Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • Mary Champion, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu

Ymgynghorwyr

  • Rob Jones, Prif Swyddog Cyllid
  • Neil Butt, Pennaeth Staff Dros dro
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol
  • Gareth Watson, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro
  • Rob Hay, Dirprwy Bennaeth Strategaeth Treth - Trysorlys Cymru

Agor y cyfarfod

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdrawiad buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
  2. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, byddai Rob Hay yn dirprwyo ac yn cyflwyno’r adroddiad gan Drysorlys Cymru (TC).
  3. Cytunwyd ar log gwrthdaro buddiannau'r bwrdd.
  4. Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf. Cytunwyd ar y cofnodion wedi'u golygu at ddibenion cyhoeddi allanol.
  5. Mae pedwar cam gweithredu wedi'u cwblhau ers y cyfarfod diwethaf: 
    • A21-01-01: Adolygiad amserlen o strategaethau ar lefel Bwrdd - Nodwyd yn y rhagolwg y bydd adolygiadau strategaeth yn digwydd yn ôl yr angen drwy gydol y flwyddyn
    • A21-02-01: Trefnu eitem ar fodel gweithredu digidol ar gyfer cyfarfod Bwrdd neu sesiwn drafod yn y dyfodol - Nodwyd hyn ar yr rhagolwg
    • A21-03-01: Trefnu sesiynau briffio ar wahân i drafod mesurau perfformiad risg treth a'r adolygiad o ddyled - I'w drafod yng nghyfarfod mis Rhagfyr, dan arweiniad COO
    • A21-04-01: Bydd y Cadeirydd a'r Pennaeth Staff yn cynnal adolygiad o ragolwg y Bwrdd - Mae'r rhagolwg wedi'i ddiweddaru.
  6. Roedd yr Aelod Staff Etholedig (SEM) newydd wedi'i benodi, a bydd yn ymuno â'r cyfarfod nesaf. Diolchodd yr Aelodau i bawb a oedd yn rhan o'r broses o benodi'r SEM, ac i'r rhai a fynegodd eu diddordeb yn y rôl ac a safodd ar gyfer etholiad.
  7. Nodwyd yn y Bwrdd cyn cyfarfod y byddai'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) yn cynnal sesiynau chwarterol ar becyn cymorth y Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol (NCSC), er mwyn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd ar faterion seiber. Byddai'r broses yn cael ei hadolygu ar ôl dwy sesiwn.

Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau

2. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Roedd y gwaith o recriwtio swyddogion Anweithredol newydd wedi cyrraedd y cam olaf, gan gynnwys cael cymeradwyaeth ffurfiol gan y Gweinidog.
  2. Cafodd y Prif Weithredwr a'r Cadeirydd gyfarfod rhagarweiniol gyda'r Ysgrifennydd Parhaol newydd, sydd i fod i ddechrau yn y rôl ym mis Tachwedd.

3. Adroddiad y Prif Weithredwr

  1. Roedd dysgu a datblygu ar gyfer rheolwyr wedi'u caffael ac roedd gwaith yn cael ei wneud ar yr opsiynau terfynol; cynhaliwyd sesiynau grŵp bach o’r blaen gyda staff i gael cipolwg ar anghenion a steiliau unigol.
  2. Roedd canmoliaeth wedi’i derbyn ar wasanaeth Cymraeg ACC. Roedd yn braf gweld llawer o ddathliadau ar draws y timau, a diolchodd y Bwrdd i bawb am eu gwaith a'u hymdrech.
  3. Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ar lety.
  4. Ar y gwaith ar warediadau anawdurdodedig: gwnaed cynnydd da yn ystod y 6 mis diwethaf. I ddechrau, treuliwyd amser yn canolbwyntio ar ddatblygu'r polisi gweithredu a dethol achosion, heb roi hysbysiadau. Roedd timau ACC a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cydweithio i nodi cyfran fach o achosion sy'n addas i'w profi - byddai'r rhain yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Rheoli Achosion (CMC) fis nesaf i'w cymeradwyo. Mae'n debyg na fydd yr achos cyntaf yn cael ei ddatrys tan y flwyddyn ariannol nesaf.
  5. Darparwyd diweddariad ar fetrigau perfformiad.
  6. Roedd dau ddangosfwrdd newydd wedi’u datblygu er mwyn galluogi cydweithwyr gweithredol a chyllid i ddeall proffil dyled treth yn llawnach. Byddai hyn yn llywio archwiliad manwl yng nghyfarfodydd y Grŵp Arweinyddiaeth Darparu Gwasanaethau (SDLG) yn y dyfodol, gydag unrhyw newid i brosesau sy'n deillio o hynny i'w drosglwyddo mewn adroddiadau i'r Bwrdd yn y dyfodol. 
  7. O ran risg, roedd arwyddion petrus bod gweithgaredd addysg wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer yr achosion risg. 

4. Adroddiad Cyllid

  1. Rhoddodd y Prif Swyddog Cyllid ddiweddariad.
  2. Ar hyn o bryd roedd yr adran gyllid yn edrych yn fanwl ar agenda'r llywodraeth, sy'n bwysig iawn ar gyfer yr adolygiad gwariant. Yn y flwyddyn newydd, byddai'r rhifau’n cael eu cwblhau ar gyfer Cynllun Corfforaethol tair blynedd ACC.
  3. Wrth drafod tanwariant y gyllideb, nodwyd ffactorau allweddol y tu allan i reolaeth reoli (er enghraifft, staff yn derbyn rolau y tu allan i'r sefydliad). Trafodwyd penderfyniadau yn ymwneud ag adnoddau allweddol a wnaed am resymau effeithiolrwydd gweithredol (er enghraifft, secondiadau i LlC).
  4. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod nifer o lwybrau’n cael eu harchwilio i sicrhau arbenigedd caffael, ond roedd galw mawr ar draws y sector cyhoeddus. Roedd hyfforddiant a mentora dros y 6 mis diwethaf wedi helpu i feithrin gwybodaeth mewn cyllid ac roedd hyfforddiant allanol pellach wedi'i gynllunio.
  5. Nododd y Prif Swyddog Cyllid nad oedd disgwyl i'r tanwariant effeithio ar gyllideb y flwyddyn nesaf.

5. Adroddiadau gan bwyllgorau

  1. Nid oedd unrhyw beth arwyddocaol i'w adrodd i'r Bwrdd gan ei bwyllgorau.

6. Adroddiad gan Drysorlys Cymru

  1. Roddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar. Byddai Cynhadledd Dreth Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnal ar 3 Tachwedd, a byddai ACC yn cynnal sesiwn. Mae'r dyddiad yn cyd-fynd â chyhoeddi fframwaith polisi trethi diwygiedig LlC, a'r cynllun gwaith polisi treth pum mlynedd.
  2. Wedi'i olygu.
  3. Wedi'i olygu.
  4. Wedi'i olygu.
  5. Wedi'i olygu. Rhoddwyd y cytundeb rhyngadrannol wedi'i ddiweddaru i’r Gweinidog.

7. Addewid Dim Hiliaeth Cymru 

  1. Roedd ACC bellach mewn sefyllfa i lofnodi'r addewid mewn ffordd ystyrlon; yn y blynyddoedd blaenorol, nid oedd cydraddoldeb wedi'i ymgorffori'n sylweddol ar draws y sefydliad, a dyna’r rheswm dros yr oedi cyn llofnodi'r addewid.
  2. Fodd bynnag, nodwyd mai dim ond y dechrau oedd llofnodi'r addewid hwn. Roedd yn ddatganiad bwriadol, gyda'r sicrwydd a ddarparwyd gan y sefydliad bod gwaith yn cael ei wneud ar y themâu hyn. Byddai angen trafodaeth bellach ar beth arall y gellid ei wneud ar lefel y Bwrdd, er mwyn mynd ati i sefyll yn erbyn rhagfarn, ac fel sefydliad, i nodi'r hyn y gellid ei wneud er mwyn gwneud newid cadarnhaol.

D21-05-01: Roedd y Bwrdd yn barod i wneud ymrwymiad i sefyll yn erbyn rhagfarn, ac ymrwymiad i agwedd dim goddefgarwch tuag at hiliaeth.

D21-05-02: Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn llofnodi'r ymrwymiad ar ran y Bwrdd.

8. Gwaith y Dyfodol ACC

  1. Roedd nifer o drafodaethau'n digwydd ochr yn ochr ynglŷn â dyfodol ACC.
  2. Roedd gwaith ar y gweill gyda Llywodraeth Cymru ar drethi posibl yn y dyfodol, neu newidiadau i'r trethi presennol, ac ystyriaethau ynghylch sut y gallai ACC gyfrannu at rai elfennau, er mwyn helpu i egluro'r ffordd Gymreig o feddwl am ein hagenda dreth.
  3. Byddai'r Cynllun Corfforaethol newydd yn nodi'r meddwl hwn ynglŷn â gwaith yn y dyfodol, ac roedd yn ddefnyddiol bod amserlenni’r adolygiad o wariant a chynllunio corfforaethol wedi’u cydamseru.

Cynllun Corfforaethol

4. Cytunwyd rhwng y Gweinidog a'r Tîm Arwain (TA) y byddai'r amcanion strategol presennol yn parhau, er y byddai gweithgareddau sylfaenol yn newid. Roedd y Bwrdd yn cytuno. Byddai barn yn cael ei datblygu ymhellach ar sut y byddai amcanion Data a Dylunio’n cael eu llunio o fewn y cynllun.

5. Byddai TA yn cynnal adolygiad rhanddeiliaid.

Adolygiad o Wariant

6. Wedi'i olygu.

7. Roedd yn bwysig bod yn glir ar gostau model gwaelodlin, ond hefyd costau sy'n gysylltiedig â chefnogi WG yn y Rhaglen Lywodraethu. Wrth weithio gydag amcangyfrifon, mae angen i ni fynegi ein rhagdybiaethau’n glir. Byddai gweithio ar y defnydd o ddata yn ein dull risg treth, strategaeth ddigidol glir a'r gallu i fod yn hyblyg wrth symud adnoddau, yn ein galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am y dyfodol, gyda'r adnoddau sydd ar gael.

Rhaglen Lywodraethu

8. Sefydlwyd Grŵp Cydlynu Polisi Treth ar draws LlC/ACC ym mis Medi 2021, gyda'r prif bwrpas o geisio cysoni datblygiad polisi ar draws blaenoriaethau polisi treth LlC. Er mwyn cefnogi'r nodau hyn, roedd angen i'r grŵp gael dealltwriaeth gyffredin o sut mae treth yn gweithio.

9. Wedi'i olygu.

10. Wedi'i olygu.

Llywodraethu

11. Rhoddwyd diweddariad i'r Aelodau ar y gwaith ar lywodraethu allanol. Roedd y Gweinidog yn fodlon â'r dull ymgyfreitha, ac mae ganddo ddiddordeb mewn ymchwilio i newidiadau o fewn y Ddedf Casglu a Rheoli Trethi a fyddai'n hwyluso’r gwaith i ACC allu cefnogi LlC (er enghraifft, newid posibl o ran swyddogaethau, pwerau rhannu gwybodaeth).

12. O ran llywodraethu fewnol, sefydlwyd y SDLG, gyda'r cyfarfod cyntaf yn digwydd y mis hwn. Roedd yn ddechrau ar nifer o newidiadau, gwella'r ffordd y mae pobl yn cael eu grymuso i gymryd mwy o gyfrifoldeb, a chael arweinyddiaeth o fewn y sefydliad. Byddai hefyd yn creu gallu i arweinwyr corfforaethol ddechrau cael cwmpas strategol ehangach, a rheoli risgiau ar y lefel gywir.

D21-05-03: Cytunodd y Bwrdd i gynllun ymgysylltu'r Cynllun Corfforaethol.

D21-05-04: Cytunwyd bod yr ail Gynllun Corfforaethol yn cynnal yr un pedwar prif amcan (Hawdd, Teg, Effeithlon, Medrus).

Cau’r cyfarfod

9. Unrhyw fater arall

  1. Ni chodwyd unrhyw fusnes arall.

10. Rhagolwg

  1. Byddai'r eitemau canlynol yn cael eu hychwanegu at y rhagolwg (o'r drafodaeth ragarweiniol a'r cyfarfod heddiw):
    • diweddariad ar Ddyled ym mis Rhagfyr
    • diweddariad ar Dreth Gwarediadau Anawdurdodedig (O bosibl ym mis Chwefror)
    • adroddiad blynyddol ar seibr-sicrwydd (i'w benderfynu)
    • ymateb sefydliadol i addewid Dim Hiliaeth Cymru, ynghyd â'r adroddiad Cydraddoldeb (O bosibl ym mis Ebrill)
  2. Nodwyd pwysigrwydd hyblygrwydd trefnu eitemau yn y rhagolwg - roedd eitemau rheolaidd i'w hadolygu, fodd bynnag roedd yn bwysig caniatáu amser ar gyfer trafodaeth strategol wrth i gyd-destun y dyfodol ddatblygu.

11. Adolygiad o’r cyfarfod

  1. Roedd yn bwysig bod cynnwys a chrynodeb y trafodaethau diweddar yn cael eu trosglwyddo i'r Cyfarwyddwyr Anweithredol a'r Aelod Staff Etholedig newydd, fel rhan o'r gwaith o’u sefydlu. Gwnaed awgrym, fel mesur perfformiad, o faint o bobl sy'n cyfrannu at drafodaethau (y tu allan i'r Bwrdd), drwy gydol y flwyddyn. Byddai ystyriaeth yn cael ei roi i ba ymarferion datblygu tîm y dylid eu cynnal, pan fydd yr aelodau newydd yn cael eu penodi.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.