Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad Cyfnod 2 yn archwilio barn a phrofiadau cymunedau mewn perthynas â Choedwig Genedlaethol Cymru hyd yma, ac yn argymell dull o asesu ei heffaith gymdeithasol.

Barn cymunedau 

Mae canfyddiadau ymweliadau ag is-set o safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru yn awgrymu bod cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth o'r rhaglen ymhlith ymwelwyr. 

Roedd ymwelwyr yn cefnogi Coedwig Genedlaethol Cymru fel ffordd o sefydlu coetiroedd o dan reolaeth o ansawdd uchel.

Profiadau cymunedau

Dwedodd ymwelwyr eu bod wedi gweld amrediad o newidiadau ar safleoedd, a'u bod wedi ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau wrth ymweld â safleoedd y Goedwig.

Canfuwyd bod gwirfoddolwyr yn cefnogi'n gryf weithgareddau rheoli safleoedd, gan gynnwys rheoli coetir a gweithgareddau cymunedol.

Manteision i gymunedau wedi'u darparu gan safleoedd Coedwig Genedlaethol Cymru

Tynnodd ymwelwyr sylw at amrediad o fanteision, gyda'r rhai mwyaf cyffredin yn ymwneud â gwelliannau canfyddedig i iechyd a lles corfforol a meddyliol.

Dyheadau ar gyfer cyflawni yn y dyfodol a chyfleoedd yn y dyfodol

Roedd pwysigrwydd rhannu ymarfer, dysgu a gwybodaeth i gefnogi rheoli coetiroedd yn themâu cyffredin a gafodd eu nodi gan safleoedd. Mae hyn eisoes yn digwydd drwy Rwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.

Barn rhanddeiliaid

Tynnodd rhanddeiliaid sylw at yr awydd am ragor o wybodaeth am sut mae'r rhaglen yn cael ei gweithredu a'r manteision y mae'n eu galluogi. 

Opsiynau ar gyfer asesu'r effaith gymdeithasol

Tynnodd gwaith maes sylw at y ffaith na fyddai'n addas defnyddio un dull sengl i fesur yr effaith gymdeithasol ar draws y rhaglen. Nododd y canfyddiadau hefyd fod angen i'r dull o fesur yr effaith fod yn gymesur â maint y safle, y perchennog a'r capasiti. 

Mae adroddiad Cyfnod 2 yn nodi dull a argymhellir o asesu'r effaith gymdeithasol ar gyfer rhaglen Coedwig Genedlaethol Cymru.

Adroddiadau

Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 255 KB

PDF
255 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Hinsawdd ac Amgylchedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.