Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydym am ddiogelu a datblygu'n coetiroedd dros yr 50 mlynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Strategaeth

Yn 2018, cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o Coetiroedd i Gymru, ein strategaeth 50 mlynedd ar gyfer coetiroedd a choed yng Nghymru. 

Mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer coed, coetiroedd a choedwigoedd Cymru. Mae wedi'i greu o amgylch pedair thema strategol:

  • ymateb i newid yn yr hinsawdd
  • coetiroedd i bobl
  • sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig
  • ansawdd yr amgylchedd

Archwiliad Dwfn i Goed a Phren

Ym mis Mehefin 2021, cynhaliodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, archwiliad dwfn. Y nod oedd nodi a blaenoriaethu cyfres o gamau gweithredu i:

  • blannu rhagor o goed, a
  • chwalu’r rhwystrau sy’n gysylltiedig â:
  1. creu coetir, gan ystyried y niferoedd heriol o uchel o goed y mae angen eu plannu er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
  2. defnyddio pren o Gymru yn y maes adeiladu a’r angen i ddatgarboneiddio tai Cymru
  3. annog cymunedau i blannu coed

Yn ystod yr archwiliad dwfn, aeth tasglu o arbenigwyr ati i weithio gyda'i gilydd. Datblygon nhw'r Tasglu Coed a Phren: argymhellion i sbarduno newid. Roedd eu hargymhellion yn amlinellu'r blaenoriaethau sydd gennym ar hyn o bryd. Byddant yn cyfrannu at gyflawni Strategaeth Coetiroedd Cymru.

Dangosyddion

Mae adroddiadau Dangosyddion Coetiroedd i Gymru yn mesur ein cynnydd tuag at y canlyniadau lefel uchel a ddisgrifir yn Coetiroedd i Gymru.

Mae'r 23 dangosydd yn ymdrin â newidiadau o ran ardal a natur coetiroedd a choed Cymru. Maent hefyd yn monitro'r nwyddau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Mae'r adroddiad diweddaraf yn cynnwys:

  • ffynonellau data
  • y duedd a ddymunir ar gyfer pob dangosydd
  • gwybodaeth sylfaenol, lle bo ar gael. 
  • sylwebaeth yn nodi perthnasedd, pwyntiau allweddol ac unrhyw nodiadau i roi cyd-destun i'r data