Sut y byddwn yn gwireddu ein hymrwymiad i gryfhau'r mesurau ar gyfer diogelu coetiroedd hynafol.
Cynnwys
Cyflwr presennol ein coetiroedd hynafol
Mae coetir hynafol yn goetir sydd wedi bod mewn bodolaeth yn ddi-dor ers y flwyddyn 1600 neu cyn hynny. Fel arfer, mae'r coetiroedd hyn:
- yn fwy ecolegol amrywiol
- yn uwch eu gwerth o safbwynt cadwraeth natur
- yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ecosystem
Maen nhw'n cymryd canrifoedd i ffurfio ac yn amhosib eu hadfer ar ôl eu colli.
Mae ein coetiroedd hynafol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol ac mae’r rheini sy’n rhan o’r coedwigoedd glaw Celtaidd neu Iwerydd o dan fwy o fygythiad na'r coedwigoedd glaw trofannol. Dyma pam mae llawer o'r coedwigoedd hyn wedi'u dynodi'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA neu SSSI) neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae gennym oddeutu 95,000 hectar o goetir hynafol. Mae 42,000 hectar o hwnnw’n goetir lled-naturiol hynafol sydd wastad wedi'i reoli fel coetir lled-naturiol. Mae'r rheini'n wahanol i'r planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol (PAWS) neu'r rhai sy'n cael eu hadfer i gyflwr mwy naturiol.
Cafodd llawer o'r bygythiadau sy'n wynebu coetir hynafol eu disgrifio yn yr adroddiad "Cyflwr Coedwigoedd Glaw Cymru 2024" a gyhoeddwyd gan Gynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru. Gellir eu crynhoi fel a ganlyn:
bygythiadau uniongyrchol fel:
- colledion yn sgil cwympo coed yn anghyfreithlon
- colledion oherwydd cwympo coed at ddibenion datblygu
bygythiadau anuniongyrchol sy'n dirywio cyflwr coed a choetir hynafol megis:
- llygredd aer
- diffyg rheolaeth dda
Gyda'i gilydd, mae'r bygythiadau hyn yn cael effaith negyddol ar goed a choetiroedd hynafol. O beidio â gwneud rhywbeth, mae perygl y gwelwn ddirywiad na ellir ei wrthdroi.
Mae'r datganiad hwn yn esbonio sut yr ydym am fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn trwy gryfhau'r mesurau i ddiogelu coed a choetir hynafol. Mae hyn yn gyson â'n hymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu. Mae llawer o'r gwaith hwn eisoes wedi dechrau ac mae mwy yn cael ei ddatblygu. Bydd y gwaith yn ein helpu i fodloni'r gofynion yn adroddiad Cynghrair Coedwigoedd Glaw Cymru, i gryfhau'r coedwigoedd glaw i allu gwrthsefyll y bygythiadau. Byddwn yn ystyried pa waith arall y gallwn ei wneud yn y tymor hir. Nid yw'r canlynol yn rhestr lawn o'r holl fygythiadau a chynlluniau. Mae'n canolbwyntio ar y blaenoriaethau strategol.
Diogelu coed a choetiroedd hynafol rhag eu cwympo
Polisi cynllunio
Mae coed a choetir, gan gynnwys coetir hynafol, yn gallu cael eu colli oherwydd datblygiad. Rydym wedi cryfhau'r mesurau diogelu yn y system gynllunio neu'n gweithio at wneud hynny.
Mae awdurdodau lleol yn gorfod dilyn canllawiau Polisi Cynllunio Cymru (PCC) wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a pharatoi cynlluniau datblygu. Mae PCC yn cynnig fframwaith cadarn ar gyfer diogelu coed, coetiroedd a pherthi (gwrychoedd) gan gynnwys coed hynafol. Mae'r PCC12 diwygiedig, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024, yn cryfhau'r amddiffyniad hwn.
Mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio nawr ddilyn polisi bioamrywiaeth fesul cam. Mae'r ffordd hon o weithio'n nodi mai'r flaenoriaeth yw osgoi niweidio bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau.
Mae'n sicrhau nad ydym, wrth gynnal gwaith datblygu, yn colli bioamrywiaeth neu ein bod yn cymryd camau digolledu. Mae'r mesurau i ddiogelu coed a choetir hynafol yn mynd ymhellach. Maen nhw’n atal colledion neu effeithiau yn sgil datblygiad oni bai bod y datblygiad, o dan amgylchiadau eithriadol iawn, yn esgor ar fuddion cyhoeddus sylweddol sydd wedi'u diffinio'n glir. Mae angen y cafeat hwn arnom i sicrhau ein bod yn ystyried effeithiau mathau penodol o gynigion datblygu. Yr awdurdod cynllunio lleol fydd yn penderfynu ar hyn, gan roi sylw i'r holl ystyriaethau cynllunio perthnasol. Mae angen gwneud hyn a'r broses fesul cam i gyfiawnhau unrhyw golled neu ddifrod i goed a choetiroedd hynafol.
Gall awdurdodau cynllunio ddiogelu coed a choetiroedd drwy wneud Gorchymyn Cadw Coed (TPO). Edrychodd Comisiwn y Gyfraith ar ein deddfau cynllunio yn 2018 a gwneud sawl argymhelliad, gan gynnwys i ddiogelu coed yn well o fewn y system gynllunio. Yn eu plith, roedd argymhellion i newid y rheoliadau TPO a’u gwneud yn fwy effeithlon fel cyfrwng i amddiffyn coed. Er enghraifft, tynhau'r rheolau ynghylch gwaith ar goed marw, coed sydd ar fin marw neu goed peryglus. Ichi gael gwneud gwaith ar goeden i'w gwneud yn ddiogel heb ganiatâd, byddai'n rhaid bod risg fyw i'r goeden achosi niwed difrifol.
Mae argymhellion Comisiwn y Gyfraith yn cael eu hystyried fel rhan o brosiect llawer mwy i ddod â'r gyfraith gynllunio yng Nghymru ynghyd. Bydd rheoliadau TPO newydd yn cael eu hystyried fel rhan o Fil Cynllunio (Cymru) a fydd yn dod â'r holl ddeddfau cynllunio ynghyd. Rydym yn bwriadu rhoi argymhellion Comisiwn y Gyfraith yr ydym yn cytuno arnynt ar waith drwy:
- ddod â deddfau cynllunio ynghyd
- diwygio rheoliadau TPO
- adolygu ein canllawiau
Bydd hyn yn diogelu ein coed a'n coetir, gan gynnwys coetiroedd hynafol, yn well.
Rydym hefyd yn chwilio am gyfleoedd i:
- drafod sut orau i ddiogelu coed
- cynyddu ymwybyddiaeth am yr offer cynllunio sydd ar gael i ddiogelu coed
- tynnu sylw at werth offer cynllunio o ran cyflawni amcanion bioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd
- tynnu sylw sefydliadau at y mesurau diogelu y maen nhw'n eu rhoi ar waith. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys:
- fforymau cynllunio awdurdodau lleol
- sefydliadau ecolegol y sector cyhoeddus a'r sector preifat
- grwpiau tirwedd
- y sector datblygu ehangach
Cynlluniau gwella ffyrdd
Gall cynlluniau gwella ffyrdd effeithio ar goed a choetiroedd hynafol yn bennaf trwy orfod cwympo coed ac effeithiau llygredd. Mae Llwybr Newydd i Natur - Cynllun Gweithredu ar gyfer Adfer Natur ar Rwydwaith Ffyrdd Strategol Cymru wedi ein hymrwymo i:
- egwyddor na ddylai prosiectau seilwaith ffyrdd olygu dinistrio cynefinoedd anadferadwy
- rhoi mwy o amddiffyniad i goetiroedd hynafol wrth gynllunio gwelliannau i'r seilwaith ffyrdd
- gweld yr effeithiau negyddol posibl yn gynnar ac yn eu hosgoi lle medrir
Bydd caniatáu effeithiau negyddol ar goed a choetir hynafol yn ddewis olaf. Ni fydd cynlluniau sy'n effeithio ar goetir hynafol yn cael mynd rhagddynt ond lle bydd buddion cyhoeddus sylweddol sydd wedi'u diffinio'n glir.
Pan na ellir osgoi effaith ar goetir hynafol, bydd mesurau priodol yn cael eu cymryd i liniaru'r effeithiau hynny. Byddwn yn ystyried sut i fonitro a gwerthuso'r mesurau lliniaru hyn. Bydd yn cynnwys dull cyson o nodi coed a choetiroedd hynafol.
Trwyddedau cwympo coed
Mae cwympo coed yng Nghymru yn cael ei reoleiddio drwy Ddeddf Coedwigaeth 1967. Rhaid i berchennog gael trwydded cwympo coed cyn torri coed sy'n tyfu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhoi trwyddedau cwympo coed yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (UKFS). Dyma safon y llywodraeth ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy.
Diwygiwyd Deddf Coedwigaeth 1967 drwy Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 i gryfhau’r amddiffyniad i fywyd gwyllt a'r amgylchedd wrth i waith cwympo coed fynd rhagddo. Mae CNC yn cael cynnwys amodau amgylcheddol mewn trwydded cwympo coed. Mae ein coetiroedd hynafol a'n coed hynod yn cael eu gwarchod bellach yn ystod gwaith cwympo. Mae hyn yn adeiladu ar y rheolau a'r canllawiau yn yr UKFS, y mae'n rhaid i bob trwydded cwympo coed gydymffurfio â nhw.
Mae CNC wedi erlyn sawl perchennog tir yn llwyddiannus am gwympo coetiroedd brodorol yn anghyfreithlon heb drwydded cwympo. Mae Deddf Coedwigaeth 1967 wedi'i diwygio fel bod cosb o ddirwy heb derfyn bellach am gwympo coed yn anghyfreithlon. Bydd hyn yn anogaeth i bobl beidio â chwympo coed yn anghyfreithlon.
Diogelu coetiroedd a choed hynafol rhag i’w cyflwr a'u gwytnwch ddirywio
Mae coed a choetir hynafol dan bwysau oherwydd bygythiadau anuniongyrchol. Gall y pwysau hwn ddirywio eu cyflwr a'u gwneud yn llai abl i wrthsefyll effeithiau hinsawdd sy'n newid. Y prif fygythiadau anuniongyrchol a'r mesurau i fynd i'r afael â nhw yw:
Llygredd aer
Mae llygredd aer yn niweidiol i gyflwr llawer o goedwigoedd a'u swyddogaethau ecosystem. Mae allyriadau amonia yn fygythiad difrifol i goetiroedd hynafol. Aseswyd bod lefel yr amonia yn 61% o'n coetiroedd lled-naturiol hynafol yn uwch na'r lefel sy'n beryglus i gen a bryoffytau. Dulliau amaethu dwys yw'r ffynhonnell bennaf. Mae'r ddau yn hanfodol er mwyn i ecosystemau coetir hynafol allu gweithredu ond gyda lefel mor uchel o amonia, byddan nhw'n ei chael hi'n anodd goroesi.
Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i leihau llygredd amonia. Mae'r gwaith hwn yn cynnwys gweithredu’r argymhellion sydd wedi deillio o’r adolygiad 4 blynedd o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (CoAP). Mae’r argymhellion, a fydd yn cael eu gweithredu’n llwyr, yn cyflwyno mesurau sydd wedi’u llunio’n benodol i gyfrannu at gyflawni ymrwymiadau statudol o ran lleihau allyriadau. Bydd lleihau llygredd amonia o amaethyddiaeth yn lleihau’r effaith negyddol ar ein coetiroedd hynafol.
Gallai'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) wella cyflwr y coetiroedd hynafol sy'n weddill ar ffermydd Cymru. Mae rhai arferion ffermio yn niweidio cyflwr coetiroedd hynafol, a gallai eu newid ddod â budd i goetiroedd hynafol a chynefinoedd. Mae'r cynigion ar gyfer yr SFS yn cynnwys gweithredoedd opsiynol i leihau effaith allyriadau amonia ar yr amgylchedd. Gallai'r camau hyn gynnwys addasu tai da byw a storfeydd slyri a gwasgaru slyri'n fanwl-gywir. Gallai plannu coed cysgodi o amgylch adeiladau da byw a storfeydd slyri leihau effaith allyriadau amonia ar goetiroedd hynafol. Maer rhagor o fanylion ar gael ar ein tudalennau gwe’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Mae ein strategaeth, Cynllun Aer Glân Cymru, yn nodi camau i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer. Mae Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 yn adeiladu ar ein hymrwymiadau yn y strategaeth hon i fynd i'r afael â llygredd aer. Mae'r Ddeddf yn cynnwys fframwaith ar gyfer gosod targedau ansawdd aer cenedlaethol sy'n rhoi pwerau a dyletswyddau i Weinidogion wneud rheoliadau at y diben hwn. Bydd y targedau ansawdd aer cenedlaethol yn rhoi mecanwaith cryf ar gyfer gwireddu amcanion hirdymor ar gyfer aer glân. Daw hyn â manteision i gymunedau a’r amgylchedd.
Rhaid i'n Gweinidogion hyrwyddo hefyd ymwybyddiaeth o
- y risgiau i iechyd pobl a’r amgylchedd naturiol a achosir gan lygredd aer, a
- ffyrdd o leihau llygredd aer neu gyfyngu arno.
Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu mentrau a'u rhoi ar waith.
Cymorth ar gyfer rheoli coetiroedd
Mae coetir llydanddail yn gartref i fwy o rywogaethau bregus a than fygythiad nag unrhyw gynefin arall. Ond mae'r rhan fwyaf o'n coetiroedd mewn cyflwr ecolegol canolraddol. Dim ond 9% o'n coetiroedd brodorol sydd mewn cyflwr ffafriol. Bydd rheolaeth briodol yn gwella eu cyflwr a’u gallu i wrthsefyll pwysau fel newid hinsawdd.
Cafodd haen gyffredinol yr SFS ei diweddaru a'i chyhoeddi ar 25 Tachwedd 2024. Rydym yn ei defnyddio i ddiweddaru ein dadansoddiad economaidd a'n hasesiad o'i heffeithiau. Bydd rheini'n ein helpu i benderfynu ar y cynllun terfynol. Rydym yn disgwyl lansio'r cynllun yn 2026.
Mae ein cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) yn cynnwys Gweithredoedd Cyffredinol i ffermwyr:
- gynnal y gorchudd coed presennol
- cwympo coed yn y cyfnod caeedig yn unig
- nodi cyfleoedd i gynyddu'r gorchudd coed a pherthi (gwrychoedd) a sicrhau llawer o fanteision
Nod y Gweithredoedd Opsiynol a gynigir yw helpu ffermwyr i reoli eu coetiroedd gan gynnwys eu coetiroedd hynafol. Ein dyhead yw i'r SFS ein helpu i reoli coetiroedd yn briodol er mwyn gwella cyflwr coetiroedd hynafol a'u gwneud yn fwy gwydn. Mae ein Cynllun Creu Coetir yn rhoi grantiau i blannu clustogfeydd o goed i atal cemegau fferm ac i gysylltu cynefinoedd coetir hynafol. Gall y mesurau hyn ein helpu i reoli ein coetiroedd hynafol a'u gwneud yn fwy cydnerth.
Mae nodau Rhaglen y Goedwig Genedlaethol yn cynnwys adfer a gwarchod coetiroedd hynafol. Daeth cyfleoedd yn ei sgil i reoli ac adfer coetiroedd hynafol yn well trwy:
- y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)
- Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol
Mae nifer cynyddol o goetiroedd hynafol sydd yn nwylo preifat yn ennill Statws Coedwig Cenedlaethol. Mae TWIG wedi cyllido gwaith creu coetiroedd newydd a gwella coetiroedd presennol, gan gynnwys coetir hynafol.
Rydym yn gweithio'n agos gyda Phrosiect Mawddach sy'n rhan o Bartneriaeth Coedwig Glaw Eryri. Byddwn yn dysgu wrth weithio yn ardal y goedwig law dymherus hon ac yn profi dull rheoli ar sail dalgylch. Byddwn yn cefnogi canlyniadau'r prosiect sy'n adlewyrchu canlyniadau'r Goedwig Genedlaethol. Bydd cymryd rhan yn ein helpu i ddysgu a allwn weithio mewn ffordd debyg mewn meysydd eraill.
Mae'r Cynllun Adfer Coetir yn talu perchnogion coetiroedd i ailblannu safleoedd, gan gynnwys Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS), lle bu'n rhaid clirio coed llarwydd oherwydd clefyd Phytopthora ramorum. Mae'r taliadau hyn yn sicrhau bod safleoedd o'r fath yn parhau dan orchudd coetir ac yn annog troi PAWS yn raddol yn goetir hynafol.
Rydym hefyd yn darparu cefnogaeth drwy ein Rhaglen Rhwydwaith Natur i wella cyflwr a chysylltedd coetiroedd hynafol. Mae'r cymorth hwn ar gyfer coetiroedd sy'n cefnogi neu'n rhan o'n rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig.
Mae cyfanswm o £19.8 miliwn ar gael yn 2025-26 ar gyfer mesurau a all helpu i wella cyflwr a gwydnwch coetiroedd, gan gynnwys coetiroedd hynafol. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer plannu coetiroedd a all greu lleiniau clustogi sy’n diogelu a chysylltedd ar gyfer coetiroedd hynafol, a chymorth drwy Raglen Coedwig Genedlaethol Cymru a’r Gronfa Rhydwaith Natur fel y bo’n briodol. Bydd rhagor o fanylion ynghylch pob mesur yn cael eu cyhoeddi’n unigol.
Monitro: Dangosyddion Coetiroedd i Gymru
Mae'r Rhestr Coedwigoedd Genedlaethol yn gasgliad o ddata am goedwigoedd a choetiroedd Prydain. Rydym wedi comisiynu Forest Research i ddefnyddio'r data hwn a data arall i ddatblygu dangosyddion newydd ar gyfer ein strategaeth Coetir i Gymru. Yn eu plith y bydd:
- ffigurau wedi'u diweddaru o faint y coetiroedd hynafol
- data am goed hynafol a hynod, ynghyd â safleoedd coetir dynodedig
- data ar faint y coetir hynafol sy'n cael ei reoli
Bydd y gwaith hwn yn darparu llinell sylfaen i fonitro effaith gwahanol fesurau i ddiogelu coetiroedd hynafol.
Atodiad 1 yn nodi gweithgareddau ac allbynnau pob mesur a sut maen nhw'n cryfhau'r mesurau i ddiogelu coetiroedd hynafol.