Rydym eisiau eich barn am newid y rheoliadau ar godi tâl gan awdurdodau lleol am wasanaethau gofal a chymorth i oedolion.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb cyfreithiol i ddarparu gofal a chymorth cymdeithasol i'w priod ddinasyddion a aseswyd, naill ai yn eu cartref eu hunain, neu mewn lleoliad gofal preswyl, ac mae ganddynt ddisgresiwn i godi ffioedd am y gwasanaethau hynny.
Gan nodi'r pwysau ariannol eithriadol cynyddol ar awdurdodau lleol, mae'r ddogfen ymgynghori hon yn ceisio barn ar y cynnig i ddiwygio'r rheoliadau a'r Cod Ymarfer sy'n rheoli'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn codi ffioedd am wasanaethau gofal a chymorth cymdeithasol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Yn benodol, mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar y cynnig i gynyddu'r uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl, sydd wedi'i bennu ar £100 ar hyn o bryd.
Byddai ein newidiadau arfaethedig yn sicrhau mai dim ond unigolion sydd â'r gallu ariannol i dalu uchafswm ffi wythnosol uwch a fyddai'n gwneud hynny. Byddai hyn yn cael ei bennu gan y broses arferol, fel rhan o'r prawf modd a gynhelir gan awdurdod lleol unigolyn. Felly, ni fyddai'n ofynnol i bawb sy'n talu'r uchafswm ffi wythnosol o £100 ar hyn o bryd dalu swm uwch.
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 271 KB
Dogfen ymgynghori: fersiwn hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 902 KB
Atodiad 1: rhan 4 a 5 cod ymarfer (gwelliant arfaethedig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 600 KB
Atodiad 2: asesiad effaith integredig ddrafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 349 KB
Atodiad 3: asesiad effaith rheoleiddiol ddrafft , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 111 KB
Help a chymorth
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 13 Mai 2024, ar un o`r ffurfiau a ganlyn:
Ffurflen ar-lein
Post
Lawrlwythwch y ffurflen ymateb.
Cwblhewch a dychwelyd i:
Y Swyddfa Genedlaethol dros Ofal a Chymorth
Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ