Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn am eich barn ar ddrafft Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus.

Canllawiau arferion gorau ar gyfer awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned a chyrff cyhoeddus eraill ydynt, a’u bwriad yw helpu’r cyrff hynny i ddod i benderfyniadau hyddysg ynghylch coffáu cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol.

Mae'r canllawiau mewn dwy ran:  

Mae rhan 1 yn cyflwyno'r materion sy'n ymwneud â choffáu cyhoeddus a'u heffaith.

Mae rhan 2 yn nodi pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn a sylweddoli cyfraniad coffáu cyhoeddus i sicrhau Cymru wrth-hiliol.

Dyma'r pedwar cam:

  1. Sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol.
  2. Gosod amcanion ar gyfer coffáu cyhoeddus.
  3. Sefydlu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau.
  4. Gweithredu.

Mae'r canllawiau yn dilyn Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o Goffáu yng Nghymru, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2020. Mae'n cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru hefyd, sy'n ddyletswydd ar gyrff cyhoeddus i fod â chyfrifoldeb 'am gyflwyno'r naratif hanesyddol priodol, gan hyrwyddo a chyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi'i ddad-drefedigaethu o'r gorffennol’. Mae'r cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys camau penodol i 'adolygu ac ymdrin yn briodol â'r ffordd y caiff pobl a digwyddiadau â chysylltiadau hanesyddol hysbys â chaethwasiaeth a threfedigaethedd eu coffáu mewn gofodau a chasgliadau cyhoeddus, gan gydnabod y niwed a wnaed yn sgil eu gweithredoedd ac ail-lunio'r ffordd y caiff eu hetifeddiaeth ei chyflwyno er mwyn cydnabod hyn yn llawn.’

Mae'r canllawiau'n cydnabod bod Cymru yn gymdeithas amrywiol, ond bod llawer o'i nodweddion prin i'w gweld yn ei choffáu cyhoeddus, sydd efallai ddim yn adlewyrchu gwerthoedd cyfoes. Wrth osod amcanion ar gyfer coffáu, mae cyfle i fynd i'r afael â diffyg cynrychiolaeth ac ymateb i werthoedd sy'n newid, yn ogystal â dyfnhau ein dealltwriaeth o faterion a digwyddiadau hanesyddol.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

C1: Wrth feddwl am destun y Canllawiau yn ei gyfanrwydd, a ydych chi'n meddwl y byddant yn ddefnyddiol i gyrff cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb am goffáu?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Yn rhannol
  • Ddim yn gwybod

Ychwanegwch unrhyw sylwadau yr hoffech eu gwneud ar y ddogfen gyffredinol:

C2: Un o nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yw cyflwyno disgrifiad cytbwys, dilys ac wedi'i ddad-drefedigaethu o'r gorffennol.  A ydych chi'n meddwl bod y Canllawiau cyfrannu at y nod?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Yn rhannol
  • Ddim yn gwybod

A oes angen unrhyw newidiadau i'r ddogfen ganllawiau er mwyn helpu i gyrraedd y nod hwn?

C3: Mae Rhan 1 y ddogfen yn cyflwyno'r materion cymhleth sy'n ymwneud â choffáu cyhoeddus. Mae ffocws y ddogfen ar effaith coffáu ar gymunedau drwy bwnc, math, arddull a lleoliad y coffáu. A yw'n cynnig crynodeb digonol o'r materion y dylai cyrff cyhoeddus fod yn ymwybodol ohonynt wrth wneud penderfyniadau ar goffáu?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Yn rhannol
  • Ddim yn gwybod

Pa newidiadau, os o gwbl, ydych chi'n meddwl y dylid eu gwneud i'r adran hon?

C4: Mae Cam 1 y Canllawiau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau cynhwysol. Mae'n nodi rhai egwyddorion cyffredinol ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol. A ydych chi'n cytuno â'r egwyddorion hyn?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Yn rhannol
  • Ddim yn gwybod

Eglurwch ym mhle, yn eich barn chi, y mae'r bylchau neu'r hepgoriadau.

C5: Mae Cam 2 y Canllawiau yn cynnig gosod amcanion ar gyfer coffáu cyhoeddus yn unol â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: pa gyfleoedd eraill sydd ar gael i ddefnyddio coffáu cyhoeddus mewn ffordd gadarnhaol?

C6: A yw'r meini prawf a awgrymir yng ngham 3 y Canllawiau sydd i'w defnyddio wrth wneud penderfyniadau, yn ddefnyddiol?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Yn rhannol
  • Ddim yn gwybod

Dywedwch wrthym pa newidiadau, os o gwbl, yr hoffech eu gweld yn yr adran hon o'r canllawiau:

C7: Mae cam 4 y canllawiau yn ymwneud â chymryd camau er mwyn cyflawni amcanion a mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan goffáu cyhoeddus. Ydy’r adran hon yn ymdrin yn ddigonol â’r opsiynau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Yn rhannol
  • Ddim yn gwybod

Pa newidiadau, os o gwbl, a fyddech chi'n eu gwneud i'r adran hon? Oes unrhyw opsiynau pwysig ar gael i gyrff cyhoeddus sydd ddim wedi'u cynnwys yn ddigonol yma?

C8: Ydych chi'n credu bod yr Astudiaethau Achos sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau yn enghreifftiau defnyddiol o'r materion a'r amryw o opsiynau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus?

  • Ydw
  • Nac ydw
  • Yn rhannol
  • Ddim yn gwybod

Awgrymwch unrhyw newidiadau yr hoffech eu gweld i'r rhain.

C9: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r canllawiau yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
 
Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai?  Sut y gellid gynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol?

C10: Eglurwch hefyd sut rydych chi'n credu y gellid newid y Canllawiau arfaethedig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, heb ddim effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Sut i ymateb

Gallwch gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos ar 21 Chwefror 2023, gan ddefnyddio unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

Cadw
Llywodraeth Cymru
Tŷ'r Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)

Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu yn rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru yn delio â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Lle mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgynghoriad yna gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Roedd telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn amlinellu gofynion llym o ran prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn iawn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosib y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, mae enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych am i'ch enw neu eich cyfeiriad gael ei gyhoeddi, dywedwch hyn wrthym yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Yna byddwn yn eu hadactio cyn cyhoeddi.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau yn sgil deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth

Os yw eich manylion yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw un o'ch data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am ddim mwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi ac i gael mynediad iddo
  • i’w wneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
  • i (mewn amgylchiadau penodol) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
  • i’ch data (o dan amgylchiadau penodol) gael ei 'ddileu'
  • i (mewn amgylchiadau penodol) gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Am fanylion pellach am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: data.protectionofficer@gov.wales

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu  0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

 

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Am ragor o wybodaeth:

Cadw
Llywodraeth Cymru
Tŷ'r Afon
Heol Bedwas
Caerffili
CF83 8WT

E-bost: canllawiaucoffau@llyw.cymru