Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Becca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth 
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau

Ymgynghorwyr

  • Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl
  • Rob Jones, Prif Swyddog Cyllid
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
  • Gareth Watson, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro
  • Neil Butt, Pennaeth Staff Dros dro 
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu - Trysorlys Cymru

Agor y cyfarfod

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdrawiad buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
  2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, byddai Anna Adams yn dirprwyo ac yn cyflwyno adroddiad gan Drysorlys Cymru (TC). Nid oedd Dyfed Alsop wedi gallu ymuno ar gyfer eitemau cyntaf y cyfarfod. Gwybodaeth wedi’i golygu.
  3. Yn y cyfarfod diwethaf, nododd y Cadeirydd y bwriad i benodi Aelod Staff Etholedig cyn Diwrnod Strategaeth Cwrdd i Ffwrdd y Bwrdd ym mis Gorffennaf. Fodd bynnag, o ystyried y pwysau sylweddol ar adnoddau, byddai'r etholiad yn cael ei gynnal yn yr hydref gyda'r nod o benodi Aelod Staff Etholedig cyn cyfarfod Bwrdd mis Hydref. Byddai papur yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd ym mis Medi yn amlinellu'r broses ac yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau'r etholiad. 
  4. Cytunwyd ar log buddiannau’r Bwrdd yn amodol ar un ychwanegiad, a fyddai'n cael ei anfon at ysgrifenyddiaeth y Bwrdd yn dilyn y cyfarfod.
  5. Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn gofnod cywir o'r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf, yn ddarostyngedig i rai newidiadau a godwyd yn rhag-gyfarfod y Bwrdd yn gynharach yr wythnos honno. Cytunwyd ar y cofnodion wedi'u golygu at ddibenion cyhoeddi allanol.
  6. Cytunodd y Bwrdd ar weithredoedd y cyfarfod diwethaf. Byddai dau gam gweithredu yn parhau ar agor, y ddau ohonynt yn gysylltiedig â gwaith blaengynllunio’r Bwrdd a byddent yn cael eu trafod yn niwrnod strategaeth cwrdd i ffwrdd y Bwrdd ym mis Gorffennaf fel rhan o ragolwg yr adolygiad.

 

Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau

2. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar. Nodwyd, ers i'r Bwrdd gyfarfod yn ffurfiol ddiwethaf, cynhaliwyd dwy drafodaeth, lle bu'r aelodau yn trafod yr adolygiad llywodraethu; y strategaeth gwytnwch seiber a'r cynllun corfforaethol a chynllunio senario.
  2. Byddai'r Bwrdd yn cyfarfod ym mis Gorffennaf ar gyfer eu Diwrnod Strategaeth Cwrdd i Fwrdd blynyddol. Byddai'r agenda yn cael ei ffurfioli dros yr wythnosau nesaf ond byddai cyfle i ystyried blaenoriaethau'r dyfodol yn ogystal â rhai o'r materion sy'n wynebu'r sefydliad yn y tymor byr. Byddai'r sesiwn yn cael ei chynnal yn rhithiol o ystyried canllawiau diweddaraf LlC ar gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb.

3. Adroddiad y Prif Weithredwr a pherfformiad gweithredol

Gwybodaeth wedi’i golygu.

4. Perfformiad ariannol

Gwybodaeth wedi’i golygu.

5. Adroddiadau gan bwyllgorau

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

  1. Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor drosolwg o weithgarwch diweddar, gan nodi, yn y cyfarfod diwethaf, fod ffocws y pwyllgor wedi bod ar graffu ar yr Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon.
  2. Dosbarthwyd adroddiad blynyddol ARAC i'r Bwrdd er gwybodaeth. Fodd bynnag, nid oedd y pwyllgor wedi cynnal ei adolygiad effeithiolrwydd blynyddol oherwydd mai dim ond am gyfnod byr y bu dau o'r tri aelod anweithredol gyda'r pwyllgor. Nid oedd hwn yn ofyniad blynyddol ac felly byddai'r adolygiad yn cael ei gynnal y flwyddyn ariannol ganlynol.
  3. Yn ddiweddar, roedd y gwasanaethau archwilio mewnol o fewn LlC wedi cael eu hadolygu gan Archwilio Cymru, roedd y Prif Weithredwr a Chadeirydd ARAC wedi cymryd rhan yn yr ymarfer. Roedd canlyniad yr adolygiad yn un cadarnhaol.

Pwyllgor Pobl

  1. Roedd adroddiad blynyddol y Pwyllgor Pobl wedi cael ei ddosbarthu i'r Bwrdd er gwybodaeth. Roedd amser ac ymdrech y pwyllgor dros y flwyddyn yn canolbwyntio'n bennaf ar gynllunio ar gyfer olyniaeth a lles.
  2. Diolchwyd i'r ddau bwyllgor am eu cyfraniad a'u gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf.

6. Adroddiad gan Drysorlys Cymru

Gwybodaeth wedi’i golygu.

7. Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21

  1. Cyflwynodd Cadeirydd ARAC yr eitem drwy sicrhau'r Bwrdd bod y pwyllgor wedi craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020-21 ac roeddent yn fodlon y dylid ei gyflwyno i'r Bwrdd i'w gymeradwyo cyn i'r Swyddog Cyfrifo ei gymeradwyo.
  2. Cyflwynodd cynrychiolydd Archwilio Cymru adroddiad ISO 260 i'r Bwrdd. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod adroddiad ACC wedi'i gyflwyno a bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn ddiamod ac yn bwriadu ardystio'r cyfrifon ar 30 Mehefin 2021. Gwnaed rhai addasiadau bach ond nid oedd angen gwneud unrhyw newidiadau i'r ffigurau. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod ansawdd y cyfrifon drafft a'r gefnogaeth gan ACC yn dda iawn.
  3. Wrth gynhyrchu'r cyfrifon blynyddol, bu tri newid nodedig, nid oedd yr un ohonynt yn destun pryder. Nod yr adroddiad perfformiad oedd rhoi stori glir am sut yr effeithiodd COVID ar ein pobl, ein rhanddeiliaid a'n defnyddwyr dros y flwyddyn, sut newidiodd ymddygiadau yng ngoleuni'r effeithiau a sut ymatebodd y sefydliad. Mae canlyniad yr adroddiad yn dangos bod ACC wedi perfformio ac ymateb yn dda o dan yr amgylchiadau anodd.
  4. Gwnaed penderfyniad ymwybodol i leihau maint adroddiad blynyddol 2020-21 drwy gynnwys dolenni i naratif o adroddiad 2019-20 a oedd yn dal yn gywir ac yn berthnasol. Darparwyd trosolwg o'r cynllun cyhoeddi.
  5. Diolchodd y Bwrdd i'r sefydliad am yr holl waith caled wrth gynhyrchu'r adroddiad blynyddol a'r cyfrifon. Cytunodd yr Aelodau ar y ddogfennaeth i'w llofnodi gan y Swyddog Cyfrifeg.

8. Strategaeth gwytnwch seiber

  1. Cynhaliwyd sesiwn briffio'r Bwrdd yn gynharach yn y mis ar fanylion drafft y strategaeth. Ers hynny, rhannwyd y strategaeth gyda Phennaeth Diogelwch Llywodraeth Cymru a oedd wedi gwneud rhai mân newidiadau a adlewyrchwyd yn y fersiwn a gyflwynwyd erbyn hyn.
  2. Awgrymwyd bod yr ARAC yn adrodd ar weithredu a chynnydd y strategaeth ac awgrymwyd bod yr ARAC yn monitro’r strategaeth o ystyried ei bwysigrwydd. 
  3. Cymeradwyodd y Bwrdd y strategaeth, gan nodi ei bod yn ddogfen drylwyr a chynhwysfawr iawn.

9. Cytundeb rhyngadrannol

Gwybodaeth wedi’i golygu.

Cau’r cyfarfod

10. Unrhyw fater arall

Gwybodaeth wedi’i golygu.

  1. Ni chodwyd unrhyw fusnes arall. 

11. Rhagolwg

  1. Trafodwyd y rhagolwg, a chytunwyd y byddai adolygiad yn cael ei gynnal yn ystod diwrnod strategaeth cwrdd i ffwrdd y Bwrdd.

Gwybodaeth wedi’i golygu.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.