Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn creu, adfer ac yn ehangu coetiroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn creu, adfer a gwella coetiroedd. Mae’n rhan o’r rhaglen Coedwig Cenedlaethol i Gymru.

Yn dilyn peilot llwyddiannus y llynedd, agorwyd cylch newydd gydag 1.9 miliwn o gyllid ar 13 Mehefin. Caiff y rhaglen ei hariannu ar y cyd gennym ni a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bydd y rhaglen yn darparu cymorth ariannol i bobl:

  • greu coetiroedd newydd
  • gwella ac ehangu coetiroedd presennol

yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Rhaid bod gan y coetiroedd hyn botensial i fod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy'n:

  • cael eu rheoli'n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur

Nodweddion allweddol

Bydd y cynllun yn cynnig:

  • grantiau rhwng £40,000 – £250,000 (byddwn yn ystyried prosiectau eithriadol sy’n costio mwy)
  • hyd at 100% o gyllid
  • hyd at 2 flynedd i gyflawni’r prosiect
  • cyllid cyfalaf a refeniw
  • cyllid y gellir ei gyfuno â mathau eraill o grantiau a ffynonellau cyllido,
  • cyngor a chymorth i gynllunio eich prosiect a sut i ymgeisio

Mae'r cynllun yn agored i berchnogion tir a rheolwyr gan gynnwys sefydliadau dielw.

Gallwch ddod o hyd i fanylion terfynau amser ymgeisio a dyddiadau allweddol yn: Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) ( ar Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol)

Sut i ymgeisio

Cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr ddarllen y canllawiau a siarad â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Disgwylir y bydd ymgeiswyr:

  • wedi gwneud cais am unrhyw gydsyniadau neu ganiatadau angenrheidiol
  • bod ganddynt gynllun Creu Coetiroedd os yw'r tir dros 2 hectar
  • bod ganddynt gynllun rheoli coedwigoedd
  • bod ganddynt Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol neu wedi gwneud cais am un

I wneud cais, ewch i borthol ymgeisio Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar  (heritagefund.org.uk).

Rhagor o wybodaeth

Rydym yn bwriadu cynnal cylch arall yn nes ymlaen eleni.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: CoedwigGenedlaetholCymru@llyw.cymru.