Bydd Grant Coetiroedd Bach yn creu 100 o Goetiroedd Bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025.
Cynnwys
Cyflwyniad
Bydd Grant Coetiroedd Bach yn creu 100 o Goetiroedd Bach rhwng Ebrill 2023 a diwedd Mawrth 2025. Mae'n rhan o Raglen Coedwig Genedlaethol i Gymru.
Yn dilyn creu pum coetir bach fel rhan o gynllun peilot yn 2020, agorodd y cynllun hwn, sydd â chyllid gwerth £2.26 miliwn, ar 3 Ebrill. Ni sy'n ariannu'r cynllun, a bydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ei weinyddu ar ein rhan.
Bydd y cynllun yn darparu cymorth ariannol i bobl creu Coetiroedd Bach. Rhaid i’r coetiroedd hyn fod â’r potensial i fod yn rhan o Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sydd
- yn cael eu rheoli'n dda
- yn hygyrch i bobl
- yn rhoi'r cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur
Nodweddion allweddol
Bydd y cynllun yn cynnig:
- grantiau gwerth hyd at £40,000 fesul safle. Caiff ymgeiswyr wneud un cais ar gyfer nifer o safleoedd. Ni chaiff cost pob safle fod dros £40,000, a'r uchafswm grant sydd ar gael fesul cais yw £250,000. Ni chaiff ymgeiswyr gyflwyno mwy nag un cais.
- cyllid gwerth hyd at 100%
- hyfforddiant cynhwysfawr gan Earthwatch ar greu Coetir Bach
- aelodaeth o rwydwaith Tiny Forest, dan arweiniad Earthwatch
- tan ddiwedd mis Mawrth i gwblhau'r prosiect
- cyllid cyfalaf a refeniw
- cyngor a chymorth gan Swyddogion Cysylltu Coetir wrth gynllunio eich prosiect
Mae'r cynllun yn agored i sefydliadau, cymunedau ac unigolion:
- sy'n berchennog neu’n rheolwr tir
- sydd am greu coetiroedd bach newydd
- a fydd yn eu rheoli ar y cyd â'r gymuned leol
Sut i wneud cais
Cyn gwneud cais dylech ddarllen y canllawiau. Dylech hefyd siarad â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Rydyn ni'n disgwyl i ymgeiswyr:
- gysylltu â'ch Swyddog Cysylltu Coedwig Genedlaethol i Gymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am fanylion, e-bost: StatwsCoedwigGenedlaetholCymru@cyfoethnaturiol.cymru. Gallen nhw helpu gyda'ch cais. Byddan nhw hefyd yn gallu dweud wrthych sut i ymuno â Rhwydwaith Coedwig Genedlaethol Cymru.
- gwneud cais am yr holl gydsyniadau neu ganiatadau cyn cyflwyno eich cais, gan:
- eich awdurdod lleol
- Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
- cyrff perthnasol eraill fel Cadw
Ewch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i wneud cais.
Gwybodaeth pellach
Rydyn ni'n cynllunio rownd arall yn hwyrach yn y flwyddyn.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: CoedwigGenedlaetholCymru@llyw.cymru.