Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn penderfynu ar y swm i'w godi, rhaid i awdurdodau lleol gwblhau asesiad ariannol.

Cewch ofyn am adolygiad o unrhyw dâl a godir gan eich awdurdod lleol.

Gofal amhreswyl

Mae'r bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu hyd at £100 yr wythnos:

  • os oes gennych lefel uchel o incwm gwario
  • os oes gennych gynilion a buddsoddiadau gwerth dros £24,000, heb gynnwys gwerth eich tŷ

Wrth bennu taliadau ar gyfer gofal amhreswyl, rhaid i awdurdodau lleol ganiatáu ichi gadw swm penodol i'ch helpu i dalu eich costau byw o ddydd i ddydd.

Gofal preswl

Os oes gennych gyfalaf gwerth dros £50,000, mae'n bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu costau llawn eich gofal preswyl.

Os yw eich cyfalaf gyfwerth â'r terfyn, neu'n is nag ef, bydd yr awdurdod lleol yn helpu i dalu am eich gofal preswyl.

Bydd y swm y byddwch yn ei dalu tuag at y gofal hwn yn cael ei gyfrifo'n seiliedig ar eich incwm cymwys, megis pensiynau neu fudd-daliadau lles.

Mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau bod gennych o leiaf £43.90 yr wythnos ar ôl i'w wario ar eitemau personol.