Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Hydref 2018.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn am gamau arfaethedig Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofnodi tacsis a cherbydau hurio preifat at ddibenion codi tâl mewn Parthau Aer Glân.
Gwybodaeth ychwanegol
Rydym yn ymgynghori ar y cyd gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y rheoliadau arfaethedig fydd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau trwyddedu lleol yng Nghymru a Lloegr i rannu rhifau cofrestru cerbydau pob cerbyd sydd wedi'i drwyddedu.
Mae'r ymgynghoriad yn holi barn am:
- greu cronfa ddata ganolog o holl dacsis a cherbydau hurio preifat fel bod modd i'r awdurdodau lleol hynny sy'n dymuno cyflwyno Parth Aer Glân Dosbarth A-C yn Lloegr (neu'r hyn sy'n cyfateb yng Nghymru) eu cofnodi
- y llwybr deddfwriaethol sydd ei angen i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i rannu manylion tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK