Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol 
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu
  • Sam Cairns, rif Swyddog Gweithrediadau
  • Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig

Agor y cyfarfod

Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau, materion yn codi

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
  2. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. Ymunodd Dyfed Edwards yn rhithiol.
  3. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau, ac nid oedd unrhyw faterion yn codi.
  4. Byddai cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cael eu cytuno y tu allan i'r pwyllgor.

Sicrwydd blynyddol

Adroddiad blynyddol a chyfrifon

  1. Dosbarthwyd y fersiwn ddiweddaraf. Roedd yr aelodau wedi cael gwahoddiad i'r cyfarfod ARAC diwethaf i drafod yr adroddiad, gyda rhai gwelliannau wedi’u hawgrymu. Roedd Archwilio Cymru (AW) wedi profi rhywfaint o oedi oherwydd materion yn ymwneud ag adnoddau wedi'r pandemig - y prif risg oedd yr ansicrwydd ynghylch dyddiad cyhoeddi. Nododd AW nad oedd unrhyw faterion yn peri gofid hyd yn hyn.
  2. Nid oedd y drafft blaenorol yn cynnwys cyfrifon casglu trethi. Cynhaliwyd trafodaeth yn ystod yr wythnos gyda'r Prif Swyddog Cyllid (CFO) ar y ffigur amhariad a oedd wedi cynyddu'n sylweddol ers y llynedd - bydd y CFO yn cynnwys rhywfaint o naratif yn yr adroddiad yn egluro’r hyn y mae'r ffigwr amhariad yn ei gynrychioli, a'i gyfansoddiad.
  3. Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gymeradwyo gan y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu, ac mae’n bosibl y bydd Cadeirydd y Bwrdd a’r Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC) yn bresennol i roi sicrwydd, os oes angen.

Llywodraethiant ACC

Diweddariad llywodraethiant, cylch gorchwyl y pwyllgor cydnabyddiaeth

  1. Mae'r CFO wedi bod yn datblygu llawlyfr llywodraethu ar gyfer ACC, a fydd yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer Cadeirydd newydd y Bwrdd, pan gaiff ei benodi. Bydd hyn yn cynnwys diagram o brosesau/strwythur sicrwydd, fel diweddariad o'r diagram a ddatblygwyd wrth sefydlu ACC.
  2. Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor Cydnabyddiaeth (Pwyllgor Pobl) wedi'i ddiweddaru, nawr bod llywodraethiant y sefydliad wedi esblygu; rydym yn dal i fod yn sefydliad ifanc mewn gwirionedd, sy’n parhau i ddysgu a datblygu, ac sydd wedi dechrau ymgymryd â materion newydd nad oeddem yn ymgymryd â nhw o’r blaen.
  3. Mae gennym hefyd well dealltwriaeth o'r hyn y mae pwyllgorau cydnabyddiaeth ariannol adrannau gwasanaeth sifil fel arfer yn gyfrifol amdano, ac rydym yn deall ei bod yn briodol bod y Tîm Arwain/Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am rai materion.
  4. O ran cyfrifoldeb dirprwyedig i'r Pwyllgor Cydnabyddiaeth, daw rhan o'i gylch gwaith gan y Bwrdd, a rhan arall o'r gwasanaeth sifil. Bydd yr hyn sy’n cael ei ddirprwyo i’r pwyllgor yn cael ei adlewyrchu'n glir yng nghylch gorchwyl newydd y Bwrdd.
  5. O ran aelodaeth, cytunwyd y gall aelodau nad ydynt yn aelodau o’r bwrdd fod yn aelodau o’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth, ond nid ydynt yn gallu pleidleisio.

A22-03-01: Bwrdd i drafod cylch gorchwyl newydd y Bwrdd ac i fapio sicrwydd (ac ailedrych ar gylch gorchwyl y Pwyllgor Cydnabyddiaeth) cyn i'r Cadeirydd newydd ymuno (cyfarfod Medi).

A22-03-02: Y Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu i newid geiriad cylch gorchwyl y Pwyllgor Cydnabyddiaeth, ynghylch teitlau rolau.

D22-03-01: Aelodau'r Bwrdd yn cymeradwyo cylch gorchwyl diwygiedig y Pwyllgor Cydnabyddiaeth.

Achos busnes: Prosiect data

  1. Wedi'i olygu.
  2. Bydd y Bwrdd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

Cau’r cyfarfod

Unrhyw faterion eraill

Cyhoeddwyd y byddai'r Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu a'r Prif Swyddog Gweithrediadau yn gadael y sefydliad. Diolchodd aelodau'r Bwrdd iddynt am eu gwaith caled a'u cyfraniadau gwerthfawr i'r sefydliad ac i'r Bwrdd a'i bwyllgorau, a dymuno’n dda iddynt ar gyfer y dyfodol.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.