Codau ymarfer ar gyfer rheoli llety myfyrwyr
Hoffem eich barn ar y cynnig i ddiwygio Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) (Gorchymyn 2006).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig, yn amodol ar ymgynghoriad, diwygio Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 (Gorchymyn 2006) i adlewyrchu'r codau ymarfer diweddaraf ar gyfer rheoli llety myfyrwyr fel y'u cyhoeddwyd gan ANUK/Unipol ac UUK/Guild HE Accommodation.
Mae dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori cyn cymeradwyo cod ymarfer newydd, neu wedi'i ddiweddaru, ac os bydd Gweinidogion Cymru yn bwrw ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad, byddant yn gwneud is-ddeddfwriaeth sy'n cymeradwyo'r codau. Felly, rydym yn lansio ymgynghoriad wyth wythnos ynglŷn â chymeradwyo'r codau ymarfer.
Bydd yr ymgynghoriad yn para o 02/07/2025 tan 27/08/2025
Mae'r ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl sy'n ymwneud â rheoli llety myfyrwyr, myfyrwyr sy'n meddiannu llety myfyrwyr, awdurdodau lleol, a phobl sy'n cynrychioli buddiannau myfyrwyr.
Cefndir
Mae Tai Amlfeddiannaeth (HMO) yn adeiladau (neu rannau o adeiladau) sy'n cael eu meddiannu fel unig breswylfa neu brif breswylfa gan fwy na dau berson nad ydynt yn ffurfio un aelwyd. Cyflwynodd Deddf Tai 2004 (Deddf 2004) gyfundrefn drwyddedu ar gyfer HMO sydd wedi'i chynllunio i godi safonau eiddo o'r fath.
Mae'r Ddeddf yn caniatáu i rai llety HMO gael eu hesemptio rhag gofynion trwyddedu HMO, cyfeirir at lety o'r fath fel ‘llety a eithrir’. Caiff adeiladau penodol sy'n cael eu meddiannu'n unig neu'n bennaf at ddibenion ymgymryd â chwrs amser llawn addysg bellach neu addysg uwch fod yn llety a eithrir. Caiff Gweinidogion Cymru wneud deddfwriaeth sy'n cael yr effaith o eithrio HMO penodol o'r gofynion trwyddedu ar ôl rhoi sylw i gydymffurfiaeth, ar ran y rhai sydd â chyfrifoldebau rheoli adeiladau, gyda chodau ymarfer cymeradwy. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer o dan Ddeddf 2004, drwy orchymyn, i gymeradwyo codau ymarfer sy'n gosod safonau ymddygiad ac ymarfer i'w dilyn o ran rheoli HMO neu lety a eithrir.
Mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod hi'n haws sicrhau bod safonau mewn llety myfyrwyr pwrpasol yn cael eu cynnal trwy gydymffurfio â chodau ymarfer a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer llety o'r fath, yn hytrach na'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol eu trwyddedu. Mae hyn hefyd yn lleihau'r baich rheoleiddio ar awdurdodau lleol a fyddai fel arall yn gorfod cynnal arolygiadau o'r eiddo myfyrwyr hynny.
Y sefyllfa bresennol
Mae Gorchymyn Tai (Cymeradwyo Codau Ymarfer Rheoli) (Llety Myfyrwyr) (Cymru) 2006 yn cymeradwyo dau god ymarfer:
Cod Ymarfer UUK/Guild HE ar gyfer Rheoli Tai Myfyrwyr (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006 a Chod Safonau ANUK/Unipol ar gyfer Datblygiadau Mwy ar gyfer Llety Myfyrwyr a Reolir ac sydd dan Reolaeth Sefydliadau Addysgol (Cymru) dyddiedig 16 Mai 2006.
Nid yw'r naill na'r llall o'r codau ymarfer hyn yn dal i fodoli ac maent wedi'u disodli gan fersiynau wedi'u diweddaru.
Cyhoeddwyd cod ymarfer cyfredol ANUK/Unipol ar gyfer sefydliadau addysgol ym mis Medi 2024 a chyhoeddwyd fersiwn gyfredol o God Ymarfer Llety UUK/Guild HE ym mis Mawrth 2025.
Ymgynghori
Mae'r codau ymarfer presennol wedi'u datblygu gan sefydliadau annibynnol ar y cyd â sefydliadau addysg uwch ledled y DU. Mae darparwyr llety sy'n ymrwymo i'r codau yn cael eu rheoli a'u llywodraethu gan y sefydliadau sydd wedi datblygu'r cod.
Roedd y codau yn destun ymgynghoriad eang ystod eu proses ddatblygu ac felly nid yw Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ar gynnwys y codau, ond yn hytrach maent yn ymgynghori ar eu cynnig i'w cymeradwyo. Cyn y caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo cod ymarfer, neu addasiad i god ymarfer, rhaid iddynt gymryd camau rhesymol i ymgynghori â phobl sy'n ymwneud â rheoli tai amlfeddiannaeth neu (yn ôl y digwydd) lety a eithrir o'r math dan sylw, pobl sy'n meddiannu llety o'r fath, neu bobl sy'n cynrychioli buddiannau'r bobl hynny.
Felly, rydym yn lansio ymarfer ymgynghori wyth wythnos lle rydym yn ceisio barn ynghylch a yw'n briodol i Weinidogion Cymru gymeradwyo'r codau ymarfer sy'n gosod safonau ymddygiad ac ymarfer i'w dilyn o ran rheoli llety myfyrwyr.
Gellir dod o hyd i ddolenni i'r codau ymarfer cyfredol diweddaraf yma:
Cod Ymarfer Llety UUK/Guild HE
Cod Cenedlaethol / yr ANUK ar gyfer llety sy'n eiddo i sefydliadau addysgol neu a reolir ganddynt
Sut i ymateb
Byddem yn croesawu eich barn ar gynnig Gweinidogion Cymru i gymeradwyo'r codau ymarfer, erbyn 27/08/2025.
Anfonwch unrhyw sylwadau ynglŷn â'r cynnig at taisectorpreifat@llyw.cymru
Neu
Dychwelyd i:
Tîm Tai Sector Preifat
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
