Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn galw ar bobl Cymru i aros i feddwl a chofio am drychineb Aberfan trwy gynnal munud o dawelwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Collodd 144 o bobl eu bywydau yn nhrychineb 1966, 116 ohonyn nhw’n blant ysgol gynradd, pan lithrodd tomen lo i lawr ochr y mynydd uwchlaw pentref Aberfan, ger Merthyr Tudful.

Meddai Carwyn Jones:

“Rwy’n galw ar bobl Cymru i ddod ynghyd am funud o dawelwch am 9.15 o’r gloch fore Gwener, 21 Hydref.

“Y drychineb yn Aberfan, 50 mlynedd yn ôl, oedd un o’r dyddiau tywyllaf yn hanes modern Cymru ac rydym yn awyddus i gofio am yr oedolion a’r plant ysgol a gollodd eu bywydau. Rydyn ni hefyd yn meddwl am y rheini oroesodd y drychineb - y rheini a gollodd anwyliaid a’r rheini a atebodd yr alwad i chwilio a gofalu am oroeswyr, ac i mofyn y rheini a fu farw.

“Cafodd y drychineb effaith enbyd ar unigolion, teuluoedd a’r gymuned. Priodol felly, hanner canrif yn ddiweddar, bod y wlad gyfan yn dod ynghyd, gyda pharch a chariad, i gofio.”