Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio: 28 Ionawr 2026
Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 28 Ionawr 2026
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Yr Athro John Williams: Academia, Prifysgol Aberystwyth
Yr Athro Paul Willis: Academia, Prifysgol Caerdydd
Barry Stephens: Cymru Egnïol
Vicki Lloyd (VL): Age Cymru, Cadeirydd
Faye Patton (FP): Gofal a Thrwsio Cymru
Andrew Hinchliffe: Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Y Cyng. Leo Thomson: Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
Nicola Pitman: Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
Y Cyng. Hayley Gwilliam: Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
David McKinne: Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Dilys Jouvenat: Cynrychiolydd Pobl Hŷn
Lyn Cadwallader: Un Llais Cymru (Cynghorau Cymuned a Thref)
Catherine Sharp: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Karen Hughes: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Stewart Blythe: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
Anthony Jordan: Llywodraeth Cymru
Rachel Lewis (RL): Llywodraeth Cymru
Emma Harney: Llywodraeth Cymru
Nik Cilia: Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau ffurfiol
Brian Godsell: Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol
Rachel Luxton: Cynrychiolydd Pobl Hŷn
Jim McManus: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Amal Beyrouty: Women Connect First
Croeso, cyflwyniadau a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf
Agorwyd y cyfarfod drwy atgoffa pawb bod y sesiwn yn cael ei recordio a'i thrawsgrifio at ddibenion cynhyrchu cofnodion yn unig; bydd y recordiad yn cael ei ddileu unwaith y bydd y nodyn o'r cyfarfod wedi'i gwblhau.
Cadarnhawyd bod pob un ond un o'r camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol wedi'u cwblhau, ac y byddant yn cael eu trafod y bore yma. Mae'r cam gweithredu sy'n weddill ar gyfer trafodaeth arfaethedig rhwng Cymru Egnïol a Women Connect First wedi'i ohirio ond mae disgwyl iddo ddigwydd yr wythnos nesaf.
Diweddariad gan Lywodraeth Cymru
Rhoddodd swyddogion grynodeb o'r adborth o drafodaeth ddiweddar gyda'r Loteri Fawr. Dywedwyd nad yw'r cynnig presennol yn bodloni'r holl feini prawf ar gyfer grant, felly bydd y cais yn cael ei oedi i ystyried dull gweithredu gwahanol.
Bwriedir datblygu cynllun peilot gyda grwpiau lleol o bobl hŷn mewn 4 i 5 ardal awdurdod lleol. Gofynnir i grwpiau gyflwyno datganiadau o ddiddordeb sy'n nodi mathau penodol o ragfarn ar sail oed i fynd i'r afael â nhw.
Awgrymwyd y gallai'r cynllun peilot dynnu ar ddata arolwg gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i nodi'r materion pwysicaf. (Bydd yr ymchwil a gomisiynwyd oddi wrth Brifysgol Caerdydd yn 2025 hefyd yn llywio'r gwaith yn ystod y cam hwn).
Diweddariad gan y gweithgor tai
Bu'r grŵp yn trafod cysylltiadau rhwng iechyd a thai; byw'n annibynnol ac addasiadau; fforddiadwyedd a diogelwch; cynllunio a gwneud lleoedd; a'r pwysau ym maes tai cymdeithasol.
Mae'r camau nesaf yn cynnwys gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i ymgorffori syniadau oed-gyfeillgar mewn polisi cynllunio, a gwahodd arbenigwyr dylunio ac academaidd i roi cyngor ar greu lleoedd a dylunio tai. Bydd y grŵp hefyd yn ystyried casgliadau'r adroddiadau blaenorol ar gartrefu poblogaeth sy'n heneiddio.
Cam gweithredu
- swyddogion Llywodraeth Cymru i ailymgynnull y Gweithgor Rhagfarn ar sail Oed ym mis Chwefror i drafod cynnig i ddatblygu cynllun peilot
- cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i edrych ar ddata arolwg perthnasol a'u rhannu
- swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu cyfarfod nesaf yr is-grŵp (disgwylir i hwnnw ddigwydd Chwefror-Mawrth) ac anfon gwahoddiadau i gydweithwyr cynllunio a chyfranwyr arbenigol
Papur Datblygu MAFA
Cyflwynwyd cynigion i gryfhau aelodaeth a strwythur MAFA. Mae presenoldeb wedi bod yn anghyson yn ystod y 12 i 18 mis diwethaf, ac mae rhywfaint o gynrychiolaeth awdurdodau lleol wedi dod i ben yn dilyn newidiadau staffio.
Trafododd y grŵp sut i wella cynrychiolaeth o gefndiroedd amrywiol (gan gynnwys pobl anabl) a gwella mewnbwn y sector iechyd. Nodwyd rhwystrau sy’n atal rhai pobl hŷn rhag cyfranogi’n ddigidol, a thrafodwyd opsiynau fel canolfannau cyfranogiad lleol lluosog a mynediad hybrid.
Cam gweithredu
- bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried camau gweithredu a awgrymir i ddatblygu Log Camau Datblygu MAFA, diweddaru'r Cylch Gorchwyl i adlewyrchu unrhyw newidiadau, a'i gylchredeg i gael sylwadau
Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rhoddodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ddiweddariad i'r aelodau ar werthusiad o'r cyllid oed-gyfeillgar ar gyfer awdurdodau lleol, gan dynnu sylw at y cynnydd a wnaed gyda'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio ers ei lansio yn 2021. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad i sefydlu swyddogion/partneriaethau lleol sy'n oed-gyfeillgar; cyfranogiad eang ar draws gweithgareddau; digwyddiadau a chefnogaeth ar gyfer gweithgareddau heneiddio'n iach. Nododd y Gweinidog hefyd fod y gwaith hwn wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol.
Tynnodd y gwerthusiad sylw at nifer o heriau parhaus, megis ynysu gwledig, rhwystrau sy'n ymwneud â thrafnidiaeth, allgau digidol, a diffyg ymwybyddiaeth o wasanaethau. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cadw momentwm yn dilyn newid posibl yn y Llywodraeth.
Cafwyd cyflwyniad gan Gyngor Caerdydd a oedd yn arddangos gwaith cydweithredol a oedd yn mynd rhagddo rhwng yr Arweinydd Oed-gyfeillgar a'r Hyrwyddwr Oed-gyfeillgar, a oedd yn pwysleisio bod perthynas weithio effeithiol yn cael ei chynnal drwy gynllunio strwythuredig rheolaidd, cynllun gweithredu wedi'i adnewyddu a oedd wedi ei gymeradwyo gan Sefydliad Iechyd y Byd , a phrosiectau arloesi (e.e., ymwybyddiaeth o iechyd rhywiol i oedolion hŷn ac adnoddau atal dementia amlieithog).
Disgrifiwyd y defnydd o gylchlythyrau, fforymau lleol, a chyfathrebu cydgysylltiedig hefyd, gyda chydnabyddiaeth bod ehangu presenoldeb yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Cam gweithredu
- swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu sesiwn bwrpasol gydag aelodau MAFA ac awdurdodau lleol i edrych ar gasgliadau'r gwerthusiad yn fanylach
Cynllun Cyflawni a'r camau nesaf
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi nodi cynlluniau i adnewyddu'r cynllun cyflawni blynyddol o dan y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio, gan ymgorffori gwerthuso, dysgu, a hogi blaenoriaethau (gan gynnwys pwyslais cryfach ar gynhwysiant digidol).
Awgrymodd yr aelodau y dylid integreiddio mewnwelediadau o arolygon newydd bob deufis ar gyfer pobl hŷn, sy'n cael eu cyflwyno gan Gynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA).
Cam gweithredu
- diweddaru'r cynllun cyflawni presennol ar draws Llywodraeth Cymru a chynnull Gweithgor ar wahân i drafod y cynllun cyflawni diwygiedig nesaf
Unrhyw faterion eraill
Cafwyd awgrym y gellid defnyddio sgriniau gwybodaeth mewn practisau meddygon teulu i rannu gweithgareddau oed-gyfeillgar lleol (e.e. mannau cynnes, sesiynau grŵp) a chyrraedd preswylwyr hŷn, yn enwedig mewn mannau lle mae'r cyfryngau print lleol yn gyfyngedig.
Cytunodd y cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus i godi hyn gyda chydweithwyr gofal sylfaenol.
Cam gweithredu
- cydweithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried y posibiliadau ar gyfer rhannu gwybodaeth gydgysylltiedig drwy sgriniau practisau meddygon teulu
Cloi a'r camau nesaf
Nododd y Cadeirydd waith sylweddol sydd o'n blaenau ar draws y gwaith o ddatblygu'r prosiect rhagfarn oed, gweithgarwch yr is-grŵp tai, dilyniant y gwerthusiad, adnewyddu'r cynllun cyflawni, a'r adolygiad o'r aelodaeth.
Cam gweithredu
- swyddogion Llywodraeth Cymru i baratoi cynllun gwaith MAFA cyfunol sy'n cwmpasu'r meysydd hyn ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol
