Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: Mehefin 2018
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018 am 10.30yb, Trefforest.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Jocelyn Davies, Anweithredol
- Dyfed Edwards, Anweithredol
- David Jones, Anweithredol
- Lakshmi Narain, Anweithredol
- Martin Warren, Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Swyddog Gweithredol
- Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth
Ymgynghorwyr
- Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Catrin Millar, Pennaeth Cyfathrebu
- Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
- Teresa Platt, Prif Swyddog Cyllid
Yn cyflwyno neu mynychu
- Gweithiwr Achos Technegol Arweiniol TTT
- Pennaeth Digidol
- Rheolwr Polisi Dyled
- Rheolwr Polisi TTT
Ysgrifenyddiaeth
- Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd
Agor y cyfarfod
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi
- Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Bwrdd a’r ymgynghorwyr i’r cyfarfod. Ni chodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau.
- Cafwyd ymddiheuriadau gan Jo Ryder, Dave Mathews a Sam Cairns. Roedd Nina Engelhardt yn dirprwyo ar ran Sam.
- Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn ddisgrifiad cywir o’r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf. Trafodwyd y camau gweithredu a oedd heb eu cwblhau a chytunwyd y byddai pedwar ohonynt yn parhau ar agor.
- Bu’r Cadeirydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gam gweithredu blaenorol (A18-01-06). Crëwyd cais Rhyddid Gwybodaeth ffug i brofi canllawiau a phroses Rhyddid Gwybodaeth YR AWDURDOD, ac i helpu gyda’r penderfyniad am gyhoeddi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth(MC)/ Safonau Rhyngwladol ar Archwilio (SRhA) gydag adrannau llywodraeth eraill.
- Datgelodd yr ymarfer y byddai swmp yr wybodaeth yn y MC/SRhA yn cael ei wneud ar gael pe gofynnid amdano o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac felly nad oedd yr un rheswm pam na ellid cyhoeddi’r dogfennau. Er nad oedd hyn yn arfer cyffredin, cytunodd y Bwrdd i gyhoeddi MC ac SRhA gorffenedig lle byddai angen eu rhyddhau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a lle cytunwyd i’r cyhoeddi ymlaen llaw â’r partneriaid perthnasol. Awgrymwyd i’r cyhoeddi ddigwydd ar adeg briodol nad yw’n tarfu ar unrhyw gyfathrebu arall.
Adroddiadau, cymeradwyaeth a phenderfyniadau
2. Adroddiad y Cadeirydd
- Dathlodd y Cadeirydd lwyddiant diweddar yn y sefydliad. Roedd ail gyhoeddiad data ystadegol wedi digwydd yn gynharach yr wythnos honno; defnyddiwyd darn o waith yr oedd Trysorlys Cymru (TC) a’r Awdurdod wedi’i ddatblygu ar ddehongliadau i hysbysu’r trafodaethau ac arwain yr agenda mewn digwyddiad diweddar Grŵp Ymarferwyr Treth Stamp; roedd y tîm Treth Gwarediadau Tir (TGT) a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnal naw ymweliad ledled Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr i lywio penderfyniadau ar geisiadau disgownt dŵr; roedd YR AWDURDOD wedi ymateb i’w farn dreth gyntaf am ymholiad cymhleth am dreth trafodiadau tir; roedd y ddesg gymorth yn dal i gael adborth cadarnhaol ynghylch ei dull; a sefydlwyd y Pwyllgor Pobl yn ffurfiol ac roedd wedi cwrdd am y tro cyntaf ar 13 Mehefin.
- Rhoes y Cadeirydd wybod i’r Bwrdd ei bod wedi cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet y mis blaenorol am y cyntaf o’u cyfarfodydd chwarterol. Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol iawn a rhannodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ymdeimlad o gyfrifoldebau’r sefydliad; byddai’r rhain yn cael eu defnyddio i fframio trafodaethau diwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd ym mis Gorffennaf.
-
Byddai’r Cadeirydd yn cwrdd â’r Ysgrifennydd Parhaol am y nesaf o’u cyfarfodydd Grŵp Sicrhau chwarterol ac yn cwrdd ag Ysgrifennydd y Cabinet am yr ail o’u cyfarfodydd chwarterol ym mis Gorffennaf. Atgoffwyd yr Aelodau o ddau ddigwyddiad TC a oedd ar ddod ar bolisi treth a datganoli ariannol.
- Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd am gymryd amser i gwrdd â hi am eu hadolygiadau canol blwyddyn unigol; roedd y cyfarfodydd wedi esgor ar rai awgrymiadau a mewnwelediadau defnyddiol iawn.
3. Adroddiad y Prif Weithredwr (perfformiad sefydliadol)
- Cyflwynodd y Prif Weithredwr y papur perfformiad sefydliadol. Roedd rhai adroddiadau amlinellol o ddata perfformiad wedi’u rhannu gyda’r Bwrdd cyn y cyfarfod. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd fod y gwaith hwn yn mynd rhagddo ac y byddai rhagor o adroddiadau’n cael eu cynhyrchu dros amser.
- Darparwyd trosolwg o gyfarfod diweddaraf y Pwyllgor Gweithredol ynghyd â’r wybodaeth ddiweddaraf am bobl. Am fod gan y sefydliad bellach y rhan fwyaf o’r bobl a’r sgiliau sy’n ofynnol, mae’r broses recriwtio wedi arafu rhywfaint, er bod rhai penodiadau i’w gwneud o hyd yn ystod yr haf.
- Roedd nifer y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir (TTT) a gafwyd yn ystod deufis cyntaf y gweithrediadau yn fras unol â’r disgwyliadau. Cydnabu’r Bwrdd fod hyn yn beth cadarnhaol ac efallai o ganlyniad i gyfathrebu ac ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid.
- Ni chafwyd ymholiadau o gwbl am y ddau gyhoeddiad cyntaf o ddata ystadegol. Byddai cyfathrebu pellach yn cael ei wneud tuag adeg y cyhoeddiadau data yn y pedwerydd chwarter, oherwydd byddai digon o ddata erbyn hynny i’w ddehongli.
- Roedd y Bwrdd yn fodlon ar fformat yr adroddiadau am berfformiad sefydliadol. Nodwyd y bydd y Pwyllgor Gweithredol yn dymuno codi unrhyw bryderon sydd ganddo am berfformiad gyda’r Bwrdd drwy’r adroddiadau hyn
4. Perfformiad ariannol
Gwybodaeth wedi’i thynnu allan (Troednodyn 1).
5. Adroddiad gan bwyllgorau
- Rhoes Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC) drosolwg o weithgarwch diweddar. Bu’r pwyllgor yn canolbwyntio ar brosesau a gweithdrefnau ac ar sicrhau bod polisïau priodol ar waith. Ochr yn ochr â hyn, roedd gwaith hefyd yn cael ei wneud i sicrhau bod risg yn cael ei ystyried a’i reoli’n briodol yn y sefydliad. Roedd gwaith ar ddatblygu cofrestr risg wedi’i ystyried gan ARAC. Fodd bynnag, roedd angen gwneud gwaith i bennu archwaeth risg y Bwrdd, a byddai hwn yn cael ei drafod yn niwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd ym mis Gorffennaf.
- Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Pobl wrth y Bwrdd fod y pwyllgor wedi cwrdd am y tro cyntaf yr wythnos flaenorol. Yn y cyfarfod, bu’r aelodau’n trafod ac yn cytuno ar gylch gorchwyl ac amlder cyfarfodydd y pwyllgor. Awgrymwyd gwahodd mynychai annibynnol yn ôl yr angen, yn lle cael gwahoddiad parhaol i gyfarfodydd pwyllgor. Bu’r aelodau’n ystyried ac yn trafod y cynllun sefydliadol a phroffil staff, ac awgrymwyd y dylai trosolwg o’r wybodaeth hon gael ei rannu gyda’r Bwrdd er gwybodaeth. O ystyried bod y sefydliad dan gryn bwysau, nodwyd ei bod yn bwysig cadw llesiant staff mewn golwg ac roedd y pwyllgor yn bwriadu cynnwys hwn ar agenda yn y dyfodol.
- Dywedwyd wrth y Bwrdd fod YR AWDURDOD wedi cydnabod yn ffurfiol yn ddiweddar yr un tair undeb â LlC, er bod YR AWDURDOD yn cael ei gydnabod gan yr undebau yn rhywbeth ar wahân i LlC. Trafododd y Bwrdd yr angen am gynlluniau wrth gefn ar gyfer diwrnodau streic posibl.
6. Adroddiad Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru
- Bu Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru (TC) yn rhoi gwybod am weithgarwch diweddar. Cafwyd llawer o gydweithio da rhwng TC a’r Awdurdod. Roedd cynllun cydweithio ar y gweill, a hwnnw’n gwneud cynnydd da. Yn rhan o’r gwaith hwn, roedd goblygiadau posibl mewn cysylltiad â chyllideb flynyddol y DU yn cael eu hystyried. Roedd cydweithio hefyd yn digwydd ar ddatganoli treth incwm, a byddai brîff yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd yn yr hydref.
- Cafodd y Bwrdd wybod bod y gwaith ar dreth tir gwag hefyd yn gwneud cynnydd da ac y byddai cymhwysedd deddfwriaethol yn cael ei geisio er mwyn i Gymru gyflwyno’r dreth. Byddai adroddiad ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’ gan yr Athro Gerald Holthom yn cael ei gyhoeddi tua diwedd mis Mehefin.
- Roedd darn o waith am risgiau a chyfleoedd sail dreth Cymru yn cael ei wneud a byddai’n cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach y mis hwnnw.
Trafodaeth Bwrdd
7. Aelod etholedig o staff
-
Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgynghorwyr adael y cyfarfod ar gyfer yr eitem i osgoi ymdeimlad fod gan y rhai presennol unrhyw fantais yn yr etholiad. Nododd y Cadeirydd fod saith penderfyniad yn ofynnol o dan yr eitem, a phedwar ohonynt ar gyfer y Bwrdd cyfan a thri ar gyfer yr aelodau anweithredol.
Penderfyniadau gofynnol gan y Bwrdd: - Cytuno ar y rheolau cymhwyster ar gyfer pleidleisio a sefyll yn yr Etholiad: Roedd aelodau’r Bwrdd yn fodlon ar y rheolau cymhwyster arfaethedig. Fodd bynnag, gofynasant y gallai ymgeisydd sefyll am ddau dymor olynol yn unig. Byddai hyn yn rhoi digon o amser i unigolion ymgartrefu yn y rôl. Cytunasant hefyd y gallai staff ymgeisio am ail dymor yn dilyn cyfnod braenaru.
- Cytuno ar y weithdrefn enwebu: Cytunodd y Bwrdd ar y weithdrefn enwebu arfaethedig. Byddai gofyn dau gefnogwr ar enwebeion a byddai staff yn gallu cefnogi mwy nag un enwebai.
-
Y dull pleidleisio i’w ddefnyddio, mwyafrif syml neu bleidlais atodol: Cytunodd y Bwrdd i broses pleidlais atodol.
-
Cymeradwyo’r dyddiadau arfaethedig ar gyfer yr Etholiad i ddod: Cytunodd y Bwrdd i’r dyddiadau arfaethedig ar gyfer yr etholiad i ddod, yn amodol ar un ychwanegiad. Gofynnodd yr Aelodau fod amser yn cael ei gynnwys yn yr amserlen i’r Bwrdd gytuno’n rhithiol ar benodi’r unigolyn etholedig rhwng cau’r bleidlais a chyhoeddi’r canlyniadau, fel y mae’r ddeddfwriaeth yn ei nodi.
Penderfyniadau gofynnol gan aelodau Anweithredol: - Cytuno ar faint yr ‘amser cyfleuster’ a roir i’r Aelod Etholedig o Staff gyflawni ei ddyletswyddau: Teimlai’r aelodau anweithredol y dylai’r amser sy’n ofynnol ar gyfer ‘Busnes Bwrdd’ gael ei drafod a’i gytuno rhwng yr unigolyn a’i reolwr llinell, i gynnwys gwaith paratoi ar gyfer y cyfarfodydd, mynychu’r cyfarfod ac ar gyfer unrhyw fusnes arall perthnasol i’r Bwrdd. Mewn trafodaeth rithiol ddilynol, cytunodd mwyafrif yr aelodau anweithredol y dylai’r disgrifiad swydd nodi’r amser tebygol sy’n ofynnol, fel yr awgrymir yn y papur, sef 10 diwrnod.
-
A ddylai rôl yr Aelodau Etholedig o Staff gael taliad cydnabyddiaeth yn benodol: Ar ôl cryn drafod am arfer Gwasanaeth Sifil ar y mater hwn, cytunodd yr aelodau anweithredol y dylai fod yn gyfle di-dâl.
-
Cytuno ar hyd tymor yr Aelod Etholedig o Staff: Trafododd y Bwrdd bosibilrwydd tymor o ddwy neu dair blynedd. I sicrhau digon o amser i’r unigolyn ymgartrefu yn y rôl ac felly sicrhau nad oedd diwedd ei dymor yn cyd-daro â diwedd tymor cyntaf yr aelodau anweithredol, cytunwyd ar dair blynedd o dymor mewn swydd.
-
Awgrymwyd cynllunio’r broses i annog ystod amrywiol o geisiadau, gan gynnwys aelodau ieuengach o staff. Cytunodd y Bwrdd y byddai ymgyrchu ar gyfer y rôl yn amhriodol ac y dylai’r staff gael y cyfle i gyflwyno pleidlais bost.
-
Nodwyd y byddai’r penodiad yn cael ei wneud gan yr aelodau anweithredol ac felly y byddai terfyniad y penodiad hwnnw hefyd yn cael ei wneud gan aelodau anweithredol, yn unol â’r ddeddfwriaeth.
- Cytunodd y Bwrdd fod angen rheoli cyfathrebu mewnol yn briodol a bod angen eglurder ar y staff am ddiben a chyfrifoldebau’r rôl. Awgrymwyd trefnu sesiwn anffurfiol i’r staff gwrdd â’r Bwrdd i drafod y rôl.
8. Blaenoriaethau’r flwyddyn gyntaf
-
Nododd y Cadeirydd fod hwn yn gyfle i’r Bwrdd roi sylwadau a gwneud penderfyniad am flaenoriaethau blwyddyn gyntaf y sefydliad. Byddai canlyniad yr eitem yn llywio penderfyniadau’r dyfodol a gwariant cyllideb YR AWDURDOD.
-
Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd fod angen i’r Awdurdod ganolbwyntio ar ei gyfres nesaf o nodau, am ei fod bellach wedi cyrraedd ei nod a’i ddiben gwreiddiol, sef sefydlu’r sefydliad. Roedd y tîm wedi dechrau ei waith ar y cynllun corfforaethol tair blynedd, a daeth i’r amlwg fod angen rhywbeth i arwain y sefydliad drwy’r cyfnod interim. Cynigiwyd y blaenoriaethau canlynol ar gyfer y flwyddyn gyntaf
- Mewnosod Ein Dull o Weithredu
- Datblygu dealltwriaeth o’n hamgylchedd a’n gweithrediadau
- Meithrin gallu
- Cydnabu’r Cadeirydd fod y blaenoriaethau hyn yn cyfateb i ymdeimlad Ysgrifennydd y Cabinet o gyfrifoldebau’r sefydliadau.
- Roedd y Bwrdd yn fodlon ar flaenoriaethau arfaethedig y flwyddyn gyntaf. Fodd bynnag, pwysleisiwyd pwysigrwydd rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod ‘Ein Dull o Weithredu’ yn gweithio.
9. Diogelwch digidol
- Nododd y Cadeirydd fod yr eitem hon am sicrhau’r Bwrdd fod prosesau diogelwch cadarn ar waith.
- Dywedwyd wrth y Bwrdd fod LlC wedi cymeradwyo prosesau diogelwch YR AWDURDOD ac wedi cadarnhau eu bod yn bodloni ei gofynion. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar y lefel hon o sicrwydd, ond cydnabu fod rhyw lefel o ymosodiadau’n anochel. Byddai’r Bwrdd yn cael gwybod am ddigwyddiadau ar sail lefel y risg. Byddai prosesau diogelwch yn cael eu hadolygu a’u profi’n rheolaidd.
- Byddai polisïau a gweithdrefn Diogelwch Digidol yn cael eu trafod yn ARAC yn rhan o’r gwaith yr oedd y pwyllgor yn ei wneud, a byddai crynodeb o gasgliadau’r pwyllgor yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd yn rhan o’i adroddiad rheolaidd. Gofynnodd y Bwrdd am frîff diogelwch pellach yn yr hydref.
10. Gorfodi a chasglu dyled
- Nododd y Cadeirydd fod yr eitem wedi’i dwyn gerbron y Bwrdd am drafodaeth gychwynnol ac y byddai pwnc y polisi gorfodi a chasglu dyled yn dychwelyd ym mis Medi i gytuno arno.
- Dywedwyd wrth y Bwrdd fod y cynnig wedi ystyried barn Ysgrifennydd y Cabinet am orfodi a chasglu Dyled. Byddai’r tîm yn treialu gweithgarwch dyled yn fewnol ac yn profi’r polisi yn erbyn y data a gasglwyd.
- Trafodwyd y risg i enw da sydd ynghlwm wrth ddyled, a phwysleisiwyd ei bod yn bwysig sicrhau bod prosesau’r Awdurdod yn cydredeg ag ‘Ein Dull o Weithredu’ a’r Siarter. Nododd y Bwrdd fod y papur yn ymdrin â chasglu a gorfodi ond awgrymodd y dylai’r tîm fod yn canolbwyntio mwy ar atal dyled cyn iddi ddigwydd ac ar gyfleoedd i newid y diwylliant ynghylch dyled oherwydd, gan amlaf, mae sefydliadau sy’n ymdrin â dyled mewn modd cadarnhaol yn cael canlyniadau mwy cadarnhaol.
- Awgrymwyd i’r tîm gyflwyno eitem i’r Bwrdd ar broses dyled o’r dechrau i’r diwedd cyn cyfarfod nesaf y Bwrdd.
11. Unrhyw fater arall
- Awgrymwyd ailystyried hyd y cyfarfodydd Bwrdd. O ystyried y byddai’r Bwrdd yn cwrdd yn llai aml, efallai y byddai angen estyn y cyfarfodydd.
12. Rhagolwg
- Nododd y Cadeirydd fod y rhagolwg yn ddogfen weithiol, sy’n rhoi’r cyfle i’r Bwrdd roi sylwadau am agendâu’r dyfodol ymlaen llaw. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar yr eitemau ar gyfer y cyfarfod canlynol.
- Gofynnodd y Bwrdd am ychwanegu’r eitemau canlynol at y rhagolwg:
- Brîff pellach ar Ddiogelwch Digidol
- Proses dyled o’r dechrau i’r diwedd
- Awgrymwyd hefyd y gallai rhai eitemau parhaol ddod allan ar gyfer diwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd ym mis Gorffennaf e.e. blaenoriaethau ac adrodd am risg, drafft cyntaf y cynllun corfforaethol.
13. Adolygiad o’r cyfarfod
Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).
[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath, tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.