Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a chefndir

Nododd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad i greu Coedwig Genedlaethol Cymru yng Ngwanwyn 2020. Nod y Goedwig Genedlaethol yw adfer a chynnal coetiroedd presennol a'u cysylltu ag ardaloedd o goetiroedd newydd trwy blannu coed. Mae rhwydwaith y Goedwig Cenedlaethol yn cael ei sefydlu trwy ddod â safleoedd coetir presennol i'r rhwydwaith i ddysgu, rhannu a chydweithio. Yn hydref 2020, cyhoeddwyd 14 safle cyntaf y Goedwig Genedlaethol, a oedd yn rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru ac yn cael eu rheoli a'u cynnal gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn dilyn cynllun Prosiectau Arddangos y Goedwig Genedlaethol, datblygodd Llywodraeth Cymru fodel cyflawni’r Goedwig Genedlaethol i gefnogi a pharatoi safleoedd o goetir i ymuno â rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol. Mae'r model hwn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau cyflawni gan gynnwys rolau staff, cyllid, adnoddau, a Chynllun Statws y Goedwig Cenedlaethol. Caiff trosolwg o'r dulliau cyflawni eu darparu a'u cyflwyno isod.

Trosolwg o’r dulliau Cyflawni

Y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd

  • Dyddiad cyflwyno: Mehefin 2022.
  • Nod: Cynorthwyo i greu, gwella ac adfer coetiroedd, gan ddatblygu ffrwd o safleoedd y Goedwig Genedlaethol i’r dyfodol.

Fy Nghoeden, Ein Coedwig

  • Dyddiad cyflwyno: Tachwedd 2022.
  • Nod: Darparu coed i gartrefi a thirfeddianwyr i’w hybu i blannu coed a gwneud cyfraniadau cynnar i Goedwig Genedlaethol Cymru.

Swyddogion Cyswllt Coetiroedd

  • Dyddiad cyflwyno: Medi 2022.
  • Nod: Cefnogi perchnogion coetiroedd drwy Gynllun Statws y Goedwig Genedlaethol, cyfeirio at gyfleoedd cyllido, a darparu canllawiau ar reoli coetiroedd.

Grant Coetiroedd Bach

  • Dyddiad cyflwyno: Ebrill 2023.
  • Nod: Creu 100 o 'Goetiroedd Bach' ledled Cymru rhwng 2023 a 2025 i wella bioamrywiaeth a mannau gwyrdd.

Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru

  • Dyddiad cyflwyno: Mehefin 2023.
  • Nod: Galluogi coetiroedd i ymuno â rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol drwy fodloni Canlyniadau’r Goedwig Genedlaethol a chynnal cynllun rheoli coetiroedd.
Y chwe chanlyniad lefel uchel ar gyfer Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru
  1. Coetiroedd gwydn o ansawdd uchel, wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda (Canlyniad hanfodol).
  2. Coetiroedd sy'n hygyrch i bobl (Canlyniad dymunol).
  3. Y gymuned yn cymryd rhan mewn coetiroedd (Canlyniad dymunol).
  4. Coetiroedd cysylltiedig (Canlyniad dymunol).
  5. Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas (Canlyniad dymunol).
  6. Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi (Canlyniad dymunol).

Ym mis Ionawr 2025 roedd y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys 26 bloc o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys sawl safle sy’n cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a 55 o safleoedd y Cynllun Statws sydd wedi ymuno trwy Gynllun Statws y Goedwig Genedlaethol ac sy’n cael eu rheoli gan dirfeddianwyr eraill.

Nodau ymchwil a methodoleg

Ym mis Mehefin 2024, gwnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu Wavehill i gynnal gwerthusiad annibynnol o raglen Coedwig Genedlaethol Cymru. Prif amcanion y gwerthusiad yw:

  • gwerthuso’r modd y mae Coedwig Genedlaethol Cymru wedi’i chyflawni hyd yn hyn, gan gynnwys staff cymorth wedi’u hariannu a chyllid grant sydd ar gael i dirfeddianwyr i helpu i lywio argymhellion ar gyfer modelau cyflawni yn y Dyfodol
  • deall sut mae cymunedau ac aelodau'r cyhoedd yn gweld y Goedwig Genedlaethol ac unrhyw brofiadau hyd yn hyn
  • argymell dyluniad ar gyfer asesu effaith yn y dyfodol, gan gynnwys yr hyn y dylid ei gynnwys yn y rhaglen i helpu i werthuso effaith.

Mae Cam 1 wedi archwilio'r dulliau cyflawni a gyflwynwyd i gefnogi Coedwig Genedlaethol Cymru hyd yma – sy’n cael eu trafod yn y crynodeb hwn a phrif adroddiad cam 1. Yng ngham 2, bydd yr ymchwil yn archwilio barn y cyhoedd a’u profiad o'r Goedwig Genedlaethol ac yn archwilio sut y gall y Goedwig Genedlaethol asesu effaith yn y dyfodol. Yng ngham 1, casglwyd data gan ddefnyddio dull cymysg, gan driongli ffynonellau data ansoddol a meintiol i adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn a chynhwysfawr a helpodd y tîm gwerthuso i fynd i'r afael â'r cwestiynau gwerthuso allweddol.

Mae'r gweithgareddau gwerthuso wedi cynnwys cyfweliadau a gynhaliwyd â rhanddeiliaid o Lywodraeth Cymru a'r sawl sy'n cyflawni’r dulliau cymorth gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, Coed Cadw, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llais y Goedwig. Defnyddiwyd arolwg ar-lein a chyfweliadau dilynol i ymgynghori â sefydliadau/safleoedd sydd wedi ymuno â Chynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru yn ogystal â derbynwyr naill ai’r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd neu grant Coetiroedd Bach. Cynhaliwyd ymweliadau â sampl o safleoedd astudiaethau achos hefyd.

Canfyddiadau

Beth sydd wedi gweithio'n dda

Mae’r canfyddiadau'n awgrymu bod cyllid Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd wedi cefnogi’r twf yn rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol. Yn ogystal ag annog a chynorthwyo safleoedd i fod yn barod i ymuno â'r Cynllun Statws, mae hefyd yn parhau i gynorthwyo safleoedd sydd eisoes wedi dod yn aelodau ac wrth wneud hynny yn eu cynorthwyo i gyfrannu at chwe chanlyniad lefel uchel y Goedwig Genedlaethol. Er bod llai o grantiau Coetiroedd Bach na’r Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd ac mae'n debygol y bydd y cyflawniad yn brin o'r targed o 100 o Goetiroedd Bach, mae'r dull cyflawni hwn wedi helpu i sefydlu nifer fach o safleoedd coetir newydd mewn mannau trefol a mannau o amgylch trefi.

Mae adolygiad o'r 37 ffurflen gais gyntaf a gyflwynwyd ar gyfer Cynllun Statws y Goedwig Cenedlaethol yn awgrymu bod tua thraean o'r safleoedd wedi cwblhau’r gwaith plannu'n ddiweddar neu'n bwriadu creu coetir newydd. Mae hyn yn rhoi arwydd y gall y rhwydwaith gyfrannu at amcanion plannu a chreu coetiroedd, ac y bydd yn gwneud hynny, er nad yw hyn yn ofyniad gorfodol i ymuno â'r Cynllun Statws.

Mae adborth cadarnhaol wedi'i gasglu ar y broses o wneud cais i'r Cynllun Statws gan y rhai a ymatebodd i'r arolwg, gan ddarparu tystiolaeth bod y prosesau ymgeisio ac asesu yn glir i’r ymgeiswyr. O ran y safleoedd sydd wedi ymuno â Chynllun Statws y Goedwig Cenedlaethol, roedd y rhan fwyaf o’r sefydliadau o’r farn bod y cymorth a'r cyngor a ddarparwyd gan dîm y Swyddogion Cyswllt Coetiroedd yn effeithiol iawn. Nododd bron pob ymatebydd i'r arolwg a oedd wedi derbyn cyllid Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd a chyllid Coetiroedd Bach fod y cymorth a gawsant gan eu Swyddog Cyswllt Coetiroedd yn effeithiol, gan ddarparu cyngor ac arweiniad gwerthfawr ar y broses ymgeisio a helpu i sicrhau bod eu cyflwyniadau'n cyd-fynd â nodau'r rhaglen. Derbyniwyd adborth cadarnhaol hefyd ynglŷn â rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol, sy'n galluogi safleoedd sydd wedi cyflawni Statws y Goedwig Genedlaethol i rannu gwybodaeth, ymarfer a gwersi.

Roedd Tîm y Swyddogion Cyswllt Coetiroedd yn cael eu hystyried yn hygyrch ac yn wybodus gan dirfeddianwyr a oedd yn rhan o'r ymchwil. Maent hefyd wedi ymgysylltu â thirfeddianwyr a chymunedau i ddatblygu ffrwd o safleoedd a allai ymuno â'r Cynllun Statws yn y dyfodol. Ym marn y tîm gwerthuso, maent yn rhan annatod ac angenrheidiol o gyflawniad y rhaglen.

Meysydd i'w gwella

Nododd nifer fach o randdeiliaid eu bod yn ansicr ynghylch a yw prif ffocws y rhaglen ar gefnogi'r economi ymwelwyr trwy greu llwybr cenedlaethol, neu ar amcanion amgylcheddol fel plannu coed, gwella bioamrywiaeth, ac ehangu coetiroedd, sy'n cyd-fynd â nodau craidd Strategaeth Coetiroedd i Gymru. Er bod consensws o gefnogaeth i’r rhaglen gan y rhanddeiliaid, byddai'n ddefnyddiol ailddatgan y cysyniad, y dull cyflawni a'r amserlenni cysylltiedig a'u cyfleu i’r rhanddeiliaid allweddol.

Er bod rhywfaint o weithgarwch hyrwyddo wedi'i gynnal, byddai'n ddefnyddiol llunio cynllun marchnata a chyfathrebu clir gyda digon o adnoddau ar gyfer y rhaglen. Gallai hyn gynnwys mwy o gymorth ac arweiniad ar gyfer safleoedd y Cynllun Statws, y tu hwnt i'w pecyn cychwynnol o ganllawiau i randdeiliaid, yn ogystal â gweithgarwch hyrwyddo ar lefel y rhaglen.

Wrth wneud cais am y Cynllun Statws, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno eu cynllun rheoli gyda'u cais. Dylai Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru ystyried a oes ffyrdd o gryfhau'r broses asesu i gefnogi darpariaeth hirdymor y rhaglen yn well.

Disgwylir i ddull tirwedd o fynd i’r afael â’r Goedwig Genedlaethol helpu i lenwi bylchau yn y rhwydwaith ac arwain ffocws tîm y Swyddogion Cyswllt Coetiroedd yn y dyfodol. Wrth i'r rhaglen fynd rhagddi, bydd y dull hwn yn cael ei ddatblygu a'i egluro ymhellach, gan gynnwys ymdrechion wedi'u targedu yn seiliedig ar broffil safleoedd sydd eisoes o fewn y Cynllun Statws. Er mwyn gwneud y mwyaf o'i effeithiolrwydd, bydd yn bwysig diffinio sut a pham y dewisir targedu safleoedd penodol i'w hannog i wneud cais am Statws y Goedwig Genedlaethol, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau presennol y rhwydwaith a'r rhaglen.

Canlyniadau ac Effeithiau sy'n Dod i'r Amlwg

Mae'r gwerthusiad wedi nodi themâu sy'n dod i'r amlwg mewn perthynas â chyflawni canlyniadau ac effeithiau tymor hwy ar draws y safleoedd coetir sy’n cael eu cynorthwyo o dan Raglen y Goedwig Genedlaethol. Dywedodd hanner y safleoedd a dderbyniodd Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd eu bod wedi gwneud llawer o gynnydd yn erbyn y nodau a'r amcanion a nodwyd yn eu cais am gyllid. Fodd bynnag, ar adeg ysgrifennu, y brif thema a nodwyd gan yr holl safleoedd a ymatebodd i'r arolwg ac a oedd wedi derbyn Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd, oedd ei bod yn rhy gynnar i ddarparu tystiolaeth o effeithiau ar draws canlyniadau Coedwig Genedlaethol Cymru.

Mewn cyfweliadau manwl â 7 safle a oedd wedi ymuno â'r Cynllun Statws, amlygwyd cynnydd pellach ar draws nifer o'r canlyniadau lefel uchel, gan gynnwys gwella cysylltedd rhwng coetiroedd trwy gydweithio â thirfeddianwyr ar gyfer safleoedd coetir cyfagos, cynorthwyo gwelliannau i ansawdd a rheolaeth y safle coetir trwy waith adfer a chadwraeth a phlannu a chynnwys cymunedau trwy ddiwrnodau agored, diwrnodau gwirfoddoli a darparu cyfleoedd addysg a dysgu.

Trwy'r broses ymgeisio, aseswyd bod y safleoedd yn bodloni'r canlyniad hanfodol a bod 93% hefyd yn bodloni'r holl ganlyniadau nad ydynt yn orfodol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid oes gofyniad i safleoedd sydd wedi ymuno â rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol ddarparu unrhyw ddata monitro i Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hyn yn cyfyngu ar y gallu i safoni, cydgrynhoi a dangos tystiolaeth o ganlyniadau ar draws y rhwydwaith o safleoedd. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch sut y gall y rhaglen ddangos sut mae’n cynnal neu’n gwneud cynnydd tuag at y chwe chanlyniad lefel uchel neu gyfraniad at dargedau'n ymwneud â phlannu coed a chreu coetiroedd neu amcanion sy'n ymwneud ag ymgysylltu a chynnwys cymunedau lleol neu ddarparu cyfleoedd i wirfoddoli. Bydd y cam nesaf hwn o'r gwerthusiad yn archwilio sut mae rhaglenni tebyg eraill ledled y DU yn mynd ati i gasglu metrigau allweddol i alluogi asesu effaith i gefnogi argymhellion ar gyfer sut y gellir gwneud hyn yng Nghymru.

Casgliadau

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod cyflawni'r rhaglen yn mynd rhagddo'n dda a bod y gwahanol ddulliau'n cyfuno i gefnogi twf rhwydwaith o safleoedd coetir sy'n gweithredu o fewn ymbarél Coedwig Genedlaethol Cymru. Mae'r broses ar gyfer asesu ceisiadau’r Cynllun Statws yn anfiwrocrataidd, yn hygyrch ac yn ddi-faich i berchnogion coetiroedd sy'n mynd ati i wneud cais. Mae cyflawniad y rhaglen yn glynu wrth y dyluniad hwn ac mae'r broses ymgeisio ac asesu wedi cael derbyniad da gan ymgeiswyr. Gallai’r bwriad i gyflwyno dull tirwedd wrth gyflawni'r rhaglen nodi bylchau daearyddol ym mhroffil y rhwydwaith y mae angen mynd i'r afael â nhw yn ogystal â chyfeirio ffocws tîm y Swyddogion Cyswllt Coetiroedd yn y dyfodol.

Mae gan y cyfle i safleoedd ddysgu oddi wrth ei gilydd ac ymgorffori arferion gorau trwy ymwneud â rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol botensial gwirioneddol i helpu safleoedd i ddeall sut i barhau i gyflawni yn erbyn y chwe chanlyniad lefel uchel a chyflawni effeithiau tymor hwy ar gyfer coetiroedd a chymunedau.

Argymhellion

Caiff yr argymhellion canlynol eu darparu i lywio sut y dylai rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru edrych ar ôl 2025.

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru egluro cysyniad rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng y disgwyliadau ar gyfer safleoedd yn y rhwydwaith wrth gyfrannu at yr amcanion a nodir yn Strategaeth Coetiroedd i Gymru. Efallai y bydd hyn yn golygu bod angen ailgydbwyso a mireinio'r broses ymgeisio ac asesu i benderfynu i ba raddau y gall y safleoedd gyfrannu at ganlyniadau a thargedau cenedlaethol y cytunwyd arnynt.

Argymhelliad 2

Heb adnoddau addas a chynllun clir ar gyfer hyrwyddo, efallai na fydd rhwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn cyflawni ei holl effeithiau posibl. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cynllun clir ar gyfer hyrwyddo yn amodol ar yr eglurhad ynghylch cysyniad ac amcanion y rhaglen.

Argymhelliad 3

Mae cyllid Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd wedi bod yn offeryn pwysig wrth gefnogi ac annog sefydliadau i wneud cais am Gynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru ac ymuno â’r cynllun yn y pen draw. Dylid archwilio opsiynau ar gyfer parhau â'r gronfa grantiau hon a darparu adnoddau yn unol â thwf arfaethedig y rhwydwaith.

Argymhelliad 4

Hyd yn hyn, mae rôl tîm y Swyddogion Cyswllt Coetiroedd wedi canolbwyntio'n bennaf ar annog a chynorthwyo ceisiadau i'r Cynllun Statws. Dylai CNC a Llywodraeth Cymru archwilio rôl ac adnoddau'r tîm yn y dyfodol, gan gynnwys y cydbwysedd rhwng cynorthwyo darpar safleoedd a chynorthwyo safleoedd presennol. Wrth i'r rhwydwaith dyfu, efallai y bydd hyn yn gofyn am fuddsoddiad pellach i ehangu capasiti'r tîm a thrafodaeth ynghylch mabwysiadu dull o dargedu mwy wrth ymgysylltu â safleoedd allweddol a thirfeddianwyr.

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried a ddylid cyflwyno gofynion a phrosesau asesu ar gyfer safleoedd y Cynllun Statws i adrodd ar weithgarwch a sut maent yn cynnal canlyniadau neu’n gwneud cynnydd tuag at ganlyniadau fel amod o gadw eu statws. Mae absenoldeb unrhyw ddangosyddion safonol a phroses fonitro reolaidd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar y gallu i adrodd ar y cyfraniad y mae'r safleoedd yn ei wneud ar y cyd tuag at ystod o amcanion polisi a’r dangosyddion llesiant cenedlaethol.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Andy Parkinson, Anna Burgess, Megan Clark, Dr Nikola Vousden a Rhys Maher

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: YmchwilHinsawddACamgylchedd@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 62/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-892-8

GSR logo