Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • David Jones, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Aelod Gweithredol
  • Sam Cairns, Aelod Gweithredol
  • Rebecca Godfrey, Aelod Gweithredol
  • Lucy Robinson, Aelod a Etholwyd gan y Staff 

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth Swyddog Pobl
  • Kate Innes, Swyddog Cyllid Dros Dro
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu - Trysorlys Cymru

Mynychwyr

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau, ymddiheuriadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; byddai Anna Adams yn dirprwyo.

2. Adroddiad y Prif Weithredwr a pherfformiad gweithredol

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

3. Datganiadau ariannol - Cyflwyniad Swyddfa Archwilio Cymru (archwiliad ISA 260)

  1. Atgoffwyd yr Aelodau o'r dull gwahanol a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adroddiad blynyddol a chyfrifon 2019-20 o ganlyniad i'r pandemig. Byddai'n cael ei osod yn y cynulliad mewn dwy ran; y cyntaf fyddai'r datganiadau ariannol ddiwedd mis Mehefin; ac yn ail y naratif sy'n cefnogi'r cyfrifon blynyddol yn yr hydref. Nodwyd bod y Gweinidog wedi cytuno ar y dull hwn a'i fod wedi’i rannu â'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
     
  2. Cyflwynwyd y datganiadau ariannol a'r dogfennau ategol i'r Bwrdd a dywedwyd fod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) wedi bod drwy'r dogfennau hyn yn fanwl o'r blaen a'u bod yn fodlon â nhw. Cymerodd y Bwrdd sicrwydd gan ARAC ac roedd yn hapus i'r Prif Weithredwr lofnodi'r adroddiad yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cyfrifyddu.
     
  3. Cyflwynodd Archwilio Cymru adroddiad ISO 260. Roedd y gwaith archwilio bellach wedi'i gwblhau, ond byddai'r gwiriadau'n parhau hyd nes bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi llofnodi'r datganiadau ariannol, fel arfer, er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw newidiadau yn ystod y cyfnod interim hwnnw. Diolchodd Archwilio Cymru i ACC am eu cydweithrediad.
     
  4. Sicrhaodd cadeirydd ARAC y Bwrdd fod yr holl sylwadau a ddeilliodd o'r archwiliadau wedi'u hystyried gan y Pwyllgor ac y byddent yn cael eu dilyn maes o law.
     
  5. Awgrymwyd y dylai rhagair y Prif Weithredwyr nodi effaith y llifogydd ar QED ond, o ganlyniad i'r buddsoddiad ym maes TG y sefydliad, y gallwyd cynnal yr archwiliad o bell.
     
  6. Diolchwyd i Archwilio Cymru am eu gwaith a'u cefnogaeth.

4. Ein dull o ymdrîn â risg treth

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

5. Unrhyw fater arall

  1. Ni chodwyd unrhyw fusnes arall.

 

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.