Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Dirprwy Gadeirydd
  • Jocelyn Davies, Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Swyddog Gweithredol
  • Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff 
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
  • Kate Innes, Swyddog Cyllid Dros Dro 
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu     
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Stragetaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu – Trysorlys Cymru

Ysgrifenyddiaeth

  • Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

Agor y cyfarfod

1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdaro buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod; ymunodd Kate Innes y Prif Swyddog Cyllid Dros Dro â’r Bwrdd am y tro cyntaf fel Ymgynghorwr.
     
  2. Cododd Jocelyn Davies wrthdaro buddiannau newydd: roedd wedi cytuno’n ddiweddar i gadeirio comisiwn y mae Plaid Cymru’n ei sefydlu er mwyn archwilio’r llwybr cyfansoddiadol at annibyniaeth i Gymru.
     
  3. Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn ddisgrifiad cywir o’r hyn a drafodwyd, a chytunodd yr aelodau hefyd i’r cofnod wedi’i olygu ar gyfer ei gyhoeddi.
     
  4. Cafwyd ymddiheuriadau gan David Jones ac Andrew Jeffreys; byddai Anna Adams yn dirprwyo ac yn cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru.
     
  5. Nodwyd na fyddai’r Bwrdd yn ffurfio cworwm ar gyfer gwneud penderfyniad o ystyried nifer yr aelodau Anweithredol a oedd yn bresennol, felly fel datrysiad cytunodd Sam Cairns i sefyll i lawr o unrhyw benderfyniadau.
     
  6. Nododd y Cadeirydd benderfyniad y cyfarfod diwethaf a rhoddodd ddiweddariad am y camau gweithredu a oedd heb eu cymryd; cytunwyd y byddai tri cham gweithredu’n parhau ar agor.
     
  7. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

Adroddiadau, cymeradwyaeth a phenderfyniadau

2. Adroddiad y Cadeirydd

  1. Rhoddodd y Cadeirydd yr wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar. Cynhaliwyd cyfarfod Grŵp Partneriaeth â’r Ysgrifennydd Parhaol yr wythnos flaenorol, ac ynddo bu’r grŵp yn trafod mesurau perfformiad ACC, Cyllideb LlC; problem gyda chwsmeriaid ac asiantau’n ffeilio gyda’r awdurdod treth anghywir a gwaith cynllunio a wnaed gan ACC a Thrysorlys Cymru.
     
  2. Atgoffwyd yr Aelodau y byddai gweithdy Effeithiolrwydd Bwrdd a sesiwn friffio Pwerau Troseddol yn cael eu cynnal ar 16 Ionawr yng Nghaerdydd. Atgoffwyd yr aelodau i gwblhau’r arolwg Barn a’r Arolwg Effeithiolrwydd Bwrdd fel paratoad ar gyfer y diwrnod.

3. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

  1. Rhoddodd y Prif Weithredwr drosolwg o’r gweithgarwch a’r dathliadau diweddar. Cafodd yr Aelodau wybod bod y Tîm Arwain wedi cael ei adroddiad chwarterol am gwynion yn ddiweddar. Cafwyd dwy gŵyn yn ystod y chwarter diwethaf, y naill yn ymwneud â gwall rhifol mewn llythyr casgliadau refeniw a’r llall yn ymwneud â’r iaith a ddefnyddiwyd mewn llythyr at asiant. Roedd y ddwy gŵyn wedi’u datrys ac roedd gwersi wedi’u dysgu o’r materion hyn.
     
  2. Rhannwyd nifer o ddathliadau fel rhan o adroddiad y Prif Weithredwr, ac un ohonynt oedd bod ACC bellach yn cadw data’r Gofrestrfa Tir. Nododd y Prif Weithredwr fod hyn yn ased ac yn garreg filltir enfawr i’r sefydliad.
     
  3. Rhannwyd rhai o brif ganlyniadau’r arolwg pobl gyda’r Bwrdd, a byddai’r canlyniadau llawn ar gael yn y flwyddyn newydd. Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol ystyried canlyniadau eleni ochr yn ochr â rhai 2018-19. Byddai’r prif ganlyniadau’n cael eu rhannu gyda’r aelodau ar ôl y cyfarfod.
     
  4. Cyflwynwyd dangosfwrdd y dangosyddion perfformiad, a nododd y Bwrdd fod gwaith wedi’i wneud i ddiweddaru’r dudalen ystadegau allweddol er mwyn cynorthwyo’r tîm i baratoi sesiynau briffio yn y dyfodol. Y cam nesaf fyddai tynnu ynghyd y data a fyddai’n rhoi mwy o fanylder y tu ôl i bob ystadegyn allweddol.
     
  5. Gwnaethpwyd rhai newidiadau i wella’r ffordd y mae’r data Risg Treth yn cael ei gyflwyno, er enghraifft maes ychwanegol yn yr adran adborth i ganiatáu i ddefnyddwyr weld crynodeb o’r adborth a gafwyd. Awgrymwyd ychwanegu maes pellach i nodi sut y defnyddiwyd yr adborth/sut yr ymatebwyd iddo. Roedd gwaith wedi dechrau i bennu sut y gallai ffynonellau eraill o adborth, fel adborth o gyfarfodydd wyneb yn wyneb, gael eu cofnodi a’u hymgorffori.
     
  6. Nododd y Bwrdd y byddai datblygiad pellach y system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, ymhen amser, yn arwain at ragor o welliannau.
     
  7. Codwyd cwestiwn am y gydberthynas rhwng cyfraddau ailgylchu a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) a gasglwyd, a chafodd y Bwrdd wybod nad oedd digon o ddata eto i wneud cydberthynas ddefnyddiol.

4. Perfformiad ariannol

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

5. Adroddiad gan y pwyllgorau

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

6. Adroddiad gan Gyfarwyddwr Trysorlys Cymru

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

Trafodaeth y Bwrdd

7. Cynllunio Busnes “Cwestiynau ar gyfer 2020”

  1. The Board was presented with a list of themes, under which there were a number of scenarios which could affect WRA business planning for 2020-21 and beyond. These included: political, economical, social, technological, environmental and legal changes. A wide-ranging discussion took place and members were asked to consider and suggest scenarios to be added under each theme.
     
  2. A revised version including the suggested additions raised would be circulated following the meeting.

8. Cynllunio ar gyfer Olyniaeth y Bwrdd

  1. Cyhoeddodd y Cadeirydd fod pob cyfarfod adolygiad canol blwyddyn wedi’i gynnal ond nad oedd unrhyw gasgliad swyddogol i’w grybwyll eto o ran cynllunio ar gyfer olyniaeth. Atgoffwyd yr Aelodau fod penodiadau Anweithredol yn benderfyniad Gweinidogol ac y byddai unrhyw rolau newydd yn cael eu hysbysebu tua dechrau 2020.

9. Dirprwyaeth CNC

  1. Cyflwynwyd yr eitem i’r Bwrdd ym mis Tachwedd ar gyfer trafodaeth ragarweiniol, ac roedd argymhelliad yn cael ei wneud bellach i barhau â’r ddirprwyaeth i CNC.
     
  2. Roedd y Gweinidog wedi cael gwybod yn gynharach y mis hwnnw am y bwriad i barhau â’r ddirprwyaeth, a nododd ei bod yn fodlon â’r argymhelliad hwn.
     
  3. Roedd y tîm wedi cwrdd â Thîm Gweithredol CNC yn gynharach yr wythnos honno i drafod y mater ac roeddent yn fodlon bwrw ymlaen.      
  4. Cytunodd y Bwrdd â’r argymhelliad i barhau’r ddirprwyaeth.
     
  5. Byddai’r cam nesaf yn cynnwys newid y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth presennol, a fyddai’n cael ei gytuno a’i lofnodi wedyn gan Brif Weithredwyr ACC a CNC.

10. Risg Treth

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

11. Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid

  1. Cafodd y Bwrdd wybod fod y system rheoli cysylltiadau cwsmeriaid (CRM) bellach yn fyw. Cynigiwyd dod ag eitem arall yn ôl yn yr haf i ymdrin â chau’r prosiect a’i fuddion. Roedd yr Aelodau’n fodlon ar y cynnig ond gofynasant am gael gwybod am unrhyw faterion sy’n codi yn y cyfamser.

12. Egwyddorion cyfathrebu strategol  

  1. Roedd cyfres o egwyddorion cyfathrebu strategol arfaethedig wedi’u cylchredeg ar gyfer eu hystyried a’u cytuno. Nid oedd gan y Bwrdd ddigon o amser i drafod a chytuno hyn yn y cyfarfod, ac felly awgrymwyd gwneud hyn all-lein a bod yr aelodau’n trafod ac yn cytuno’n rhithwir.

13. Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol 

  1. Cafodd y Bwrdd wybod bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddechrau Rhan 1, Adrannau 1 i 3 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sef y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol. Mae hyn yn rhan o amrywiaeth o fesurau i arddangos a chadarnhau eto ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion datblygu Hawliau Dynol a Chydraddoldeb yng Nghymru. Byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ei chynigion ac yn ceisio barn ynglŷn â pha gyrff cyhoeddus yng Nghymru y dylai’r ddyletswydd fod yn berthnasol iddynt a sut gellir cyflenwi’r ddyletswydd wedyn.
     
  2. Rhestrir ACC ymhlith y cyrff y gallai’r ddyletswydd fod yn berthnasol iddynt a gofynnwyd iddo roi barn am gynigion Llywodraeth Cymru. Nododd y Bwrdd y byddai hyn yn ychwanegol at ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
     
  3. Gofynnwyd i’r Bwrdd gytuno’n ffurfiol y byddai ACC yn croesawu’r ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn cael ei chymhwyso o fis Ebrill 2020; fod ystyriaethau ACC yn cyfrannu at gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer canllawiau ar y mater yn y dyfodol; a bod swyddogion yn drafftio ymateb i’r ymgynghoriad.
     
  4. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar yr argymhellion.   

Cau’r cyfarfod

14. Negeseuon allweddol

  1. Cynigiwyd y byddai’r negeseuon allweddol o hyn ymlaen yn cael eu rhannu gyda’r Cadeirydd a’r Prif Swyddog Gweithredol yn dilyn y cyfarfod, i’w cytuno cyn eu cyhoeddi’n fewnol. Roedd yr Aelodau’n fodlon ar y dull hwn.

15. Unrhyw fater arall

  1. Cafwyd trafodaeth ynghylch sefyllfa ACC mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg; cafodd yr aelodau wybod y rhoddir diweddariad pellach maes o law.
     
  2. Soniodd y Prif Weithredwr wrth y Bwrdd am adborth cadarnhaol a gafwyd yn ddiweddar gan yr Ysgrifennydd Parhaol.          

16. Rhagolwg

  1. Atgoffwyd yr Aelodau fod hon yn ddogfen weithio a fyddai’n cael ei diweddaru’n barhaus.

17. Adolygiad o’r cyfarfod

Gwybodaeth wedi’i Golygu (Troednodyn 1).

[1] There are certain circumstances where it is not appropriate to share all of the information contained within the Board minutes, for example, where it contains personal or commercial data or relates to the formulation of government policy etc. or the effective conduct of public affairs. In such circumstances, the information has been redacted and the text is marked clearly that this has been the case.