Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 22 Chwefror 2023
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Ruth Glazzard, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Jim Scopes, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Rebecca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu
- Karen Athanatos, Aelod Staff Etholedig
Agoriad
1. Ymddiheuriadau a gwrthdaro buddiannau
- Roedd Dyfed Alsop (Prif Swyddog Gweithredol) a Rob Jones (Prif Swyddog Ariannol) wedi anfon eu hymddiheuriadau. Roedd Anna Adams wedi anfon ei hymddiheuriadau, ac roedd Rob Hay yn bresennol ar ei rhan.
- Ni nodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau newydd.
2. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
- Cytunwyd ar Gofnodion drafft cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd, 2022.
- Adroddiad Camau Gweithredu. Roedd Log Camau Gweithredu a Phenderfyniadau'r Bwrdd wedi'i ddosbarthu ymlaen llaw. Rhoddodd Ysgrifennydd y Bwrdd ddiweddariad llafar ar y camau gweithredu byw. Byddai'r log yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r diweddariad llafar.
- Trafododd y Bwrdd gynigion a gyflwynwyd gan ysgrifennydd y Bwrdd ynghylch papurau'r Bwrdd. Byddai cofnodion yn parhau i gael eu cofnodi, eu cylchredeg a'u cytuno fel y gwneir ar hyn o bryd. Ar gyfer Sgyrsiau Bwrdd, yn hytrach na Chofnodion llawn, byddai cofnod o gamau gweithredu a phenderfyniadau’n cael eu gwneud, a'u dosbarthu i'r Bwrdd ar gyfer eu cytuno.
- Wedi’i olygu
- Wedi’i olygu
- Ni ddarparwyd adroddiad gan y Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol y tro hwn gan nad oedd y pwyllgor wedi cyfarfod ers cyfarfod y Bwrdd ar 30 Tachwedd, 2022.
Adroddiadau
3. Adroddiad y Prif Weithredwr (PW) a Swyddog Cyfrifyddu (SC)
- Cyflwynodd y Pennaeth Staff yr Adroddiad ar ran y PW/SC.
- Roedd yr Adroddiad yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r Tîm Arwain (TA). Roedd y TA wedi dileu'r flaenoriaeth 'Egwyddorion craidd', fodd bynnag, roedd gwaith yn y maes hwn yn dal i fynd rhagddo.
- Perthnasoedd ac Ymgysylltu - roedd gweithdy ar y cyd ACC/Trysorlys Cymru wedi bod yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol. Daethpwyd i gytundeb ar gyfer cydweithredu pellach ar ddatblygu polisi.
- Pobl a Diwylliant - yn dilyn adolygiad o linellau amser a'n hagenda newid, penderfynwyd gohirio recriwtio Cyfarwyddwr Gwasanaethau. Byddai Becca Godfrey yn parhau i gyflawni rolau’r Cyfarwyddwr Gweithredu a’r Prif Swyddog Gweithredu yn y cyfamser.
- Byddai cynlluniau'r gyllideb yn cael eu dwyn ymlaen i'w trafod yn y Bwrdd ym mis Mawrth. Byddai sesiwn Bwrdd penodedig yn cael ei threfnu.
- Disgwylir penderfyniadau gan Lywodraeth Cymru ar yr amseriad o ran cynnwys ACC yn Neddfwriaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Teimlwyd bod llawer o ddulliau ACC wedi’u halinio’n dda â'r nodau Llesiant. Byddai ACC yn ystyried aliniad â LlC yn ehangach. Byddai'r Bwrdd yn cael ei ddiweddaru am unrhyw ddatblygiadau.
- Adroddodd y Cadeirydd ar ymgysylltu â Chyfarwyddwr Trysorlys Cymru. O ran gweithio mewn partneriaeth, roedd ymrwymiad ar y cyd i weithio gyda'n gilydd lle bynnag y bo modd, er mwyn sicrhau'r effeithiolrwydd mwyaf posibl. Bwriadai'r Cadeirydd gynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Chyfarwyddwr Trysorlys Cymru. Byddai ymgysylltu â Thrysorlys Cymru’n fanteisiol wrth sefydlu a chryfhau perthnasoedd ar draws LlC yn ehangach.
- Roedd y Bwrdd yn awyddus i ddeall mwy am Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd ACC a CNC a’r strategaeth ar y cyd.
A23-01-02. Byddai'r Bwrdd yn cyfarfod ym mis Mawrth i drafod materion cyllidebol.
A23-01-03. Byddai'r PW/SC yn diweddaru'r Bwrdd ar berthynas ACC/CNC.
4. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredu ar Ddarparu Gwasanaethau
- Cyflwynodd Becca Godfrey, Prif Swyddog Gweithredu, yr Adroddiad.
- Wedi’i olygu
- Wedi’i olygu
- Wedi’i olygu
- Dilysu Aml-Ffactor (MFA) - Mae cyllid cyfalaf wedi’i sicrhau a bydd SDLG yn cytuno sut i fwrw ymlaen â hyn yn 23/24 yn eu cyfarfod nesaf.
- Wedi’i olygu
- Roedd rôl y SDLG bellach yn glir ac roedd Cylch Gorchwyl y grŵp yn cael ei gwblhau er mwyn sicrwydd ac eglurder i bawb.
5. Adroddiad Perfformiad
- Cyflwynodd y Pennaeth Dadansoddi Data yr adroddiad.
- Wedi’i olygu
6. Adroddiadau Cyllid a Sicrwydd
- Rhoddodd Jocelyn Davies, cadeirydd ARAC y Bwrdd, adroddiad ar weithgarwch y pwyllgor.
- Wedi’i olygu
- Fel yn 2022, yn 2023 byddai amserlenni Adroddiad Blynyddol ACC yn cael eu heffeithio gan ba bryd fydd Archwilio Cymru ar gael. Byddai'r Bwrdd yn cael gwybod maes o law.
A23-01-05. Byddai Gweithdai Risg yn cael eu trefnu ar gyfer ARAC a'r Bwrdd.
7. Adroddiad y Trysorlys
A23-01-05. Risk Workshops would be arranged for ARAC and The Board.
7. Welsh Treasury Report
Trafodaeth
8. Adolygu Siarter ACC
- Rhoddodd y Pennaeth Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid y wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am Adolygiad Siarter ACC, gan gynnwys y camau nesaf.
- Cyhoeddwyd 'Ein Siarter’ ym mis Mawrth 2018. Noda’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (TCMA) fod yn rhaid adolygu'r Siarter o fewn 5 mlynedd i’w chyhoeddi. Mae'r Siarter yn nodi 8 gwerth craidd, a rhai agweddau o’r cyd-ddisgwyliadau rhwng ACC, y cwsmeriaid a’r prif randdeiliaid.
- Wedi’i olygu
9. Tirlun Deddfwriaethol ACC
10. Sylwebaeth a myfyrdodau ar y Cofrestr Risg Gorfforaethol, yng Nghyd-destun Adroddiadau Chwarter 3
- Mae’r Cadeirydd yn awyddus i'r Bwrdd fyfyrio ar y gofrestr risg bob chwarter, gyda'r angen i sicrhau cyfranogiad priodol y Bwrdd o ystyried lefel uwch y risg wrth symud ymlaen.
- Wedi’i olygu
- Bydd ARAC yn adolygu'r broses o adrodd am risg o adranol i gorfforaethol, unwaith y bydd swyddogaethau a chofrestrau newydd ar waith. Bydd hyn yn debygol o ddigwydd yn yr haf, ac wedi hynny bydd yn adrodd yn ôl i'r Bwrdd er mwyn rhoi sicrwydd.
Roedd pryder o ran hollti risgiau strategol a gweithredol, a cholli golwg ar feysydd risg gweithredol; mae gwreiddio risgiau mewn materion darparu gwasanaethau yn helpu i ddeall goblygiadau risgiau. Cytunwyd y bydd y Bwrdd yn cynnal gweithdy risg blynyddol (fel rhan o'u dyddiau cwrdd i ffwrdd strategaeth o bosibl), i adolygu sgoriau risg, lefelau targedau, mesurau lliniaru
Diweddglo
1. Diolchodd y Bwrdd i ysgrifennydd y bwrdd - hwn oedd ei gyfarfod Bwrdd diwethaf cyn gadael ACC.
2. Diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu'n rhan o’r gwaith o baratoi'r cyfarfod ac adrodd i'r Bwrdd. Gofynnir am adborth ar e-bost ar ôl y cyfarfod.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.