Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig

Ymgynghorwyr

  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Trysorlys Cymru

Agoriad

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Hwn oedd cyfarfod ffurfiol cyntaf Karen fel Aelod Staff Etholedig. Croesawyd sylwedyddion, a oedd yn mynychu er mwyn ennill profiad defnyddiol. Roedd Anna Adams yn mynychu ar ran Andrew Jeffreys, Trysorlys Cymru. 
  2. Eglurodd y Cadeirydd fod dwy eitem sylweddol i'w trafod yn y cyfarfod hwn, ond roedd penderfyniadau neu gasgliadau ar y naill fater neu'r llall yn annhebygol ar hyn o bryd. Serch hynny, roedd yn bwysig bod yr eitemau hyn yn cael eu trafod, a bod materion yn cael eu mynegi fel rhan o gynllunio ACC ar gyfer y dyfodol.
  3. Derbyniwyd log gwrthdaro buddiannau'r Bwrdd heb ychwanegiadau. 

Wedi'i olygu.

2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf

  1. Wedi'i olygu.
  2. O ran Camau Gweithredu a Phenderfyniadau, nododd y Cadeirydd ei bod yn bwriadu llofnodi'r datganiad dim goddefgarwch cyn gynted â phosibl. Nodwyd bod camau gweithredu a gytunwyd yn flaenorol gan gynnwys ar y Cynllun Corfforaethol wedi’u nodi fel rhai sy’n dal i fod heb eu cyflawni.

3. Materion yn codi

  1. Cylchredwyd diweddariad fframwaith polisi treth Llywodraeth Cymru mewn ymateb i gais yn ystod y drafodaeth.
  2. Adroddodd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ar wqgyfarfod Llywodraeth Cymru ar yr ymateb i Covid, gan nodi'r angen i leihau cysllt wyneb yn wyneb cymaint â phosibl. Roedd ymdeimlad cryf hefyd o'r angen i fod yn hyblyg wrth gefnogi ymdrechion i reoli'r sefyllfa dros yr wythnosau nesaf a thu hwnt. Roedd yr her gyfathrebu yn cynnwys rhybuddio pobl am yr hyn oedd i'w ddisgwyl yn ystod yr wythnosau nesaf. Byddai'n rhaid i'r cyfarfod hwn ystyried y cyd-destun hwnnw.

Adroddiadau

4. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Eglurodd y Cadeirydd fod y cyfarfod hwn wedi'i fwriadu fel un ysgafn o ran papur, a diolchodd i'r aelodau am gytuno i ganslo'r cyfarfod ymlaen llaw ddydd Llun 13 Rhagfyr. Byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi eto, fesul cyfarfod, yn y dyfodol ynglŷn ag a oedd angen cyfarfodydd ymlaen llaw, a gwahoddwyd mewnbwn gan aelodau'r Bwrdd. 
  2. Roedd y Cadeirydd a'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Parhaol ym mis Tachwedd. Byddai'r Cadeirydd yn copïo ei Hamcanion Personol i'r Bwrdd, a fyddai'n llywio'r arfarniad o'i pherfformiad. 
  3. Cynigiodd y Cadeirydd ohirio Adolygiad Effeithiolrwydd y Bwrdd (BER) 2021-22, a oedd wedi’i drefnu’n flaenorol ar gyfer 26 Ionawr 2022, a threfnu dyddiad newydd mewn pryd ar gyfer arfarniadau unigol aelodau'r Bwrdd. Roedd amseru datblygiadau diweddar a pharhaus yn golygu y byddai gohirio trefniadau arfarnu yn caniatáu canolbwyntio ar flaenoriaethau uwch ar unwaith ac yn sicrhau arfarniad mwy ystyrlon maes o law. Roedd trefniadau llywodraethu newydd wedi'u cyflwyno, roedd aelodau newydd o'r Bwrdd wedi'u cyflwyno'n ddiweddar a byddai un arall yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd, roedd gweithio o bell wedi yn digwydd ers dros flwyddyn, ac roedd gan ACC flaenoriaethau brys ac uniongyrchol eraill ar hyn o bryd. 
  4. Ar ôl trafod, cytunwyd y byddai'r BER yn cael ei ohirio tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, i gyd-fynd â chwblhad disgwyliedig y Cynllun Corfforaethol. Byddai hyn yn gwneud y defnydd gorau o amser ym mis Ionawr i fis Mawrth, yn caniatáu persbectif sy'n canolbwyntio ar ofynion y Bwrdd ar gyfer y dyfodol, a byddai'r amser ychwanegol yn caniatáu i aelodau newydd o'r Bwrdd gyfrannu'n fwy sylweddol. Byddai'r arolwg ar-lein i gefnogi'r BER yn cael ei gynnal ddiwedd mis Ionawr i fis Chwefror, gyda thrafodaethau am y canlyniadau ym mis Mawrth, ac adolygiadau unigol yn dod i ben erbyn dechrau mis Mai.
  5. Roedd y drafodaeth yn cynnwys sylwadau ynghylch a ellid oedi'r holiadur ymhellach, a fyddai'n well cynnal arfarniadau wyneb yn wyneb lle bo hynny'n bosibl, ac a allai'r BER ganolbwyntio ar ba fath o Fwrdd rydym ei eisiau ar gyfer y dyfodol, yn ogystal ag edrych yn ôl. 
  6. Byddai slot cyfarfod y Bwrdd ar 26 Ionawr yn cael ei gadw am y tro, gan y gallai fod yn fuddiol ar gyfer trafodaethau a gweithgareddau eraill ar gyfer aelodau newydd, a byddai trefniadau'n cael eu cynnig maes o law.
  7. Er ei fod yn dal yn obeithiol y gallai'r Bwrdd gyfarfod wyneb yn wyneg ryw adeg yn ystod y Gwanwyn, cydnabu'r Cadeirydd fod hynny bellach yn ymddangos yn llai tebygol.
  8. Byddai'r Cadeirydd yn anfon neges Nadolig i'r Staff, a fyddai'n diolch iddynt ac yn cydnabod eu hymdrechion.

5. Adroddiad y Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 

  1. Eglurodd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu fod hwn yn gyfle da i fyfyrio ar 2021; byddai hyn hefyd yn digwydd gyda’r staff mewn digwyddiad ACC byw ar 16 Rhagfyr.

Wedi'i olygu.

6. Adroddiad Trysorlys Cymru

Wedi'i olygu.

7. Diweddariad ar y Perfformiad Dyled

  1. Cyflwynodd y Prif Swyddog Gweithrediadau (COO) yr eitem hon mewn ymateb i gais gan y Bwrdd mewn cyfarfod blaenorol. Roedd hwn yn adroddiad dros dro, byddai diweddariad llawnach yn cael ei ddarparu ym mis Chwefror fel rhan o'r adroddiad perfformiad chwarterol. Nododd y COO natur hylifol dyled a'r gwahanol fathau o ddyled a reolir, a oedd yn herio ac yn dylanwadu ar y ffordd y cai dyled ei hadrodd. 

Wedi'i olygu.

Trafodaeth

8. Swyddfeydd / Llety

  1. Diolchodd y Cadeirydd i'r Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu am y nodyn trafod.

Wedi'i olygu.

9. Cynllun Corfforaethol a Rhaglen Lywodraethu

  1. Roedd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu wedi rhannu papur ymlaen llaw. Byddai data gronynnog yn ddefnyddiol nawr ac yn y dyfodol, naill ai trwy fynd i'r afael ag amrywiolion daearyddol TTT, neu drwy wneud rhywbeth mwy defnyddiol ar gyfer y dyfodol. Byddai setiau tebyg o randdeiliaid yn rhan o'r gwaith o fynd ar drywydd y ddau.
  2. Wedi'i olygu.
  3. Wedi'i olygu.
  4. Wedi'i olygu.
  5. Cynllun Corfforaethol. Adroddodd y Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu ganlyniadau'r sesiwn ymgysylltu â staff gyntaf (roedd yr ail sesiwn wedi’i ohirio oherwydd salwch). Byddai cydgynhyrchu'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei adlewyrchu o ran y modd y byddai'n cael ei ysgrifennu a'i gyflwyno. Byddai'r Cynllun Corfforaethol yn cael ei gyflwyno er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd gwahanol sydd â gwahanol ofynion.

Diweddglo

10. Edrych ymlaen

  1. Ym mis Chwefror (ac - os yn berthnasol ym mis Ionawr) 2022, byddai'r Bwrdd yn clywed mwy am y gwaith ar ddata er mwyn rhoi sicrwydd ar drefniadau llywodraethu a’r effaith ar gapasiti.
  2. Safonau'r Gymraeg – roedd paratoadau ar waith ar gyfer enwi ACC yn y ddeddfwriaeth fel sefydliad sydd angen mabwysiadu Safonau’r Gymraeg yn ffurfiol. Roedd ACC eisoes wedi bod yn cysgodi gweddill LlC, felly byddai wedi paratoi'n dda.

11. Unrhyw fater arall

  1. Wedi'i olygu.
  2. Cadarnhaodd y Cadeirydd na fyddai Gweithdy Effeithiolrwydd y Bwrdd yn cael ei gynnal ar 26 Ionawr 2022. Dylid gwneud penderfyniad maes o law ynghylch a ddylid cynnal busnes arall y Bwrdd ar y diwrnod hwnnw neu ganslo'r slot. 

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.