Neidio i'r prif gynnwy

Prif Negeseuon

  • Mae Cynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) yn agored i geisiadau gan berchenogion tir a’r rheini sydd â rheolaeth lawn dros dir.
  • Mae’r cynllun yn darparu grantiau i wella ac ehangu coetiroedd sydd eisoes yn bodoli ac i greu coetiroedd newydd yn unol â Safon Coedwigaeth y DU, sydd â’r potensial i ddod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy'n cael eu rheoli'n dda, sy'n hygyrch i bobl ac sy'n rhoi cyfleoedd i gymunedau lleol gyfranogi. 
  • Mae'r grant yn darparu cyllid o 100%.
  • Uchafswm dyfarniad y grant ar gyfer pob cais yw £250,000 a'r isafswm yw £10,000.
  • Y gyllideb gyfalaf ar gyfer y cyfnod hwn yw £2.5 miliwn, ynghyd â chyllideb refeniw o £250,000.
  • Disgwylir i unrhyw gydsyniadau neu ganiatadau sydd eu hangen, megis asesiadau o’r effaith amgylcheddol neu ganiatâd cynllunio, fod wedi’u rhoi neu'n agos at gael eu rhoi cyn gwneud cais i'r cynllun.   
  • Mae'r cyfnod ar gyfer ceisiadau yn agor ar 14 Gorffennaf 2021 ac yn cau ar 27 Awst 2021.  
  • Rhaid cwblhau'r prosiect a'r costau a ysgwyddir erbyn 31 Mawrth 2022.
  • Mae’r ffurflen gais wedi cael ei datblygu’n ddigidol ac mae ar gael drwy RPW Ar-lein. Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn y dyddiadau cau a gyhoeddir.
  • Mae canllawiau ar gwblhau eich cais i gynllun TWIG ar-lein ar gael yn Llywodraeth Cymru: Y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd.
  • Gellir anfon ymholiadau mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer y cynllun at NationalForestWales@llyw.cymru

Adran A: Cyflwyniad

Mae'r Nodiadau Canllaw hyn yn egluro cynllun newydd y Goedwig Genedlaethol ar gyfer 2021/22, sef y ‘Grant Buddsoddi mewn Coetir’ (TWIG), a'r math o brosiectau a all fod yn gymwys ar gyfer cymorth grant. Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor ar 14  Gorffennaf 2021 ac yn cau ar 27 Awst 2021. Y gyllideb sydd ar gael ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn yw £2.5 miliwn o gyllid cyfalaf a £250,000 o gyllid refeniw. Rhaid gwblhau’r holl waith erbyn 31 Mawrth 2022.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw'r amserlenni dan sylw eleni yn ddelfrydol ar gyfer prosiectau creu coetiroedd mwy eu maint ac ni fydd rhai prosiectau'n bosibl o fewn yr amserlen. Fodd bynnag, rydym yn gweithio o dan gyfyngiadau dyfarniad cyllideb un flwyddyn, felly ar gyfer y rownd hon o’r grant rydym yn edrych ar y canlynol:

  • gwella hygyrchedd drwy agor a gwella ansawdd coetiroedd sydd eisoes yn bodoli, sy'n debygol o fod â chynlluniau rheoli da, datblygedig ar waith eisoes, i'w gwneud yn fwy croesawgar, hygyrch a deniadol i ddarpar ymwelwyr, megis cyllid ar gyfer llwybrau troed hygyrch, arwyddion a chreu cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth;
  • prosiectau creu coetiroedd sy’n ‘barod i fynd' lle mae unrhyw ganiatâd cynllunio ac amgylcheddol angenrheidiol (fel asesiadau o'r effaith amgylcheddol) eisoes wedi'u rhoi neu'n agos at gael eu rhoi;
  • prosiectau creu coetiroedd ar raddfa fach yr ystyrir nad oes angen caniatâd cynllunio ac amgylcheddol arnynt, ac sydd mewn ardaloedd na fyddant yn effeithio ar gynefinoedd â blaenoriaeth eraill er enghraifft (gweler Map Cyfleoedd Creu Coetir Llywodraeth Cymru);   
  • cyfuno grantiau TWIG â ffrydiau ariannu eraill. Er enghraifft, os ydych wedi plannu coetir newydd yn ddiweddar, neu ar fin gwneud hynny, drwy arian o ffynonellau eraill, megis Cynllun Creu Coetir Glastir Llywodraeth Cymru neu fuddsoddi preifat, ac mae agweddau ar y coetir y gellid eu gwella â chyllid ychwanegol gan y cynllun hwn e.e. i greu mynediad newydd neu well ar gyfer y cyhoedd.

Os oes gennych brosiect a allai greu coetir i fod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol, ond ni fyddai’n bosibl gwneud hynny eleni o dan y cynllun hwn, hoffai Tîm y Goedwig Genedlaethol glywed gennych i'n helpu i ddatblygu a mireinio'r cynllun yn y dyfodol.

Y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd 

Mae cynllun TWIG yn agored i unrhyw un sy'n berchen ar dir a/neu sydd â rheolaeth lawn dros dir yng Nghymru.

Mae grant o hyd at £250,000 (cyllid cyfalaf yn bennaf gyda chyllid refeniw hyd at 10% o gyfanswm cost y prosiect) ar gael i ariannu'r gwaith o wella ac ehangu coetiroedd sydd eisoes yn bodoli a chreu coetiroedd newydd sydd â'r potensial i ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol. Bydd angen i'r prosiectau coetiroedd allu dangos manteision amlwg i bobl a bioamrywiaeth leol, wrth ategu nod Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a'n gweledigaeth hirdymor ar gyfer Coedwig Genedlaethol yng Nghymru. 

Bydd yn ofynnol i brosiectau ddangos sut y bydd y gwaith yn helpu'r coetir i sicrhau canlyniadau ar gyfer y Goedwig Genedlaethol (gweler Atodiad 1 am ragor o wybodaeth) neu o leiaf bod yn gweithio tuag at wneud hynny:

Canlyniadau Hanfodol:

  • Coetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n cael eu rheoli’n dda
  • Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl
  • Bod y gymuned yn cyfrannu at y coetir

Canlyniadau Hynod Ddymunol:

  • Coetiroedd Cysylltiedig
  • Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas
  • Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi

Rhaid i brosiectau sy'n ceisio cyllid gyd-fynd â'r canlyniadau hyn a gwneud cyfraniad at y weledigaeth hirdymor gyffredinol ar gyfer Coedwig Genedlaethol sy'n:

  • ymestyn ar hyd a lled Cymru;
  • gallu darparu llawer o gyfleoedd drwy blannu, tyfu a diogelu coed, megis:
  • cyfrannu at nodau datgarboneiddio a mynd i’r afael â’r argyfwng newid hinsawdd;
  • atal bioamrywiaeth rhag dirywio;
  • gwella iechyd a llesiant ein pobl;
  • cefnogi gweithgareddau busnes masnachol fel cynhyrchu pren, hamdden a thwristiaeth.

Yn dilyn y gwaith, os ydych yn credu bod y coetir yn cyflawni’r tri chanlyniad hanfodol ac un neu fwy o'r canlyniadau hynod ddymunol, gellir gwneud cais i Lywodraeth Cymru am achrediad Coedwig Genedlaethol (gweler y canllawiau ar wahân ar wneud cais am achrediad Coedwig Genedlaethol, a fydd ar gael yn ddiweddarach yn 2021). Fel arall, gallwch aros nes bod rhagor o waith wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd dilynol cyn gwneud cais.

Dylid datblygu prosiectau yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS). Mae UKFS yn diffinio'r dull ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU ac mae’n  berthnasol i bob coetir. Mae'r safon yn cwmpasu gwahanol elfennau o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy gan gynnwys: 

  • y newid yn yr hinsawdd;
  • bioamrywiaeth; 
  • pobl;
  • yr amgylchedd hanesyddol; 
  • tirwedd;
  • pridd;
  • dŵr.    

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar reoli a gwella coetiroedd, ewch i:

Eitemau sy’n gymwys ar gyfer cyllid

Mae cymorth o dan y cynllun hwn yn cynnwys buddsoddiadau cyfalaf a refeniw mewn coetiroedd sy’n bodoli eisoes a choetiroedd newydd, boed o dan berchnogaeth breifat a pherchnogaeth gyhoeddus (y tu allan i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru) sydd â'r potensial i gyflawni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol a dod yn rhan o'r rhwydwaith. Gellir ategu'r grant cyfalaf â chyllid refeniw – gweler isod. 

Gall yr arian cyfalaf gynnwys eitemau fel coed a phlanhigion, creu a gwella mynediad cyhoeddus, tir, offerynnau a chyfarpar ar raddfa fach a chaffael contractwyr i ymgymryd â gwaith. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint na ffurfweddiad yr ardaloedd o goed sydd i'w plannu, ac eithrio bod angen iddo gyflawni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol, bodloni gofynion UKFS ac mae angen i'r prosiect fod yn fwy na £10,000.

Mae rhestr o gostau cyfalaf cymwys isod. Nodwch nad yw hon yn rhestr ddiffiniol a bydd pob eitem o wariant yn cael ei hystyried fesul achos:

  • prynu coed, llwyni a phlanhigion eraill i greu, ehangu neu wella ardaloedd coetir;
  • gwaith paratoi safle fel ffensio, clirio sbwriel, cael gwared ar rywogaethau estron goresgynnol;
  • adeiladu llwybrau a gatiau hygyrch, gydag ymrwymiad i’w cadw ar agor a’u cynnal a’u cadw am o leiaf 20 mlynedd, os nad yn barhaol; 
  • creu llwybrau natur/addysgol;
  • creu mannau i gynnal a gweld natur;
  • cost llafur sy'n gysylltiedig ag unrhyw weithgareddau sy'n gysylltiedig â gwella a/neu greu’r ardal o goetir;
  • arwyddion/byrddau dehongli;
  • meinciau/seddi;
  • toiledau compostio;
  • raciau beiciau;
  • offerynnau/cyfarpar ar raddfa fach (bydd angen contractio gwaith sy'n gofyn am gyfarpar mwy/sgiliau arbenigol, a'i ariannu drwy'r cynllun hwn);
  • prynu tir nad yw’n costio mwy na 10% o werth y prosiect cyfan;
  • cyflawni prosiectau (e.e. cynllunio prosiectau, caffael deunyddiau, rheoli arian y prosiect) lle nad yw mwy na 10% o gyfanswm cost y prosiect;
  • darparu deunyddiau yn Gymraeg e.e. costau cyfieithu;
  • costau hyrwyddo'r coetir i'r gymuned ehangach e.e. argraffu taflenni;
  • Traciau (dim ond os oes tystiolaeth glir bod eu hangen i roi mynediad ar gyfer y cyhoedd);
  • ffyrdd (dim ond os oes tystiolaeth glir bod eu hangen i roi mynediad ar gyfer y  cyhoedd);
  • meysydd parcio (dim ond os oes tystiolaeth glir bod eu hangen i roi mynediad ar gyfer y cyhoedd);

Cyn cytuno i ariannu traciau, ffyrdd a meysydd parcio, bydd angen i Lywodraeth Cymru weld tystiolaeth eich bod wedi ystyried opsiynau eraill i roi mynediad i’r cyhoedd, fel teithio llesol (h.y. cerdded a beicio) a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac wedi’u diystyru gan roi rhesymau priodol.

Cewch wneud cais am gyllid refeniw hyd at 10% o gyfanswm cost y prosiect. Gellir defnyddio’r cyllid hwn i dalu am wasanaethau pobl i ddatblygu ac i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r prosiect.  Mae enghreifftiau o gostau refeniw cymwys isod, ond eto, nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth:

  • gweithgareddau sy'n galluogi'r prosiect i gynnwys amrywiaeth ehangach o bobl, fel digwyddiadau i hyrwyddo'r cynllun coetiroedd i'r gymuned leol ac i ddathlu cyflawniadau;
  • hyfforddiant a chymorth ar gyfer pobl a/neu wirfoddolwyr fel y gallant gymryd rhan yn y gwaith o ddarparu'r coetir;
  • arferion da a threuliau gwirfoddoli (yn unol â chanllawiau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru);
  • gwasanaethau cyngor / ymgynghori arbenigol.

Costau anghymwys

Mae’r eitemau canlynol yn enghreifftiau o wariant nad ydynt yn gymwys ar gyfer cymorth grant. Nid yw hon yn rhestr ddiffiniol a bydd pob eitem o wariant yn cael ei hystyried fesul achos: 

  • prynu tir lle mae’r costau’n fwy na 10% o gyfanswm cost y prosiect;  
  • prynu adeiladau
  • unrhyw waith ffisegol sydd wedi’i wneud ar y safle cyn dyddiad dechrau awdurdodedig y gwaith;  
  • prynu cerbydau;  
  • eich costau cyfarpar a llafur eich hun;
  • costau refeniw fel cyflogau ar gyfer staff allweddol; 
  • peiriannau ac offer canolig/mawr;
  • nwyddau traul (eitemau sy’n cael eu dileu o fewn blwyddyn fel arfer);
  • cyfarpar a dodrefn swyddfa cyffredinol;
  • costau cynnal a chadw;
  • cyfalaf gweithio;
  • TAW y gellir ei hadennill;
  • costau sy’n gysylltiedig â chontract lesio fel elw leswyr, costau cyllido llog, gorbenion a thaliadau yswiriant;
  • costau trefnu cyfleusterau gorddrafft, benthyciadau neu gyfleusterau cymorth ariannol eraill, gan gynnwys unrhyw ffioedd cysylltiedig neu daliadau eraill;
  • gorbenion sy’n cael eu dyrannu neu eu dosrannu ar gyfraddau llawer uwch na’r rhai a ddefnyddir ar gyfer gwaith tebyg a gyflawnir gan yr ymgeisydd;
  • gwariant tybiannol;
  • taliadau ar gyfer gweithgareddau o natur wleidyddol;
  • dibrisiant, amorteiddiad ac amhariad asedau a brynwyd gyda chymorth grant;
  • nwyddau;
  • rhwymedigaethau digwyddiadol;
  • eitemau digwyddiadol;
  • elw a wneir gan yr ymgeisydd;
  • buddrannau;
  • taliadau llog;
  • taliadau gwasanaeth sy’n deillio o lesau cyllid, hurbwrcasu a threfniadau credyd;
  • costau sy’n deillio o ohirio taliadau i gredydwyr;
  • costau sy’n ymwneud â dirwyn cwmni i ben;
  • taliadau am ddiswyddo annheg;
  • taliadau i gynlluniau pensiwn preifat;
  • taliadau ar gyfer pensiynau heb eu cyllido;
  • iawndal am golli swydd;
  • drwgddyledion sy’n deillio o fenthyciadau i weithwyr, perchenogion, cyfarwyddwyr, partneriaid, gwarantwyr, cyfranddalwyr neu berson sy’n gysylltiedig ag unrhyw un o’r rhain;
  • taliadau am anrhegion a rhoddion;
  • adloniant;
  • dirwyon a chosbau statudol;
  • dirwyon ac iawndal troseddol;
  • treuliau cyfreithiol yn ymwneud â chyfreitha.

Dim ond os ydynt yn gysylltiedig â phrynu cyfarpar a phan fydd y gost wedi’i thalu’n gywir gan yr hawliwr y mae costau’n gymwys i gael cymorth grant. Gan hynny, nid yw costau llawn unrhyw gyfarpar sy’n cael ei sicrhau dan drefniant hurbwrcasu neu les neu unrhyw drefniant ariannol arall yn gymwys ar gyfer cymorth grant.

Uchafswm Cyfradd a Uchafswm Trothwy’r Grant

Swm y grant fydd cyfanswm cyfraniad y sector cyhoeddus at y prosiect, sy’n cael ei ariannu’n llwyr gan Lywodraeth Cymru.

Uchafswm dyfarniad y grant yw £250,000 a'r isafswm yw £10,000.

Uchafswm dyfarniad y grant refeniw yw £25,000 (yn seiliedig ar hawlio hyd at 10% o gyfanswm cost y prosiect) a'r isafswm yw naill ai £0 os nad oes angen refeniw neu £1,000 (yn seiliedig ar 10% o’r isafswm grant o £10,000).

Uchafswm cyfradd y grant ar gyfer unrhyw brosiect unigol yw 100% o gyfanswm y costau cymwys (ac eithrio TAW).

Fel arfer, disgwylir mai dim ond un prosiect buddsoddi a fydd ar y gweill gan yr ymgeisydd ar unrhyw adeg benodol. Fodd bynnag, i'r rheini sydd â mwy nag un safle, gallwch wneud cais ar gyfer bob un.

Rheoli Cymorthdaliadau'r DU

Gwneir y dyfarniad Cyllid hwn ar yr Amodau ac yn ddarostyngedig iddynt, ac o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru, sy’n gweithredu yn unol â swyddogaethau a drosglwyddwyd o dan adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Rhaid ichi sicrhau bod y Cyllid yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n gydnaws â'r cytundebau perthnasol a geir yn rheolau Sefydliad Masnach y Byd, y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE, unrhyw Gytundeb Masnach Rydd sy'n cynnwys y DU, Protocol Gogledd Iwerddon ac unrhyw ddeddfwriaeth ddomestig berthnasol.

Adran B: Y Grant Buddsoddi mewn Coetir – Cymhwysedd

Byddwch yn gymwys:

  • Os ydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). Rhaid ichi fod wedi’ch cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, rhaid ichi lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein | llyw.cymru. I gael rhagor o fanylion, darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru | llyw.cymru .
  • Chi sy'n berchen ar dir a/neu â rheolaeth lawn dros dir sydd naill yn goetir ar hyn o bryd neu’n addas ar gyfer plannu coed ac â’r potensial i gyflawni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol. Os ydych yn prydlesu'r tir ar hyn o bryd, bydd angen ichi ddangos bod gennych brydles hir gydag o leiaf 20 mlynedd ar ôl.
  • Os oes gennych neu os bydd gennych yr holl gydsyniadau cynllunio ac amgylcheddol angenrheidiol cyn i'r prosiect ddechrau (gweler isod).

Caniatâd cynllunio a chydsyniadau amgylcheddol

Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod gennych unrhyw ganiatâd cynllunio sydd ei angen ac am gadw at unrhyw ofynion statudol perthnasol eraill. Er enghraifft, os ydych yn cynnig prosiect y mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio a/neu asesiad o’r effaith amgylcheddol arno, fe'ch cynghorir i ymgynghori â'r awdurdod trwyddedu perthnasol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), awdurdod lleol (ALl) neu asiantaeth arall, gan ei bod yn bosibl y bydd angen caniatâd i wneud y gwaith (gweler Atodiad 2 am ragor o wybodaeth).

O ystyried yr amserlenni sy'n gysylltiedig â gwneud cais am ganiatâd i wneud gwaith, os oes ei angen, yna, oni bai ei fod eisoes ar waith neu’n agos at fod ar waith, mae'n annhebygol y bydd digon o amser i wneud cais i’r Grant Buddsoddi mewn Coetir. Fel y nodwyd yn adran A, ar gyfer y cylch hwn o’r Grant rydym yn edrych ar:

  • agor a gwella ansawdd coetiroedd sydd eisoes yn bodoli, i'w gwneud yn fwy hygyrch i ymwelwyr ac i greu cynefinoedd;
  • prosiectau sy’n 'barod i fynd' sydd eisoes wedi mynd drwy’r prosesau cynllunio ac asesu’r effaith amgylcheddol, neu lle maent yn agos at fod wedi gwneud hynny;
  • cyfuno cyllid TWIG â phrosiect sy'n bodoli eisoes, megis Creu Coetir Glastir, a fydd eisoes wedi mynd drwy broses ddilysu ar wahân;
  • mae’n rhaid o hyd i brosiectau llai nad oes angen caniatâd rheoleiddiol arnynt, fel asesiad o’r effaith amgylcheddol, ddangos bod yr ardal yn addas ar gyfer plannu coed ac mae nodweddion sensitif wedi cael eu hystyried.

Cewch syniad o’r nodweddion sy’n debygol o fod yn sensitif ar safle arfaethedig ar Fap Cyfleoedd Coetir Llywodraeth Cymru a thrwy ddilyn y canllawiau a  amlinellir yn GN002. Yn ogystal, efallai yr hoffech edrych ar Borth Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru ar wefan CNC: Gwybodaeth am Gymru ar gyfer Atebion sy'n Seiliedig ar Natur  a siarad â chynrychiolydd eich Partneriaeth Natur Leol.  

Mae angen ichi hefyd wirio nad yw eich cynigion yn torri unrhyw is-ddeddfau, yn rhwystro hawliau tramwy, yn niweidio'r amgylchedd nac yn achosi llygredd. Er enghraifft, lle bydd cynhyrchion chwynladdwyr at ddefnydd proffesiynol yn cael eu defnyddio i reoli rhywogaethau estron goresgynnol (INNS), dylech ystyried defnyddio contractwyr arbenigol a sicrhau bod gan unrhyw un sy'n defnyddio plaladdwyr y cymwysterau perthnasol. Dylech hefyd wirio a oes angen unrhyw ganiatadau neu drwyddedau megis caniatâd mewn perthynas â Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu ddefnyddio chwynladdwyr yn agos i ddŵr, neu drwydded mesur rheoli INNS.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall, mewn rhai achosion, y bydd prosiectau sy’n mynd drwy'r prosesau cydsynio ar hyn o bryd, felly ni fyddwch yn gallu cael pob caniatâd ar waith wrth wneud cais. Felly, yn yr achos hwn, derbynnir ceisiadau cyn i’r cytundebau sydd eu hangen gael eu gwneud. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i'r cytundebau hyn gael eu nodi yn y cais a bydd yn ofynnol eu cael cyn i'r prosiect ddechrau. Os nad yw’r trwyddedau a'r cytundebau sydd eu hangen ar waith  erbyn y dyddiadau y cytunwyd arnynt yn y cais, bydd y dyfarniad grant yn cael ei dynnu’n ôl.

Ni fydd unrhyw grant yn cael ei dalu nes bod y dogfennau trwydded/ caniatâd gwreiddiol wedi cael eu derbyn a’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Adran C: Dangosyddion a chanlyniadau

Fel y disgrifir uchod, mae cynllun TWIG yn ei gwneud yn ofynnol i'ch coetir gyflawni neu fod yn gweithio tuag at  gyflawni canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol (gweler Atodiad 1 am ragor o wybodaeth): 

Gofynion Hanfodol:

  • Coetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi’u cynllunio’n dda ac sy’n cael eu rheoli’n dda
  • Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl
  • Bod y gymuned yn cyfrannu at y coetir

Canlyniadau Hynod Ddymunol:

  • Coetiroedd Cysylltiedig
  • Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas
  • Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi

Mae’r canlyniadau'n cyfateb i un neu fwy o'r dangosyddion a restrir isod, a gellir eu mesur yn erbyn un neu fwy ohonynt:

Dangosydd Arwynebedd (hectarau) Nifer yr unigolion

Ardal o goetir sydd eisoes yn bodoli wedi'i gwella gan y prosiect

       -

Ardal o goetir newydd wedi’i chreu gan y prosiect

   
       -

Ardal ychwanegol o goetir gyda mynediad agored neu ganiataol wedi'i chreu gan y prosiect

       -

Ardal o goetir y mae’r prosiect wedi gwella ei hygyrchedd fel bod y coetir yn agored i bob defnyddiwr

       -
Ardal o goetir wedi'i gwella gan y prosiect am resymau bioamrywiaeth         -

Rhagor o ymwelwyr / gwirfoddolwyr bob blwyddyn o ganlyniad i'r prosiect

     -  

Nifer o swyddi wedi’u creu/eu diogelu gan y prosiect

     -  

Themâu Trawsbynciol

Mae tair thema neu ganlyniad trawsbynciol ar gyfer y Goedwig Genedlaethol:

  • lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo;
  • cefnogi twristiaeth a’r economi;
  • cefnogi neu gyflwyno sgiliau a hyfforddiant.

Fel rhan o'r cais gofynnir ichi ddisgrifio sut y bydd eich prosiect yn cyfrannu at un neu fwy o'r themâu hyn.

Adran D: Gwneud cais i gynllun Y Grant Buddsoddi mewn Coetir – y broses asesu dau gam

Bydd dau gam i’r broses ymgeisio. Yn ystod Cam 1, bydd adrannau dilynol y cais yn cael eu hasesu ac yn derbyn sgôr yn unol â’r meini prawf dethol:

  • Y Ffit Strategol
  • Cyflawni
  • Cynaliadwyedd Hirdymor
  • Gwerth am arian

Os caiff ei ddewis, bydd y cais yn symud ymlaen i Gam 2 a bydd yr adrannau canlynol yn cael eu hasesu i gwblhau arfarniad llawn o'r cais. 

  • Arian a Chydymffurfiaeth
  • Dangosyddion a Chanlyniadau
  • Themâu Trawsbynciol
  • Rheoli Gweithrediadau
  • Addasrwydd y Buddsoddiad

Cyflwyno cais

Dim ond drwy RPW Ar-lein y gallwch wneud cais i gynllun TWIG.  Os nad ydych wedi cofrestru gyda RPW Ar-lein ac yn dymuno cyflwyno cais, darllenwch y canllawiau ar sut i gofrestru sydd ar gael yn y ddolen hon Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.

Mae canllawiau ar sut i gyflwyno eich cais drwy RPW Ar-lein ar gael yn Y Goedwig Genedlaethol: Y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd  

Gellir anfon ymholiadau mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer y cynllun at NationalForestWales@llyw.cymru

Cewch ddefnyddio ymgynghorydd i baratoi eich cais os dymunwch. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y cais wedi’i gwblhau’n gywir a bod y wybodaeth a roddir i gefnogi eich prosiect yn gywir.

Rhaid ichi ddilyn canllawiau a gofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Tendro Cystadleuol, a’i Nodiadau Cyfarwyddyd Technegol ar Dendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus:

Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus – Nodiadau Canllaw Technegol

Tendro Cystadleuol a Chaffael Cyhoeddus – Cofrestru a Chofnodi

Cwblhau’r cais

Rhaid ichi gwblhau'r cais yn llawn a darparu dogfennau cynhwysfawr i ategu'r cais er mwyn galluogi Llywodraeth Cymru i asesu'r prosiect. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau – gall methu gwneud hynny arwain at oedi wrth arfarnu’r cais.

Mae'r cynlluniau a'r dogfennau y mae'n ofynnol ichi eu cwblhau a'u cyflwyno yn cynnwys: 

  • Cais Ar-lein Cynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd.
  • Manylion perchnogaeth y tir neu reolaeth lawn dros y tir. Os yw'r tir yn cael ei brydlesu, hyd y brydles a’r amser sydd ar ôl – rhaid bod o leiaf 20 mlynedd ar ôl.
  • Cynllun rheoli coetir.*
  • Cynllun creu coetir, os yw’n berthnasol*
  • Tri dyfynbris ar gyfer pob eitem buddsoddi (dim ond un dyfynbris sy'n ofynnol ar gyfer eitemau o dan £5,000).
  • Tair blynedd o Gyfrifon Ardystiedig.
  • Manylion yr holl drwyddedau a chydsyniadau, a thystiolaeth y rhoddwyd rhain neu y gwnaed cais amdanynt, os ydynt yn berthnasol.

*Mae angen i'r cynlluniau coetir fod yn briodol i faint a graddfa'r prosiect ac yn cydymffurfio â gofynion UKFS.  Er y cewch ddatblygu eich cynlluniau eich hun, mae rhagor o wybodaeth am gynlluniau rheoli ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae templed ar gael ar gais drwy e-bostio CNC

Ni fydd yr asesu’n dechrau nes bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cais a’r HOLL ddogfennau ategol. Gallwch ddarparu dogfennau a thystiolaeth arall yn ychwanegol at yr uchod i ategu eich cais. 

Gweithio gyda Phartneriaid

Os ydych yn gweithio gyda phartneriaid i gyflawni'r prosiect, rhaid ichi roi eu manylion yn y cais a nodi’r rôl y maent yn ei chwarae.  

Y broses ddethol

Bydd y ceisiadau a dderbynnir yn cystadlu'n uniongyrchol â'i gilydd. Bydd pob prosiect yn cael ei asesu i ddechrau ar sail ei werth am arian, sut mae’n cyd-fynd â'r weledigaeth hirdymor ar gyfer y Goedwig Genedlaethol, ei allu i gael ei gyflawni erbyn 31 Mawrth 2022 a chynaliadwyedd hirdymor y coetiroedd. Bydd y broses ddethol yn cadarnhau a yw’r holl feini prawf dethol wedi cael eu bodloni:

Yr angen am y gweithgaredd:

  • mae angen yr allbynnau a byddwn yn cyflawni yn erbyn allbynnau’r mesur;
  • mae’n ychwanegu at weithgareddau presennol yn hytrach na’u disodli/dyblygu yn ddiangen.

Yr angen am gyllid:

  • ni all fynd rhagddo heb gymorth;
  • nid yw’r costau’n ormodol o ystyried natur y gweithgaredd;
  • mae bwlch cyllid, lle mae hynny’n berthnasol.

Y gallu i gyflawni:

  • hyfywedd yr unigolyn neu fusnes;
  • cydymffurfiaeth gyfreithiol;
  • hyfywedd ariannol a chynaliadwyedd y prosiect;
  • cefnogaeth ac ymrwymiad rhanddeiliaid allweddol;
  • trefniadau rheoli, monitro a gwerthuso’r prosiect.

Po fwyaf yw’r cyfraniad gall y prosiect ei wneud at amcanion a chanlyniadau priodol y Goedwig Genedlaethol, po debycaf yw y bydd yn cael ei argymell ar gyfer ei ddewis.

Meini prawf Cam 1

Yn ystod Cam 1, bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn set o feini prawf dewis ac yn derbyn sgôr gan ddefnyddio graddfa 0 – 4. Bydd y sgôr wedyn yn cael ei lluosi â’r ffactor pwysoli cysylltiedig i roi cyfanswm sgôr.

Caiff y ceisiadau eu rhoi yn nhrefn eu teilyngdod.  Caiff y prosiectau eu dewis yn eu trefn nes na fydd arian ar ôl neu nes y byddwn wedi cyrraedd uchafswm nifer y ceisiadau.  Ni ellir gwarantu y caiff yr holl arian ei neilltuo, na chwaith y caiff uchafswm nifer y prosiectau eu dewis ar gyfer Cam 2 y broses.

Dyma’r meini prawf ar gyfer dewis.

Meini Prawf Dewis Meini Prawf y Cynllun Busnes/Prosiect a asesir ar gyfer eu dewis Sgôr Ffactor Pwysoli
Gwerth am Arian Gwerth am Arian 0 – 4* x 2 
Datblygu Cynaliadwy Y Ffit Strategol 0 – 4 x 3
Creu, gwella a chysylltu coetiroedd Cyflawni 0 – 4 x 2 
Dull Gweithredol Cynaliadwyedd Hirdymor 0 – 4 x 1

*wedi’i gyfrifo o’r sgôr a roddwyd am y meini prawf dewis eraill (gweler uchod)

Ni chaiff yr un cais fynd yn ei flaen heb gael sgôr o wyth o leiaf.  Byddai sgôr o 0 mewn unrhyw faen prawf yn golygu na chaiff y cais ei ystyried ar gyfer Cam 2 y broses.

Ar gyfer pob maen prawf, bydd yr asesiad yn seiliedig ar y wybodaeth a’r esboniadau a roddwyd inni.

Bydd sgôr uwch yn cael ei rhoi am esboniadau llawn, gydag enghreifftiau o weithgareddau a gynigir a sut rydych am reoli’r gweithgareddau hynny.

Rhoddir sgôr is am esboniadau nad ydynt ond yn ddatganiadau syml o fwriad, er enghraifft “byddwn yn cynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn rheolaidd drwy gydol y prosiect”.

Gwerth am Arian

Mae’n ofynnol i brosiectau ddangos eu bod yn rhoi gwerth am arian.  Bydd prosiectau’n cael eu rhoi yn eu trefn drwy eu cymharu â cheisiadau eraill ar sail y sgoriau maent wedi’u hennill, yn erbyn y tri maen prawf eraill (a), wedi’u rhannu â gwerth y grant (b).

Byddai gan brosiect sy’n derbyn y sgôr uchaf posibl o 24 (a), h.y. pedwar am bob un o’r tri maen prawf eraill wedi’i lluosi â’r ffactor pwysoli, sy’n gwneud cais am yr isafswm grant o £10,000 (b) werth a/b (24/10) o 2.4.

Byddai gan brosiect sy’n ennill isafswm sgôr o 6 (a), un ar gyfer pob un o’r tri maen prawf arall, wedi’i lluosi â’r ffactor pwysoli, sy’n gwneud cais am yr uchafswm grant o £250,000 (b), werth a/b (6/250) o 0.024.

Caiff gwerthoedd (a/b) holl brosiectau’r cyfnod ymgeisio eu rhoi yn eu trefn a chaiff y sgoriau eu rhoi fel a ganlyn.

Sgôr Disgrifiad
4 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 0 – 25% uchaf o geisiadau.
3 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 26 – 50% uchaf o geisiadau.
2 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 51 – 75% uchaf o geisiadau.
1 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 76 – 100% uchaf o geisiadau.
0 Mae prosiect yn sgorio 0 yn erbyn unrhyw un o'r 3 maen prawf arall.

Datblygu Cynaliadwy – Y Ffit Strategol

Er mwyn i brosiect ffitio’r cynllun yn strategol, mae angen ichi ddangos ymrwymiad i weledigaeth y Goedwig Genedlaethol. Er enghraifft, sut y bydd y prosiect yn cyflawni yn erbyn y tri chanlyniad hanfodol ac yn ddelfrydol un neu fwy o ganlyniadau dymunol y Goedwig Genedlaethol. Ar raddfa strategol, bydd angen i'r prosiect ddangos tystiolaeth o nodau a dyheadau hirdymor y coetir, a chydag amser dangos sut y bydd yn cysylltu ag ecosystem fwy ledled Cymru. Mae angen i brosiectau hefyd ddangos sut maent yn cyd-fynd â'r tair thema drawsbynciol: newid yn yr hinsawdd, twristiaeth a’r economi, sgiliau a dysgu, a sut y bydd y Gymraeg a threftadaeth Cymru yn cael eu hyrwyddo. 

Sgôr Disgrifiad
4 Esboniad clir o’r ffordd y bydd pum neu fwy o ganlyniadau'r Goedwig Genedlaethol (tri chanlyniad hanfodol a dau neu fwy hynod ddymunol) yn derbyn sylw (wedi'u rhannu rhwng y rhai wedi’u bodloni eisoes a'r rhai y mae angen eu gwella). Tystiolaeth o welliannau a gwaith cynnal a chadw parhaus wedi’i chyflwyno mewn cynllun rheoli.
3 Esboniad clir o’r ffordd y bydd pedwar o ganlyniadau'r Goedwig Genedlaethol (tri chanlyniad hanfodol ac un hynod ddymunol) yn derbyn sylw (wedi'u rhannu rhwng y rhai wedi’u bodloni eisoes a'r rhai y mae angen eu gwella). Tystiolaeth o welliannau a gwaith cynnal a chadw parhaus wedi’i chyflwyno mewn cynllun rheoli.
2 Esboniad clir o’r ffordd y bydd tri chanlyniad hanfodol y Goedwig Genedlaethol yn derbyn sylw (wedi'u rhannu rhwng y rhai wedi’u bodloni eisoes, a'r rhai y mae angen eu gwella). Tystiolaeth o welliannau a gwaith cynnal a chadw parhaus wedi’i chyflwyno mewn cynllun rheoli.
1 Esboniad o’r ffordd y bydd tri chanlyniad hanfodol y Goedwig Genedlaethol yn derbyn sylw (wedi'u rhannu rhwng y rhai wedi’u bodloni eisoes a'r rhai y mae angen eu gwella). Tystiolaeth o welliannau a gwaith cynnal a chadw parhaus wedi’i chyflwyno mewn cynllun rheoli.
0 Ni roddwyd digon o dystiolaeth. 

Gwella, creu a chysylltu coetiroedd – cyflawni

Y diffiniad o hwn yw prosiect newydd i wella neu ehangu coetir sy'n bodoli eisoes neu greu coetir newydd, sy'n ychwanegu at weledigaeth y Goedwig Genedlaethol ar gyfer ecosystem gysylltiedig ledled Cymru. Rhaid i'r prosiect ddangos ei fod yn ychwanegu gwerth, wedi’i ei ddiffinio'n glir ac yn cynnwys tystiolaeth y caiff y canlyniadau eu sicrhau ac o sut yr ydych wedi ymgynghori â datganiadau ardal, cynrychiolwyr partneriaethau natur lleol ac CNC os oes angen. Dylai prosiect fod wedi cael yr holl gydsyniadau sydd eu hangen cyn ceisio am y grant.  Ond byddwn yn barod i ystyried ceisiadau os ydych yn hyderus y cewch y cydsyniadau hynny o gael ychydig mwy o amser a chyn i’r prosiect ddechrau.

Sgôr Disgrifiad
4 Esboniad clir o'r prosiect, gyda thystiolaeth o ymchwil wedi’i chynnal a’r ffordd mae'r prosiect yn ategu gweledigaeth y Goedwig Genedlaethol. Tystiolaeth gref bod y mecanweithiau cyflawni perthnasol ar waith ac y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni yn 2021/22, e.e. cafwyd caniatadau rheoleiddiol, felly mae hyder uchel y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni.
3 Esboniad clir o'r prosiect, gyda thystiolaeth o ymchwil wedi’i chynnal a’r ffordd mae'r prosiect yn cefnogi gweledigaeth y Goedwig Genedlaethol. Tystiolaeth dda bod y mecanweithiau cyflawni perthnasol ar waith ac y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni yn 2021/22.
2 Esboniad clir o'r prosiect, gyda thystiolaeth o ymchwil wedi’i chynnal a’r ffordd mae'r prosiect yn cefnogi gweledigaeth y Goedwig Genedlaethol. Tystiolaeth foddhaol bod y mecanweithiau cyflawni perthnasol ar waith ac y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni yn 2021/22.
1 Esboniad clir o'r prosiect, gyda rhywfaint o dystiolaeth o ymchwil wedi’i chynnal a’r ffordd mae'r prosiect yn ategu gweledigaeth y Goedwig Genedlaethol. Prin yw'r dystiolaeth bod y mecanweithiau cyflawni perthnasol ar waith ac y bydd y prosiect yn cael ei gyflawni yn 2021/22.
0 Nid yw'r prosiect wedi'i egluro'n glir ac nid oes digon o dystiolaeth.

Dull Gweithredol – Cynaliadwyedd Hirdymor

Bydd prosiectau sydd â chynllun hirdymor clir ar gyfer y coetir, sy’n ystyried egwyddorion UKFS, yn cael blaenoriaeth am eu bod yn ychwanegu at werth gweledigaeth hirdymor y Goedwig Genedlaethol. Mae'r dystiolaeth yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cynnal, os nad gwella'r coetir ymhellach yn unol â chanlyniadau'r Goedwig Genedlaethol, o ran y coetir ei hun a’r seilwaith i wneud y coetir yn hygyrch i’r cyhoedd (megis ymrwymiad i gynnal a chadw llwybrau troed am o leiaf 20 mlynedd). Bydd angen manylion pwy sy’n berchen ar y tir ac os yw wedi’i brydlesu, bydd angen tystiolaeth bod cytundeb hirdymor wedi’i lofnodi.

Sgôr Disgrifiad
4 Esboniad clir gyda thystiolaeth ategol gref o’r ffordd y bydd y prosiect yn arwain at goetir ar gyfer y tymor hir a reolir yn dda.   
3 Esboniad clir gyda thystiolaeth ategol dda o’r ffordd y bydd y prosiect yn arwain at goetir ar gyfer y tymor hir a reolir yn dda.
2 Esboniad clir gyda thystiolaeth ategol foddhaol o’r ffordd y bydd y prosiect yn arwain at goetir ar gyfer y tymor hir a reolir yn dda.
1 Esboniad clir gyda thystiolaeth ategol gyfyngedig o’r ffordd y bydd y prosiect yn arwain at goetir ar gyfer y tymor hir a reolir yn dda.
0 Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth neu brin oedd y dystiolaeth a roddwyd ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor y coetir.

Mae tri chanlyniad posib i gam 1 yr asesiad:

  1. Nid yw eich cais yn gymwys ar gyfer grant; .
  2. Nid yw eich cais wedi’i ddewis ar gyfer ail gam y broses asesu ceisiadau;
  3. Mae eich cais wedi llwyddo yn y cam cyntaf a bydd yn mynd yn ei flaen i’r arfarniad llawn.

Cais sy’n llwyddiannus yn ystod Cam 1

Os dewisir eich cais, cewch eich hysbysu drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Rhaid ichi naill ai dderbyn neu wrthod cael eich dewis drwy gwblhau a dychwelyd Atodiad y Cais sydd ynghlwm wrth y llythyr yn eich hysbysu eich bod wedi’ch dewis at Lywodraeth Cymru drwy eich cyfrif ar-lein, erbyn y dyddiad a nodir yn eich llythyr.

Os byddwch yn derbyn cael eich dewis, bydd eich cais yn symud ymlaen i Gam 2 y  broses arfarnu. 

Gall y llythyr yn eich hysbysu eich bod wedi’ch dewis gynnwys cynnig i fwrw ymlaen â'ch prosiect ar eich risg eich hun. Hynny yw dechrau eich prosiect cyn i gynnig ffurfiol o grant gael ei wneud. Nid yw'r cynnig i fwrw ymlaen ar eich risg eich hun yn warant o gynnig grant.  Os gwneir cynnig i fwrw ymlaen ar eich risg eich hun, rhoddir rhagor o fanylion y pryd hynny.

Oni bai bod cynnig i fwrw ymlaen ar eich risg eich hun yn cael ei wneud, rhaid ichi beidio â dechrau unrhyw waith nes eich bod wedi derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.  Ni fydd unrhyw brosiectau sy’n torri’r rheol hon yn cael eu hystyried ar gyfer cymorth

Os nad ydych yn derbyn cael eich dewis, neu os nad ydych yn ymateb i Lywodraeth Cymru erbyn y dyddiad yn y llythyr, ni fydd eich cais yn symud ymlaen ymhellach a bydd y cynnig i’ch dewis yn cael ei dynnu'n ôl.

Os nad yw eich cais yn bodloni meini prawf cymhwysedd y cynllun neu os nad yw’n cael ei ddewis, cewch eich hysbysu drwy eich cyfrif ar-lein.

Cam 2 - Arfarniad llawn o'r cais ar ôl ei ddewis

Os caiff ei ddewis, bydd y cais yn mynd yn ei flaen i Gam 2 a chaiff yr adrannau canlynol eu hasesu i gwblhau’r arfarniad.

  • Ariannol a Chydymffurfio
  • Dangosyddion a Chanlyniadau
  • Themâu Trawsbynciol
  • Rheoli Gweithrediadau
  • Addasrwydd y Buddsoddiad

Caiff y cais ei arfarnu yn unol â Chanllawiau’r Cynllun a’r rheolau cymhwysedd.  Bydd yn destun archwiliadau ac arfarniad llawn o’u diwydrwydd dyledus (os bydd angen) a dim ond y pryd hwnnw y caiff penderfyniad terfynol ei wneud i gynnig grant neu i wrthod y cais. Nid oes gwarant y caiff cynnig am brosiect ei gymeradwyo ar gyfer grant.  Ein nod yw arfarnu’r cais o fewn 45 diwrnod i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben.  Efallai y bydd angen rhagor o amser os yw’r cais yn un cymhleth.  Os byddwch yn oedi wrth ateb cwestiynau, gallai hynny estyn yr amser.

Cynllun y Busnes/Prosiect

Rhaid i geisiadau am gymorth grant drwy’r Rhaglen Coedwig Genedlaethol gwblhau cais RPW Ar-lein

Bydd y wybodaeth a roddir dan bob un o’r penawdau ar gais RPW Ar-lein yn cael ei defnyddio yn ystod y broses asesu yn erbyn y meini prawf sgorio canlynol, a ddefnyddir i wneud penderfyniad ynglŷn â dyfarnu cymorth grant i’r prosiect:

  • Uchel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion trylwyr a manwl mewn perthynas â’r holl dystiolaeth y gofynnwyd amdani
  • Canolig: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion boddhaol a manwl mewn perthynas â’r rhan fwyaf o’r dystiolaeth y gofynnwyd amdani
  • Isel: Mae’r ymgeisydd wedi rhoi ymatebion anghyflawn neu’n annigonol mewn perthynas ag un neu fwy o’r darnau o dystiolaeth y gofynnwyd amdani

Y gofyniad ansawdd lleiaf yw sgôr o Ganolig ar draws pob un o’r deg categori. Os nad yw’r cais yn bodloni’r gofyniad hwn, mae’n bosibl y gofynnir ichi am ragor o wybodaeth.

Nodwch y gallai gorfod gofyn ichi am ragor o wybodaeth arafu’r broses o asesu’r cais, felly rydym yn eich cynghori’n gryf i ddilyn y canllawiau’n fanwl a darparu’r wybodaeth y gofynnir amdani. Fodd bynnag, os bydd unrhyw beth yn aneglur neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Mae dau ganlyniad posibl i arfarniad Cam 2:

  1. nid yw eich prosiect yn gymwys ac nid yw wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Fe’ch hysbysir am y rhesymau pam na fu eich cais yn llwyddiannus.  Cewch wneud cais eto gyda’r un prosiect (gan newid y cais os oes angen) ond dim ond os nad ydych wedi dechrau ar y gwaith.
  2. mae’ch prosiect yn gymwys ac wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer grant. Caiff contract ei roi i chi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein a fydd yn nodi holl delerau ac amodau’r grant.  Gofynnir ichi ei dderbyn o fewn 30 niwrnod i ddangos eich bod yn cytuno â’r amodau a’r telerau hynny.  Bydd y contract yn rhoi’r awdurdod ichi ddechrau ar y gwaith. Bydd angen ichi naill ai dderbyn neu wrthod y cynnig hwn o gontract o fewn 30 diwrnod. Os na fyddwch wedi derbyn y contract o fewn y 30 niwrnod, caiff y contract ei dynnu’n ôl.

Os byddwch yn penderfynu gadael y contract cyn iddo orffen neu os na fyddwch yn cwblhau’r holl waith sydd wedi cael ei gymeradwyo o dan y contract, mae’n bosibl na chewch wneud cais i gynllun TWIG mewn rowndiau wedi hynny ac efallai y bydd gofyn ichi ad-dalu unrhyw arian sydd wedi cael ei dalu ichi.

Yn ddarostyngedig i ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol. Dylech fod yn ymwybodol, os bydd eich cais yn llwyddiannus, bod gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, swm y grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

Amodau'r Grant

Mae’r grant a gynigir o dan gynllun TWIG yn amodol ar delerau ac amodau, gan gynnwys y rhai a amlinellir isod.  

Gallai peidio â bodloni telerau ac amodau’r dyfarniad arwain at ganslo eich dyfarniad a/neu y symiau sydd eisoes wedi’u talu ichi yn cael eu hadennill, neu leihau cyfanswm y grant sy’n daladwy.

Amodau:

  • Byddwch yn derbyn contract cynllun TWIG o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y cynnig drwy RPW Ar-lein ac yn cydymffurfio â’r holl ofynion. 
  • Dim ond ar ôl ichi dderbyn y cynnig o gontract y byddwch yn prynu’r eitemau a restrir yn eich contract.
  • Byddwch yn sicrhau eich bod wedi prynu’r holl eitemau ac wedi cwblhau’r holl waith a restrir yn eich contract cyn ichi gyflwyno eich cais. 
  • Mae’r dyfarniad yn cael ei wneud ar sail y datganiadau a wnaed gennych chi neu’ch cynrychiolwyr ar y ffurflen gais ac mewn gohebiaeth ddilynol. Mae gwneud datganiadau ffug yn drosedd.
  • Ni ddylech ddechrau gweithio ar y prosiect nes y byddwch wedi cael awdurdod ysgrifenedig i wneud hynny gan Lywodraeth Cymru.
  • Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a roddwyd o dan gyfraith y DU.
  • Ni chewch wneud unrhyw newidiadau i’r prosiect, gan gynnwys lleoliad y gweithgaredd, heb gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
  • Ni chewch drosglwyddo, gwerthu na chael gwared ar unrhyw eitemau a brynwyd â chymorth grant – yn ystod y prosiect nac am bum mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect – heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
  • Ni chewch drosglwyddo, gwerthu na chael gwared ar unrhyw dir a brynwyd â chymorth grant – yn ystod y prosiect nac am 20 mlynedd ar ôl dyddiad gorffen y prosiect – heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
  • Rhaid ichi gydymffurfio â'r rheolau ar wariant cymwys.
  • Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno drwy gais RPW Ar-lein a chyda’r holl ddogfennau sy’n eu hangen o dan y cynllun.
  • Rhaid i hawliadau gael eu cyflwyno yn unol â’r amserlen a amlinellir yn y proffil cyflawni. Rhaid ichi beidio â newid yr amserlen y cytunwyd arni na gwerth eich hawliadau heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
  • Dylid cwblhau prosiectau o fewn yr amserlen y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru. Ni ddylech ei newid heb gytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru.
  • Dim ond ar gyfer gwariant sydd wedi'i dalu y gellir rhoi grantiau, hynny yw, taliadau sydd wedi’u clirio o gyfrif banc.
  • Rhaid ichi gadarnhau nad yw unrhyw un o’r eitemau sy’n rhan o’r cais yn eitemau a brynwyd yn lle eitemau eraill o dan hawliad yswiriant.
  • Rhaid i unrhyw gyhoeddusrwydd a roddir i’r prosiect gyfeirio at y cyfraniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru at ei ariannu.
  • Rhaid i gofnodion ynghylch gweithgareddau’r busnes a’r gwaith o ddarparu’r prosiect, gan gynnwys anfonebau gwreiddiol a dogfennau perthnasol eraill megis dyfynbrisiau neu dendrau cystadleuol, gael eu cadw am o leiaf saith mlynedd
  • Mae’n rhaid ichi ganiatáu i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r Comisiwn Archwilio archwilio’r prosiect. Ar gais, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth a/neu fynediad at ddogfennau gwreiddiol mewn perthynas â’r prosiect.

Dylech chi fod yn ymwybodol, os byddwch yn llwyddiannus, fod gan Lywodraeth Cymru yr hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, swm y grant a ddyfernir ichi a chrynodeb o’ch prosiect.

Mae'r wybodaeth a roddir yn y cais yn ddarostyngedig i’r Hysbysiad Preifatrwydd. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio sut y mae Llywodraeth Cymru’n prosesu ac yn defnyddio eich data personol a’ch hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Adran E: Talu'r grant

Hawliadau

Cewch gyflwyno hawliadau interim yn ystod eich prosiect.  Bydd nodiadau canllaw ynghylch sut i hawlio ar gael ar RPW Ar-lein pan fydd y grant wedi’i gadarnhau. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod y gwariant perthnasol wedi’i wneud a bod y gwaith wedi’i gwblhau yn unol â’r cynllun y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd taliadau’n cael eu gwneud drwy drosglwyddiad electronig i’ch cyfrif banc.

Dylid cyflwyno hawliadau terfynol am daliadau grant cyn gynted â phosibl ar ôl cwblhau’r gwaith ffisegol ar y prosiect, ac erbyn 31 Mawrth 2022. Os na fyddwch yn cyflwyno hawliadau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid ichi dalu’r grant a dalwyd yn ôl.

Yn ystod oes y grant, pan fydd hawliadau’n cael eu cyflwyno, efallai y byddant yn cael eu harchwilio i sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn unol â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol. Ar ôl cwblhau'r gwaith ffisegol, cynhelir ymweliad â’r safle ynghyd ag asesiad manwl o’r prosiect.

Hawliadau anghywir

Mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau bod pob hawliad sy’n cael ei gyflwyno yn rhifyddol gywir; ei fod ar gyfer gwariant sydd wedi’i wneud (bod yr arian wedi gadael eich cyfrif banc); bod yr holl eitemau a chostau’n gymwys a bod yr hawliad ar amser.

Os oes gennych unrhyw amheuon am unrhyw beth a fydd ei angen arnoch ar gyfer eich prosiect, mae'n hanfodol eich bod yn cael cadarnhad ysgrifenedig o'i gymhwysedd cyn ichi ysgwyddo unrhyw gostau.

Adran F: Monitro prosiectau

Mae’n ofynnol bod cynnydd eich prosiect yn cael ei fonitro a bod ei lwyddiant yn cael ei werthuso ar ôl iddo gael ei gwblhau. Bydd gofyn ichi ddarparu diweddariadau rheolaidd ar ei gynnydd ac adroddiad terfynol ar ei berfformiad dri mis ar ôl ei gwblhau, pan fydd y prosiect yn cael ei werthuso yn unol â’r amcanion a’r targedau sydd yn y cais a gymeradwywyd. Os na fydd y prosiect yn cyrraedd y targedau hyn ac, ar sail y cynnydd a wnaed mewn gwirionedd, na fyddai wedi bod yn gymwys i gael cymorth grant o dan y cynllun, gellir cymryd camau i adennill y grant sydd wedi’i dalu.

Ar ôl derbyn y grant, bydd yn ofynnol i’r cyfarpar a brynwyd gyda chymorth grant drwy gynllun TWIG gael ei gadw yn y fan a’r lle, yn weithredol ac mewn cyflwr da, a chael eu defnyddio at yr un diben ag a amlinellwyd yn y cais gwreiddiol, am bum mlynedd o ddyddiad cwblhau’r prosiect o leiaf, fel y nodwyd yn y llythyr cymeradwyo. Yn yr un modd rhaid peidio â throsglwyddo, gwerthu na chael gwared ar unrhyw dir a brynir â chymorth grant yn ystod y prosiect, nac am o leiaf 20 mlynedd ar ôl dyddiad diwedd y prosiect, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau hirhoedledd y prosiect ac yn sicrhau y bydd cymunedau lleol yn elwa ar fanteision y prosiect.

Mae’n rhaid ichi ganiatáu i swyddogion Llywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, arolygu’r prosiect ar unrhyw adeg resymol am gyfnod o bum mlynedd.

Diwedd Cynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetir

Rhaid cyflwyno pob hawliad i Lywodraeth Cymru yn unol â’r proffil cyflawni y cytunwyd arno ac erbyn 31 Mawrth 2022 fan bellaf.

Adran G: Y weithdrefn apelio

Os bydd cais yn cael ei wrthod, bydd y rhesymau dros hynny’n cael eu hamlinellir yn glir. Byddwn yn barod i drafod unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen i wneud y prosiect yn dderbyniol.

Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, ddod i’n llaw o fewn 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr sy’n disgrifio’r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg os mai dyna eich dymuniad. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.

Adran H: Y weithdrefn gwyno

Os ydych yn credu nad ydym wedi dilyn y drefn gywir wrth ddelio â’ch cais, efallai yr hoffech wneud cwyn yn unol â Pholisi Cwynion Llywodraeth Cymru.

Ymdrinnir â chwynion o dan God Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gwynion. Cewch ragor o gyngor ar sut i gyflwyno cwyn gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru 
Adeiladau’r Goron 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: complaints@llyw.cymru

Cwyn am Lywodraeth Cymru

Cewch hefyd gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae 
Pen-coed, 
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Adran I: Hysbysiad preifatrwydd – grantiau Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata a roddir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid grant. 

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid grant. Caiff y wybodaeth ei phrosesu fel rhan o’n gorchwyl cyhoeddus (h.y. gweithredu ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael arian.

Cyn rhoi arian grant ichi, byddwn yn cynnal archwiliadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, a gwirio pwy ydych chi.  Mae’r archwiliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, efallai y byddwn yn gwrthod rhoi’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu’n rhoi’r gorau i ddarparu cyllid grant cyfredol ichi.

Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu swydd ichi.

Er mwyn asesu cymhwysedd efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais ag awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau EM, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Heddlu.

Caiff aelod arall o’r cyhoedd ofyn i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch. Wrth ymateb i geisiadau o'r fath efallai y bydd yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, i gyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich data personol yn cael ei gadw am ddeg mlynedd ar ôl diwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os byddwch yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw eich manylion am flwyddyn ar ôl ichi eu rhoi inni.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:

  • gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi;
  • gofyn inni gywiro gwallau yn y data hwnnw;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau);
  • gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (o dan rai amgylchiadau);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu er mwyn arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
CAERDYDD 
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru  

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW Ar-lein.

Cysylltiadau

RPW Ar-lein

Gallwch fynd at wasanaethau RPW Ar-lein trwy Borth y Llywodraeth yn www.gov.uk, neu ar ôl ichi gofrestru ar gyfer gwasanaethau RPW Ar-lein, ewch i RPW Ar-lein. Os nad ydych wedi cofrestru eto ag RPW Ar-lein, ewch i wefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth ar sut i gofrestru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer eich holl ymholiadau, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPWGallwch ofyn cwestiwn unrhyw bryd ar RPW Ar-lein.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych anghenion arbennig a’ch bod yn teimlo nad yw ein cyfleusterau yn ateb y gofynion, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru a Thîm y Goedwig Genedlaethol

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Gellir anfon ymholiadau mewn perthynas â chymhwysedd ar gyfer y cynllun at Dîm y Goedwig Genedlaethol.

Atodiad 1: Canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu chwe chanlyniad lefel uchel i'r Goedwig Genedlaethol eu cyflawni yn ei chyfanrwydd. Nid ydym yn disgwyl i bob coetir gyflawni pob un o'r chwe chanlyniad. Er mwyn cael ei gynnwys yn y Goedwig Genedlaethol, rhaid i goetir gyflawni o leiaf tri chanlyniad hanfodol. Yn ddelfrydol, byddai'r coetir hefyd yn cyflawni un neu fwy o'r canlyniadau hynod ddymunol. Diben y cynllun hwn yw cefnogi gwaith cyfalaf i helpu i gyflawni’r canlyniadau, fel y gall rhagor o goetiroedd ddod yn rhan o'r Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol, naill ai yn dilyn y rownd hon o gyllid neu rowndiau yn y dilynol.  

Canlyniadau Goedwig Genedlaethol:

Gofynion hanfodol:

  • Coetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi’u cynllunio’n dda ac a reolir yn dda
  • Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl
  • Coetiroedd sy’n cynnwys cymunedau

Canlyniadau Hynod Ddymunol:

  • Coetiroedd Cysylltiedig
  • Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas
  • Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi

O ystyried natur lefel uchel y canlyniadau, mae gennych rywfaint o ddisgresiwn o ran sut rydych yn dangos bod y coetir yn eu cyflawni neu sut y bydd yn eu cyflawni yn y dyfodol yn dilyn y buddsoddiad. Fodd bynnag, mae'r math o bethau y gallai Llywodraeth Cymru ddisgwyl eu gweld yn cael eu hamlinellu isod.   

Canlyniadau hanfodol Dulliau ar gyfer cyflawni’r canlyniadau

Coetiroedd cydnerth o ansawdd uchel sydd wedi’u cynllunio’n dda ac a reolir yn dda

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys coetiroedd sy’n batrymau  enghreifftiol sy'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy ddiogelu, gwella a phlannu coed ac ardaloedd coetir, gan ein helpu ar yr un pryd i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd, gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth ac, mewn rhai achosion, ddarparu lleoedd ar gyfer hamdden a chyflogaeth.

Mae Safon Coedwigaeth y DU yn diffinio’r dull ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU. Mae’n berthynasol i bob math o goetir. Mae'r safon yn cwmpasu gwahanol elfennau o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy gan gynnwys:

  • bioamrywiaeth
  • y newid yn yr hinsawdd 
  • pobl
  • yr amgylchedd hanesyddol
  • tirwedd   
  • pridd: 
  • dŵr   

Drwy ddilyn UKFS a thrwy gynllunio a dylunio gofalus, a dilyn y mantra 'y goeden gywir yn y lle cywir', bydd y coetiroedd yn cyflawni'r amcanion hyn ac eraill i sicrhau eu bod yn gydnerth ac wedi'u diogelu at y dyfodol, gan greu ased cenedlaethol hirdymor a fydd yn parhau i genedlaethau'r dyfodol ei fwynhau.

Bydd cynlluniau rheoli clir ar waith i helpu'r coetir i ffynnu a goroesi, cynhelir llwybrau mynediad ac ati gan ddarparu'r amrediad ehangaf posibl o fanteision i bobl a natur. Fel rhan o'r cais, bydd angen i Lywodraeth Cymru weld tystiolaeth o’r canlynol:

  • cynllun creu coetiroedd a chynllun ar gyfer rheoli coetir newydd yn y dyfodol;
  • cynllun rheoli ar gyfer gwaith ar goetiroedd sy'n bodoli eisoes.

Dylai'r cynlluniau roi hyder i Lywodraeth Cymru fod y coetir yn cydymffurfio â'r UKFS.

Yn ogystal, os ydych eisoes wedi bodloni safonau eraill neu wedi ennill ardystiad neu ddyfarniadau eraill (e.e. Safon Sicrwydd Coetir y DU os yw'n berthnasol), neu os ydych yn gweithio tuag at y rhain, byddai'n ddefnyddiol gwybod hynny. Ar yr adeg hon gwybodaeth ddymunol yn hytrach na hanfodol yw hon, er y gallai ategu eich cais am grant, ac yn y pen-draw eich achrediad Coedwig Genedlaethol.  

Fel rhan o'r cynlluniau hyn, hoffem hefyd weld tystiolaeth o ystyriaethau amgylcheddol ehangach megis defnyddio gardiau a chlymau coed bioddiraddadwy yn lle rhai plastig.

Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl

Mae angen i goetiroedd sy’n rhan o’r Goedwig Genedlaethol fod ar gael i'r cyhoedd. Bydd angen seilwaith priodol ar waith i alluogi ac annog pobl amrywiol sydd ag anghenion hygyrchedd gwahanol i ddefnyddio'r coetiroedd – yn bennaf ar gyfer hamdden, ond gallai fod cyfleoedd hefyd i fentrau lleol.

Fel rhan o'r cais, bydd angen i Lywodraeth Cymru weld tystiolaeth bod mynediad agored neu ganiataol ar waith i rywfaint neu'r cyfan o'r safle, yn barhaol yn ddelfrydol, neu am gyfnod o 20 mlynedd o leiaf.

Byddem yn disgwyl gweld un fynedfa glir a chroesawgar o leiaf, gydag arwyddion dwyieithog a llwybr troed hygyrch.

Yn ddelfrydol, byddai seilwaith ar waith hefyd i ddenu amrediad eang o ymwelwyr a'u helpu drwy gydol eu hymweliad e.e. byrddau dehongli, llwybrau natur / addysgol, cerfluniau, mannau chwarae, seddi a mannau picnic.

Bydd gwefan hefyd yn bwysig, yn enwedig i safleoedd mwy, i alluogi pobl i ymchwilio a chynllunio eu hymweliad a deall pa gyfleusterau sydd ar y safle.

Coetiroedd sy’n cynnwys cymunedau

Mae angen i goetiroedd sy’n rhan o’r Goedwig Genedlaethol helpu cymunedau i ailymgysylltu â natur, yn enwedig mewn ardaloedd trefol lle mae’n bosibl nad oes mannau gwyrdd.

Fel rhan o'r cais, bydd angen i Lywodraeth Cymru weld tystiolaeth bod ymdrechion eisoes wedi cael eu gwneud i gynnwys cymunedau lleol wrth ddatblygu cynlluniau ar gyfer adfer a chreu coetiroedd yn eu hardaloedd lleol, neu fod yn hyderus y bydd hynny’n digwydd yn dilyn dyfarnu grant. 

Yn ddelfrydol, byddai cyfranogiad y gymuned hefyd yn cynnwys cyfleoedd i gymryd rhan yn y gwaith o wella, creu a rheoli'r coetiroedd drwy sefydlu grwpiau gwirfoddol, grwpiau ysgol ac ati. Gall hefyd gynnwys pethau fel darparu cyfleoedd economaidd i gymunedau lleol a gweithio gyda nhw i hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Gymru drwy'r safle.

Canlyniadau hynod ddymunol Dulliau ar gyfer cyflawni’r canlyniadau
Coetiroedd Cysylltiedig

Gydag amser bydd angen i goetiroedd sy’n rhan o’r Goedwig Genedlaethol gysylltu â’i gilydd i greu rhwydwaith ledled Cymru er mwyn galluogi natur i wella a ffynnu.

Fel rhan o'r cais, bydd angen i Lywodraeth Cymru weld tystiolaeth bod coetiroedd presennol yn cael eu gwella a choetiroedd newydd yn cael eu creu, bod cysylltiadau â choetiroedd eraill wedi cael eu hystyried ac y byddant yn rhan o'r prosiect, lle bo hynny'n ymarferol. Gallai hyn gynnwys gwella, ehangu a chysylltu cynefinoedd coetir sy'n bodoli eisoes â choetiroedd newydd sy’n cael eu plannu, neu â choridorau tirwedd fel gwrychoedd/perthi.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi, ym mlynyddoedd cynnar y Goedwig Genedlaethol, efallai na fydd bob amser yn ymarferol cysylltu ag ardaloedd coetir eraill drwy goed a phlanhigion, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Felly mae hwn yn ganlyniad hynod ddymunol, ond bydd yn dod yn fwy ymarferol wrth i arwynebedd coetiroedd yng Nghymru gynyddu.

Er bod y canlyniad hwn yn ymwneud yn bennaf â chysylltu coetiroedd i gefnogi natur, gallai hefyd gynnwys gwaith i gysylltu coetiroedd â phobl. Gallai hyn fod mewn perthynas â:

  • chysylltiadau emosiynol â choetiroedd, gan helpu i ennyn  diddordeb gwirioneddol pobl yn eu hamgylchedd naturiol; a/ neu 
  • gysylltiadau corfforol megis cysylltu coetiroedd â choetiroedd eraill neu â lle mae pobl yn byw drwy lwybrau troed, llwybrau beicio, trafnidiaeth gyhoeddus ac ati.
Coetiroedd a choed deinamig, amlbwrpas

Dylai coetiroedd sy’n rhan o’r Goedwig Genedlaethol anelu at sicrhau'r manteision mwyaf posibl i bobl, natur a'r amgylchedd ehangach drwy greu safleoedd amlbwrpas.  Fel rhan o'r cais bydd angen i Lywodraeth Cymru weld tystiolaeth bod y safle'n cael ei ddefnyddio mewn gwahanol ffyrdd neu eich bod yn gweithio tuag at wneud hynny.  Gallai hynny gynnwys rhai neu bob un o'r canlynol:

  • hamdden;
  • twristiaeth;
  • cyfleoedd addysgol/dysgu;
  • mentrau bach a chanolig ar lefel leol;
  • busnesau cynaeafu pren masnachol ar raddfa fawr sy'n cynyddu’r pren a dyfir yn y wlad hon;
  • cynnal bioamrywiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi na fydd yn addas nac yn briodol defnyddio rhai safleoedd at wahanol ddibenion, ac y byddai’n well iddynt  ganolbwyntio ar wneud rhywbeth yn dda iawn, a dyna pam mae hwn yn ganlyniad hynod ddymunol, yn hytrach na hanfodol.

Coetiroedd sy'n dangos dysgu, ymchwil ac arloesi

Dylai coetiroedd sy’n rhan o’r Goedwig Genedlaethol ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy goetiroedd amlbwrpas. Gallai hyn gynnwys:

  • dysgu oddi wrth bobl eraill ac adeiladu ar eu gwaith;
  • profi ffyrdd newydd o weithio;
  • rhannu'r arloesi, yr ymchwil a'r dysgu hwnnw ag eraill.

Gallai'r dystiolaeth a roddir i Lywodraeth Cymru ar gyfer y canlyniad hwn fod yn helaeth iawn. Gall enghreifftiau gynnwys dangos ffyrdd newydd a gwahanol o wneud y canlynol:

  • creu coetiroedd amlbwrpas;
  • cynnwys cymunedau lleol yn y gwaith o’u datblygu a’u rheoli;
  • camau gweithredu i gefnogi bioamrywiaeth;
  • darparu gwasanaethau amgylcheddol ecosystemau (e.e. ansawdd aer a dŵr, diogelu rhag llifogydd a sychder);
  • sicrhau y gellir gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol (e.e. dewis y goeden gywir ar gyfer y lle cywir);
  • darparu cyfleoedd addysgol (e.e. ysgolion coedwig).

 

Atodiad 2: Rhestr wirio cynlluniau a chydsyniadau ar gyfer coetir

Mae'r tabl isod yn amlinellu’r cynlluniau coetir, y caniatâd cynllunio a'r cydsyniadau amgylcheddol a all fod eu hangen ar gyfer eich prosiect. Ar adeg gwneud cais i gynllun TWIG byddem yn disgwyl i bob un sydd ei angen fod ar waith neu fod yn at fod ar waith. Os nad ydynt ar waith ar hyn o bryd, efallai y bydd cymorth technegol ar gael gan Gyfoeth Naturiol Cymru – gweler y tabl isod. Dyma fanylion cyswllt Tîm y Goedwig Genedlaethol: NationalForestWales@llyw.cymru.

  Er mwyn i'r prosiect fynd yn ei flaen, gwiriwch yr eitemau canlynol Oes Nac oes
1 A oes Cynllun Rheoli Coetir ar waith (gofyniad gorfodol ar gyfer cynllun TWIG)? for TWIG)?

Rhowch gopi.  

Bydd angen ichi greu un yn unol â gofynion UKFS neu ddefnyddio'r canllawiau a'r templed a ddatblygwyd gan CNC sydd ar gael ar gais drwy e-bostio: enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
2

Fel rhan o'ch Cynllun Rheoli Coetir, a oes angen trwydded cwympo coed? 

Rhowch gopi ac eglurwch sut mae'n gysylltiedig â'ch cais. I gael trwydded cwympo coed cyfeiriwch at Cyfoeth Naturiol Cymru/Trwyddedau cwympo coed. Dim camau i’w cymryd.
3 A oes angen Cynllun Creu Coetir? Rhowch gopi. Os nad oes un ar waith eto, bydd angen ichi greu un yn unol ag UKFS.  Dim camau i’w cymryd.
4 A oes angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol? Rhowch gopi o’ch cydsyniad. Os nad oes un ar waith eto, gwnewch gais am un.  Mae gwybodaeth a chanllawiau ar gael yma: Cyfoeth Naturiol Cymru/Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer weithgareddau coedwigaeth Dim camau i’w cymryd.
5 A oes angen caniatâd cynllunio?  Rhowch gopi. Os nad oes un ar waith eto, cyfeiriwch at ganllawiau ac amserlenni perthnasol yr awdurdod cynllunio lleol. Dim camau i’w cymryd.
6 A oes angen unrhyw drwyddedau / cydsyniadau eraill?  E.e. Trwydded Rhywogaethau a Warchodir

Rhowch gopïau. Am ragor o arweiniad ewch i:

Cyfoeth Naturiol Cymru/Pan fydd angen ichi wneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir

 

Dim camau i’w cymryd.

Fersiwn: 1.0 
Dyddiad Cyhoeddi: Gorffennaf 2021 
Cyhoeddwyd gan: Llywodraeth Cymru