Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae’r Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cytundeb cyflog newydd i feddygon a deintyddion yng Nghymru, sy’n cynnwys mwy o gynnydd mewn cyflogau na’r hyn y cytunwyd arno yn Lloegr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Mr Gething wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno’n llawn ar argymhellion y Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion:

  • 2% o gynnydd sylfaenol i feddygon a deintyddion sy’n derbyn cyflog, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol
  • 2% yn ychwanegol i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i grant hyfforddwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a chyfradd arfarnwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol
  • 1.5% yn ychwanegol i feddygon arbenigol a chyswllt (SAS). 
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi gallu gweithredu argymhellion y Corff Adolygu yn llawn.

Mae’r codiad cyflog hwn, a fydd yn cael ei ôl-ddyddio i 1 Ebrill 2018, yn cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion sy’n gweithio’n galed, a’u cyfraniad allweddol i’r GIG yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn yn mynd ymhellach na’r hyn y cytunwyd arno ar gyfer meddygon a deintyddion dros y ffin, ac mae’n dangos eto pam y mae Cymru’n lle gwych i hyfforddi, gweithio a byw ynddo.”

chwanegodd Mr Gething: 

“Yn dilyn blynyddoedd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU, rydym wedi neilltuo cyllid ychwanegol i fodloni argymhellion y Corff Adolygu. Y gwir amdani o hyd, fodd bynnag, yw bod ein cyllidebau’n gyfyngedig, felly mae diwallu cytundeb cyflogau sy’n deillio o godi cap cyflogau Llywodraeth y DU heb gyllid priodol yn ei sgil yn golygu bod risg o ran cyllido GIG Cymru yn y dyfodol.

“Rwy’n falch iawn hefyd bod BMA Cymru Wales wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i GIG i wireddu’r uchelgeisiau a nodwyd yn Cymru Iachach, o ran cynaliadwyedd y gweithlu yn y tymor hir a rhoi Model Gofal Sylfaenol Cymru ar waith.

“Law yn llaw â’n cytundeb diweddar ar godiad cyflog i weddill gweithlu GIG Cymru, mae hyn yn dangos ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi yn y staff er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddarparu gofal iechyd a chymdeithasol rhagorol. Ar y cyd ag ymgyrchoedd recriwtio megis Hyfforddi, Gweithio, Byw, bydd hyn yn ein helpu i greu gweithlu a all wireddu ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG yng Nghymru.”