoffem glywed eich barn ar y Cod Ymddygiad arfaethedig rydym yn ei ddatblygu ar gyfer arolygwyr adeiladu cofrestredig. 
  4. Mae'r ddogfen hon yn nodi ein hymgynghoriad. 
  5. Gallwch weld copi o'r cod ymddygiad drafft drwy sgrolio hyd at waelod tudalen lanio gyflwyniadol yr ymgynghoriad.  Darllenwch y ddogfen yn llawn cyn cwblhau'r arolwg. Mae'n bosibl y bydd angen i chi gyfeirio at y ddogfen wrth gwblhau eich ymateb. Gallwch gyflwyno sylwadau ychwanegol yn y blwch testun rhydd ar y diwedd. 
  6. Caiff y Cod Ymddygiad ei gyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. 
  7. Mae'r ymgynghoriad hwn wedi'i anelu'n bennaf at unigolion a'u cyrff cynrychioliadol yn y diwydiant adeiladu ac mewn diwydiannau sy'n gysylltiedig ag adeiladu a'r cyrff rheoli adeiladu sy'n galluogi'r system rheoli adeiladu i weithredu. Mae'n bosibl y bydd elfennau penodol o ddiddordeb i aelodau o'r cyhoedd. 

Y camau nesaf

  1. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos. Gan fod cwmpas yr ymgynghoriad yn gymharol gul, rydym yn hyderus y bydd hyn yn rhoi digon o amser i'r ymgyngoreion fwrw golwg dros y Cod Ymddygiad drafft ac ymateb. Rydym yn croesawu ymatebion gan unrhyw un â diddordeb yn neunydd pwnc yr ymgynghoriad ond rydym yn cymryd yn ganiataol y bydd y rhan fwyaf o'r rhai a fydd yn ymateb yn gweithio yn y proffesiwn rheoli adeiladu neu'n gweithio gyda'r proffesiwn hwnnw. Rydym yn awyddus i sicrhau y bydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael cyn gynted â phosibl er mwyn llywio'r broses o ddatblygu polisi ac er mwyn gallu cyhoeddi fersiwn derfynol o'r Cod Ymddygiad, er mwyn galluogi'r rhai hynny y bydd yn effeithio arnynt i ymgyfarwyddo â'r gyfundrefn reoleiddio newydd a pharatoi ar ei chyfer. 
  2. Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 24 Ebrill 2023.