Neidio i'r prif gynnwy

Mae heriau'r gaeaf yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae pobl yn cael eu hannog i ddewis yn ddoeth gan fynd at y gwasanaethau cywir y tro cyntaf i gael cyngor neu sicrwydd yn gyflymach pan fyddan nhw neu aelodau o'u teuluoedd yn teimlo’n sâl yn annisgwyl. 

Mae ymgyrch Dewis Doeth y gaeaf yn cael ei lansio yr wythnos hon, ac mae’n annog pobl i wneud y dewisiadau cywir ar gyfer triniaethau nad ydynt yn rhai brys. 

Mae'n rhan o’r cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Wasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru. Mae’r cymorth hwn hefyd yn cynnwys rhoi £30m arall i’r byrddau iechyd, y gwasanaeth ambiwlans ac awdurdodau lleol er mwyn eu helpu i sicrhau rhagor o gapasiti o ran y gymuned, gwelyau yn yr ysbyty a gofal cymdeithasol. Bydd hynny’n eu paratoi ar gyfer pwysau ychwanegol y gaeaf. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: 

Hyd yma eleni, mae adrannau brys a gwasanaethau ambiwlans wedi wynebu eu blwyddyn brysuraf erioed. 

Mae'r gaeaf yn achosi heriau ychwanegol, gan gynnwys amodau oer a rhewllyd, y ffliw, mwy o bobl hŷn yn cael eu derbyn i'r ysbyty a mwy o bobl yn defnyddio gwasanaethau meddyg teulu a gofal brys. 

Mae'r pwysau hyn yn cael eu teimlo gan ein staff, yn ogystal â chleifion a'u teuluoedd. Mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gwneud yn siŵr ein bod yn dewis y gwasanaethau iechyd cywir ar gyfer symptomau nad ydynt yn peryglu bywyd. 

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod tua un o bob pump o bobl sy'n mynd i’w hadran frys leol yn gwneud hynny yn ddiangen. Drwy ddewis opsiynau eraill fel y gwirydd symptomau ar-lein a gwasanaeth ffôn Galw Iechyd Cymru, neu drwy ymweld â fferyllydd lleol, gall pobl gael gafael ar gyngor a sicrwydd yn gyflymach. 

Gall cyngor iechyd proffesiynol gan fferyllydd olygu bod gweithwyr iechyd rheng flaen sydd dan bwysau mewn adrannau brys ar gael i helpu'r bobl sydd eu hangen nhw fwyaf. Gall y rhan fwyaf o optegwyr y stryd fawr hefyd ddarparu cyngor a gofal am gyflyrau'r llygaid, edrychwch allan am logo'r GIG.

Mae cynlluniau cydnerthedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys y canlynol hefyd: 

  • Ffocws ar bobl sydd â chyflyrau anadlol cronig. Mae hyn yn cynnwys ymestyn y cynllun o gynnig brechlyn rhag y ffliw am ddim i ddarparwyr cartrefi gofal, gan ategu'r rhaglen bresennol sy'n darparu pigiadau am ddim i weithwyr iechyd, rhaglen a wnaeth ddatblygu y llynedd i gynnwys staff sy'n gweithio mewn cartrefi nyrsio a gofal preswyl i oedolion. 
  • Fel rhan o ddull gweithredu cenedlaethol, bydd y gwasanaeth Llesiant mewn Adrannau Brys a Dychwelyd Adref yn Ddiogel, a ddarperir gan y Groes Goch Brydeinig, a’r gwasanaeth Adre o'r Ysbyty i Gartref Iachach, a ddarperir gan Gofal a Thrwsio Cymru, yn parhau i gefnogi staff, cleifion a’u teuluoedd yn ystod gaeaf heriol arall.