Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Becca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth 
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid 

Ymgynghorwyr

  • Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl
  • Rob Jones, Prif Swyddog Cyllid
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
  • Gareth Watson, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro
  • Neil Butt, Pennaeth Staff Dros dro 
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu - Trysorlys Cymru 

Agor y cyfarfod

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdrawiad buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ymunodd Gareth Watson fel Ymgynghorwr i'r Bwrdd am y tro cyntaf, fel Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro.
  2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, byddai Anna Adams yn dirprwyo ac yn cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru.
  3. Nodwyd un buddiant i'w gynnwys yn log buddiannau'r Bwrdd, ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau.
  4. Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf a'r cofnod wedi’i olygu at ddiben cyhoeddi allanol, yn amodol ar un ychwanegiad bach, a fyddai'n cael ei rannu gyda'r Bwrdd y tu allan i'r cyfarfod i sicrhau bod yr aelodau'n fodlon. Cytunodd yr Aelodau ar y cam gweithredu a'r penderfyniad o'r cyfarfod diwethaf, gan nodi y gellid cau'r unig gam a oedd heb ei weithredu.
  5. Nododd y Cadeirydd weithgarwch y Bwrdd ers y cyfarfod ym mis Rhagfyr at ddibenion y cofnod. Roedd yr aelodau wedi cyfarfod ddwywaith ac wedi trafod neu dderbyn diweddariadau fel a ganlyn:
    • roedd y Bwrdd wedi cyfarfod ddechrau mis Ionawr ar gyfer sesiwn hyfforddi diogelwch seiber
    • gwybodaeth wedi’i Golygu
    • roedd gwaith ymchwilio i lywodraethu ACC wedi'i wneud yn fewnol
    • cyflwynwyd y broses arfaethedig ar gyfer adolygu strategaeth ar lefel y Bwrdd. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar y cyfan â'r dull gweithredu ond cytunwyd y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i drefnu dyddiadau adolygu. Roedd cysylltiad agos rhwng hyn a’r gwaith i adolygu llywodraethiant ac felly dylid ei drafod ar ôl ei gwblhau.
    • roedd y Bwrdd wedi cyfarfod ar gyfer ei adolygiad effeithiolrwydd blynyddol, a byddai crynodeb o'r drafodaeth yn cael ei ddosbarthu dros y dyddiau nesaf
    • roedd y Bwrdd wedi derbyn briff cychwynnol ar gynllun strategol a chyllideb 2021-22 ACC

Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau

2. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar.
  2. Cyfarfu'r Cadeirydd, ynghyd â'r Prif Weithredwr a Thrysorlys Cymru â'r Gweinidog ym mis Chwefror i drafod cynllun strategol a chyllideb 2021-22 ACC.
  3. Cynhaliwyd ail gyfarfod rhwng y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd Parhaol i drafod amcanion y Cadeirydd. Cafodd yr amcanion eu cwblhau yn llawer hwyrach na'r disgwyl oherwydd y pwysau gwaith o ganlyniad i'r Coronafeirws (COVID-19). Defnyddiodd y Cadeirydd y cyfarfod hwn hefyd fel cyfle i sôn am yr adolygiad o lywodraethiant sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd a hysbysodd yr Ysgrifennydd Parhaol y Cadeirydd y byddai canllawiau'n cael eu dosbarthu i bob gwas sifil ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad, gan y byddai ACC, fel adran o Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnwys wrth gwrs.

3. Adroddiad y Prif Weithredwr a pherfformiad gweithredol 

Gwybodaeth wedi’i Golygu.

4. Perfformiad ariannol

Gwybodaeth wedi’i Golygu.

5. Adroddiadau gan bwyllgorau

  1. Nid oedd gan Gadeirydd yr ARAC unrhyw beth i'w uwchgyfeirio na'i adrodd o gyfarfod diweddaraf y pwyllgor, ac eithrio'r hyn a nodwyd o dan eitem yr Adroddiad Cyllid. 

6. Adroddiad gan Drysorlys Cymru

Gwybodaeth wedi’i Golygu.

  1. Roedd rheoliadau treth ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tir (TGT), y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) a Chyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) i gyd wedi pasio.
  2. Hysbyswyd yr Aelodau bod y gostyngiad TTT i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth. Pe bai Llywodraeth y DU yn ymestyn gostyngiad Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT), gall Gweinidogion Cymru benderfynu gwneud yr un peth yn dibynnu ar y rhesymeg. Os bydd sefyllfa Cymru'n newid, byddai TC yn ymgynghori ag ACC ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud.
  3. Gall treth ar ddeunyddiau pecynnu plastig ddod i mewn y flwyddyn nesaf, sy'n codi cwestiynau am bethau y byddai TC am eu hastudio’n fwy eang. Roedd ACC wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ar y dreth amgylcheddol a byddai TC yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am hyn yn y dyfodol.
  4. Diolchodd y Bwrdd i TC am eu cymorth yn y gwaith cyllidebol diweddar ac am y cydweithio arall a fu’n digwydd.

Trafodaeth

7. Y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyletswydd cydraddoldeb ac economaidd-gymdeithasol

  1. Rhannwyd y papur a oedd yn cynnwys trosolwg o fuddion y ddyletswydd a'r meysydd a fyddai'n cael eu heffeithio gyda'r Bwrdd er gwybodaeth. Roedd y Bwrdd yn cydnabod y byddai'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ACC roi sylw dyledus i'r ddyletswydd o 31 Mawrth wrth wneud penderfyniadau strategol, fel y mae'n rhaid iddynt ei wneud wrth ymdrin ag effeithiau eraill ar gydraddoldeb.
  2. Roedd aelod o staff wedi eistedd ar Fwrdd cynghori Llywodraeth Cymru yn edrych ar y ddyletswydd ac felly roedd TA yn teimlo'n gyfforddus bod ACC yn cael digon o gyfle i fwydo i mewn i'r gwaith.
  3. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai'r ddyletswydd yn ategu'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud ar gydraddoldeb ac y byddai ystyriaethau mewn perthynas â'r ddyletswydd yn cael eu nodi pan fydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau strategol yn y dyfodol.
  4. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar y cyfan bod yr holl ardaloedd yr effeithir arnynt wedi'u cynnwys yn y papur ond awgrymodd y gallai fod angen cynnwys caffael.
  5. Nodwyd bod gofyniad i ystyried y ddyletswydd wrth adolygu neu wrth wneud unrhyw newidiadau i'r strategaethau presennol. Fodd bynnag, er nad yw'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i ACC edrych yn ôl ar strategaethau y cytunwyd arnynt yn flaenorol nad oes angen eu hadolygu/diweddaru, rhoddir ystyriaeth i'r holl strategaethau y cytunwyd arnynt ar ryw adeg.
  6. Rhoddwyd dolenni i'r canllawiau statudol drafft a gweminar ar-lein i’r Bwrdd, er mwyn iddynt gael rhagor o wybodaeth. Dywedodd y Bwrdd y byddent yn croesawu unrhyw hyfforddiant pellach ar hyn a chydraddoldeb yn fwy cyffredinol, ac roeddent yn croesawu'r cyfle i drafod data a thystiolaeth er mwyn eu helpu i asesu effeithiau eu penderfyniadau maes o law.

8. Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd

Information redacted.

9. Cynllun Strategol a Chyllideb 2021-22 ACC

  1. Roedd y Bwrdd wedi cyfarfod ar gyfer sesiwn briffio ar 16 Chwefror i edrych ar y cynnydd a wnaed gan Tîm Arwain o ran datblygu cynllun strategol ACC ar gyfer 2021-22. Roedd papur briffio wedi’i roi i'r aelodau ymlaen llaw ac ar y diwrnod cafwyd cyflwyniad gan aelodau Tîm Arwain yn ymdrin â'r agweddau allweddol gan ganolbwyntio'n benodol ar y dull o ymdrin â risg treth; UDT; amcanion dylunio a data; yn ogystal â fforddiadwyedd cyffredinol y cynllun yn seiliedig ar y gyllideb a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf.
  2. Ymdriniwyd ag ystod eang o gwestiynau a phwyntiau yn ystod y sesiwn ac, yn gyffredinol, roedd y Bwrdd yn fodlon â'r cynigion a gyflwynwyd. Cafodd yr arsylwadau allweddol eu grwpio i 7 maes:

    1. Pwysigrwydd hyblygrwydd - gofalu am les staff; cydnabod y sensitifrwydd o fewn ein cyllidebau; a pha mor dynn y bydd ein cyllid.
    2. Peidio â dechrau a stopio gormod – gwell gwneud ychydig o bethau'n dda na cheisio gwneud gormod a gorfod ailffocysu ac addasu'n barhaus.
    3. Gwybodaeth wedi’i Golygu.
    4. Pwysigrwydd sesiynau briffio yn ystod y cyfnod - yn enwedig mewn meysydd newydd a rhai sy'n datblygu.
    5. Defnyddio'r dysgu - o bwysau a chyfaddawdau posibl y flwyddyn nesaf – er mwyn llywio'r cynllun corfforaethol nesaf.
    6. Peidio â gadael i'n hunain golli golwg ar yr egwyddor o degwch.
    7. Pwysigrwydd dyluniad gwasanaethau mewn datblygiad polisi da.
    8. Gwybodaeth wedi’i Golygu. Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.

  3. Tynnwyd sylw at y risg o rai rhagdybiaethau yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn. Nodwyd y byddai angen ystyried pa mor sensitif fydden ni i'r newidiadau hynny a sut y byddem yn rheoli'r risg honno, naill ai er mwyn osgoi gorwariant neu danwariant sylweddol.
  4. Byddai'r cynllun terfynol a'r gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd i'w cymeradwyo ar 24 Mawrth.
  5. Cynhaliwyd trafodaeth am gyfleoedd pellach i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Hysbyswyd yr Aelodau bod trafodaeth i fod i gael ei chynnal gyda TC yr wythnos ganlynol ac y byddai rhywfaint o waith briffio'n cael ei wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Cytunodd y tîm i roi ystyriaeth bellach i’r pwynt yma.

10. Adolygiad o Lywodraethiant (cam un) 

Gwybodaeth wedi’i Golygu.

Cau’r cyfarfod

11. Unrhyw Fater Arall

  1. Ni chodwyd unrhyw fusnes arall.

12. Rhagolwg

  1. Byddai trafodaeth ar lety a'r adolygiad o lywodraethiant yn cael ei threfnu ar gyfer dyddiad diweddarach.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.