Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • David Jones, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Aelod Gweithredol
  • Rebecca Godfrey, Aelod Gweithredol
  • Lucy Robinson, Aelod a Etholwyd gan y Staff

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff
  • Kate Innes, Swyddog Cyllid Dros Dro
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
  • Rob Hay, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu - Trysorlys Cymru

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau, ymddiheuriadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Sam Cairns, Melissa Quignon-Finch ac Andrew Jeffreys; byddai Rob Hay yn dirprwyo ar ran Andrew.

2. Llesiant a pharhad busines

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

3. Llythyr cylch gwaith

  1.  Atgoffodd y Cadeirydd yr aelodau ei bod yn anarferol i Fyrddau weld drafft o'u llythyr cylch gwaith gan ei fod fel arfer yn cael ei ddosbarthu i sefydliadau, a dim arall, ac fe nododd bod y trefniant hwn yn enghraifft o'r berthynas waith dda sy’n bodoli rhwng ACC a Thrysorlys Cymru.
     
  2. Roedd Tîm Arwain wedi ystyried ei gynnwys yn fanwl ac wedi cael cyfle i gyfrannu at ddrafftio'r llythyr. Gofynnwyd yn awr i'r Bwrdd godi unrhyw bryderon sylweddol sydd ganddynt am y drafft terfynol.
     
  3. Gwnaed sylw am y pwyslais ar ddylunio a data a gallu'r sefydliad i gyflawni o ganlyniad i oedi recriwtio’n ddiweddar oherwydd COVID-19; byddai Tîm Arwain yn ystyried hyn ac yn trafod gyda Thrysorlys Cymru. Nodwyd bod testun agoriadol y llythyr cylch gwaith yn darparu lefel o hyblygrwydd yr oedd Tîm Arwain yn teimlo'n gyfforddus â hi. Roedd y Bwrdd yn fodlon â'r drafft terfynol.

4. Adroddiadau gan bwyllgorau ac adroddiadau blynyddol

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

1. Rhannwyd adroddiad blynyddol ARAC gyda'r Bwrdd er mwyn sicrwydd. Tynnodd Cadeirydd y Pwyllgor sylw at adran 9 a oedd yn rhestru'r canlyniadau cadarnhaol a ddaeth o'r archwiliadau. Roedd yr argymhellion a wnaed gan yr archwilwyr naill ai wedi’u cyflawni neu byddent yn cael eu gweithredu maes o law. Fel pwyllgor, teimlai ARAC fod llywodraethu a rheolaethau effeithiol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd digonol i'r Bwrdd. 

Pwyllgor Pobl

2. Roedd y Pwyllgor wedi cyfarfod deirgwaith yn 2019-20, ddwywaith ar gyfer eu cyfarfod arferol i ystyried materion pobl ac unwaith i ystyried materion a llesiant y gweithlu yn sgil COVID-19. 

3. Diolchwyd i'r Pwyllgorau am addasu i fformat newydd, byrrach ac amlach y cyfarfodydd tra bo staff ACC yn gweithio o bell.

5. Adroddiad gan y Cadeirydd

Cynllunio olyniaeth

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

Rhagolwg

1. Byddai'r rhagolwg yn cael ei ddiweddaru ymhellach yn dilyn y trafodaethau yn niwrnod cwrdd i ffwrdd strategaeth y Bwrdd sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf.

2. Byddai cyfarfod ffurfiol nesaf y Bwrdd yn cael ei gynnal ym mis Medi, gyda'r gobaith y gall y Bwrdd ddychwelyd i'w fformat cyfarfod arferol. Nododd y Cadeirydd y byddai angen i'r Bwrdd barhau i fod yn hyblyg o ystyried y problemau o ran adnoddau yn ACC.

Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Strategaeth y Bwrdd 

3. Byddai diwrnod cwrdd i ffwrdd strategaeth y Bwrdd yn cael ei rannu'n ddwy sesiwn gyda'r ffocws ar ysgogwyr newid a'r flwyddyn i ddod. Byddai sesiwn anffurfiol hefyd i'r Bwrdd ryngweithio ar ôl oriau gwaith.

6. Unrhyw fater arall

Darparwyd diweddariad byr ar weithgarwch cyfathrebu diweddar.

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.