Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd 
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd 
  • Mary Champion, elod Anweithredol 
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Jim Scopes, Aelod Anweithredol
  • Rheon Tomos, Aelod Anweithredol 
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu 
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau 
  • Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig

Ymgynghorwyr

Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol, Trysorlys Cymru 

Guest

Ruth Glazzard, yn bresennol ar gyfer eitemau 1 a 2 yn unig.

Agoriad 

1. Croeso a Chyflwyniadau

  1. Nododd y Cadeirydd y byddai'r diwrnod yn cael ei rannu’n ddwy ran: trafodaeth anffurfiol gychwynnol gyda'r Cadeirydd newydd fel rhan o'i chyfnod sefydlu, ac yna cyfarfod ffurfiol y bwrdd ei hun.  Croesawodd Ruth Glazzard i'r cyfarfod, a chafodd pob aelod o'r Bwrdd gyfle i gyflwyno eu hunain.
  2. Gwahoddwyd pawb a oedd yn bresennol i rannu eu meddyliau am ddigwyddiadau'r pum mlynedd diwethaf ers sefydlu ACC. Ni chofnodwyd y myfyrdodau personol hyn, gan fod hon yn sgwrs anffurfiol fel rhan o gyfnod sefydlu’r Cadeirydd newydd

2. Ymddiheuriadau, gwrthdaro Buddiannau 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. Ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau newydd.

3. Cofnodion y cyfarfodydd diwethaf

  1. Roedd cofnodion cyfarfodydd y bwrdd ar 25 Mai ac ar 11-12 Gorffennaf 2022 wedi'u dosbarthu ymlaen llaw ac roeddent bellach wedi’u cymeradwyo. Roedd cofnodion ar gyfer cyfarfod 25 Mai yn cynnwys y gwelliannau a gynigiwyd drwy ohebiaeth.
     

    Cam gweithredu: Gofynnodd y Bwrdd bod tabl o gamau gweithredu sydd heb eu cwblhau yn cael eu dosbarthu fel mater o drefn. Ysgrifennydd y Bwrdd i weithredu.

    Cam gweithredu: Gofynnodd y Bwrdd bod fersiynau wedi'u golygu o'r Cofnodion o gyfarfodydd Mai a Gorffennaf, i'w cyhoeddi, yn cael eu dosbarthu ar gyfer eu cymeradwyo. Ysgrifennydd y Bwrdd i weithredu.

  2. Materion yn Codi. Roedd disgwyl newid cyfradd ar 10 Hydref. Roedd cyhoeddiad gan y Gweinidog wedi ei wneud ar 27 Medi. Roedd cyfrifiannell ACC wedi'i newid yn llwyddiannus, diolch i ymdrechion cydweithredol sawl tîm. Gwnaeth Trysorlys Cymru sylw ar y cydweithio hyfedr a chyflym ar draws Llywodraeth Cymru. Roedd y Bwrdd hefyd wedi llongyfarch pawb a fu'n ymwneud â’r gwaith o baratoi a chwblhau'r cyfrifon.  

    Cam gweithredu: Byddai Ysgrifennydd y Bwrdd yn ysgrifennu at y rhai a fu’n ymwneud â'r gwaith ar y cyfrifon a'r gyfrifiannell i fynegi gwerthfawrogiad y Bwrdd

4. Rhagolwg

1. Roedd y drafodaeth ar y papur Rhagolwg yn canolbwyntio ar y penderfyniadau yn ymwneud â llety’n unig. Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Gwasanaethau grynhoi’r pwyntiau allweddol ar y mater hwn ym mhapur y Bwrdd.  

Wedi'i olygu.

9. Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar natur newidiol arweinyddiaeth mewn amgylchedd hybrid. Nodwyd hefyd y gallai newidiadau pellach yn ein ffyrdd o weithio fod yn anoddach o ganlyniad 

Wedi'i olygu.

5. Cofnod risg corfforaethol 

Wedi'i olygu.

Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau

6. Adroddiad y Trysorlys

  1. Fel rhan o mini-gyllideb y Canghellor yn yr wythnos flaenorol, roedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi newidiadau i'r dreth stamp. Fel yn y gorffennol, pan fyddai Llywodraeth y DU yn gwneud ymdrech dreth is, byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn iawndal, fel arfer o amcangyfrifon gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol. Ond y tro hwn roedd yr amcangyfrifon wedi'u darparu gan Drysorlys Ei Mawrhydi, ac yn cyfateb i oddeutu £70m dros y cyfnod adolygu gwariant o dair blynedd. Roedd y Gweinidog wedi cyhoeddi newidiadau i'r TTT, gan ddod â newidiadau yr oedd hi'n ystyried eu cynnwys yn y Gyllideb Ddrafft, ymlaen. Talodd tua thraean o'r refeniw ychwanegol o'r DU y costau oedd yn gysylltiedig â'r newidiadau TTT, a defnyddiwyd y gweddill ar gyfer gwariant ar wasanaethau cyhoeddus.
  2. O ganlyniad i gyhoeddiad y Canghellor ar dreth incwm, roedd pŵer y Senedd wedi'i ddiddymu, gan adael pwerau i addasu dau fand treth yn unig. Roedd hyn yn cyflwyno heriau newydd, nid yn unig o ran y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, ond o ran sut yr effeithiwyd ar y setliad datganoli ei hun. Ynghyd â heriau sylweddol ym meysydd polisi Gogledd Iwerddon a'r Alban, roedd cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU bellach lawer yn fwy cymhleth.
  3. Byddai amrywiadau TTT yn ffocws yn ystod y misoedd nesaf, ochr yn ochr â'r Ardoll Ymwelwyr (VL). Roedd yr ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr wedi’i lansio'r wythnos flaenorol yng Ngogledd Cymru. Roedd y lansiad wedi mynd yn dda, ond roedd datganiad y Canghellor yr un pryd wedi bwrw cysgod drosto.

7. Croeso i sesiwn y prynhawn, ac Adroddiad y Cadeirydd 

  1. Hwn oedd cyfarfod olaf y Cadeirydd, gyda'i thymor yn y swydd yn dod i ben ar 18 Hydref. Nododd y Cadeirydd ei bod wedi bod yn fraint gwasanaethu yn y rôl hon, sefydlu'r sefydliad a chodi refeniw yng Nghymru am y tro cyntaf ers 800 mlynedd. Dywedodd ei bod hefyd wedi bod yn bleser gweithio gyda chymaint o weision sifil ymroddedig a thalentog ar y datblygiad hanesyddol hwn.  Diolchodd i bawb a oedd yn bresennol, a phawb yn y sefydliad a chofnododd ei dymuniadau gorau i holl aelodau'r sefydliad am eu rôl yn cefnogi Cymru yn y dyfodol. 
  2. Mynegodd y Bwrdd, yr Ymgynghorwyr ac eraill a oedd yn bresennol, eu diolch i'r cadeirydd am ei harweinyddiaeth graff y sefydlwyd ACC yn llwyddiannus yn ei sgil.

8. Adroddiad y Prif Weithredwr 

  1. Nododd y CE/AO ei fod wedi gwerthfawrogi'r sgwrs gynharach ynglŷn â llety, a chroesawodd unrhyw fewnbwn pellach. Yn ei rôl fel Swyddog Cyfrifyddu, nododd nifer o heriau yn yr amgylchedd presennol: pwysau ariannol ar Lywodraeth Cymru yn ehangach, a pherthynas ACC â gweddill Llywodraeth Cymru. Dywedodd y gallai rheoli tanwariant, er enghraifft, gael ei weld yn wahanol yn y dyfodol.
  2. Roedd pwysau ariannol diweddar wedi’i reoli gan benderfyniadau anodd gan gynnwys ailystyried gweithgarwch a oedd wedi’i drefnu. Byddai cynnig cyflog nesaf Llywodraeth Cymru yn un o’r materion hynny. Rhoddodd y CE/AO sicrwydd i’r Bwrdd y byddai canlyniadau ariannol pwysau’r dyfodol yn cael eu rhagweld cyn belled ag y bo modd, ond atgoffodd y Bwrdd y byddai angen gwneud penderfyniadau ACC yng nghyd-destun penderfyniadau Llywodraeth Cymru, er enghraifft,  ar gostau cysylltiedig â staff. Roedd polisi recriwtio a datblygu ACC yn dilyn yn polisi recriwtio a datblygu Llywodraeth Cymru yn gyffredinol.
  3. Cydnabu’r Bwrdd ddull y Prif Swyddog Gweithredol a rhoddodd ei gefnogaeth lawn iddo.
  4. Adroddodd y Prif Swyddog Gweithredol fod tystiolaeth ddiweddar ar y nifer isel o daliadau siec yn awgrymu y gallai fod yn briodol peidio â derbyn taliadau siec gan sefydliadau ryw bryd. Roedd y mater hwn wedi cael ei drafod gan y Bwrdd yn y gorffennol, ond roedd lefelau’r trafodiadau wedi gostwng ymhellach erbyn hyn. Byddai unrhyw benderfyniadau neu argymhellion i roi'r gorau i dderbyn sieciau’n cael eu gwneud yng nghyd-destun ehangach swyddogaethau ACC ac ymrwymiadau eraill.

9. Adroddiad Chwarterol y Prif Swyddog Cyllid i’r Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg

Wedi'i olygu.

3. Croesawodd y Bwrdd adroddiad y Prif Swyddog Cyllid (CFO). Sicrhawyd y Bwrdd, er bod yr hyblygrwydd ariannol yn lleihau, bod y systemau monitro yn effeithiol ac yn cael eu goruchwilio gan y Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC). Diolchodd y Bwrdd i Nic Greenwood am ei chyfraniad parhaus fel pennaeth Cyllid.

Cam gweithredu: Byddai'r C/AO yn cyfathrebu’r newidiadau sydd ar y gweill i gyllid TTT i’r Bwrdd, a sut y disgwylid i hynny effeithio ar waith ACC.

10. Adroddiad Chwarterol SDLG, a diweddariad ar y cynllun cyflawni, yn cynnwys paratoadau ar gyfer newidiadau i wasanaethau yn y dyfodol

  1. Cyflwynodd y Prif Swyddog Gweithrediadau yr adroddiad, a oedd wedi'i ddosbarthu ymlaen llaw. Paratowyd yr adroddiad hwn yn dilyn cyfarfod y SDLG ddiwedd mis Gorffennaf i adolygu perfformiad Ch1.
  2. Yn fyr, yn chwarter cyntaf 2022-23, y ffocws oedd datblygu a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ACC, datblygu Cynllun Cyflawni SDLG i gefnogi cyflawni Cynllun Corfforaethol ACC 2022-25, a gwaith parhaus ar draws y gwahanol feysydd dylunio y dyfodol.
  3. Er gwaethaf y pwysau hynny, gwnaeth SDLG gynnydd da ar draws nifer o'r prif gyflawniadau o fewn ei Gynllun Cyflawni, megis sefydlu a datblygu’r Tîm Gwasanaeth Dyledion ymhellach, cynnydd o ran adolygu a datblygu Strategaeth Risg Treth ACC, datblygu syniadau cychwynnol ar gyfer Panel GAAR a meysydd i feithrin gallu ar gyfer gwaith posibl ar achosion osgoi. Roedd y gwaith presennol yn cynnwys cydweithio â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Strategaeth ar y Cyd i reoli risgiau efadu treth, a datblygu gwaith ar Warediadau Anawdurdodedig, ymhlith meysydd eraill.

Wedi'i olygu.

7. TTT: Roedd ffigyrau o flwyddyn i flwyddyn yn debyg, ond roeddent yn arwydd o arafu posibl mewn gweithgarwch, gan effeithio ar incwm treth.

8. TGT: Erbyn hyn roedd swmp y gwastraff wedi adfer i lefelau 2018. Roedd amrywiadau mewn lefelau gwastraff a threth a adenillwyd o fewn terfynau a ragwelwyd. Roedd angen gwaith i ddeall sut roedd yr adferiad wedi digwydd, a'r gobaith oedd y byddai cynllun 3 blynedd yn cael ei ddatblygu i fynd i'r afael ag asesiadau a chasglu LGT. Roedd gwaith parhaus gyda CNC yn cefnogi asesiad risg.

Wedi'i olygu.

13. Rheoli Dyledion. Roedd hyn yn dal i fod yn faes heriol, o ran gwneud y mwyaf o effaith arian cyhoeddus. Roedd y ffigurau'n adlewyrchiad da o’n mesurau lliniaru wedi'u targedu, ac roedd y tîm dyledion newydd i'w llongyfarch ar reoli data da, sy’n dangos dull sy'n cael ei yrru gan ddata llwyddiannus.

Wedi'i olygu.

11. Adroddiadau pwyllgorau 

1. Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg – ARAC

Rhoddodd Cadeirydd ARAC sicrwydd i’r Bwrdd bod y materion a ystyriwyd gan ARAC wedi'u cynnwys o dan adroddiadau’r Prif Swyddog Cyllid a SDLG yn gynharach yn y cyfarfod ac nad oedd ganddi unrhyw beth pellach i'w ychwanegu.

2. Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol nad oedd y pwyllgor wedi cyfarfod eto, ond roedd disgwyl i’r pwyllgor gyfarfod ym mis Hydref.

Diweddglo

12. Unrhyw fater arall

  1. Byddai disgwyl i ACC gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg y flwyddyn nesaf. Byddai Safonau’r Gymraeg yn eitem agenda mewn cyfarfod Bwrdd yn y dyfodol.
  2. Byddai gwaith ACC gydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru ar ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd yn cael ei awgrymu fel eitem agenda yn y dyfodol.
  3. Diolchodd y CE/AO, a phawb a oedd yn bresennol, i Sam Cairns a Kathryn Bishop am eu cyfraniadau sylweddol i ACC.

13. Adolygiad y Cadeirydd o’r cyfarfod

Rhannodd Kathryn Bishop a Sam Cairns eu myfyrdodau ar eu hamser gydag ACC. Dyma oedd cyfarfod olaf Sam Cairns fel Prif Swyddog Gweithrediadau ac aelod o'r Bwrdd.

14. Y cyfarfod nesaf 

Cynhelir y cyfarfod nesaf, Sgwrs y Bwrdd, ar 19 Hydref.

Gwybodaeth wedi’i golygu

Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.