Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones yn cefnogi’r ‘Great Get Together’ ac yn annog pobl Cymru i gymryd rhan

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi’r ymosodiad terfysgol erchyll ym Manceinion yr wythnos hon, mae’r Prif Weinidog wedi galw am undod mewn amgylchiadau anodd.  

Dywedodd:



“Ar adeg pan fo llawer o bobl drwy’r wlad yn teimlo’n ofidus, yn ofnus ac yn ddig, mae’n bwysig ein bod yn cofio geiriau Jo Cox: bod mwy’n gyffredin rhyngom nag sy’n ein gwahanu.

“Roedd yr ymosodiad dychrynllyd ym Manceinion yn ymgais i’n gwahanu, ond wnawn ni ddim gadael i hynny ddigwydd. Bydd ein gobaith, ein hysbryd a’n hundod yn gryfach na chasineb bob amser, ac yn drech na’r rhai sy’n ceisio creu rhaniadau.

“Mae’r Great Get Together yn gyfle da i wrthod rhaniadau ac, yn hytrach, i ddod â phobl at ei gilydd i ddathlu’r holl bethau sy’n gyffredin rhyngom."



Mae’r achlysur wedi’i drefnu i gofio am Jo Cox, yr Aelod Seneddol a gafodd ei llofruddio mewn modd arswydus y llynedd. Y nod yw dod â chymunedau, cymdogion, disgyblion a ffrindiau ynghyd i rannu a dathlu’r holl bethau sy’n gyffredin rhyngom.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at ysgolion a chynghorau i’w hannog i gymryd rhan yn y gweithgareddau, a fydd yn cael eu cynnal ledled y wlad rhwng 16 ac 18 Mehefin.

Ar 16 Mehefin, bydd Prif Weinidog Cymru’n  mynychu cinio blynyddol CBI Cymru, a gynhelir er anrhydedd i Jo Cox. Bydd manylion y gweithgareddau a’r digwyddiadau eraill sydd i’w cynnal yn cael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Cafodd y ‘Great Get Together’ ei greu yn sgil marwolaeth drasig Jo, a’i nod yw dod â ni i gyd at ein gilydd i ddathlu’r hyn sy’n gyffredin rhyngom.

“Rwy’n falch o gefnogi’r achlysur ac rwy’n annog pobl ym mhob rhan o Gymru i gymryd rhan yn y gweithgareddau.”


Dywedodd Brendan Cox:

“Mae’r ffordd mae pobl Cymru wedi uno i gefnogi’r ‘Great Get Together’ wedi fy nghyffwrdd. Mae’r ffordd mae pobl Cymru wedi uno i gefnogi’r ‘Great Get Together’ wedi fy nghyffwrdd. Bydd llu o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru - o Bicnic yn Theatr Clwyd, y Sgowtiaid a’r Geidiaid yn ymgynnull yng Nghaerfyrddin, i gyfle i gyd-ganu ym Mae Caerdydd - bydd ysbryd yr achlysur yn cael ei ddathlu mewn amryfal ffyrdd. Pan fo pobl yn ceisio’n gwahanu ac yn ceisio creu rhaniadau mewn cymunedau, ry’n ni’n dangos ein cryfder trwy wrthod casineb a dod at ein gilydd yn benderfynol i wneud yn siŵr na fydd yr eithafwyr byth yn ennill.”


Gall pobl edrych ar y wefan www.greatgettogether.org i gael gwybod mwy am y miloedd o weithgareddau sy’n cael eu cynnal trwy’r wlad – yn amrywio o bartïon stryd a barbeciws i sioeau cŵn a gwyliau bwgan brain, o gystadlaethau gwneud teisennau i brydau Iftar aml-ffydd i nodi diwedd ympryd Ramadan.