Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • David Jones, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid
  • Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
  • Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Stragetaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu – Trysorlys Cymru

Ysgrifenyddiaeth

  • Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

1. Croeso a chyflwyniadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, a byddai Anna Adams yn dirprwyo.
     
  2. Roedd Aelodau’r Bwrdd yn falch o groesawu Rebecca Godfrey yn ôl, a oedd yn bresennol ar ‘ddiwrnod cadw mewn cysylltiad’ o gyfnod mamolaeth. Bydd Rebecca yn dychwelyd amser llawn yr wythnos nesaf.

2. Parhad busnes a llesiant staff

  1. I raddau helaeth, roedd y sefyllfa i’n pobl yn parhau’r un fath â’r diweddariad diwethaf ar yr amgylchiadau cyfredol.
     
  2. Mae ACC bellach yn symud at feddwl tymor canolig am y 6 mis nesaf; sef gweithgareddau a gweithrediadau wedi’r cyfnod clo. Mae angen i’r sefydliad ystyried beth y mae am ei ddysgu o’r profiad hwn ar gyfer y dyfodol. Tynnodd y Prif Weithredwr sylw’r holl staff i’r drafodaeth hon yn gynharach yn yr wythnos.
     
  3. Nodwyd hefyd y dylai ACC gyfrannu at feddwl ehangach Llywodraeth Cymru ar adfer wedi COVID-19.

3. Effaith COVID-19 ar gyllideb 20/21

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

4. Adroddiadau gan y pwyllgorau

  1. Rhoddwyd adroddiad byr gan Gadeirydd ARAC, a nodwyd y byddai’r pwyllgor yn adolygu risgiau seiber-ddiogelwch yn sgil staff yn gweithio o gartref.
     
  2. Yn dilyn ei adolygiad o effeithiolrwydd, bydd y Gofrestr Risg yn cael ei hadolygu hefyd er mwyn ei gwneud yn haws craffu’n well.
     
  3. Cytunodd ARAC hefyd ar ei Adroddiad Blynyddol a fydd yn cyfrannu at Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ACC.
     
  4. Cyfarfu’r Pwyllgor Pobl yn gynharach yn yr wythnos, oherwydd cytunwyd bod cyfarfod ychwanegol yn ofynnol er mwyn ceisio sicrhad bod camau priodol wedi’u cymryd yn ystod yr amser anodd yma, o ran salwch staff a chyfrifoldebau gofalu, llesiant, recriwtio a lleoliad.
     
  5. Dywedodd y Pwyllgor ei fod wedi cael sicrwydd ym mhob mater a bod ACC, a’r Tîm Arwain yn benodol, yn parhau i fod â throsolwg da ar y sefyllfa, a bod rheolwyr llinell mewn cysylltiad da â’u staff.
     
  6. O ystyried yr oedi disgwyliedig cyn bod modd defnyddio QED eto, ystyriwyd bod lleoliad yn fater newidiol, oherwydd gall ffordd ACC o weithio ar ôl COVID-19 effeithio ar hyn; bydd y Prif Weithredwr yn adrodd ar hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
     
  7. Diolchodd y Bwrdd i’r ddau bwyllgor am eu hadroddiad a’u sicrwydd.

5. Cynllun gweithredu

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.