Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (ACA) sydd wedi'u cofrestru yng Nghymru yw’r Cod Ymddygiad hwn. Mae Gweinidogion Cymru wedi’u penodi’n awdurdod rheoleiddio ar gyfer ACA gan adran 58A o Ddeddf Adeiladu 1984 (y Ddeddf). Mae'r cod hwn wedi’i baratoi ac wedi'i gyhoeddi yn unol ag adran 58F o'r Ddeddf.

Teitl gwarchodedig yw Arolygydd Cofrestredig Adeiladu (ACA). Mae'n drosedd dynwared ACA, neu ganiatáu i rywun gredu eich bod yn ACA, os nad ydych chi wedi’ch cofrestru.

Mae'r cod hwn yn nodi'r safonau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol a ddisgwylir oddi wrth ACA. Mae'n rhan greiddiol o’r proffesiwn rheolaeth adeiladu a reoleiddir, sef proffesiwn sy’n gwneud yn ofynnol i chi a, lle bo'n gymwys, i gontractwyr hunangyflogedig, arddel cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigol dros eich penderfyniadau, eich gweithredoedd a'ch ymddygiad. Yn unol â hyn, mae’r Fframwaith Cymhwysedd i Arolygwyr Adeiladu wedi'i ddatblygu i nodi safonau’ch cymhwysedd fel Arolygydd Cofrestredig Adeiladu.

Mae'r Cod Ymddygiad yn gymwys i weithgareddau gwaith sy’n cael eu cyflawni gan Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu. Mae'r Cod Ymddygiad yn mabwysiadu'r diffiniadau a geir yn y Ddeddf, gan gynnwys:

  • awdurdod rheoleiddio yn adran 58A
  • Arolygydd Cofrestredig Adeiladu yn adran 58B
  • gweithgareddau cyfyngedig a swyddogaethau cyfyngedig yn adrannau 46A a 54B

Mae'r Cod Ymddygiad yn defnyddio dull i reoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu sydd wedi'i seilio ar egwyddorion. Mae'r Egwyddorion yn nodi'r gofynion proffesiynol a moesegol craidd y disgwylir i ACA eu cynnal. Mae'r Safonau yn ategu'r Egwyddorion, gan nodi gofynion ynglŷn ag arferion ac ymddygiadau proffesiynol yr ydym yn disgwyl i ACA eu bodloni. Nid yw’r Safonau wedi’u bwriadu i fod yn rhestr gynhwysfawr o ofynion i sicrhau y cydymffurfir â'r Egwyddorion. Dylai ACA ddefnyddio canllawiau ac arfer ei farn broffesiynol wrth gymryd camau i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â holl ofynion y Cod Ymddygiad.

Gall torri'r Cod Ymddygiad hwn, neu ymddygiad sy'n dwyn anfri ar y proffesiwn, arwain at achos disgyblu, gan gynnwys canslo’ch cofrestriad.

Mae'n hanfodol eich bod yn darllen y Cod Ymddygiad hwn yn llawn a'ch bod yn deall y Safonau a'r Egwyddorion y mae'n rhaid ichi gydymffurfio â nhw. Gall yr awdurdod rheoleiddio ddiwygio'r Cod Ymddygiad a chyhoeddi'r diwygiadau hynny unrhyw bryd.

Yr Egwyddorion

Mae’n rhaid ichi:

  1. Gweithredu’n onest
  2. Gweithredu gydag uniondeb
  3. Cynnal eich cymhwysedd proffesiynol
  4. Darparu gwasanaethau â medrusrwydd a gofal proffesiynol
  5. Cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y ddarpariaeth gwasanaethau ac yn y proffesiwn
  6. Trin pawb yn deg a gweithredu yn unol â'ch rhwymedigaethau cyfreithiol

Y Safonau

1.     Cydymffurfio â’ch rhwymedigaethau cyfreithiol, rheoleiddiol a phroffesiynol

1.1       Rhaid ichi gydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol:

  • wrth gyflawni gweithgareddau gwaith
  • sy’n ymwneud â gorfodi cydymffurfiaeth sy'n gysylltiedig â gweithgareddau gwaith
  • sy'n gymwys i gyflawni’ch gweithgareddau gwaith, er enghraifft atal gwyngalchu arian, atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth, diogelu data, a Deddf Cydraddoldeb 2010

1.2       Rhaid ichi gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau tuag at yr awdurdod rheoleiddio o dan y cod hwn, fel y’u nodir yn Atodiad 1.

1.3       Dylech gydymffurfio â safonau'r diwydiant ac ystyried arferion da lle bo'n briodol.

1.4       Rhaid ichi gadw annibyniaeth a didueddrwydd proffesiynol wrth gyflawni gweithgareddau gwaith.

1.5       Rhaid ichi gymryd camau priodol i sicrhau bod gwaith a wneir gan unigolion o dan eich goruchwyliaeth yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol perthnasol.

1.6       Pan gewch chi wybod bod Deddf Adeiladu 1984 neu ddeddfwriaeth gysylltiedig megis Deddf Diogelwch Adeiladu 2022, Rheoliadau Adeiladu 2010, wedi’u torri, rhaid ichi ddefnyddio'ch swyddogaethau i hwyluso y cydymffurfir â nhw. Os na allwch hwyluso cydymffurfiaeth o fewn amserlen resymol, rhaid ichi roi gwybod am waith nad yw'n cydymffurfio i'r awdurdod rheolaeth adeiladu perthnasol.

1.7       Rhaid ichi weithio mewn modd cydweithredol gyda gwasanaethau tân ac achub, ymgyngoreion statudol, a sefydliadau tebyg sy'n berthnasol i waith rheolaeth adeiladu.

1.8       Rhaid ichi sicrhau bod y termau 'Arolygydd Cofrestredig Adeiladu' ac ACA yn cael eu defnyddio'n gywir ac yn cydymffurfio â thelerau’ch cofrestriad gyda'r awdurdod rheoleiddio.

1.9       Ni chaniateir ichi gamddefnyddio’ch teitl na'ch safle fel ACA er budd masnachol neu bersonol amhriodol.
 

2.     Gofynion y gweithle

Ymdrin â rhwymedigaethau proffesiynol

2.1       Dim ond gwaith yr ydych chi (pan fo'n berthnasol fel contractwr hunangyflogedig)  neu'ch cyflogwr wedi'ch yswirio'n briodol ar ei gyfer y cewch chi ei wneud.

2.2       Rhaid i gontractwyr hunangyflogedig gadw yswiriant addas.

Priodoldeb ariannol

2.3       Rhaid ichi sicrhau bod cyllid proffesiynol yn cael ei reoli mewn modd cyfrifol.

2.4       Pan fo'n berthnasol, rhaid ichi gadw at reolaethau cyfrifyddu.

2.5       Ni chaniateir ichi hwyluso troseddau ariannol, gan gynnwys gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, llwgrwobrwyo a llygredigaeth neu efadu treth.

2.6       Ni chaniateir ichi bennu prisiau penodol na chymryd rhan mewn arferion gwrth-  gystadleuol.

2.7       Rhaid ichi sicrhau bod eich costau proffesiynol yn deg a chymesur.

Gwrthdaro buddiannau

2.8       Rhaid ichi gymryd camau i nodi gwrthdaro buddiannau a gwrthdaro buddiannau posibl cyn cychwyn gweithgaredd gwaith ac yn ystod gweithgaredd gwaith.

2.9       Ni chaniateir ichi wneud gwaith, na pharhau i wneud gwaith, pan fo gwrthdaro buddiannau wedi’i nodi.

2.10     Pan fo gwrthdaro buddiannau wedi’i nodi, rhaid ichi hysbysu'r ceisydd neu'r asiant a rhoi'r gorau i weithredu.

Defnyddio technoleg a rheoli data

2.11     Pan fo'n berthnasol, rhaid ichi sicrhau eich bod wedi’ch hyfforddi ac yn gyfarwydd â'r technolegau sydd ar gael a chymryd camau i nodi a lliniaru unrhyw risgiau mewn perthynas â defnyddio technoleg berthnasol i helpu i gyflawni’ch gwaith.

2.12     Yn ychwanegol at gydymffurfio â gofynion diogelu data, rhaid ichi gymryd camau i sicrhau bod data masnachol yn cael ei storio'n briodol yn unol â’ch polisi chi neu bolisi’ch sefydliad.

Chwythu’r chwiban

2.13     Rhaid ichi ymgyfarwyddo â pholisi’ch sefydliad ar chwythu'r chwiban, gan roi gwybod am bryderon yn unol ag ef.

2.14     Ni chaniateir ichi weithredu mewn ffordd sy'n atal chwythu'r chwiban neu’n annog rhywun i beidio â chwythu'r chwiban.

2.15     Rhaid ichi roi ystyriaeth deg i bryderon chwythu'r chwiban sy’n dod i law a chadw cofnodion am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad yr adroddiad.

Trin cwynion

2.16     Rhaid i gontractwyr hunangyflogedig gyhoeddi gweithdrefn trin cwynion a sicrhau ei bod yn hygyrch.

2.17     Contractwyr hunangyflogedig, rhaid ichi sicrhau eich bod yn rhoi prosesau a gweithdrefnau effeithiol ar waith i reoli a datrys cwynion yn brydlon.

2.18     Contractwyr hunangyflogedig, rhaid ichi roi mesurau ar waith i fonitro effeithiolrwydd eich gweithdrefn trin cwynion.

Diwylliant

2.19     Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio perthnasol am unrhyw bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern, cam-drin llafur neu arferion llafur camdriniol, a hynny yn unol â pholisi’ch sefydliad.

2.20     Rhaid ichi weithredu mewn modd sy'n ategu diwylliant o gynhwysiant, cydraddoldeb ac amrywiaeth yn unol â pholisi’ch sefydliad.

Dysgu a datblygu

2.21     Yn ychwanegol at y darpariaethau a geir yn Safon 3, rhaid ichi gymryd rhan mewn gweithgareddau datblygu proffesiynol parhaus a gynigir gan eich cyflogwr sy'n gysylltiedig â’r canlynol:

  • gofynion diogelu data 
  • atal gwyngalchu arian, ariannu terfysgaeth, atal llwgrwobrwyo, a llygredigaeth
  • cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

3.     Cynnal cymhwysedd proffesiynol a datblygiad proffesiynol parhaus 

3.1       Yn ddarostyngedig i Safon 3.2, dim ond gwaith yr ydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer ac y mae gennych y cymhwysedd angenrheidiol fel y'i diffinnir gan y Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu ar ei gyfer y cewch chi ei wneud.

3.2       Rhaid i unrhyw waith nad ydych wedi’ch cofrestru ar ei gyfer fod o dan oruchwyliaeth ACA cymwys addas.

3.3       Ni chaniateir ichi ymgymryd â rôl reoli dechnegol, na goruchwylio gwaith pobl eraill, oni bai bod gennych y cymhwysedd angenrheidiol i wneud hynny.

3.4       Rhaid ichi gynnal eich cymhwysedd proffesiynol a chydymffurfio ag unrhyw ofynion ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

3.5       Os ydych yn rheolwr neu'n oruchwyliwr, rhaid ichi gymryd camau i sicrhau cymhwysedd parhaus y rhai sydd o dan eich goruchwyliaeth.

3.6       Rhaid ichi fyfyrio'n ffurfiol ar eich anghenion datblygu a chofnodi’ch canfyddiadau a'ch camau arfaethedig i ateb yr anghenion hyn yn unol â'r gofynion ynglŷn â datblygiad proffesiynol parhaus.

3.7       Rhaid ichi gadw’ch myfyrdod datblygu yn unol â pholisi’ch sefydliad neu’ch cyfnod cofrestru, p’un bynnag sydd hiraf.

3.8       Rhaid ichi gynnal portffolio o dystiolaeth i ddangos eich cymhwysedd. Dylai’ch portffolio gynnwys cofnodion o weithgareddau hyfforddi, datblygu a chymhwysedd yr ydych wedi'u cyflawni yn unol â pholisi’ch sefydliad a hynny drwy gydol cyfnod eich cofrestriad neu yn unol â pholisi’ch sefydliad, p’un bynnag sydd hiraf.

3.9       Rhaid ichi gynnal gwybodaeth gyfredol am unrhyw bolisïau perthnasol sydd gennych chi neu'ch cyflogwr ynglŷn â’r canlynol:

  • gwrthdaro buddiannau
  • trefniadau yswiriant
  • trin cwynion
  • iechyd, diogelwch a lles
  • atal gwyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth ac atal llwgrwobrwyo a llygredigaeth
  • diogelu data
  • chwythu'r chwiban
  • ymddygiad staff (os yw'n berthnasol)
  • dysgu a datblygu
  • cydraddoldeb/tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant

4.     Safon gwasanaeth

4.1       Wrth wneud eich gwaith, rhaid ichi weithredu:

  • yn deg ac yn wrthrychol
  • yn ddiwyd
  • yn gydwybodol
  • er budd y cyhoedd wrth ddelio ag unigolion, proffesiynau eraill, neu'r proffesiwn rheolaeth adeiladu

4.2       Wrth wneud eich gwaith, rhaid ichi fod yn atebol:

  • am eich penderfyniadau
  • am weithgareddau gwaith a gyflawnir o dan eich goruchwyliaeth, gan gymryd camau i gofnodi gweithgareddau rydych chi'n eu cyflawni

4.3       Rhaid ichi gadw at eich prosesau a’ch gweithdrefnau chi neu brosesau a gweithdrefnau'ch cyflogwr ynglŷn â sicrhau ansawdd ac, os ydych chi'n cael eich goruchwylio, ymwneud â'ch goruchwylydd.

4.4       Rhaid ichi sicrhau nad yw cyngor neu benderfyniadau proffesiynol yn cael eu dylanwadu gan hunanfuddiannau, rhagfarn, tuedd, neu agenda bersonol.

4.5       Rhaid ichi ystyried yr amser a/neu'r adnoddau y mae arnoch eu hangen i gwblhau gwaith cyn cytuno i'w wneud, gan godi unrhyw bryderon gyda'ch cyflogwr.

5.     Ymwneud â cheisyddion ac asiantau 

5.1       Rhaid ichi gael cadarnhad bod manylion adnabod eich ceisydd neu’ch asiant wedi'u sefydlu, bod yna gofnod o'r gwasanaethau y gofynnwyd amdanynt a bod y ceisydd neu'r asiant wedi cael esboniad o'r gwasanaethau y gallwch eu darparu.

5.2       Rhaid ichi gadarnhau a datgan unrhyw gyfyngiadau sy'n gymwys i'ch cofrestriad wrth ymgymryd â rôl ACA.

5.3       Ni chaniateir ichi wneud unrhyw waith nes y bydd gennych gadarnhad bod y ceisydd neu'r asiant wedi cael y llythyr telerau ymgysylltu, ac wedi cytuno mewn ysgrifen â’r darpariaethau yn y llythyr hwnnw, yn unol â’r manylion yn Atodiad 2.

5.4       Pan fyddwch yn cael gwybod am unrhyw newidiadau yn y telerau mewn perthynas â gwaith gan gynnwys amcangyfrifon cost neu amser, rhaid ichi sicrhau bod y ceisydd neu'r asiant wedi cael gwybod am y rhain.

5.5       Rhaid ichi drin gwybodaeth sy’n dod i law oddi wrth y ceisydd neu'r asiant yn gyfrinachol a pheidio â’i datgelu oni bai bod un neu ragor o'r canlynol yn gymwys:

a) Wrth erlyn neu amddiffyn achos cyfreithiol
b) Gyda chaniatâd ysgrifenedig penodol y ceisydd neu'r asiant
c) Pan fo hynny'n ofynnol neu'n cael ei awdurdodi yn ôl y gyfraith
d) Er mwyn rhoi gwybod am drosedd neu roi gwybod bod y rheoliadau rheolaeth adeiladu wedi’u torri.

5.6       Rhaid ichi wirio bod eich ceisydd neu’ch asiant wedi cael gwybod y gall fod angen ichi ddatgelu gwybodaeth i'r awdurdod rheoleiddio, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr eraill.

5.7       Yn ddarostyngedig i unrhyw hawl i gadw taliad sydd yn yr arfaeth, rhaid ichi wirio bod eich ceisydd neu’ch asiant wedi cael yr holl wybodaeth berthnasol a chopi o'u ffeil ar gais. Nid yw'r Safon hon yn gofyn i unrhyw wybodaeth gael ei datgelu na chaniateir iddi gael ei datgelu'n gyfreithlon

5.8       Rhaid ichi gofnodi, cadw a datgelu:

  • yr holl dystiolaeth
  • yr holl gyfarwyddiadau
  • yr holl gyngor 
  • yr holl ddyfarniadau a phenderfyniadau proffesiynol

ynglŷn â’r gweithgareddau gwaith a gyflawnwyd o ddyddiad y cyfarwyddiadau, yn unol â phrosesau adrodd a pholisïau yswiriant eich sefydliad (lle bo'n berthnasol), p’un bynnag sydd hiraf.

Atodiad 1: Rhwymedigaethau tuag at yr awdurdod rheoleiddio o dan y cod hwn

1.1       Rhaid ichi gydweithredu â'r awdurdod rheoleiddio wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau ac arfer ei bwerau statudol. Rhaid ichi ddarparu gwybodaeth pan ofynnir amdani gan yr awdurdod rheoleiddio yn unol â’r amserlenni statudol perthnasol.

1.2       Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir i'r awdurdod rheoleiddio ddangos yn glir:

  • sut mae penderfyniadau wedi'u gwneud
  • sut y daethpwyd i’r farn, a
  • bod yn addas at ddibenion archwilio, sicrhau ansawdd a dibenion yr awdurdod rheoleiddio

1.3       Rhaid ichi gydymffurfio â'r rheolau cofrestru ac unrhyw amodau cofrestru sy’n gymhwysol i'ch cofrestriad gan yr awdurdod rheoleiddio.

1.4       Rhaid ichi roi sylw priodol i ganllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod rheoleiddio.

1.5       Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn brydlon am unrhyw ymddygiad yr ydych yn ymwybodol ohono neu’n dod yn ymwybodol ohono a allai fod:

  • yn groes i’r Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu
  • yn groes i’r Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu
  • yn debygol o ddwyn anfri ar y proffesiwn rheolaeth adeiladu
  • yn groes i’r Rheolau Safonau Gweithredol

1.6       Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn brydlon:

1.7       Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn ddi-oed am achosion o amhriodoldeb ariannol yr ydych yn ymwybodol ohonynt/yn dod yn ymwybodol ohonynt, yn benodol, am y methiant i gadw at ofynion mewn perthynas â’r canlynol:

  • atal gwyngalchu arian
  • ariannu terfysgaeth
  • atal llygredigaeth a llwgrwobrwyo
  • efadu treth
  • pennu prisiau penodol 
  • arferion gwrth-gystadleuol
  • codi gormod o dâl

1.8       Os ydych yn dal swydd cyfarwyddwr, neu os ydych yn dal rheolaethau ariannol, rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio yn brydlon:

  • os byddwch yn gwneud trefniant gwirfoddol unigol
  • os byddwch yn dod yn destun gorchymyn rhyddhau o ddyled neu orchymyn gweinyddu
  • os byddwch yn cael eich datgan yn fethdalwr
  • os byddwch yn cael eich gwahardd fel cyfarwyddwr

1.9       Rhaid ichi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio'n ddi-oed os byddwch yn destun dyfarniad disgyblu rheoleiddiwr neu gorff proffesiynol arall.

Atodiad 2: Darparu gwybodaeth i'r ceisydd neu'r asiant

Er mwyn cydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan Safon 5, rhaid ichi gael cadarnhad bod pob ceisydd neu asiant wedi cael llythyr telerau ymgysylltu sy'n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn:

  • crynodeb clir o'r gwasanaethau y bydd y corff rheolaeth adeiladu yn eu darparu
  • enw'r ACA sy'n gyfrifol am oruchwylio neu gyflawni’r gwaith (gan bennu lle y gallai hyn newid)
  • unrhyw amodau ar eich cofrestriad chi, neu ar gofrestriad yr ACA sy'n gyfrifol am oruchwylio neu gyflawni’r gwaith
  • amcangyfrif o’r amser y bydd ei angen er mwyn ichi gwblhau'r gwaith neu, os yw’n cael ei wneud fesul cyfnod, yr amcangyfrif ar gyfer pryd y caiff gwaith ei wneud mewn perthynas â phob cyfnod (gan bennu lle y gallai hyn newid)
  • disgrifiad clir a thryloyw o ffioedd a thaliadau’r corff rheolaeth adeiladu
  • amcangyfrif o gyfanswm cost cwblhau'r gwaith
  • manylion unrhyw ffioedd atgyfeirio perthnasol y mae'r corff rheolaeth adeiladu yn eu talu neu'n eu derbyn
  • disgrifiad o sut y bydd gwybodaeth y ceisydd yn cael ei defnyddio a sut y gall y ceisydd gael eich polisi diogelu data
  • manylion polisi cwynion y corff rheolaeth adeiladu a sut y gallant godi cwyn
  • manylion yr yswiriant perthnasol sydd gennych chi (os ydych yn ACA hunangyflogedig) a'r corff rheolaeth adeiladu
  • datganiad clir bod y corff rheolaeth adeiladu yn cael ei reoleiddio gan yr awdurdod rheoleiddio

Atodiad 3: Rheolau cofrestru ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu

1.1       Mae'r rheolau hyn yn cael eu gosod gan yr awdurdod rheoleiddio ac maent yn berthnasol i unrhyw unigolyn sydd wedi'i gofrestru yn ACA.

1.2       Rhaid i chi sicrhau bod eich manylion cofrestru yn cael eu cynnal a'u diweddaru'n gywir gydag unrhyw newidiadau perthnasol, megis newid enw, cyfeiriad neu gyflogwr.

1.3       Rhaid i chi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o fewn 28 diwrnod o unrhyw newidiadau i wybodaeth sy'n berthnasol i'ch cofrestriad.

1.4       Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gan yr awdurdod rheoleiddio gofnodion cywir mewn perthynas â'ch cofrestriad.

1.5       Rhaid i chi hysbysu'r awdurdod rheoleiddio o'r newidiadau canlynol mewn amgylchiadau:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad cartref neu’ch cyfeiriad cyswllt (os yw'n wahanol) 
  • Eich manylion cyswllt, fel eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif(au) ffôn 
  • Eich cyflogwr a manylion eich cyflogwr 
  • Os ydych am newid eich dosbarth cofrestru a/neu gategorïau gwaith. 
  • Unrhyw euogfarnau troseddol perthnasol 
  • Os ydych chi'n cael eich sancsiynu gan gorff proffesiynol
  • Os ydych yn cael eich datgan yn fethdalwr, neu'n destun camau gweithredu eraill fel y nodir yn y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu 
  • Os nad ydych am fod ar y gofrestr o arolygwyr cofrestredig adeiladu mwyach 

1.6       Ni fydd yr awdurdod rheoleiddio'n derbyn hysbysiadau o newidiadau gan drydydd partïon, fel aelodau o'r teulu neu’ch cyflogwr, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, megis yr ACA yn methu â gwneud hynny ei hun oherwydd analluogrwydd.

Atodiad 4: Amodau cofrestru ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu

1.1       Mae gan yr Awdurdod Rheoleiddio y pŵer i osod amodau ar gofrestriad unigolyn o dan adran 58C o Ddeddf Adeiladu 1984.

1.2       Caniateir i amodau gael eu gosod wrth gofrestru a/neu yn ystod y cyfnod cofrestru.

1.3       Mae dau fath o amod:

  • Amodau safonol, sy'n berthnasol i bob unigolyn sy'n cofrestru yn ACA 
  • Amodau ansafonol, sy'n berthnasol i unigolyn penodol, yn seiliedig ar ei amgylchiadau penodol 

1.4       Gall amodau gynnwys cyfyngiadau ar y math o waith y gall unigolyn ei wneud, neu ofynion i gefnogi enw da'r proffesiwn. 

1.5       Bydd amodau yn cael eu gosod a'u dileu yn ôl disgresiwn yr awdurdod rheoleiddio yn unig.

1.6       Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir gan yr awdurdod rheoleiddio ar eich cofrestriad. Gall methu â chydymffurfio ag amod arwain at yr awdurdod rheoleiddio yn cymryd camau a allai effeithio ar eich cofrestriad. 

1.7       Yr amodau safonol y bydd yr awdurdod rheoleiddio yn eu gosod, yn dibynnu ar eich dosbarth cofrestru, yw:

  • Rhaid i ACA Dosbarth 2, 3 a 4 gynnal asesiad cymhwysedd dilys gan gynllun asesu cymhwysedd annibynnol cymeradwy 

1.8       Gall amodau ansafonol, er enghraifft, gynnwys gofynion ar gyfer hyfforddiant ychwanegol neu gyfyngiadau ar y gwaith rheolaeth adeiladu y gall unigolyn ei wneud.

Atodiad 5: Gweithredu o fewn cwmpas eich cofrestriad

1.1       Er mwyn cydymffurfio â safon 3.1 y Cod, rhaid i chi weithredu o fewn cwmpas eich cofrestriad. Mae “cwmpas eich cofrestriad” yn cynnwys y dosbarth, y categorïau gwaith a'r gweithgareddau cyfyngedig rydych wedi'ch cofrestru i'w cyflawni. Mae'n drosedd i ACA ymgymryd â gwaith y tu allan i gwmpas ei gofrestriad oni bai ei fod o dan oruchwyliaeth, fel y nodir yn safon 3.2.

1.2       Nodir y gweithgareddau cyfyngedig yn Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024. 

1.3       Er mwyn cydymffurfio â safon 3.3, rhaid i chi reoli neu oruchwylio gweithgareddau cyfyngedig eraill dim ond os ydych wedi cofrestru gyda'r cymhwysedd priodol ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud.

1.4       Diffinnir dosbarthiadau yn y Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (BICoF). 

1.5       Dyma gwmpas y dosbarthiadau: 

1.6       Dosbarth 1 - Arolygydd Adeiladu dan Hyfforddiant: Gallwch weithio dan oruchwyliaeth yn unig. Mae'n rhaid i'ch goruchwyliwr fod yn ACA gyda chwmpas cofrestru priodol ar gyfer y gwaith y maent i'w oruchwylio. 

1.7       Dosbarth 2 - Arolygydd Adeiladu: 

  • Categori A – Tai annedd preswyl (un aelwyd) llai na 7.5m 
  • Categori B – Fflatiau preswyl a thai annedd llai na 11m 
  • Categori C – Fflatiau preswyl a thai annedd, dros 11m ond llai na 18m 
  • Categori D – Pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) llai na 7.5m 
  • Categori E – Pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) dros 7.5m ond llai na 11m 
  • Categori F – Pob math o adeilad (gan gynnwys preswyl) dros 11m ond llai na 18m 

1.8       Dosbarth 3 - Arolygydd Adeiladu: 

  • Categori G - Pob math o adeilad heb unrhyw derfyn ar uchder lloriau, ac eithrio Adeiladau Risg Uwch 
  • Categori H – Pob math o adeilad heb unrhyw derfyn ar uchder lloriau, gan gynnwys Adeiladau Risg Uwch fel y'u diffinnir o dan Ddeddf Adeiladu 1984 (gweler Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023)  

1.9       Dosbarth 4 - Arolygydd Adeiladu (Rheolwr Technegol): dyma ddosbarth cofrestru ychwanegol ar gyfer ACA Dosbarth 2 a Dosbarth 3 sydd â chyfrifoldebau rheoli technegol.

1.10     Diffinnir gweithgareddau cyfyngedig yn Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024 ac fe'u diffinnir yn fras fel asesu ac arolygu cynlluniau. 

1.11     Mae grwpiau pwrpas ac uchder lloriau yn seiliedig ar fathau cyffredin o adeiladau, gan ddilyn y safonau gofynnol fel y nodir yn y Dogfennau Cymeradwy.

1.12     Mae uchder lloriau fel y'i mesurir yn Nogfen Gymeradwy B, ond mewn perthynas â mesur uchder adeiladau risg uwch, gweler Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu (Cymru) 2023).