Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: Chwefror 2020
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2020, Parc Cathays.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
- Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid
Ymgynghorwyr
- Joanna Ryder, Pennaeth Staff
- Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
- Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro
- Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
- Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
Yn Mynychu
- Swyddog Arweiniol Gorfodi Trethi
Ysgrifenyddiaeth
- Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
Agor y cyfarfod
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. Byddai Swyddog Arweiniol Gorfodi Trethi ACC yn arsylwi’r cyfarfod.
- Nododd y Cadeirydd mai hwn fyddai cyfarfod olaf Sean Bradley fel Aelod Gweithredol o’r Bwrdd. Llongyfarchwyd Sean ar ei rôl newydd y tu allan i’r sefydliad a diolchwyd iddo am ei gyfraniad fel aelod Bwrdd ac fel cyflogai ACC.
- Rhoddodd Jocelyn Davies wybod i’r aelodau ei bod wedi penderfynu peidio â derbyn rôl yn cadeirio comisiwn y mae Plaid Cymru’n ei sefydlu i archwilio llwybr cyfansoddiadol at annibyniaeth i Gymru. Gofynnodd y Cadeirydd am i’r gofrestr gwrthdaro buddiannau gael ei diweddaru i adlewyrchu hyn.
- Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir o’r drafodaeth a chytunwyd hefyd ar y cofnod wedi’i olygu ar gyfer ei gyhoeddi.
- Nododd y Cadeirydd benderfyniadau’r cyfarfod diwethaf a rhoddodd ddiweddariad am y camau gweithredu a oedd heb eu cymryd; cytunwyd y byddai tri cham gweithredu’n parhau ar agor.
- Nododd y Cadeirydd fod yr Egwyddorion Cyfathrebu wedi’u cytuno’n rhithwir gan y Bwrdd a gofynnodd am i’r cofnod gofnodi’r penderfyniad hwnnw’n ffurfiol.
- Rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am gau adeilad QED yn dilyn y llifogydd diweddar. Roedd yr adeilad yn cael ei asesu am ddifrod ac roedd y tîm yn gobeithio y byddai’n gallu cael mynediad yn ystod y diwrnodau nesaf i dynnu’n cyfarpar, gwybodaeth bersonol am drethdalwyr ac eiddo personol pobl oddi yno.
- Roedd nifer cyfyngedig o liniaduron ar gael i’r rhai oedd â’u dyfeisiau yn QED ar hyn o bryd. Roedd cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith i reoli hyn ac roedd gwaith wedi dechrau er mwyn sicrhau ystafelloedd priodol i dimau ond roedd yn debygol y byddai timau’n cael eu gwasgaru ar draws ystâd Llywodraeth Cymru (Parc Cathays a Merthyr) ac yn gweithio o’u cartrefi dros y misoedd i ddod.
- Diolchodd y Bwrdd i staff ACC, Trysorlys Cymru a Llywodraeth Cymru am yr holl waith sy’n cael ei wneud er mwyn i’r staff allu parhau â’u gwaith. Nododd yr Aelodau hefyd fod digwyddiadau diweddar yn dyst i gryfder y cynllun parhad busnes a gwytnwch y sefydliad. Awgrymodd y Bwrdd y byddai’n ymarfer da i gymryd ychydig o amser, pan fyddai’r mater wedi’i ddatrys yn llwyr, i asesu effeithiolrwydd y cynllun parhad busnes a nodi unrhyw wersi a ddysgwyd.
- Byddai trefniadau’n cael eu rhoi ar waith i hwyluso digwyddiadau gyda’r nod o ddod â thimau ynghyd, yn enwedig gan y byddai peth amser cyn y byddent yn gweithio o’r un lleoliad eto.
Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau
2. Adroddiad y Cadeirydd
- Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y byddai’r Gweinidog yn mynychu rhan o gyfarfod Bwrdd mis Mehefin. Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol mwyaf diweddar â’r Gweinidog ar 15 Ionawr; roedd ffocws y cyfarfod hwn ar berfformiad gweithredol, yn enwedig ‘Ein Dull’ a’r gwaith dadansoddi risg treth.
- Gwahoddwyd ACC i gyfranogi mewn rhaglen ymchwil ar ddatgan diben, wedi’i gweithredu gan Brifysgol Rhydychen. Mynychodd y Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol gyfarfod cyntaf y grŵp ymchwil yn gynharach y mis hwnnw; ymhlith yr aelodau roedd cadeiryddion ac uwch arweinwyr o sefydliadau sector preifat fel Siemens, ac o’r sector cyhoeddus, fel Ystadau’r Goron, a’r Asiantaethau Taliadau Gwledig.
- Un wers a ddysgwyd o’r cyfarfod oedd argymhelliad i Fyrddau gyfeirio’n rheolaidd at eu datganiadau diben er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio yn faen prawf wrth wneud penderfyniadau. Nododd y Cadeirydd ei bod wedi cymryd cam i sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud hyn yn rheolaidd.
3. Adroddiad y Prif Weithredwr
Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).
4. Perfformiad ariannol
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
5. Adroddiad gan bwyllgorau
- Oherwydd agenda llawn, byddai Dyfed Edwards yn anfon diweddariad rhithwir at yr aelodau am gyfarfod a gweithgarwch diweddaraf y Pwyllgor Pobl. Byddai’r cofnod a gytunwyd ddiweddaraf hefyd yn cael ei anfon i’r Bwrdd er gwybodaeth.
6. Adroddiad gan Gyfarwyddwr Trysorlys Cymru
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
Cymeradwyaeth, penderfyniadau a chyfeiriad
7. Dyraniad cyllideb ar gyfer 2020-21
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
8. Rhaglen Gyfalaf
- Rhoddwyd trosolwg o’r dull a weithredwyd er mwyn cynnig am wariant cyfalaf, yn dilyn yr un fformat ag yn adrannau eraill Llywodraeth Cymru.
-
Ni roddwyd cyfle i’r Bwrdd roi sylwadau am y cynigion arfaethedig cyn iddynt gael eu cyflwyno am fod proses ddeuol yn cael ei gweithredu oherwydd cyfyngiadau amser. Fodd bynnag, gofynnwyd i’r aelodau adolygu a chymeradwyo’r dull ar gyfer cynnig am gronfa cyfalaf, ystyried y Biblinell Gyfalaf a chymeradwyo’r rhaglen a’r broses ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
-
Roedd cydweithwyr Llywodraeth Cymru yn fodlon ar ansawdd y cynnig a byddent yn ei ystyried ac yn ymateb i ACC maes o law. Awgrymwyd y gallai gwahanol ddull fod yn fwy priodol yn y dyfodol, lle byddai ACC yn ceisio cymeradwyaeth am gyllideb gyfalaf ochr yn ochr â refeniw; gwneir hyn gan Adrannau eraill Llywodraeth Cymru.
9. Polisïau gorfodi sifil a throseddol
Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).
10. Cofrestr Risg Corfforaethol
- Rhannwyd y Gofrestr Risg Corfforaethol gyda’r Bwrdd fel rhan o’i drefniadau sicrhau a chraffu blynyddol.
- Roedd Tîm Arwain wrthi’n adolygu’r gofrestr risg gyfredol er mwyn sicrhau bod pob risg allweddol yn cael ei adlewyrchu’n gywir.
-
Cytunodd y Bwrdd ar y gofrestr risg ac roedd yn fodlon ar y ffordd y cyflwynwyd y risgiau i’w cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol.
11. Datganiad gweledigaeth a’r camau nesaf ar gyfer y Gymraeg
- Gofynnwyd i’r Bwrdd gefnogi datganiad gweledigaeth drafft ar gyfer y Gymraeg, wedi’i ddatblygu gan staff yn y diwrnod cwrdd i ffwrdd ym mis Ionawr. Cyflwynwyd y datganiad canlynol:
Mae ACC yn sefydliad lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Gall ein pobl ddysgu, gwella a mwynhau defnyddio’r iaith yn eu gwaith pob dydd.
- Roedd y Bwrdd yn fodlon ar y cyfan a chytunwyd i gefnogi’r datganiad, gyda’r cafeat y byddai cysylltiad yn cael ei gwneud i’n gwasanaethau allanol, naill ai yng ngeiriad y datganiad ei hun neu’r strategaeth ehangach.
- Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau bod y strategaeth hon yn adlewyrchu diwylliant a gwerthoedd y sefydliad.
- Byddai’r Bwrdd yn cael diweddariad yn nes ymlaen.
Trafodaeth
12. Gwerthuso effeithiolrwydd y Bwrdd a chynllunio ar gyfer olyniaeth
- Cafodd y Bwrdd wybod y byddai nifer o benodiadau Anweithredol yn digwydd yn ystod yr haf ond, am fod hyn yn benodiad Gweinidogol, byddai angen i ni ddisgwyl am gymeradwyaeth ffurfiol cyn i ni ddechrau unrhyw gyfathrebu am hyn.
- Cynhaliwyd y gwerthusiad Effeithiolrwydd Bwrdd ym mis Ionawr, ac anfonwyd trosolwg o’r camau gweithredu a gymerwyd o’r ymarfer hwnnw at aelodau’r Bwrdd yn dilyn y sesiwn. Croesawodd y Cadeirydd awgrymiadau ar gyfer camau pellach i wella cyfarfodydd y Bwrdd a chytunwyd bod angen mwy o amser i drafod y canlyniadau ac y byddai hwn yn ymarfer da i’w gynnal cyn i aelodau newydd ymuno â’r Bwrdd.
- Dywedodd y Cadeirydd wrth y Bwrdd y byddai’r Ysgrifenyddiaeth yn trefnu cyfarfodydd gwerthuso diwedd blwyddyn ar ei chyfer hi a phob aelod o’r Bwrdd. Gofynnwyd hefyd iddynt gyfrannu at ei gwerthusiad drwy ddarparu sylwadau i’w hystyried gan yr Ysgrifennydd Parhaol cyn cyfarfod adolygiad diwedd blwyddyn y Cadeirydd ym mis Mawrth.
- Roedd gwelededd y Bwrdd yn faes a oedd yn sgorio’n gymharol isel yn yr holiadur effeithiolrwydd, ac awgrymwyd trafod hyn rywdro arall er mwyn penna a oedd angen cymryd camau. O ystyried y byddai llawer o’n pobl yn gweithio o Swyddfeydd LlC Merthyr dros yr wythnosau i ddod, awgrymwyd y gallai un o ddigwyddiadau’r Bwrdd yn y dyfodol gael ei gynnal yno.
Cyfarfod yn cau
15. Unrhyw fater arall
- Mynegodd y Prif Swyddog Gweithredol ei ddiolchgarwch i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth yn dod o hyd i ddesgiau i staff ar ôl cau QED. Nododd fod CNC a Revenue Scotland hefyd wedi cynnig cefnogaeth, a bod hynny’n cael ei werthfawrogi’n fawr.
16. Rhagolwg
- Atgoffwyd yr Aelodau fod hon yn ddogfen waith a fyddai’n cael ei diweddaru’n barhaus.
- Roedd eitem ar y rhagolwg i drafod y Llythyr Cylch Gwaith ym mis Ebrill, ond cafodd yr aelodau wybod y gallai hon yn cael ei thynnu pe byddai’r Gweinidog yn teimlo bod y llythyr cyfredol yn addas at ddiben o hyd.
17. Adolygiad o’r cyfarfod
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.